{"id":15201,"date":"2020-06-18T11:12:50","date_gmt":"2020-06-18T10:12:50","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?p=15201"},"modified":"2020-06-18T11:12:50","modified_gmt":"2020-06-18T10:12:50","slug":"gwarchod-pa-mor-glir-ydy-hi","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/gwarchod-pa-mor-glir-ydy-hi\/","title":{"rendered":"Gwarchod &#8211; pa mor glir ydy hi?"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae pobl ag anabledd dysgu mewn perygl pan na fyddant yn derbyn y wybodaeth gywir mewn fformat maen nhw\u2019n ei ddeall. Mae Anabledd Dysgu Cymru, fel rhan o&#8217;r Consortiwm Anabledd Dysgu, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Mark Drakeford i fynegi pryder cynyddol nad yw Llywodraeth Cymru eto wedi cyhoeddi fersiwn hygyrch o&#8217;r llythyr a anfonwyd at bobl a gynghorwyd i warchod eu hunain oherwydd y coronafeirws. <\/strong><\/p>\n<p><strong>Mae&#8217;r llythyr a&#8217;r dystiolaeth ategol yn codi materion pwysig ynghylch y cyngor a&#8217;r wybodaeth am warchod eu hunain a roddwyd i bobl ag anabledd dysgu, sy&#8217;n dal i fod mewn perygl gwirioneddol o fynd yn s\u00e2l a cholli eu bywydau o bosibl o ganlyniad. Mae Anabledd Dysgu Cymru hefyd wedi codi ei bryderon fel un o 32 o elusennau am yr effaith ar les pobl sy&#8217;n gwarchod eu hunain, ac eglurder y wybodaeth a ddarparwyd am y cyngor a ddiweddarwyd yn ddiweddar.<\/strong><\/p>\n<p><em>Mae Anabledd Dysgu Cymru yn aelod o gonsortiwm y trydydd sector o sefydliadau Anabledd Dysgu a Gofalwyr Teuluol cenedlaethol ochr yn ochr \u00e2 Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Fforwm Cymru Gyfan, Mencap Cymru, Cymorth Cymru a\u2019r Cymdeithas Syndrom Down.<\/em><\/p>\n<h5>Gwybodaeth aneglur<\/h5>\n<p>Fel sefydliadau sy&#8217;n gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu a&#8217;u gofalwyr teuluol, rydym yn gweld ac yn clywed nifer cynyddol o ymholiadau yn ymwneud \u00e2 dryswch ynghylch gwarchod. Mae tua 130,000 o bobl yng Nghymru sy&#8217;n cael eu hystyried yn eithriadol o agored i ddatblygu salwch difrifol os ydynt yn contractio coronafeirws oherwydd bod ganddynt gyflwr iechyd penodol wedi cael eu cynghori i \u2018warchod eu hunain\u2019. Hefyd, nid yw hi&#8217;n glir ynghylch y gwahaniaeth rhwng \u2018agored i niwed\u2019 a \u2018gwarchod\u2019. Rydym yn gwybod yn awr bod mesurau gwarchod cael eu hymestyn i 16 Awst. Mae&#8217;r rhwystredigaeth gynyddol a deimlwn ar ran y bobl yr ydym yn eu cefnogi wedi arwain y consortiwm i ofyn yn ffurfiol i&#8217;r Prif Weinidog fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r materion a godwyd fel mater o frys.<\/p>\n<h5>\nCais wedi\u2019i wneud am fersiwn hawdd ei ddeall<\/h5>\n<p>Mae gwybodaeth mewn fformat hawdd ei ddeall yn fwy nag adnodd defnyddiol \u2013 mae&#8217;n ofyniad sylfaenol i alluogi pobl ag anableddau dysgu i gyrchu a deall gwybodaeth sy&#8217;n effeithio ar eu bywydau a&#8217;u hawliau dynol. Yn ystod pandemig byd-eang, mae&#8217;n hanfodol sicrhau bod gwybodaeth a chyngor ar gael yn rhwydd er mwyn osgoi poen a dioddefaint diangen. Ar hyn o bryd nid oes fersiwn hawdd ei ddeall o&#8217;r llythyr gwarchod a dim cynlluniau i ryddhau un. Pan fydd llythyrau newydd yn cael eu hanfon gyda&#8217;r cyngor a ddiweddarwyd yn ddiweddar, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r materion a rydyn ni wedi\u2019u codi.