{"id":24940,"date":"2021-06-14T12:24:04","date_gmt":"2021-06-14T11:24:04","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?p=24940"},"modified":"2021-06-16T15:31:06","modified_gmt":"2021-06-16T14:31:06","slug":"coronafeirws-a-phobl-gydag-anabledd-dysgu-rhannu-profiadau-ar-canfyddiadau-cyntaf-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/coronafeirws-a-phobl-gydag-anabledd-dysgu-rhannu-profiadau-ar-canfyddiadau-cyntaf-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Coronafeirws a phobl gydag anabledd dysgu: Rhannu profiadau a\u2019r canfyddiadau cyntaf yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p>Ar 17 Mai 2021, mynychodd dros 100 o bobl ddigwyddiad ar-lein i rannu\u2019r canfyddiadau cyntaf yng Nghymru o astudiaeth Covid DU gyfan ar effaith y pandemig ar bobl gydag anabledd dysgu. Mae rhagor o wybodaetrh am yr astudiaeth ar y wefan (Saesneg yn unig): <a href=\"http:\/\/www.covid19learningdisabilities.co.uk\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">www.covid19learningdisabilities.co.uk<\/a>.<\/p>\n<p>Trefnwyd y digwyddiad gan y 5 corff oedd yn rhan o\u2019r astudiaeth ymchwil yng Nghymru: Anabledd Dysgu Cymru, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru. Fe wnaethom glywed gan bobl gydag anabledd dysgu, gofalwr teulu a gweithiwr cefnogi mewn coleg preswyl. Fe wnaethom hefyd glywed gan yr ymchwilwyr yng Nghymru a amlinellodd y canfyddiadau Cymreig.<\/p>\n<h3><strong>Crynodeb o\u2019r canfyddiadau Cymreig<\/strong><\/h3>\n<p>Rhannodd yr Athro Stuart Todd ac Edward Oloidi o Brifysgol De Cymru a Dr Stephen Beyer o Brifysgol Caerdydd benawdau o\u2019r <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/Cymraeg-Wales-Easy-Read-Highlights-Wave-1-March-2021-.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">adroddiad ymchwil hawdd ei ddeall<\/a>. Roedd 149 o bobl gydag anabledd dysgu wedi cael eu holi am eu profiadau o\u2019r pandemig. Lle nad oedd yn bosibl i unigolion rannu eu profiadau eu hunain, roedd 77 o ofalwyr teulu neu weithwyr cefnogi wedi cwblhau arolwg ar-lein hefyd ar ran y bobl maen nhw\u2019n eu cefnogi<\/p>\n<p>Roedd iechyd yn bryder mawr. Dywedodd tua hanner y bobl a holwyd bod ganddyn nhw gyflwr iechyd oedd yn eu gwneud yn bryderus ynghylch dal coronafeirws. Roedd 4 allan o bob 5 yn cymryd meddyginiaeth tra bod 2 o bob 5 yn dweud eu bod yn gweld eu meddyg yn aml cyn y pandemig. Mae hyn yn ein hatgoffa bod pobl gydag anabledd dysgu yn fwy tebygol o fod yn profi iechyd gwael o\u2019i gymharu \u00e2\u2019r boblogaeth yn gyffredinol.<\/p>\n<p>Dywedodd dwy ran o dair o\u2019r bobl a holwyd eu bod wedi gallu cadw mewn cysylltiad gyda theulu a ffrindiau mor aml ag roedden nhw eisiau. Roedd pobl yn darganfod ffyrdd gwahanol o gadw mewn cysylltiad drwy blatfformau ar-lein ac apiau fel Zoom etc. Ond tra eu bod yn llwyddo i gadw mewn cysylltiad, roedd nifer yn teimlo nad oedd yr un fath \u00e2 gweld pobl wyneb yn wyneb a dywedodd 1 o bob 3 eu bod wedi teimlo\u2019n unig neu yn bryderus y rhan fwyaf neu\u2019r holl amser yn ystod yr ychydig wythnosau cyn y cyfweliad. Dywedodd 1 o bob 5 eu bod yn teimlo\u2019n drist neu yn ddagreuol y rhan fwyaf neu\u2019r holl amser.