{"id":12300,"date":"2020-02-12T17:00:36","date_gmt":"2020-02-12T17:00:36","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/hospital-should-never-be-anyones-home\/"},"modified":"2020-02-19T16:28:52","modified_gmt":"2020-02-19T16:28:52","slug":"hospital-should-never-be-anyones-home","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/hospital-should-never-be-anyones-home\/","title":{"rendered":"Ni ddylai ysbyty fyth fod yn gartref i neb"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae canfyddiadau digalon mewn adolygiad gofal cenedlaethol o 166 o bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru mewn ysbytai yn dangos bod pobl yn aml yn byw yno&#8217;n rhy hir, bod pobl yn cael gormod o feddyginiaeth a bod gormod o ddefnydd o arferion cyfyngol ar bobl y mae eu hymddygiad yn heriol. <\/strong><\/p>\n<p>Heddiw, fe wnaeth Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gyhoeddi\u2019r <a href=\"https:\/\/gov.wales\/national-care-review-nhs-learning-disability-hospitals-provision\">adolygiad gofal cenedlaethol<\/a> hwn a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Edrychodd ar 166 o bobl ag anabledd dysgu sy&#8217;n cael gofal a thriniaeth iechyd mewn lleoliadau iechyd sy\u2019n cael eu darparu neu eu comisiynu gan y GIG megis ysbytai diogel ac unedau asesu a thrin. Gwnaeth <a href=\"https:\/\/gov.wales\/written-statement-review-adult-learning-disability-patient-provision-managed-or-commissioned-nhs?fbclid=IwAR2Pnv4UmH9qJ1pDLkID7xn86NO35qCsNXbJebl-XdwC_6dag7aG7VdBcI8\">ddatganiad<\/a> heddiw.<\/p>\n<h3><strong>Ein barn ni<\/strong><\/h3>\n<p>Rydym yn croesawu&#8217;r adolygiad hwn sy&#8217;n rhoi darlun cynhwysfawr o ofal a thriniaeth ar gyfer pobl ag anabledd dysgu mewn lleoliadau iechyd.<\/p>\n<p>Dywedodd Zoe Richards, Prif Swyddog Gweithredol Anabledd Dysgu Cymru:<\/p>\n<p><em>&#8220;Drwy&#8217;r Rhaglen Gwella Bywydau rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru yn cael cymorth drwy wasanaethau sy&#8217;n hyrwyddo bywydau iach gyda dewis a rheolaeth dros eu bywydau eu hunain. Rydyn ni\u2019n deall bod adegau pan fydd pobl a theuluoedd yn wynebu argyfwng a bod angen cymorth arbenigol meddygol, ond mae&#8217;n rhaid cyfyngu ar yr amser hwn a rhaid i ni weithio tuag at bobl sy&#8217;n byw eu bywydau y tu allan i leoliad meddygol. &#8220;<\/em><\/p>\n<p>Ers i Anabledd Dysgu Cymru gael ei greu yn 1983, ar yr un pryd \u00e2\u2019r Strategaeth Anfantais Feddyliol Cymru Gyfan chwyldroadol, rydym wedi gweithio i hyrwyddo hawl pobl ag anabledd dysgu i gael profiad o fywyd annibynnol llawn, ysgogol ac amrywiol ac i fwynhau holl fanteision a chyfrifoldebau bod yn ddinesydd yn eu cymuned.<\/p>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Hoffai Anabledd Dysgu Cymru weld camau gweithredu o&#8217;r adroddiad hwn yn cael eu rhoi ar waith ar unwaith gan gynnwys egluro&#8217;r cyfrifoldebau rhwng awdurdodau lleol, awdurdodau iechyd a&#8217;r gwasanaeth arolygu ac, yn ail, egluro pwy sy&#8217;n gyfrifol yn gyfreithiol ac yn ariannol am fonitro gofal a chymorth ar gyfer pob unigolyn.<\/span><\/p>\n<h3><strong>Canfyddiadau&#8217;r adroddiad<\/strong><\/h3>\n<p>Er bod rhai meysydd o arfer da, fe wnaeth yr adroddiad ganfod bod angen mynd i&#8217;r afael \u00e2 nifer o faterion ar frys. Mae&#8217;r adroddiad yn gwneud 70 o argymhellion.<\/p>\n<h3><strong>Nid yw ysbyty yn gartref<\/strong><\/h3>\n<p>Roedd cleifion yn aros mewn unedau ysbyty am gyfnod hir ac yn cael eu trosglwyddo rhwng ysbytai pan y byddai wedi bod yn bosibl ystyried dewisiadau amgen yn y gymuned. Canfuwyd mai\u2019r cyfanswm cyfartalog o amser oedd 5 mlynedd, gydag un claf yn aros am 49 mlynedd. Dim ond os nad oes ffyrdd eraill i&#8217;w trin yn ddiogel y dylai pobl aros mewn ysbytai.<\/p>\n<h3><strong>Gor-ddefnyddio meddyginiaeth<\/strong><\/h3>\n<p>Nid oedd gan 37% o&#8217;r cleifion oedd \u00e2 phresgripsiwn am sefydlogyddion hwyliau unrhyw ddiagnosis sylfaenol nac eilaidd o salwch meddwl. Prif swyddogaeth meddyginiaeth felly yw atal ymddygiad yn hytrach na thrin cyflwr. Nid yn unig y mae&#8217;r feddyginiaeth hon yn amhriodol, mae&#8217;n atgyfnerthu agwedd negyddol bod anabledd dysgu yn gyflwr meddygol sydd angen ei reoli \u00e2 chyffuriau. Ni ddylai meddyginiaeth fod yn ateb sydyn pan fydd angen therapi a chymorth yn y tymor hir ar unigolyn. Dylai fod mwy o staff therapi.