<\/p>\n<h5>\nLlythyr yn anodd i\u2019w ddeall<\/h5>\n<p>Mae&#8217;r llythyr gwreiddiol yn hir ac yn anodd ei ddeall. Gall hyn beri llawer o straen a dryswch i rywun ag anabledd dysgu, yn enwedig i&#8217;r rheini nad oes ganddynt gymorth efallai i ddeall beth mae&#8217;r llythyr yn ei gynnwys a&#8217;r hyn y mae&#8217;n rhaid iddynt ei wneud i ddiogelu eu hunain ac eraill. Oherwydd y pandemig, nid yw llawer o&#8217;r rhai a fyddai fel arfer yn cael cymorth i drefnu biliau, llythyrau, ac apwyntiadau yn gallu manteisio ar y cymorth hwn. Mae grwpiau Pobl yn Gyntaf wedi adrodd nad yw rhai unigolion a gynghorwyd i warchod eu hunain wedi bod yn gwneud hynny oherwydd nad ydynt yn deall cynnwys y llythyr. Nid yw&#8217;r llythyr wedi&#8217;i bersonoli, ac felly mae&#8217;n rhestru nifer o resymau pam y gallai&#8217;r unigolyn fod wedi&#8217;i dderbyn. Mae llawer o rifau a chysylltiadau gwe wedi cael eu cynnwys nad ydynt yn berthnasol i bawb, ond nid yw hyn yn glir i&#8217;r darllenydd. Nid yw&#8217;r gwahaniaeth rhwng \u2018agored i niwed\u2019 a \u2018gwarchod\u2019 wedi&#8217;i wneud yn glir mewn fformat hygyrch ychwaith. Mae angen eglurder gan fod cyngor yn wahanol ar gyfer y grwpiau hyn.<\/p>\n<h5>\nWedi&#8217;u hallg\u00e1u&#8217;n ddigidol<\/h5>\n<p>Yn ogystal \u00e2 hynny, mae&#8217;r cyfarwyddiadau a roddir yn y llythyr yn aml yn gofyn am fynediad i&#8217;r rhyngrwyd, ac nid oes gan bobl ag anabledd dysgu bob amser y mynediad hwn. Bydd hyn yn cyflwyno heriau pellach i lawer o bobl.<\/p>\n<h5>\nRhesymau dros gysgodi ddim yn glir<\/h5>\n<p>Yn y llythyr mae&#8217;r consortiwm hefyd yn codi&#8217;r mater o bwy sy&#8217;n derbyn y llythyrau gwarchod. Nid oes unrhyw resymeg glir wedi\u2019i rhoi. Drwy ddarparwyr gwasanaethau rydym yn ymwybodol o bobl y mae disgwyl iddynt dderbyn llythyr, yn seiliedig ar hanes meddygol hysbys, ond nad ydynt wedi derbyn un. Mae eraill nad ydynt yn credu eu bod yn perthyn i unrhyw rai o&#8217;r categor\u00efau a nodwyd wedi derbyn y llythyr ac yn ansicr beth mae hyn yn ei olygu iddyn nhw. Byddai&#8217;r cyfle i drafod \u00e2 gweithiwr meddygol proffesiynol y gellir ymddiried ynddo yn fuddiol iawn, ond mae&#8217;r argaeledd wedi bod yn amrywiol.<br \/>\n\u2018Agored i Niwed\u2019<br \/>\nI&#8217;r rheini sy&#8217;n agored i niwed oherwydd rhai cyflyrau, mae problemau ychwanegol os nad ydynt yn cael llythyr. Mae hyn yn arbennig o bwysig i&#8217;r rheini sydd \u00e2 rhieni sy&#8217;n weithwyr allweddol ac sydd mewn perygl o ddod \u00e2&#8217;r feirws adref os ydynt yn parhau i weithio fel arfer. Mae rhai cyflogwyr wedi gwrthod rhoi unrhyw addasiadau ar waith oni bai bod y rhieni&#8217;n gallu cynhyrchu llythyr gwarchod. Mae hyn wedi golygu bod rhai teuluoedd wedi suddo i galedi ariannol am fod y rhieni wedi cymryd absenoldeb di-d\u00e2l er mwyn amddiffyn eu plentyn.<\/p>\n<p><strong>Danfoniadau siopa yn broblem<\/strong><\/p>\n<p>Yn wir, mae llawer o bobl ag anableddau dysgu a oedd gynt mewn tai \u00e2 chymorth wedi dychwelyd i fyw gydag aelodau o&#8217;u teulu. Oherwydd eu bod yn byw i ffwrdd o&#8217;u cyfeiriad cofrestredig, mae hyn wedi arwain at rai pobl yn cael trafferth cael gafael ar slotiau siopa a ddynodwyd i bobl agored i niwed. Y cyngor swyddogol yw cysylltu ag archfarchnadoedd yn uniongyrchol, sy&#8217;n dasg frawychus i rywun ag anabledd dysgu, a dull nad yw bob amser yn cael ei ddeall. Mae&#8217;r un peth yn wir am gysylltu \u00e2&#8217;r awdurdod lleol a derbyn parsel bwyd, gan nad yw gofynion deietegol sy&#8217;n ymwneud ag anghenion meddygol yn cael eu hystyried.<\/p>\n<p><strong>Rhannu tai<\/strong><\/p>\n<p>Mae llawer o bobl yng Nghymru sydd ag anableddau dysgu yn byw mewn tai \u00e2 chymorth, gan rannu eu cartref gyda phobl nad ydynt yn rhan o&#8217;u teulu. Rhaid cynnwys canllawiau yn y llythyr ar hawliau a chyfrifoldebau os yw person arall yn y cartref a rennir yn gwarchod eu hunain.<\/p>\n<h5>\nMaterion tymor hwy<\/h5>\n<p>Mae&#8217;r consortiwm yn gofyn pa gynlluniau sy&#8217;n cael eu gwneud i gefnogi lles tymor hir pobl y gallai fod angen eu gwarchod am gryn amser, gyda rhai cyfyngiadau yn debygol o barhau nes bod brechlyn ar gael. Rhaid i&#8217;r cymorth hwn fod yn hygyrch i bobl ag anabledd dysgu. Mae&#8217;r Consortiwm yn galw ar y Prif Weinidog i gadarnhau y bydd y rheini sy&#8217;n gwarchod eu hunain yn gr\u0175p blaenoriaeth o ran cael gafael ar frechlyn, pan fydd ar gael. Galwn hefyd am sicrwydd y bydd natur agored i niwed y rhai sydd mewn mwy o berygl, ond nad ydynt yn cael eu hystyried yn y gr\u0175p gwarchod, yn cael eu hystyried wrth roi blaenoriaeth i fynediad i frechlyn.