<\/p>\n<p>Ar y pwnc cyflogaeth, roedd gan 1 o bob 4 swydd cyn y cyfnod clo. Roedd hanner y bobl hynny yn dal i weithio tra bod 1 o bob 3 ar ffyrlo neu bod eu swyddi\u2019n cael eu cadw ar agor iddyn nhw. Dywedodd hanner eu bod yn poeni am beth roedd y pandemig yn ei feddwl o ran eu rhagolygon gwaith yn y dyfodol.<\/p>\n<h3><strong>Profiadau pobl gydag anabledd dysgu<\/strong><\/h3>\n<p>Rhannodd Catherine \u201cMae wedi bod yn flwyddyn galed ac o\u2019r cychwyn roeddwn yn teimlo\u2019n ofnadwy. Roedd gen i lawer o broblemau iechyd ac mae fy iechyd meddwl wedi dioddef. Roedd gen i broblemau gyda fy esgidiau arbennig oedd yn golygu nad oeddwn yn gallu cerdded yn iawn.\u201d Ychwanegodd bod hyn a\u2019i hapwyntiadau ar gyfer ei chlyw wedi cymryd amser hir i\u2019w datrys. Roedd ei phroblemau clyw yn golygu bod ei hannibyniaeth wedi cael ei effeithio. Cyn y pandemig roed yn mynd ar ei phen ei hun i\u2019w hapwyntiadau ysbyty ond yn fwy diweddar roedd ei mam wedi gorfod mynd gyda hi gan nad oedd yn gallu clywed beth oedd yn cael ei ddweud.<\/p>\n<p>Mae Louise yn byw mewn anecs mewn cartref gofal ac mae\u2019n eithaf annibynnol ond mae angen rhywfaint o gymorth. Roedd bywyd yn\u00a0 eithriadol o anodd iddi yn ystod y cyfnod clo gan fod ganddi broblemau iechyd isorweddol ac roedd wedi bod yn gwarchod. Doedd Louise chwaith ddim yn gallu mynd i\u2019r prif d\u0177. Yn ystod y cyfnod clo roedd staff yn dod i\u2019w anecs mewn PPE llawn, gwneud beth oedd angen ei wneud ac yna\u2019n gadael. Doedden nhw ddim yn gallu gwneud ymweliadau llesiant ac roedd yn colli hyn. Roedd hi yn ofnadwy o unig ac yn dibynnu\u2019n drwm ar ei X-Box, cyfrifiadur, iPad, galwadau ff\u00f4n a chyfleoedd crefft. Dydy bywyd ddim yn \u00f4l i normal iddi eto. Mae rheolau\u2019r t\u0177 yn dal yn llym. Mae ei rhieni yn gallu ymweld yn yr ardd yn unig ond dywedodd \u201cmae\u2019n teimlo fel ymweliad carchar a dydw i ddim wedi gwneud unrhyw beth o\u2019i le\u201d.<\/p>\n<h3><strong>Effaith ar deuluoedd<\/strong><\/h3>\n<p>Siaradodd Pauline Young, Cadeirydd ymddiriedolwyr Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan am effaith methu gallu gweld ei mab sydd yn byw mewn llety gyda chefnogaeth, arni hi a gweddill y teulu. Mae e\u2019n angen sicrwydd parhaus fod ei deulu yn ei garu, ei angen ac yn gallu ei weld. Mae\u2019n ei chael yn anodd ymgysylltu\u2019n llawn drwy Zoom. Oherwydd methu gweld ei deulu wyneb yn wyneb mae ei iechyd meddwl wedi dioddef fel ag y gwnaeth iechyd meddwl gweddill ei deulu<\/p>\n<p>Mae tri chwarter y teuluoedd mae\u2019r Fforwm yn eu cefnogi wedi dioddef problemau iechyd meddwl yn y cyfnod yma. Doedden nhw ddim yn cael unrhyw seibiant ac roedden nhw\u2019n dioddef yn wirioneddol. Ychwanegodd Pauline, \u201cMae pryder gwirioneddol am ba mor hir dymor fydd hyn ac awydd gwiroineddol i ddatgloi\u2019r niwed sydd yn dal i gael ei\u00a0 wneud. Mae iechyd meddwl pawb wedi dioddef ac mae pobl yn poeni am sut y bydd pethau yn y dyfodol. Mae\u2019n bwysig bod Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a llywodraeth leol yn deall bod pobl gydag anabledd dysgu wedi dioddef yn ddrwg yn y cyfnod yma.