{"id":21933,"date":"2021-03-30T15:52:22","date_gmt":"2021-03-30T14:52:22","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?p=21933"},"modified":"2021-03-30T15:52:22","modified_gmt":"2021-03-30T14:52:22","slug":"maer-pandemig-wedi-lleihau-mynediad-yn-sylweddol-at-wasanaethau-gofal-a-chymorth-i-oedolion-ag-anabledd-dysgu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/maer-pandemig-wedi-lleihau-mynediad-yn-sylweddol-at-wasanaethau-gofal-a-chymorth-i-oedolion-ag-anabledd-dysgu\/","title":{"rendered":"Mae\u2019r pandemig wedi lleihau mynediad yn sylweddol at wasanaethau gofal a chymorth i oedolion ag anabledd dysgu"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae oedolion ag anabledd dysgu ledled y DU wedi gweld gostyngiad mawr yn y mynediad at rai gwasanaethau gofal a chymorth, megis archwiliadau iechyd blynyddol a chyswllt \u00e2 gweithiwr cymdeithasol, yn ystod pandemig y coronafeirws.<br \/>\n<\/strong><\/p>\n<p>Roedd dros 60% o bobl ag anableddau dysgu a oedd wedi gweld gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fel mater o drefn cyn y cyfyngiadau symud cyntaf ym mis Mawrth 2020 wedi gweld llai arnynt neu heb eu gweld o gwbl ers hynny, tra fod bron i hanner y bobl a oedd fel arfer yn cael archwiliad iechyd blynyddol heb dderbyn un ers cyn mis Mawrth 2020.<\/p>\n<p>Roedd mwy na hanner y bobl ag anabledd dysgu oedd yn gweld gweithiwr cymdeithasol yn rheolaidd cyn y cyfyngiadau symud cyntaf heb weld un o gwbl ers cyn mis Mawrth 2020. Cafodd apwyntiadau traean o bobl eu canslo, tra bod gweithgareddau cymunedol, gwasanaethau dydd a chymorth seibiant wedi dod i ben ar gyfer bron pawb ag anableddau dysgu.<\/p>\n<p>Daw&#8217;r canfyddiadau o adroddiad cyntaf astudiaeth fawr yn y DU i brofiadau pobl ag anabledd dysgu yn ystod y pandemig. Fe wnaeth sefydliadau anabledd dysgu a phrifysgolion o bob un o bedair gwlad y DU gyfweld bron i 1,000 o oedolion ag anabledd dysgu, mewn dwy garfan.<\/p>\n<p>Yng ngharfan 1 fe wnaeth ymchwilwyr gyfweld 621 o oedolion ag anabledd dysgu. Yng ngharfan 2, fe wnaeth 378 o ofalwyr teuluol neu staff cymorth cyflogedig gymryd rhan mewn arolwg ar-lein am brofiadau&#8217;r unigolyn yr oeddent yn ei gefnogi neu&#8217;n gofalu amdano. Roedd y rhain yn debygol o fod yn oedolion ag anableddau dysgu mwy difrifol i ddwys.<\/p>\n<h2><strong>Canfyddiadau o Gymru<\/strong><\/h2>\n<p>Ymunodd Anabledd Dysgu Cymru \u00e2 Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan, Prifysgol Caerdydd, a Phrifysgol De Cymru i gyfweld pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru. Yn yr erthygl hon rydym yn adrodd ar ganfyddiadau adroddiad llawn y DU. Byddwn yn dilyn hyn gan edrych yn fanwl ar ganfyddiadau Cymru yn ystod yr wythnos nesaf.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/warwick.ac.uk\/fac\/soc\/cedar\/covid19-learningdisability\/results\/wave1results\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Gallwch weld adroddiad llawn y DU, uchafbwyntiau, a fersiwn hawdd ei deall o&#8217;r adroddiad, yma.<\/a><\/p>\n<h2><strong>Heintiau, gwarchod, iechyd, a cholli rhywun agos i Covid-19<\/strong><\/h2>\n<p>Ar draws y ddwy garfan roedd tua 5% o bobl ag anabledd dysgu wedi derbyn prawf cadarnhaol am coronafeirws, gyda 5% arall o bobl yn credu eu bod wedi cael Covid-19. (Y ffigur cronnol ar gyfer poblogaeth y DU, hyd at 28 Chwefror 2021, yw 6%). O&#8217;r rhai a oedd wedi dal Covid-19, neu&#8217;n amau eu bod wedi ei ddal, roedd tua 15% wedi eu derbyn i\u2019r ysbyty oherwydd eu symptomau.<\/p>\n<p>Dywedodd mwy na 10% o bobl ag anableddau dysgu bod rhywun sy&#8217;n agos atynt wedi marw oherwydd COVID-19.