<\/p>\n<h5>\nDyddiadau ar warchod yn ddryslyd<\/h5>\n<p>Bu llawer o ddryswch yngl\u0177n \u00e2 dyddiadau, gan fod pobl wedi cael y llythyr ar wahanol adegau ac yn cwestiynu a ddylai&#8217;r 12 wythnos o warchod a nodwyd yn y llythyr ddechrau o&#8217;r dyddiad derbyn neu o ddechrau&#8217;r cyfyngiadau symud swyddogol. Ar 4 Mehefin cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y dylai pobl barhau i warchod eu hunain tan 16 Awst, ond nid yw\u2019r dyddiad hwn na&#8217;r dyddiad blaenorol, sef 15 Mehefin, wedi\u2019u cynnwys yn y llythyrau, gan arwain at ddryswch pellach.<\/p>\n<h5>\nCanllawiau newydd<\/h5>\n<p>Ar 1 Mehefin fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddiweddaru\u2019r canllawiau ar amddiffyn. Mewn llythyr dyddiedig 2 Mehefin roedd Anabledd Dysgu Cymru yn un o 32 o lofnodwyr i ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru yn codi pryderon yn ymwneud \u00e2&#8217;r canllawiau newydd. Mae&#8217;r cyfyngiadau wedi cael eu llacio er mwyn caniat\u00e1u&#8217;r gr\u0175p sy\u2019n gwarchod eu hunain wneud ymarfer corff a chwrdd ag eraill o aelwyd arall yn yr awyr agored. Gyda&#8217;r cyngor yn datgan bod yn rhaid cymhwyso mesur o &#8216;resymoldeb&#8217; wrth lynu at y canllawiau newydd, mae baich dryslyd yn cael ei osod ar y bobl hynny mewn grwpiau mewn perygl y bydd angen iddynt yn awr weithio allan sut i gydbwyso&#8217;r canllawiau newydd hyn, tra bod gofyn iddynt barhau i gadw draw o&#8217;r gwaith, o siopa ac o gasglu meddyginiaeth. Gan nad yw&#8217;r wybodaeth hon wedi&#8217;i darparu mewn fformat hygyrch, mae hyn yn creu rhwystrau ychwanegol i ddealltwriaeth ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Byddem yn croesawu rhagor o wybodaeth am y rhesymeg dros wyro oddi wrth y canllawiau presennol.<\/p>\n<p>Gallai&#8217;r anghydraddoldeb o ran cyrchu gwybodaeth olygu niwed neu golli bywydau sylweddol i un o&#8217;r grwpiau cymdeithas sydd fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Rydym yn galw ar y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru ar unwaith i fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r pryderon a godwyd ynghylch gwarchod, gan gyfathrebu&#8217;n fwy clir ac mewn ffordd hygyrch, er mwyn lleihau&#8217;r risg i bobl ag anableddau dysgu o Covid-19.<\/p>\n<p><em>Er nad oes llythyr hawdd ei ddeall ar gyfer yr unigolyn ei hun, mae canllawiau cyffredinol <a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/publications\/2020-06\/guidance-on-protecting-people-most-likely-to-get-very-poorly-from-coronavirus-shielding-10-june-2020.pdf\">yma<\/a>.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae pobl ag anabledd dysgu mewn perygl pan na fyddant yn derbyn y wybodaeth gywir mewn fformat maen nhw\u2019n ei ddeall. Mae Anabledd Dysgu Cymru, fel rhan o&#8217;r Consortiwm Anabledd Dysgu, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Mark Drakeford i fynegi pryder cynyddol nad yw Llywodraeth Cymru eto wedi cyhoeddi fersiwn hygyrch o&#8217;r llythyr a &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/gwarchod-pa-mor-glir-ydy-hi\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":15196,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[28],"tags":[],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v20.11 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Gwarchod - pa mor glir ydy hi? - Anabledd Dysgu Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/gwarchod-pa-mor-glir-ydy-hi\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Gwarchod - pa mor glir ydy hi? - Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae pobl ag anabledd dysgu mewn perygl pan na fyddant yn derbyn y wybodaeth gywir mewn fformat maen nhw\u2019n ei ddeall. Mae Anabledd Dysgu Cymru, fel rhan o&#8217;r Consortiwm Anabledd Dysgu, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Mark Drakeford i fynegi pryder cynyddol nad yw Llywodraeth Cymru eto wedi cyhoeddi fersiwn hygyrch o&#8217;r llythyr a &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/gwarchod-pa-mor-glir-ydy-hi\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-06-18T10:12:50+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Virus-Shielding.