Llywodraeth Cymru – Helpu pobl sydd yn unig ac sydd yn ei chael yn anodd i gyfarfod pobl eraill
Mai 2019 | Beth mae pobl wedi’i ddweud
Mae’r ddogfen yma yn rhoi’r atebion y mae pobl wedi’u rhoi i Lywodraeth Cymru i’w cwestiynau am: Helpu pobl sydd yn unig ac sydd yn ei chael yn anodd i gyfarfod pobl eraill.
Roedd y cwestiynau am unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yng Nghymru.
Mae unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn gallu achosi llawer o broblemau iechyd i bobl. Ac mae’r problemau iechyd yn costio llawer o arian.
Mae’r Llywodraeth eisiau gwneud rhagor i helpu pobl sydd yn unig neu yn ynysig yn gymdeithasol. Fe fyddan nhw’n defnyddio’r atebion i’w helpu i wneud hyn.
Am fanylion pellach, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.