<\/p>\n<p>Nododd dros hanner y bobl ag anableddau dysgu gyflyrau iechyd a oedd yn peri pryder os oedd ganddynt Covid-19 (51% yng ngharfan 1, a 67% yng ngharfan 2), gydag asthma ac epilepsi fel y cyflyrau iechyd mwyaf cyffredin.<\/p>\n<p>Pan ofynnwyd iddynt am warchod, dywedodd 31% (carfan 1) a 58% (carfan 2) eu bod wedi gwarchod eu hunain ar ryw bwynt ers mis Mawrth 2020. Yng ngharfan 2, ni ddywedwyd yn ffurfiol wrth 30% o&#8217;r rhai a oedd yn gwarchod y dylent warchod eu hunain, ond roeddent yn dal i deimlo bod angen iddynt wneud hynny.<\/p>\n<p>Yng ngharfan 2, dywedodd 30% o ofalwyr teuluol\/staff cymorth cyflogedig fod iechyd corfforol y person maen nhw&#8217;n ei gefnogi wedi newid er gwaeth ers y cyfyngiadau symud cenedlaethol cyntaf ym mis Mawrth 2020.<\/p>\n<p>Yng ngharfan 1, dywedodd 12% o bobl ag anableddau dysgu eu bod yn gofalu am rywun yr oeddent yn byw gyda nhw.<\/p>\n<p>Nododd y mwyafrif helaeth o&#8217;r rhai a gymerodd ran yn y ddwy garfan y bydden nhw, neu&#8217;r person yr oedden nhw\u2019n gefnogi\/gofalu amdano, yn cymryd y brechlyn COVID-19 pe bai&#8217;n cael ei gynnig iddynt.<\/p>\n<h2><strong>Mynediad at wybodaeth a deall rheolau am Covid-19<\/strong><\/h2>\n<p>Pan ofynnwyd pa mor hawdd oedd dod o hyd i wybodaeth dda a chywir am Covid-19, dywedodd 70% o&#8217;r rhai a gymerodd ran yng ngharfan 1 ei bod yn hawdd, a dywedodd 30% nad oedd yn hawdd. Dywedodd y mwyafrif llethol o&#8217;r rhai a gymerodd ran yng ngharfan 1 (85%) eu bod yn deall y rheolau am Covid-19 a chadw pellter cymdeithasol lle roedden nhw\u2019n byw.<\/p>\n<p>Cafodd y rhan fwyaf o bobl yng Ngharfan 1 wybod am newidiadau i reolau COVID-19 a gwybodaeth newydd drwy wylio&#8217;r teledu (76%), neu drwy siarad \u00e2&#8217;u ffrindiau a&#8217;u teulu (43%) neu weithwyr cymorth (35%).<\/p>\n<p>Yng ngharfan 2, gofynnwyd i&#8217;r gofalwr teuluol neu&#8217;r cefnogwr cyflogedig ymateb o&#8217;u safbwynt eu hunain o gyrchu gwybodaeth gywir. Dim ond 43% oedd o&#8217;r farn ei bod yn hawdd dod o hyd i wybodaeth gywir am Covid-19. Fel gyda charfan 1, teledu (75%) oedd y ffordd fwyaf poblogaidd o ddod o hyd i wybodaeth, ond roedd gofalwyr teuluol\/staff cymorth cyflogedig yng ngharfan 2 yn fwy tebygol o ddefnyddio gwefannau&#8217;r llywodraeth (67%) a radio (39%), o gymharu \u00e2 phobl ag anableddau dysgu yng Ngharfan 1 (12% ac 16% yn y drefn honno).<\/p>\n<h2><strong>Lles<\/strong><\/h2>\n<p>Yng ngharfan 1, roedd dros 65% o bobl ag anableddau dysgu wedi teimlo&#8217;n ddig neu&#8217;n rhwystredig, yn drist neu&#8217;n isel, ac yn poeni neu&#8217;n bryderus o leiaf beth o&#8217;r amser yn y pedair wythnos cyn eu cyfweliad. Yng ngharfan 2 dywedodd dros 60% o&#8217;r cyfranogwyr fod y person maen nhw\u2019n ei gefnogi\/gofalu amdano wedi dioddef o les gwaeth ers dechrau&#8217;r cyfyngiadau symud cyntaf ym mis Mawrth 2020.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Yn \u00f4l y rhai a gymerodd ran yng ngharfan 2, cafodd y bobl ag anableddau dysgu yr oeddent yn gofalu amdanynt\/eu cefnogi brofiadau negyddol iawn yn ystod y pandemig. Rhai ymatebion cyffredin oedd eu bod wedi gweld bod y cyfyngiadau symud yn ddiflas, yn unig ac yn eu hynysu. Dywedodd cyfranogwyr eraill fod iechyd corfforol a meddyliol y person maen nhw\u2019n ei gefnogi wedi dirywio a&#8217;u bod yn arddangos ymddygiadau sy&#8217;n heriol i ofalwyr teuluol\/staff cymorth cyflogedig (e.e., niweidio eu hunain neu eraill).<\/p>\n<p>Nododd gofalwyr yn arolwg carfan 2 fod eu r\u00f4l gofalu wedi effeithio ar eu hiechyd yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf, yn fwyaf cyffredin oedd amharu ar gwsg (57%), teimlo&#8217;n flinedig (64%) a theimlo dan straen (65%).