A ydych chi, neu rywun yr ydych yn eu hadnabod, rhwng 16 a 24 mlwydd oed ac ar hyn o bryd yn derbyn Credyd Cynhwysol? Diolch i raglen Kickstart Llywodraeth y DU mae gennym 2 gynnig cyffrous i bobl ifanc i ymuno â’n Ffrindiau Gigiau a thimau cyfathrebu.
Mae’r swyddi dan hyfforddiant hyn am gyfnod o 6 mis, gyda phosibilrwydd y byddant yn cael eu hymestyn. Mae hwn yn gyfle gwych i bobl ifanc gael cefnogaeth i ddechrau eu gyrfa, dysgu sgiliau newydd a gwneud gwahaniaeth.
Ffrindiau Gigiau Cymru – swydd Kickstart i bobl ifanc
Rydym yn chwilio am Gydlynydd Cynorthwyydd Dan Hyfforddiant Ffrindiau Gigiau i weithio ar ein prosiect Ffrindiau Gigiau Cymru Mae hwn yn gynllun cyfeillio sy’n dwyn ynghyd bobl sydd ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth yng Nghymru gyda gwirfoddolwyr sy’n rhannu’r un diddordebau, fel gallant fynd i gigiau a digwyddiadau gyda’i gilydd.
Bydd y swydd yn cynnwys bod o gymorth i’r tîm:
- recriwtio gwirfoddolwyr ac ymgeiswyr newydd
- gadw cofnodion cywir
- drefnu digwyddiad cymdeithasol rheolaidd
- gasglu adborth
- hyrwyddo’r prosiect, ar gyfryngau cymdeithasol ac mewn lleoliadau/digwyddiadau.
Dysgwch fwy a gwnewch gais am y swydd fan hyn.
Tîm cyfathrebu Anabledd Dysgu Cymru – swydd Kickstart i bobl ifanc
Rydym yn awyddus i gyflogi Cynorthwyydd Cyfathrebu Dan Hyfforddiant i gefnogi ein tîm Cyfathrebu a Pholisi prysur. Nod y swydd hon yw ein cynorthwyo i ymchwilio, casglu a rhannu gwybodaeth mewn modd hygyrch a diddorol.
Bydd y swydd yn cynnwys bod o gymorth i’r tîm:
- rannu cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol
- ddiweddaru ein gwefan
- hyrwyddo ein gwaith
- helpu gyda chynhyrchu ein cyhoeddiadau
- edrych ar sut y gallwn wella ein cyfathrebu
Dysgwch fwy a gwnewch gais am y swydd fan hyn.
Mae’r ddwy swydd am 25 awr yr wythnos ac wedi eu lleoli gartref gyda’r posibilrwydd o weithio yn ein swyddfa yng Nghaerdydd yn y dyfodol dan amodau hyblyg. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Mawrth 2022.
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais am unrhyw un o’r swyddi cyffrous hyn, cysylltwch â’ch Hyfforddwr Gwaith os gwelwch yn dda. Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn am bob un o’r swyddi a gwneud cais ar wefan Adran Gwaith a Phensiwn (AGPh)’Dod o hyd i swydd’ gan ddefnyddio’r dolenni isod:
Cydlynydd Cynorthwyydd Dan Hyfforddiant Ffrindiau Gigiau
Cynorthwyydd Cyfathrebu Dan Hyfforddiant.