Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Rhaglen Lywodraethu. Mae Cath Lewis, Uwch Swyddog Ymchwil a Pholisi, yn edrych ar yr hyn y mae’r cynllun yn ei olygu i bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru.

Mae’r Rhaglen Lywodraethu newydd yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y 5 mlynedd nesaf yn dilyn etholiadau diweddar y Senedd. Yn y cyflwyniad, mae Mark Drakeford yn ysgrifennu “Mae’n seiliedig ar werthoedd Cymreig unigryw y gymuned, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol […] dangos sut y byddwn yn gweithredu i sicrhau’r tegwch mwyaf posibl i bawb a dileu anghydraddoldeb ar bob lefel o gymdeithas”. Mae’n parhau, “Mae’n dangos sut y byddwn yn […] mynd i’r afael ag achosion systemig o anghydraddoldeb yn ei holl ffurfiau. Bydd hon yn Gymru lle nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl, ac nid oes neb yn cael ei adael ar ôl.” Mae’r rhain yn ddyheadau teilwng ond sut y bydd y cynlluniau hyn yn effeithio ar fywydau pobl ag anabledd dysgu sydd wedi dioddef anghydraddoldeb ers tro byd sydd wedi cael ei waethygu ymhellach gan bandemig Covid-19?

Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys cyfres fer o bwyntiau bwled sy’n ymgorffori addewidion a wnaed ym maniffesto Llafur ar gyfer yr etholiad diweddar. Mae’r pwyntiau ar lefel uchel iawn ac, os bydd arfer blaenorol yn cael ei ddilyn, maen nhw’n debygol o gael eu hategu gan gynllun gweithredu sy’n rhoi mwy o fanylion am sut y byddant yn cael eu rhoi ar waith. Nid yw’n cyfeirio’n uniongyrchol at bobl ag anabledd dysgu yn y ddogfen ond mae 3 phwynt sy’n tynnu sylw at yr hyn y bydd y llywodraeth yn ei wneud i bobl anabl:

  • Defnyddio’r rhwydwaith newydd o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl i helpu i gau’r bwlch rhwng pobl anabl a gweddill y boblogaeth sy’n gweithio.
  • Sicrhau bod ein system trafnidiaeth gyhoeddus yng Cymru yn fwy hygyrch i bobl anabl.
  • Ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu pob math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng nghyfraith Cymru.

Mae llawer o bwyntiau eraill sy’n ymdrin â phynciau sy’n berthnasol i bobl ag anabledd dysgu. Mae’r rhain yn cynnwys addewidion ar iechyd, gofal cymdeithasol a chymorth i ofalwyr teuluol. Mae un yn cyfeirio at ddeddfwriaeth a fydd yn “darparu gwell gwasanaethau gofal ac iechyd integredig”, sy’n cael ei groesawu ac a fydd, gobeithio, yn gwneud rhywfaint i ddileu’r gwahaniaeth mympwyol rhwng angen iechyd ac angen gofal cymdeithasol. Addewid hanfodol arall yw:

“Mynd ar drywydd datrysiad cynaliadwy yn y DU fel bod gofal yn rhad ac am ddim i bawb pan fo angen a / neu ymgynghori ar ateb posibl i Gymru yn unig i ddiwallu ein hanghenion gofal hirdymor.”

Mae hyn yn debygol o gael ei groesawu’n eang gan y miloedd o bobl, gan gynnwys pobl ag anabledd dysgu, sy’n dibynnu ar wasanaethau gofal cymdeithasol i fyw eu bywydau. Mae Mr Drakeford wedi dweud wrth asiantaeth newyddion PA ei fod yn gobeithio y byddai newidiadau gofal cymdeithasol yn dod i mewn yn ystod “hanner cyntaf” tymor 5 mlynedd y Senedd hon, felly cawn weld!

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn addo:

  • Capio costau gofal cymdeithasol dibreswyl ar yr uchafswm presennol o £100 yr wythnos.
  • Cynnal y terfyn cyfalaf (ar gyfer gofal) ar £50,000Talu’r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol, sy’n uwch na’r cyflog byw cenedlaethol ac sy’n cael ei sefydlogi gan gost byw.

Mae cefnogaeth i ofalwyr teuluol hefyd yn cael ei addo ac mae addewid i “gryfhau cefnogaeth i ofalwyr drwy gronfa caledi Covid yn 2021” ac i “ariannu cynllun seibiant byr i helpu gofalwyr”.

Mae cefnogi cyflogaeth yn flaenoriaeth gydag addewidion i “greu 125,000 o brentisiaethau pob oed” a “darparu’r Warant i Bobl Ifanc gan roi’r cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 mlwydd oed”. Bydd Anabledd Dysgu Cymru yn dadlau o blaid y ddau addewid hyn i gynnwys pobl ag anabledd dysgu. O ran tâl, bydd deddfwriaeth yn cael ei harchwilio “i fynd i’r afael â bylchau cyflog yn seiliedig ar ryw, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd, anabledd a mathau eraill o wahaniaethu”.

Mae addewidion addysg yn cynnwys “Gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) newydd” a “Chefnogi ysgolion ac athrawon i gyflwyno ein Cwricwlwm i Gymru sy’n arwain y byd”. Mae Anabledd Dysgu Cymru wrthi’n ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar y ddau addewid i sicrhau bod anghenion plant ag anabledd dysgu yn cael eu diwallu.

Mae’r pandemig wedi cynyddu’r ffocws ar iechyd meddwl gwael ac mae’r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys addewidion i “flaenoriaethu ailgynllunio gwasanaethau i wella atal, mynd i’r afael â stigma a hyrwyddo dull dim drws anghywir o ymdrin â chymorth iechyd meddwl” a “chyflwyno gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed ‘mewngymorth’ mewn ysgolion ledled Cymru”.

Mae addewidion eraill o ddiddordeb yn cynnwys:

  • Ariannu gofal plant i fwy o deuluoedd lle mae rhieni mewn addysg a hyfforddiant.
  • Cefnogi datblygiadau tai arloesol i ddiwallu anghenion gofal.
  • Cyflwyno cod ymarfer statudol awtistiaeth ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth.
  • Ehangu ein rhaglen Mynediad i Swyddfeydd Etholedig.
  • Gwella’r rhyngwyneb rhwng gofal iechyd parhaus a Thaliadau Uniongyrchol.

Bydd Anabledd Dysgu Cymru yn gweithio’n ddiflino i gefnogi Llywodraeth Cymru i roi’r addewidion hyn ar waith ac yn y pen draw i greu Cymru a fydd y wlad orau yn y byd i bobl ag anabledd dysgu fyw, dysgu a gweithio ynddi ac i fod yn Gymru lle nad oes neb (gan gynnwys pobl ag anabledd dysgu) yn cael ei ddal yn ôl ac nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.