<\/p>\n<h2><strong>Cyswllt \u00e2 ffrindiau a theulu<\/strong><\/h2>\n<p>Yng ngharfan 2 roedd gan dros 85% o bobl ag anableddau dysgu ryw fath o gyfyngiadau ymwelwyr lle roedden nhw\u2019n byw, tra dywedodd dros 65% eu bod wedi cael effaith negyddol o ganlyniad i gyfyngiadau ymwelwyr. Roedd hyn yn arbennig o wir am bobl ag anableddau dysgu dwys a lluosog (PMLD) (74%) o gymharu \u00e2 phobl heb PMLD (63%).<\/p>\n<p>Yng ngharfan 1 dywedodd mwyafrif y bobl ag anableddau dysgu (72%) eu bod yn cadw mewn cysylltiad \u00e2 phobl bwysig yn eu bywydau gymaint ag yr oeddent yn dymuno, gyda 92% yn dweud eu bod yn defnyddio&#8217;r rhyngrwyd gartref.<\/p>\n<h2><strong>Bwyd a meddygaeth<\/strong><\/h2>\n<p>Yn y ddwy garfan, roedd cyfranogwyr yn fwyaf cyffredin yn cael help gyda siopa bwyd gan aelodau o&#8217;u teuluoedd (40% yng ngharfan 1, a 56% yng ngharfan 2). Ar draws y ddwy garfan dywedodd 1% o&#8217;r cyfranogwyr eu bod yn ei chael hi&#8217;n anodd cael bwyd. Ychydig iawn o bobl (1% neu lai) oedd yn cael bwyd gan fanc bwyd. Dywedodd 5% o bobl ag anabledd dysgu yng ngharfan 1 eu bod wedi bod yn llwglyd yn ystod yr wythnos ddiwethaf ond heb fwyta.<\/p>\n<p>Mae nifer fach iawn o bobl yn y ddwy garfan (1%) yn ei chael hi&#8217;n anodd cael eu meddyginiaethau, ac roedd llai nag 1% o bobl yng ngharfan 2 nad oeddent yn cael meddyginiaeth o gwbl. Yn y ddwy garfan roedd yn gyffredin i bobl ag anableddau dysgu dderbyn meddyginiaethau gan deulu (25% yng ngharfan 1, a 53% yng ngharfan 2), neu eu derbyn wedi\u2019u danfon o&#8217;r fferyllfa neu&#8217;r fferyllydd (38% yng ngharfan 1, a 24% yng ngharfan 2). Roedd pobl ag anableddau dysgu yng ngharfan 1 yn fwy tebygol o gael eu meddyginiaeth ar eu pennau eu hunain (28%), o gymharu \u00e2 charfan 2 (4%).<\/p>\n<h2><strong>Cyflogaeth a gwirfoddoli<\/strong><\/h2>\n<p>O&#8217;r 32% o bobl ag anableddau dysgu yng ngharfan 1 oedd \u00e2 swydd cyn y cyfyngiadau symud ym mis Mawrth 2020, roedd 88% yn dal i fod mewn cyflogaeth (yn dal i weithio, ar ffyrlo, neu gyda&#8217;u swydd yn cael ei dal ar eu cyfer).<\/p>\n<p>O&#8217;r 50% o bobl ag anableddau dysgu yng ngharfan 1 oedd yn gwneud gwaith gwirfoddol cyn y cyfyngiadau symud ym mis Mawrth 2020, roedd 81% wedi cadw eu r\u00f4l fel gwirfoddolwr yn ystod y don hon o&#8217;r astudiaeth, hyd yn oed os nad oeddent yn gweithio ar hyn o bryd.<\/p>\n<h2><strong>Beth sy&#8217;n digwydd nesaf?<\/strong><\/h2>\n<p>Bydd ail gam y cyfweliadau a&#8217;r arolygon yn dechrau ddiwedd mis Mawrth 2021 gydag ymchwilwyr yn siarad eto \u00e2 phobl a gymerodd ran yn y cam cyntaf.<\/p>\n<p>Rydym yn dal i obeithio y bydd ychydig o bobl newydd yn ymuno \u00e2&#8217;r astudiaeth. Cysylltwch \u00e2&#8217;r t\u00eem ymchwil, gan ddefnyddio&#8217;r manylion cyswllt isod, os ydych:<\/p>\n<ul>\n<li>Yn berson ag anableddau dysgu sy&#8217;n dod o gefndir lleiafrifoedd ethnig<\/li>\n<li>Yn cefnogi person ag anableddau dysgu sy&#8217;n dod o gefndir lleiafrifoedd ethnig ac na fyddai&#8217;n gallu cymryd rhan mewn cyfweliad ag ymchwilydd ei hun, neu<\/li>\n<li>Yn cefnogi person ag anableddau dysgu nad yw&#8217;n byw yn ei gartref teuluol ac na fyddai&#8217;n gallu cymryd rhan mewn cyfweliad ag ymchwilydd ei hun.<\/li>\n<\/ul>\n<h2><strong>Rhagor o wybodaeth<\/strong><\/h2>\n<p>Edward Oloidi, Prifysgol De Cymru, e-bostiwch <a href=\"mailto:edward.oloidi@southwales.ac.uk\">edward.oloidi@southwales.ac.uk<\/a> neu ffoniwch 01443 483 042<\/p>\n<p>Karen Warner, Anabledd Dysgu Cymru, e-bostiwch <a href=\"mailto:karen.warner@ldw.org.uk\">karen.warner@ldw.org.uk<\/a> neu ffoniwch 029 2086 1160.