Cynhaliwyd ein hail ddigwyddiad ar-lein ar 21 Mehefin 2021 i rannu canfyddiadau diweddaraf Astudiaeth Ymchwil Covid yn edrych ar effaith y pandemig ar bobl ag anabledd dysgu ledled Cymru (fel rhan o Astudiaeth ehangach yn y DU). Yn ogystal â chlywed gan yr ymchwilwyr, siaradodd arweinwyr o fewn y maes anabledd dysgu yng Nghymru am eu hymateb i’r pandemig. Fe wnaethant hefyd dynnu sylw at yr hyn mae canfyddiadau’r astudiaeth yn ei olygu ar gyfer darparu gwasanaethau a datblygu polisi ar gyfer pobl ag anableddau dysgu yn y dyfodol.

Crynodeb o ganfyddiadau’r Athro Stuart Todd

Cynhaliwyd Cam 2 rhwng mis Mai a mis Mehefin 2021. Dangosodd y canfyddiadau fod y pandemig a’r cyfyngiadau yn gwaethygu’r anghydraddoldebau presennol i bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru. Mae llai o bobl ag anableddau dysgu wedi cael mynediad at wasanaethau iechyd, a bu gostyngiad yn y nifer sy’n mynychu Gwiriadau Iechyd Blynyddol. Bu llawer llai o fynediad hefyd at wasanaethau ledled Cymru ar gyfer pobl ag anableddau dysgu a gofalwyr teuluol. Mae gwasanaethau wedi dehongli canllawiau cenedlaethol yn wahanol, sydd wedi arwain at fynediad at wasanaethau yn amrywio ledled Cymru. Mae hyn i gyd wedi arwain at bobl ag anableddau dysgu yn teimlo bod eu hawliau dynol wedi cael eu hanwybyddu.

Sophie Hinksman a Humie Webb, Cyd-Gadeiryddion Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anabledd Dysgu

Mae Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anabledd Dysgu (LDMAG) yn cynghori Llywodraeth Cymru ar ddatblygu polisi anabledd dysgu ac yn goruchwylio’r gwaith o gyflawni’r Rhaglen Gwella Bywydau. Yn dilyn adolygiad, lluniodd y grŵp adroddiad yn tynnu sylw at gyflawniadau’r rhaglen yn ogystal â nodi unrhyw faterion a oedd yn weddill ac roedd yn cynnwys sawl argymhelliad:

  • Parhad (raglen arall addas) y Rhaglen Gwella Bywydau.
  • Penodi Comisiynydd Anabledd Dysgu i oruchwylio cam nesaf y rhaglen.
  • Adolygiad o weithrediad Deddf a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru).
  • Dulliau arloesol o ymdrin â gwasanaethau seibiant a chymunedol.
  • Mynd i’r afael â materion unigrwydd, arwahanrwydd, allgáu digidol ymhlith pobl ag anabledd dysgu.
  • Ailgyflwyno archwiliadau iechyd blynyddol sydd wedi’u oedi yn ystod y pandemig.
  • Adolygiad o wasanaethau arbenigol i oedolion a fframwaith addysg a hyfforddiant.

 

Y gobaith yw y bydd argymhellion yr adroddiad yn cael eu defnyddio fel sail i flaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anabledd dysgu yn y chweched Senedd.

Un o ganlyniadau cadarnhaol y pandemig fu’r lefelau cynyddol o gydweithio a chydgynhyrchu rhwng Llywodraeth Cymru, LDMAG a sefydliadau’r trydydd sector wrth gynhyrchu canllawiau, cyngor a chymorth. Fodd bynnag, mae angen gwneud mwy i sicrhau bod lleisiau pobl ag anabledd dysgu yn cael eu clywed a’u hystyried pan fydd polisïau’n cael eu datblygu a’u gweithredu.

Joe Powell, Prif Weithredwr Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan

Roedd profiadau Joe o fyw mewn gwasanaethau gofal anabledd dysgu am 11 mlynedd yn golygu nad oedd yn synnu at brofiadau pobl ag anabledd dysgu yn ystod y pandemig. Gwaethygodd Covid-19 anghydraddoldebau mae pobl ag anabledd dysgu yn eu hwynebu, ond nid dyma oedd yn eu hachosi. Mae pobl ag anabledd dysgu yn aml wedi arfer cael pobl eraill yn gwneud penderfyniadau ar eu rhan sy’n cael eu hystyried er eu lles gorau, er enghraifft cyfyngu ar eu rhyddid i’w cadw’n ddiogel. Nid yw’n syndod felly bod hawliau pobl ag anabledd dysgu yn dioddef mewn pandemig. Mae cysylltiadau cymdeithasol a lles meddyliol yn cael eu peryglu. Mae aelodau Pobl yn Gyntaf sy’n byw mewn lleoliadau gofal wedi cau eu gwasanaethau dydd ac wedi methu gwneud eu hawr o ymarfer corff a ganiateir oherwydd prinder staff. Gwnaed penderfyniadau gan wasanaethau gwrth-risg heb ystyried yr effaith ar yr unigolyn.

Mae disgwyliadau dinasyddion cyffredin ynghylch agor cymdeithas wedi aros allan o gyrraedd llawer o bobl ag anabledd dysgu. Wrth symud ymlaen, rhaid i ni sicrhau bod deddfwriaeth, gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, yn cael ei roi ar waith yn llawn. Os na ddywedwn ni unrhyw beth, ni fydd dim yn newid a rhaid i ni beidio â chaniatáu i hyn ddigwydd.