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"600\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"600\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Kai Jones\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Kai Jones\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"8 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/gwarchod-pa-mor-glir-ydy-hi\/\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/gwarchod-pa-mor-glir-ydy-hi\/\",\"name\":\"Gwarchod - pa mor glir ydy hi? - Anabledd Dysgu Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\"},\"datePublished\":\"2020-06-18T10:12:50+00:00\",\"dateModified\":\"2020-06-18T10:12:50+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/gwarchod-pa-mor-glir-ydy-hi\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/gwarchod-pa-mor-glir-ydy-hi\/\"]}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/\",\"name\":\"Anabledd Dysgu Cymru\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c\",\"name\":\"Kai Jones\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Kai Jones\"},\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/kai-jones\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Gwarchod - pa mor glir ydy hi? - Anabledd Dysgu Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/gwarchod-pa-mor-glir-ydy-hi\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Gwarchod - pa mor glir ydy hi? - Anabledd Dysgu Cymru","og_description":"Mae pobl ag anabledd dysgu mewn perygl pan na fyddant yn derbyn y wybodaeth gywir mewn fformat maen nhw\u2019n ei ddeall. Mae Anabledd Dysgu Cymru, fel rhan o&#8217;r Consortiwm Anabledd Dysgu, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Mark Drakeford i fynegi pryder cynyddol nad yw Llywodraeth Cymru eto wedi cyhoeddi fersiwn hygyrch o&#8217;r llythyr a &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/gwarchod-pa-mor-glir-ydy-hi\/","og_site_name":"Anabledd Dysgu Cymru","article_published_time":"2020-06-18T10:12:50+00:00","og_image":[{"width":600,"height":600,"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Virus-Shielding.png","type":"image\/png"}],"author":"Kai Jones","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Kai Jones","Est. reading time":"8 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/gwarchod-pa-mor-glir-ydy-hi\/","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/gwarchod-pa-mor-glir-ydy-hi\/","name":"Gwarchod - pa mor glir ydy hi? - Anabledd Dysgu Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website"},"datePublished":"2020-06-18T10:12:50+00:00","dateModified":"2020-06-18T10:12:50+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/gwarchod-pa-mor-glir-ydy-hi\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/gwarchod-pa-mor-glir-ydy-hi\/"]}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/","name":"Anabledd Dysgu Cymru","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c","name":"Kai Jones","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g","caption":"Kai Jones"},"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/kai-jones\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15201"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15201"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15201\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":15203,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15201\/revisions\/15203"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15196"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15201"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15201"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15201"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}