Iechyd Cyhoeddus Cymru – Eu cynllun i wneud yn siŵr eu bod nhw’n trin pawb yn deg
Mawrth 2020 | Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac Amcanion – 2020-2024
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwybod bod rhai pobl a grwpiau o bobl yng Nghymru ddim yn cael eu trin yn deg.
Maen nhw’n meddwl mai’r unig ffordd y gallan nhw helpu pobl i fyw bywydau mwy iach yw os ydyn nhw’n cael eu trin yn deg. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ysgrifennu’r ddogfen hon i ddweud wrthych chi beth maen nhw’n mynd i’w wneud i drin pobl yn deg.