Wayne Crocker, Cyfarwyddwr Mencap Cymru

Yn ystod y pandemig, fe wnaeth y Consortiwm Anabledd Dysgu gyfarfod yn wythnosol â Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at faterion sy’n cael eu hwynebu gan bobl ag anabledd dysgu. Er enghraifft, roedd llawer yn ei chael hi’n anodd deall yr holl wybodaeth a rheolau ynghylch Covid-19 ac arweiniodd hyn at gynhyrchu nifer o adnoddau hawdd eu deall. Wrth iddi ddod i’r amlwg bod pobl ag anabledd dysgu yn fwy tebygol o farw o Covid-19 na’r boblogaeth gyffredinol, bu’r Consortiwm hefyd yn ymgyrchu’n llwyddiannus iddynt gael eu cynnwys mewn grŵp brechu â blaenoriaeth.

Mae’n bwysig cadw mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod profiadau pobl ag anabledd dysgu a gofalwyr teuluol yn cael eu deall. Mae angen i ni hefyd ddilyn yr enghraifft a osodwyd gan Strategaeth Arloesol Cymru Gyfan (1983) ac ystyried sut yr hoffem i fywyd edrych i bobl ag anabledd dysgu a’u gofalwyr teuluol yn y dyfodol

Mae angen parhau i ddylanwadu ar datblygu polisi Llywodraeth Cymru a monitro ei effaith. Yn ogystal â’r argymhellion yn adroddiad LDMAG, mae angen i ni ystyried y canlynol:

  • Adolygiadau marwolaethau– Rhaid cofnodi’r rheswm pam mae pobl ag anabledd dysgu yn marw a rhoi ystyriaeth i pe gellid osgoi’r farwolaeth.
  • Adolygu’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael i bobl ag anabledd dysgu ar ôl y pandemig – Gan nad oedd pobl yn cael yr un lefel o gymorth yn ystod y pandemig, efallai y bydd awdurdodau lleol yn credu y gellir lleihau pecynnau gofal. Nid yw hyn yn wir.
  • Hyrwyddo cyd-gynhyrchu – Rhaid i sefydliadau a phobl ag anabledd dysgu a’u gofalwyr ddeall eu priod rolau wrth lunio gwasanaethau a chael cymorth i wneud hyn drwy fynediad at wasanaethau cymorth hunan-eiriolaeth ac eiriolaeth.
  • Hyfforddiant Gorfodol – Rhoddodd Llywodraeth Cymru ymrwymiad yn 2019 y byddai holl staff y gwasanaethau iechyd yn cael hyfforddiant i’w helpu i ddeall anghenion pobl ag anabledd dysgu. Rhaid rhoi hyn ar waith.
  • Cyflogaeth i bobl ag anabledd dysgu ar ôl Covid – Nid yw rhywfaint o gyflogaeth oedd yn bodoli cyn Covid ar gael mwyach. Rhaid archwilio cyflogaeth mewn sectorau eraill fel lletygarwch.
  • Dychwelyd i Gymru – Rhaid rhoi cynlluniau ar waith i ddychwelyd y 169 o bobl ag anabledd dysgu sydd ar hyn o bryd mewn Unedau Asesu a Thriniaeth yn Lloegr i’w dwyn yn ôl i Gymru a chael cymorth yn eu cymunedau lleol.
  • Buddsoddi a dysgu o ymchwil o ansawdd da a sicrhau bod canfyddiadau’n cael eu rhoi ar waith – Mae Mencap yn ariannu PhD ym Mhrifysgol Caerdydd ar sut mae pobl ag anabledd dysgu yn profi stigma a gradd Meistr ym Mhrifysgol De Cymru ar sut y gellir defnyddio adrodd straeon i rymuso pobl ag anabledd dysgu. Mae’n bwysig bod pawb mewn sefydliad anabledd dysgu yn hyrwyddo ymchwil fel y gall pobl ag anabledd dysgu rannu eu barn.
  • Argymhellion o brosiectau ac adroddiadau – Rhaid i argymhellion ar sut mae angen i wasanaethau feithrin a chefnogi cyfeillgarwch a pherthnasoedd ar ôl y pandemig (gan gynnwys Ein Rhwydweithiau Cymdeithasol, Ffrindiau Gigiau a Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan) fod yn greiddiol i “Adeiladu’n Ôl yn Well” yng Nghymru.

 

Trafodaethau grŵp

Cymerodd y cyfranogwyr ran mewn trafodaethau grŵp bach yn canolbwyntio ar 2 gwestiwn:

  1. Beth yn eich barn chi y gellir ei wneud i leihau neu ddileu anghydraddoldebau wrth i ni ddysgu byw ochr yn ochr â’r feirws?
  2. Pa argymhellion fyddech chi’n eu gwneud i lunwyr polisi?

Roedd yr awgrymiadau’n cynnwys:

  • Sicrhau bod argymhellion yr ymchwil yn cael digon o adnoddau i’w gweithredu’n llawn.
  • Siarad â theuluoedd.
  • Gwell dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o hawliau dynol, ymhlith pobl ag anabledd dysgu a’r rhai sy’n eu cefnogi.
  • Gwell mynediad at wasanaethau iechyd.
  • Gweithredu’r ddeddfwriaeth bresennol yn gadarn.
  • Mynediad digonol at eiriolaeth a/neu hunan-eiriolaeth i herio achosion o dorri hawliau pobl.
  • Creu rôl Comisiynydd i hyrwyddo hawliau pobl ag anabledd dysgu.
  • Datblygu Anabledd Dysgu ac Elusen Gofalwyr.
  • Hyfforddiant i bobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd/gofalwyr ar gyd-gynhyrchu effeithiol.
  • Gwell tâl i staff gofal a chymorth i’w annog i’w wneud yn ddewis gyrfa mwy deniadol ac uchel ei barch.