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/warwick.ac.uk\/fac\/soc\/cedar\/covid19-learningdisability\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Coronavirus and people with learning disabilities website<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/project\/covid19-learning-disability-study\/\">Learning Disability Wales website page about the Welsh study<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae oedolion ag anabledd dysgu ledled y DU wedi gweld gostyngiad mawr yn y mynediad at rai gwasanaethau gofal a chymorth, megis archwiliadau iechyd blynyddol a chyswllt \u00e2 gweithiwr cymdeithasol, yn ystod pandemig y coronafeirws. Roedd dros 60% o bobl ag anableddau dysgu a oedd wedi gweld gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fel mater o drefn &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/maer-pandemig-wedi-lleihau-mynediad-yn-sylweddol-at-wasanaethau-gofal-a-chymorth-i-oedolion-ag-anabledd-dysgu\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":21826,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[29,28],"tags":[],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v20.11 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Mae\u2019r pandemig wedi lleihau mynediad yn sylweddol at wasanaethau gofal a chymorth i oedolion ag anabledd dysgu - Anabledd Dysgu Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/maer-pandemig-wedi-lleihau-mynediad-yn-sylweddol-at-wasanaethau-gofal-a-chymorth-i-oedolion-ag-anabledd-dysgu\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Mae\u2019r pandemig wedi lleihau mynediad yn sylweddol at wasanaethau gofal a chymorth i oedolion ag anabledd dysgu - Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae oedolion ag anabledd dysgu ledled y DU wedi gweld gostyngiad mawr yn y mynediad at rai gwasanaethau gofal a chymorth, megis archwiliadau iechyd blynyddol a chyswllt \u00e2 gweithiwr cymdeithasol, yn ystod pandemig y coronafeirws. Roedd dros 60% o bobl ag anableddau dysgu a oedd wedi gweld gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fel mater o drefn &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/maer-pandemig-wedi-lleihau-mynediad-yn-sylweddol-at-wasanaethau-gofal-a-chymorth-i-oedolion-ag-anabledd-dysgu\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-03-30T14:52:22+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/shutterstock_1733339294-e1617116055626.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1000\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"667\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Kai Jones\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Kai Jones\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"7 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/maer-pandemig-wedi-lleihau-mynediad-yn-sylweddol-at-wasanaethau-gofal-a-chymorth-i-oedolion-ag-anabledd-dysgu\/\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/maer-pandemig-wedi-lleihau-mynediad-yn-sylweddol-at-wasanaethau-gofal-a-chymorth-i-oedolion-ag-anabledd-dysgu\/\",\"name\":\"Mae\u2019r pandemig wedi lleihau mynediad yn sylweddol at wasanaethau gofal a chymorth i oedolion ag anabledd dysgu - Anabledd Dysgu Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\"},\"datePublished\":\"2021-03-30T14:52:22+00:00\",\"dateModified\":\"2021-03-30T14:52:22+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/maer-pandemig-wedi-lleihau-mynediad-yn-sylweddol-at-wasanaethau-gofal-a-chymorth-i-oedolion-ag-anabledd-dysgu\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/maer-pandemig-wedi-lleihau-mynediad-yn-sylweddol-at-wasanaethau-gofal-a-chymorth-i-oedolion-ag-anabledd-dysgu\/\"]}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/\",\"name\":\"Anabledd