\u201d<\/p>\n<h3><strong>Persbectifau staff cefnogi<\/strong><\/h3>\n<p>Mae Oliver, arweinydd t\u00eem mewnh coleg i bobl gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth wedi gweithio drwy gydol y pandemig. Mae\u2019r effaith ar iechyd meddwl myfyrwyr wedi bod yn enfawr. Gwnaethpwyd y difrod ar ddechrau\u2019r pandemig gyda rheolau blanced. Roedd hyn yn golygu nad oedd teuluoedd yn gallu ymweld ac roedd myfyrwyr yn ddibynnol ar Zoom a Skype i gadw mewn cysylltiad. Mae gan nifer broblemau synhwyraidd ac angen cysylltiad teulu felly dydy dewisiadau ar-lein ddim wedi ateb eu hanghenion yn llwyr. Does gan rai mygfyrwyr ddim y gallu ac maen nhw\u2019n methu deall y cyfyngiadau ac wedi beio\u2019r staff am fethu gweld eu teuluoedd neu mynd allan neu ar deithiau yn y car. Mae hyn wedi golygu bod perthnasoedd rhwng y staff a myfyrwyr wedi dioddef<\/p>\n<p>Yn y gorffennol, roedd staff wedi gweithio ar ddatblygu sgiliau cymdeithasol gyda\u2019r myfyrwyr. Oherwydd y cyfnod clo doedd y myfyrwyr ddim yn gallu mynd i\u2019r gymuned ac felly wedi colli hyder mewn ymgysylltu gyda phobl y tu allan i\u2019r coleg. Roedd cadw pellter cymdeithasol a gwisgo mygydau yn anodd iddyn nhw hefyd.<\/p>\n<p>Bu lefel uchel o absenoldeb staff. Roedd y defnydd cynyddol o PPE yn creu anawsterau gan fod rhai myfyrwyr yn dibynnu ar ystumiau wyneb ac iaith corff i gyfathrebu. Roedd y staff yn gefnogol o\u2019i gilydd ac yn dangos lefel uchel o wytnwch. Roedd gan y myfyrwyr gyfleoedd i archwilio eu hemosiynau ac mae dealltwriaeth pawb o iechyd meddwl wedi gwella.<\/p>\n<p>Rob Symons ydy rheolwr Able Radio, cwmni cyfryngau a hyfforddi i bobl gydag anabledd dysgu ac awtistiaeth. Ar 17 Mawrth 2020 roedd Covid yn ymddangos yn bell ac eto yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw dywedwyd y byddai\u2019r gwasanaethau yn cau o\u2019r diwrnod canlynol. Aeth y staff ar ffyrlo a gwnaeth y rheolaeth eu gorau i gadw mewn cysylltiad gyda phawb drwy weithgareddau. Esboniodd Rob \u201cmae llawer o ystyriaeth wedi ei roi i\u2019r risg i iechyd corfforol yn ystod y cyfnod clo ond nid i\u00a0 effaith ar iechyd meddwl. Roedd llawer o bobl yn dioddef gydag ynysigrwydd ac yn methu gwneud gweithgaredau y tu allan i\u2019r t\u0177.\u201d<\/p>\n<p>Mae Able Radio yn \u00f4l i gapasiti o 50% nawr. \u00a0Mae angen gwell arweiniad i wasanaethau dydd nawr gan eu bod wedi eu gadael i drafod pob pwynt sengl gyda\u2019r awdurdod lleol. Mae hyn yn groes i\u2019r hyn sydd yn digwydd gydag agor siopau, bwytai a sinemau.<\/p>\n<h3><strong>Cwestiynau a\u2019r camau nesaf<\/strong><\/h3>\n<p>Daeth y sesiwn i ben gyda sesiwn Holi ac Ateb. Gofynnodd un cyfranogwr a oedd yr ystadegau ynghylch llesiant yn wahanol i\u2019r boblogaeth yn gyffredinol? Esboniodd yr Athro Stuart Todd, pan gafodd y cwestiynau eu dyfeisio, roedd yr ymchwilwyr wedi adolygu cwestiynau a holwyd mewn arolygon eraill fel bod modd cymharu\u2019r atebion yn y dyfodol a dydy\u2019r cymariaethau yma ddim eto wedi eu gwneud.