Mae Anabledd Dysgu Cymru am i bobl ag anabledd dysgu gael y dechnoleg bersonol sydd ei hangen arnynt i fyw bywydau annibynnol, iach, cysylltiedig a diogel.
Sefydlwyd Cymuned Ymarfer Technoleg Bersonol Cymru Gyfan yn haf 2019 i hybu annibyniaeth, dewis a rheolaeth i bobl ag anabledd dysgu drwy ddefnyddio technoleg sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae’r ymarfer cymunedol newydd wedi tyfu o fod yn grŵp llai yr ydym wedi bod yn ei hwyluso ers dwy flynedd.
Nodau’r grŵp yw:
- Hyrwyddo’r defnydd moesegol o dechnoleg bersonol.
- Hybu annibyniaeth, dewis a rheolaeth ar gyfer pobl ag anabledd dysgu drwy ddefnyddio technoleg sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Mae’r grŵp yn cyfarfod bob chwarter i:
- Hyrwyddo’r defnydd o dechnoleg bersonol
- Cydweithio a rhannu arferion da
- Penderfynu ar ei flaenoriaethau gwaith
- Cydweithio ar gamau gweithredu y cytunwyd arnynt i gyflawni’r canlyniadau a ddymunir o fewn amserlenni penodedig.