Dysgu Cymru\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c\",\"name\":\"Kai Jones\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Kai Jones\"},\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/kai-jones\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Mae\u2019r pandemig wedi lleihau mynediad yn sylweddol at wasanaethau gofal a chymorth i oedolion ag anabledd dysgu - Anabledd Dysgu Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/maer-pandemig-wedi-lleihau-mynediad-yn-sylweddol-at-wasanaethau-gofal-a-chymorth-i-oedolion-ag-anabledd-dysgu\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Mae\u2019r pandemig wedi lleihau mynediad yn sylweddol at wasanaethau gofal a chymorth i oedolion ag anabledd dysgu - Anabledd Dysgu Cymru","og_description":"Mae oedolion ag anabledd dysgu ledled y DU wedi gweld gostyngiad mawr yn y mynediad at rai gwasanaethau gofal a chymorth, megis archwiliadau iechyd blynyddol a chyswllt \u00e2 gweithiwr cymdeithasol, yn ystod pandemig y coronafeirws. Roedd dros 60% o bobl ag anableddau dysgu a oedd wedi gweld gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fel mater o drefn &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/maer-pandemig-wedi-lleihau-mynediad-yn-sylweddol-at-wasanaethau-gofal-a-chymorth-i-oedolion-ag-anabledd-dysgu\/","og_site_name":"Anabledd Dysgu Cymru","article_published_time":"2021-03-30T14:52:22+00:00","og_image":[{"width":1000,"height":667,"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/shutterstock_1733339294-e1617116055626.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Kai Jones","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Kai Jones","Est. reading time":"7 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/maer-pandemig-wedi-lleihau-mynediad-yn-sylweddol-at-wasanaethau-gofal-a-chymorth-i-oedolion-ag-anabledd-dysgu\/","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/maer-pandemig-wedi-lleihau-mynediad-yn-sylweddol-at-wasanaethau-gofal-a-chymorth-i-oedolion-ag-anabledd-dysgu\/","name":"Mae\u2019r pandemig wedi lleihau mynediad yn sylweddol at wasanaethau gofal a chymorth i oedolion ag anabledd dysgu - Anabledd Dysgu Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website"},"datePublished":"2021-03-30T14:52:22+00:00","dateModified":"2021-03-30T14:52:22+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/maer-pandemig-wedi-lleihau-mynediad-yn-sylweddol-at-wasanaethau-gofal-a-chymorth-i-oedolion-ag-anabledd-dysgu\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/maer-pandemig-wedi-lleihau-mynediad-yn-sylweddol-at-wasanaethau-gofal-a-chymorth-i-oedolion-ag-anabledd-dysgu\/"]}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/","name":"Anabledd Dysgu Cymru","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c","name":"Kai Jones","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g","caption":"Kai Jones"},"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/kai-jones\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21933"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=21933"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21933\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":21934,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21933\/revisions\/21934"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/21826"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21933"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=21933"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=21933"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}