<\/p>\n<p>Gofynnodd cyfranwyr eraill pryd y byddai gwasanaethau dydd awdurdodau lleol yn ailagor. Roedd yn amlwg o\u2019r ymatebion bod hyn yn amrywio\u2019n fawr ar draws Cymru ond roedd un awdurdod lleol yn defnyddio\u2019r cyfle i gynnal adolygiad wedi\u2019i ganoli ar y person i weld pa ddarpariaeth roedd pobl ei eisiau yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Daeth Rhan 2 o\u2019r astudiaeth i ben ar 23 Mai. Cynyddodd y bobl gydag anableddau dysgu a holwyd o 149 i 184 ac fe gadwyd 85% o\u2019r cyfranogwyr o Ran 1 o\u2019r astudiaeth. Cwblhaodd 51 o ofalwyr teulu neu weithwyr cefnogi arolwg ar-lein ar ran pobl gydag anabledd dysgu. Fe fydd Rhan 3 o\u2019r astudiaeth yn dechrau yng nghanol Mehefin. Ni fyddwn yn recriwtio pobl newydd i\u2019r rhan yma o\u2019r astudiaeth felly dim ond y cyfranogwyr blaenorol fydd yn cael gwahoddiad i gymryd rhan<\/p>\n<p>Cynhelir digwyddiad arall ar 21 Mehefin i roi diweddariad pellach o\u2019r astudiaeth, ond y prif ffocws fydd ar ddylanwadu ar ddatblygiad polisi yn y dyfodol. Fe fydd cyd-gadeiryddion Gr\u0175p Cynghori Gweinidogion ar Anabledd Dysgu (LDMAG) a chynrychiolwyr o adrannau perthnasol Llywodraeth Cymru yn mynychu\u2019r digwyddiad. Mae pobl wedi dweud wrthym bod bywyd wedi bod yn anodd ond gyda\u2019r cymorth cywir gall wella ac rydym eisiau sicrhau bod canfyddiadau\u2019r ymchwil yma yn helpu i ffurfio polisi ac arfer ar draws Cymru yn y dyfodol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ar 17 Mai 2021, mynychodd dros 100 o bobl ddigwyddiad ar-lein i rannu\u2019r canfyddiadau cyntaf yng Nghymru o astudiaeth Covid DU gyfan ar effaith y pandemig ar bobl gydag anabledd dysgu. Mae rhagor o wybodaetrh am yr astudiaeth ar y wefan (Saesneg yn unig): www.covid19learningdisabilities.co.uk. Trefnwyd y digwyddiad gan y 5 corff oedd yn rhan &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/coronafeirws-a-phobl-gydag-anabledd-dysgu-rhannu-profiadau-ar-canfyddiadau-cyntaf-yng-nghymru\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":38,"featured_media":17374,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[29,28],"tags":[],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v20.11 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Coronafeirws a phobl gydag anabledd dysgu: Rhannu profiadau a\u2019r canfyddiadau cyntaf yng Nghymru - Anabledd Dysgu Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/coronafeirws-a-phobl-gydag-anabledd-dysgu-rhannu-profiadau-ar-canfyddiadau-cyntaf-yng-nghymru\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Coronafeirws a phobl gydag anabledd dysgu: Rhannu profiadau a\u2019r canfyddiadau cyntaf yng Nghymru - Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Ar 17 Mai 2021, mynychodd dros 100 o bobl ddigwyddiad ar-lein i rannu\u2019r canfyddiadau cyntaf yng Nghymru o astudiaeth Covid DU gyfan ar effaith y pandemig ar bobl gydag anabledd dysgu. Mae rhagor o wybodaetrh am yr astudiaeth ar y