Ar 27 Medi 2021, cynhaliodd tîm Yr Astudiaeth Coronafeirws a Dysgu yng Nghymru drydydd digwyddiad ar-lein. Roedd y digwyddiad yn cynnwys panel a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r 5 sefydliad partner a fu’n rhan o’r astudiaeth ynghyd â’r Athro Debbie Forster o Brifysgol Caerdydd, awdur yr adroddiad “Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19”

Roedd y panel yn cynnwys Zoe Richards, Anabledd Dysgu Cymru; Joe Powell, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan; Josh Law, Fforwm Rhieni Sy’n Ofalwyr Cymru Gyfan; Dr Steve Beyer, Prifysgol Caerdydd ac Edward Oloidi, Prifysgol De Cymru.

Atebodd aelodau’r panel gwestiynau gan y rhai a oedd yn bresennol ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys:

  • ymchwil yn y dyfodol
  • addysg gynhwysol
  • cynyddu’r nifer sy’n manteisio ar wiriadau iechyd blynyddol
  • gwarchod a brechueffaith iechyd meddwl y pandemig
  • rôl comisiynu wrth ddatblygu a darparu gwasanaethau anabledd dysgu.

 

Crynodeb o’r trafodaethau

Ymchwil yn y dyfodol

Dywedodd Dr Steve Beyer fod y tîm ymchwil yng Nghymru wedi cyfweld â’r nifer uchaf o bobl yn astudiaeth y DU. Mae rhai materion a nodwyd yn yr astudiaeth yn dal i beri pryder, gan gynnwys y gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl sy’n cael archwiliadau iechyd blynyddol a phobl ag anabledd dysgu sy’n cael eu heithrio rhag mynychu canolfannau dydd. Mae’n bwysig darganfod beth sydd ei angen ar bobl ag anabledd dysgu i’w galluogi i symud ymlaen felly byddai’n fuddiol mynd ar drywydd y cyfranogwyr ymhen blwyddyn i weld sut maen nhw’n ymgartrefu’n ôl i fywyd ar ôl y pandemig.

Ychwanegodd Edward Oloidi fod yr astudiaeth wedi ei chael hi’n anodd recriwtio cyfranogwyr o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig ac awgrymodd gynnal ymchwil pellach sy’n cynnwys y grŵp hwn.

Amlinellodd Joe Powell ei farn mai’r flaenoriaeth yn awr yw cymryd camau i sicrhau bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn cael ei rhoi ar waith yn briodol ond y gallai ymchwil helpu i benderfynu pa mor dda mae hyn yn cael ei roi ar waith. Dywedodd Josh Law bod angen adeiladu gwasanaethau o amgylch teuluoedd ac nid fel arall.

Addysg gynhwysol

Mae angen mwy o waith ar addysg gynhwysol i blant ag anabledd dysgu. Mae Anabledd Dysgu Cymru yn cynllunio sgwrs gyda rhieni ynghylch y mater hwn i gasglu tystiolaeth ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Nododd yr Athro Debbie Foster fod deddfwriaeth dda yn cael ei phasio yng Nghymru ond bod gweithredu’n aml yn wael ac mae hyn yn arwain at fwy o anghydraddoldebau. Sefydlwyd Tasglu Gweinidogol i ymateb i’r adroddiad ‘Drws ar Glo’ a bydd yn canolbwyntio ar y 5 prif thema sy’n cael eu trafod yn yr adroddiad. Mae’n bwysig bod lleisiau pobl yn cael eu clywed, ac mae’r Grŵp Gorchwyl am ymgysylltu â chymaint o bobl â phrofiad byw â phosibl, gan gynnwys grwpiau eiriolaeth.

Cynyddu’r nifer sy’n manteisio ar wiriadau iechyd blynyddol

Rhaid i wasanaethau anabledd dysgu arbenigol a meddygfeydd teulu gydweithio fel bod pobl yn cael eu croesawu i’r feddygfa a bod pawb yn cael y canlyniadau gorau allan o’u rhyngweithio. Fodd bynnag, roedd problemau o ran cyrchu gwiriadau iechyd blynyddol yn bodoli cyn y pandemig. Mae teuluoedd yn eiriol dros eu hanwyliaid ac yn aml yn teimlo bod yn rhaid iddynt frwydro gyda’r feddygfa i brofi bod eu hanwyliaid yn gymwys i gael y gwiriadau iechyd. Mae’n bwysig bod pobl ag anabledd dysgu yn ymwybodol o’u hawl i gael archwiliad iechyd blynyddol a bod meddygon teulu yn anfon gwybodaeth hawdd ei deall at bobl ag anabledd dysgu yn rhoi gwybod iddynt sut y gallant gael archwiliadau iechyd blynyddol.

Gwarchod a brechu

Sicrhaodd ymgyrch lwyddiannus yng Nghymru fod pobl ag anabledd dysgu yn cael eu gwthio’n uwch i fyny’r rhestr flaenoriaeth ar gyfer brechiadau. Nododd cyfranogwyr yr astudiaeth gynnydd enfawr yn nifer y bobl wnaeth fanteisio ar y brechlyn ym mis Gorffennaf ac Awst. Mae llawer o bobl yn dal i bryderu am fynd allan ac ymgysylltu â gweddill y byd. Mae angen i ni ymgysylltu â phobl sy’n ystyried eu hunain yn agored i niwed yn feddygol i’w cefnogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol.

Effaith y pandemig ar iechyd meddwl

Mae’r astudiaeth yn gobeithio siarad â chyfranogwyr y flwyddyn nesaf i ddarganfod sut maen nhw’n setlo’n ôl i fywyd a beth sydd wedi newid iddyn nhw. Mae Fforwm Cymru Gyfan yn ymwneud â grwpiau cynghori sy’n edrych ar unigrwydd cymdeithasol ac arwahanrwydd. Mae’n bwysig gweithio gyda chymunedau i ddatblygu atebion. Mae angen i Lywodraeth Cymru ei gwneud yn glir ei bod yn ddiogel i bobl fynd allan a dechrau ail-ymgysylltu â gweithgareddau cymunedol.

Rôl comisiynu wrth ddatblygu a darparu gwasanaethau anabledd dysgu

Mae comisiynu da yn bwysig iawn. Cynhyrchwyd Canllawiau Comisiynu ychydig flynyddoedd yn ôl ac mae angen hyrwyddo hyn eto ledled Cymru.

Yng Ngogledd Cymru, mae pobl ag anabledd dysgu yn ymwneud â gwasanaethau cyd-gomisiynu. Y gobaith yw y gellir defnyddio dysgu o hyn mewn meysydd eraill.

Mae pobl ag anabledd dysgu yn aml yn dychwelyd i ddarpariaeth gwasanaeth dydd gyda mwy o bryder a llai o symudedd ac mae hon yn broblem fawr mae angen mynd i’r afael â hi.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod argyfwng ym maes gofal cymdeithasol ac maen nhw wedi comisiynu ymgyrch yn y cyfryngau sy’n arddangos manteision gweithio yn y sector