Fel rhan o’n hymrwymiad i gynyddu mynediad pobl gydag anabledd dysgu i wybodaeth hygyrch o ansawdd uchel, mae Anabledd Dysgu Cymru yn darparu ein geiriadur o ddiffiniadau hawdd eu deall am ddim i bawb sydd yn cynhyrchu gwybodaeth hawdd ei deall.

Mae ein geiriadur o ddiffiniadau hawdd eu deall yn adnawdd hanfodol y mae ein tîm Hawdd ei Ddeall Cymru wedi ei adeiladu dros y 17 mlynedd y mae Anabledd Dysgu Cymru wedi bod yn cynhyrchu gwybodaeth hygyrch.

Yr hawl i wybodaeth y gallwch ei deall

Ni ddylai pobl gael eu heithrio rhag gwneud dewisiadau annibynnol a gwybodus am eu bywyd oherwydd bod rhai pynciau a thermau yn anodd i’w deall. Ac mae gan bawb yr hawl i gael gwybodaeth y maen nhw’n gallu ei deall i’w galluogi i siarad am y pethau sydd yn bwysig iddyn nhw, cymryd rhan mewn cymdeithas a bod yn aelodau gwerthfawr o’u cymunedau.

Ond mae’n gallu bod yn her i esbonio pynciau a geiriau anodd. Mae’r geiriadur yn rhan hanfodol o waith ein tîm Hawdd ei Ddeall Cymru, ac mae’n sicrhau bod y gwaith hawdd ei ddeall a gynhyrchwn ar gyfer ein cleientiaid – fel Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cyrff eraill i bobl anabl a’r sector preifat – yn gyson gyda’i gilydd  .

Mae’r geiriadur yn rhestr o A i Z o’r holl ddiffiniadau rydyn ni wedi bod yn eu defnyddio dros y blynyddoedd i esbonio geiriau a thermau anodd sydd yn bwysig i’w gwybod ac na ellir eu hosgoi. Rydyn ni’n gobeithoo y bydd yr adnawdd newydd yma o ddefnydd i chi a hoffem glywed am unrhyw ychwanegiadau neu awgrymiadau sydd gennych i’w wella.

Mae’r geiriadur yn esblygu yn gyson, wrth i eiriau ac ymadroddion newydd gael eu hychwanegu, a diffiniadau blaenorol yn cael eu gwella. Dyma ein fersiwn diweddaraf ac fe fyddwn yn diweddaru’r geiriadur am ddim bob blwyddyn.

Ar hyn o bryd, dim ond yn Saesneg mae’r geiriadur ar gael. Rydyn ni’n bwriadu darparu ein geiriadur hawdd ei ddeall Cymraeg cyn gynted â phosibl.

Lawrlwythwch ein Geiriadur Diffiniadau Hawdd eu Deall yma.

Os hoffech ddysgu rhagor am sut y gallwn eich cefnogi i wneud eich gwybodaeth yn fwy hygyrch, boed drwy hyfforddiant, drwy ein gwasanaeth hawdd ei ddeall neu gyda chyngor, cysylltwch gyda ni os gwelwch yn dda: ffôn 029 20 68 1160, neu e-bost Easyread@ldw.org.uk. Gallwch hefyd ein dilyn ar Twitter yn @EasyReadWales.

Adnoddau hawdd eu deall a hyfforddiant sydd ar gael gan Anabledd Dysgu Cymru

Hawdd ei Ddeall Cymru ydy ein gwasanaeth gwybodaeth hygyrch, ac mae’n darparu gwybodaeth hawdd ei deall, hyfforddiant, cyngor ac ymgynghoriaeth i helpu cyrff wneud eu gwybodaeth yn fwy hygyrch.

Yn ogystal â’n geiriadur newydd o ddiffiniadau hawdd eu deall, mae gennym nifer o adnoddau eraill am ddim i’ch helpu i gynhyrchu gwybodaeth hygyrch o ansawdd uchel i bobl gydag anabledd dysgu.

Ein hyfforddiant hawdd ei ddeall

Rydyn ni’n cynnig dwy lefel o hyfforddiant hawdd ei ddeall:

Llawlyfr clir a hawdd

Mae Clir a Hawdd yn lawlyfr dwyieithog am ddim i unrhyw un sydd, neu a ddylai fod yn cynhyrchu gwybodaeth hygyrch i bobl gydag anabledd dysgu. Mae’n cefnogi cyrff o wahanol faint yn eu dealltwriaeth am wybodaeth hygyrch, pam ei bod yn bwysig i bobl gydag anabledd dysgu gael gafael ar wybodaeth maen nhw’n gallu ei deall a sut i gynhyrchu deunyddiau Hawdd ei Ddeall.

Fe fydd Clir a Hawdd o fudd i chi os ydych yn aelod o grŵp Pobl yn Gyntaf, corff mawr pobl anabl, adran gwasanaethau cymdeithasol neu yn ddarparydd trydydd sector, fel banc.

Lawrlwythwch eich copi am ddim o Clir a Hawdd.

Check it! – pecyn cymorth i wirio gwybodaeth hawdd ei deall

Mae Check It! yn becyn cymorth hawdd ei ddeall sydd yn ei gwneud yn bosibl i bobl gydag anabledd dysgu wirio ansawdd yr wybodaeth hygyrch y maen nhw’n ei gynhyrchu a’i dderbyn – ac i awgrymu gwelliannau i’r bobl a gynhyrchodd yr wybodaeth  .

Lawrlwythwch eich copi am ddim o Check It!

Canllawiau i wneud y Gymraeg yn hawdd ei darllen a’i deall

Mae Anabledd Dysgu Cymru a Mencap wedi cynhyrchu canllawiau i wneud gwybodaeth yn hawdd ei darllen a’i deall i bobl gydag anabledd dysgu sydd yn siarad Cymraeg

Mae’r canllawiau a gynhyrchwyd yn 2012, wedi cael eu paratoi ar gyfer awduron a chyfieithwyr deunyddiau Hawdd ei Ddeall yn Gymraeg ac ar gyfer unrhyw un sydd yn comisiynu gwaith Hawdd ei Ddeall.

Yn aml dydy Saesneg Hawdd ei Ddeall ddim yn trosi’n hawdd i Gymraeg Hawdd ei Ddeall. Fe fydd y canllawiau yma yn gymorth i sicrhau bod dogfennau Hawdd ei Ddeall yn Gymraeg o safon uwch.

Lawrlwythwch eich copi am ddim o wneud y Gymraeg yn hawdd ei darllen a’i deall

Ffilmiau gwybodaeth hygyrch

Rydyn ni hefyd wedi gwneud dwy ffilm fer am bwysigrwydd gwybodaeth hygyrch, yn dangos grŵp o bobl gyda anabledd dysgu yn esbonio rhai o’r anawsterau maen nhw’n eu cael gyda gwybodaeth sydd yn rhy anodd i’w deall.

Gallwch wylio’r ffilmiau isod.

Pam bod gwybodaeth hygyrch yn bwysig?

Hanfodion hawdd ei ddeall