<\/p>\n<h3><strong>Gor-ddefnyddio arfer cyfyngol<\/strong><\/h3>\n<p>Weithiau, mae angen ymyriadau cyfyngol pan fydd rhywun yn defnyddio ymddygiad sy&#8217;n herio. Ond fe wnaeth yr adolygiad ganfod llawer o achlysuron pan oedden nhw wedi cael eu defnyddio. Dylai arferion cyfyngol fod yn ddewis olaf. Dylai&#8217;r defnydd o arferion cyfyngol fod yng nghynllun cymorth y claf mewn ysbyty a dylai ddweud yn glir pam mae ei angen.<\/p>\n<h3><strong>Pobl h\u0177n<\/strong><\/h3>\n<p>Mae angen gwneud mwy ar gyfer y boblogaeth sy&#8217;n heneiddio. Mae gan lawer o gleifion ag anabledd dysgu ddiagnosis arall fel dementia ac awtistiaeth. Mae angen yr amgylchedd cywir gyda staff profiadol.<\/p>\n<h3><strong>Cynlluniau Gofal<\/strong><\/h3>\n<p>Fe wnaeth adolygiad hwn ganfod nad oedd gan bob claf gynllun gofal yn ei le, ac nad oedd pob cynllun gofal wedi cael ei adolygu&#8217;n rheolaidd. Dylai fod gan bob claf gynllun gofal a chynllun cymorth ysbyty a ddylai gael ei ysgrifennu gyda&#8217;r claf a&#8217;i adolygu&#8217;n rheolaidd.<\/p>\n<h3><strong>Gwrando ar gleifion<\/strong><\/h3>\n<p>Yn gyffredinol, dywedodd pobl bethau da am eu gofal. Ond fe wnaethon nhw hefyd ddweud y bydden nhw&#8217;n hoffi i rai pethau fod yn wahanol. Dylai staff barhau i ofyn i gleifion sut y gellir gwella pethau ac yna gwirio sut maen nhw\u2019n gwneud.<\/p>\n<h3><strong>Trosglwyddo i&#8217;r gymuned<\/strong><\/h3>\n<p>Fe wnaeth yr adolygiad hwn ganfod nifer sylweddol o gleifion a allai gael eu hystyried ar gyfer eu trosglwyddo i&#8217;r gymuned leol. Gall cleifion sydd wedi bod yn byw mewn ysbytai ers blynyddoedd lawer ddod i arfer \u00e2 byw yno. Felly mae trosglwyddo yn gofyn am gynllunio gofalus a dylai gynnwys y person a&#8217;r teulu i&#8217;w helpu i baratoi.<\/p>\n<h3><strong>Adroddiadau<\/strong><\/h3>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Comisiynwyd yr Adolygiad Gofal Cenedlaethol hwn gan yr Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cymru, fel rhan o Raglen Anabledd Dysgu Llywodraeth Cymru \u2013 Gwella Bywydau gan Uned Comisiynu Cydweithredol Genedlaethol GIG Cymru.<\/span><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/gov.wales\/national-care-review-nhs-learning-disability-hospitals-provision\">Gwella Bywydau, Gwella Gofal: Adolygiad Gofal Cenedlaethol o Ddarpariaeth Cleifion Mewnol ag Anableddau Dysgu mewn Ysbytai sy\u2019n cael eu rheoli neu eu comisiynu gan GIG Cymru, Chwefror 2020.<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/gov.wales\/national-care-review-nhs-learning-disability-hospitals-provision\">Hawdd ei Ddeall: Gwella Gofal: Gwella Bywydau: Sut brofiad yw hi i bobl ag anabledd dysgu sy&#8217;n cael gofal trwy&#8217;r ysbyty.<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/gov.wales\/written-statement-review-adult-learning-disability-patient-provision-managed-or-commissioned-nhs?fbclid=IwAR2Pnv4UmH9qJ1pDLkID7xn86NO35qCsNXbJebl-XdwC_6dag7aG7VdBcI8\">Datganiad Vaughan Gething<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae canfyddiadau digalon mewn adolygiad gofal cenedlaethol o 166 o bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru mewn ysbytai yn dangos bod pobl yn aml yn byw yno&#8217;n rhy hir, bod pobl yn cael gormod o feddyginiaeth a bod gormod o ddefnydd o arferion cyfyngol ar bobl y mae eu hymddygiad yn heriol. Heddiw, fe wnaeth &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/hospital-should-never-be-anyones-home\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":12186,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[29,28],"tags":[],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v20.11 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Ni ddylai ysbyty fyth fod yn gartref i neb - Anabledd Dysgu Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/hospital-should-never-be-anyones-home\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Ni ddylai ysbyty fyth fod yn gartref i neb - Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae canfyddiadau digalon mewn adolygiad gofal cenedlaethol o 166 o bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru mewn ysbytai yn dangos bod pobl yn aml yn byw yno&#8217;n rhy hir, bod pobl yn cael gormod o feddyginiaeth a bod gormod o ddefnydd o arferion cyfyngol ar bobl y mae eu hymddygiad yn heriol. Heddiw, fe wnaeth &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/hospital-should-never-be-anyones-home\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-02-12T17:00:36+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2020-02-19T16:28:52+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/Window-depressed-trapped-web.