Fe fydd Cymru yn lansio y senedd ieuenctid cyntaf ym mis Ionawr 2019 ac fe fydd Anabledd Dysgu Cymru yn un o’r cyrff partner sydd yn cefnogi pobl ifanc anabl i gael llais.

 

Dyma rai o’r ffeithiau allweddol am y senedd ieuenctid

  • 60 o bobl ifanc fydd yn y Senedd.
  • 40 o bobl ifanc yn cael eu hethol o ardaloedd etholaethau.
  • 20 o bobl ifanc yn cael eu hethol drwy gyrff partner.
  • Fe fyddan nhw’n Aelod Senedd Ieuenctid am ddwy flynedd o Ionawr 2019 i Rhagfyr.
  • Rhaid i’r bobl ifanc fod rhwng 11 a 17 oed.
  • Rhaid i’r bobl ifanc fyw yng Nghymru neu yn derbyn eu haddysg yng Nghymru.
  • Fe fydd Anabledd Dysgu Cymru yn ethol 2 berson ifanc i gynrychioli pobl ifanc anabl.

 

Cymryd rhan drwy Anabledd Dysgu Cymru

Ydych chi’n berson ifanc anabl gyda diddordeb mewn bod yn Aelod Senedd Ieuenctid Cymru a chynrychioli barn pobl ifanc anabl eraill?

Am bwy ydym yn chwilio?

  • Rhywun rhwng 11 a 17 mlwydd oed (heb fod yn hŷn na 17 ar 25 Tachwedd 2018).
  • Person ifanc anabl.
  • Rhywun sy’n gallu gwrando ar eraill.
  • Rhywun sy’n dda am gyfathrebu (gan ddefnyddio ei ffordd ei hun o gyfathrebu).
  • Rhywun fydd yn gofyn am gymorth os bydd angen.
  • Rhywun â sgiliau pobl da.
  • Rhywun sy’n gallu bod yn ddibynadwy gyda’r gefnogaeth gywir.

Nid ydym yn chwilio am rywun sy’n  berffaith yn barod. Efallai bod rhai pethau nad ydych yn siŵr amdanynt neu y bydd angen ichi gael hyfforddiant arnynt. Peidiwch â gadael i hynny eich rhwystro rhag ymgeisio.

Am myw o wybodaeth a sut i wneud eich cais ymweld ein tudalen Senedd Ieuenctid Cymru.