Cynllun ar gyfer Anghenion Gofal a Chefnogaeth Caerdydd a’r Fro
Ionawr 2018
Mae Cynllun ar gyfer Anghenion Gofal a Chefnogaeth Caerdydd a’r Fro yn dweud sut y bydd partneriaeth rhanbarthol yn cefnogi ac yn gofalu am bobl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn dweud bod rhaid i bob ardal yng Nghymru ysgrifennu cynllun fel hwn. Mae’r cynllun yma’n dweud beth y bydd bwrdd gwasanaethau cyhoeddus Caerdydd a Bro Morganwg yn ei wneud ar gyfer:
- Pobl hŷn.
- Plant a phobl ifanc
- Pobl gydag anabledd dysgu neu awtistiaeth.
- Gofalwyr sydd yn oedolion a gofalwyr ifanc.
- Iechyd ac anableddau corfforol.
- Iechyd meddwl oedolion
- Pobl nad ydy eu golwg neu eu clyw yn dda
- Camdrin domestig, trais yn erbyn menywod a thrais gyda rhyw.