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1000\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"588\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Karen Warner\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Karen Warner\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"4 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/hospital-should-never-be-anyones-home\/\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/hospital-should-never-be-anyones-home\/\",\"name\":\"Ni ddylai ysbyty fyth fod yn gartref i neb - Anabledd Dysgu Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\"},\"datePublished\":\"2020-02-12T17:00:36+00:00\",\"dateModified\":\"2020-02-19T16:28:52+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/6e76b0f46e8e6178a7ee3e59265428aa\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/hospital-should-never-be-anyones-home\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/hospital-should-never-be-anyones-home\/\"]}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/\",\"name\":\"Anabledd Dysgu Cymru\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/6e76b0f46e8e6178a7ee3e59265428aa\",\"name\":\"Karen Warner\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/2d10bdfa2bdaa0065f6e79a2ffe89f30?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/2d10bdfa2bdaa0065f6e79a2ffe89f30?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Karen Warner\"},\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/karen-warner\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Ni ddylai ysbyty fyth fod yn gartref i neb - Anabledd Dysgu Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/hospital-should-never-be-anyones-home\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Ni ddylai ysbyty fyth fod yn gartref i neb - Anabledd Dysgu Cymru","og_description":"Mae canfyddiadau digalon mewn adolygiad gofal cenedlaethol o 166 o bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru mewn ysbytai yn dangos bod pobl yn aml yn byw yno&#8217;n rhy hir, bod pobl yn cael gormod o feddyginiaeth a bod gormod o ddefnydd o arferion cyfyngol ar bobl y mae eu hymddygiad yn heriol. Heddiw, fe wnaeth &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/hospital-should-never-be-anyones-home\/","og_site_name":"Anabledd Dysgu Cymru","article_published_time":"2020-02-12T17:00:36+00:00","article_modified_time":"2020-02-19T16:28:52+00:00","og_image":[{"width":1000,"height":588,"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/Window-depressed-trapped-web.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Karen Warner","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Karen Warner","Est. reading time":"4 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/hospital-should-never-be-anyones-home\/","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/hospital-should-never-be-anyones-home\/","name":"Ni ddylai ysbyty fyth fod yn gartref i neb - Anabledd Dysgu Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website"},"datePublished":"2020-02-12T17:00:36+00:00","dateModified":"2020-02-19T16:28:52+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/6e76b0f46e8e6178a7ee3e59265428aa"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/hospital-should-never-be-anyones-home\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/hospital-should-never-be-anyones-home\/"]}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/","name":"Anabledd Dysgu Cymru","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/6e76b0f46e8e6178a7ee3e59265428aa","name":"Karen Warner","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/2d10bdfa2bdaa0065f6e79a2ffe89f30?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/2d10bdfa2bdaa0065f6e79a2ffe89f30?s=96&d=mm&r=g","caption":"Karen Warner"},"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/karen-warner\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12300"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12300"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12300\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12302,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12300\/revisions\/12302"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/12186"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12300"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12300"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12300"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}