wefan (Saesneg yn unig): www.covid19learningdisabilities.co.uk. Trefnwyd y digwyddiad gan y 5 corff oedd yn rhan &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/coronafeirws-a-phobl-gydag-anabledd-dysgu-rhannu-profiadau-ar-canfyddiadau-cyntaf-yng-nghymru\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-06-14T11:24:04+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2021-06-16T14:31:06+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/10\/Covid-19-and-learning-disabilities-Photosymbol.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1139\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1508\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Samantha Williams\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Samantha Williams\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"8 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/coronafeirws-a-phobl-gydag-anabledd-dysgu-rhannu-profiadau-ar-canfyddiadau-cyntaf-yng-nghymru\/\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/coronafeirws-a-phobl-gydag-anabledd-dysgu-rhannu-profiadau-ar-canfyddiadau-cyntaf-yng-nghymru\/\",\"name\":\"Coronafeirws a phobl gydag anabledd dysgu: Rhannu profiadau a\u2019r canfyddiadau cyntaf yng Nghymru - Anabledd Dysgu Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\"},\"datePublished\":\"2021-06-14T11:24:04+00:00\",\"dateModified\":\"2021-06-16T14:31:06+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/03faba94ff9aa13220a971b327bd01c2\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/coronafeirws-a-phobl-gydag-anabledd-dysgu-rhannu-profiadau-ar-canfyddiadau-cyntaf-yng-nghymru\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/coronafeirws-a-phobl-gydag-anabledd-dysgu-rhannu-profiadau-ar-canfyddiadau-cyntaf-yng-nghymru\/\"]}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/\",\"name\":\"Anabledd Dysgu Cymru\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/03faba94ff9aa13220a971b327bd01c2\",\"name\":\"Samantha Williams\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1001f5dce5ea65b054d78d9d14a89a7c?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1001f5dce5ea65b054d78d9d14a89a7c?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Samantha Williams\"},\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/samantha-williams\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Coronafeirws a phobl gydag anabledd dysgu: Rhannu profiadau a\u2019r canfyddiadau cyntaf yng Nghymru - Anabledd Dysgu Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/coronafeirws-a-phobl-gydag-anabledd-dysgu-rhannu-profiadau-ar-canfyddiadau-cyntaf-yng-nghymru\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Coronafeirws a phobl gydag anabledd dysgu: Rhannu profiadau a\u2019r canfyddiadau cyntaf yng Nghymru - Anabledd Dysgu Cymru","og_description":"Ar 17 Mai 2021, mynychodd dros 100 o bobl ddigwyddiad ar-lein i rannu\u2019r canfyddiadau cyntaf yng Nghymru o astudiaeth Covid DU gyfan ar effaith y pandemig ar bobl gydag anabledd dysgu. Mae rhagor o wybodaetrh am yr astudiaeth ar y wefan (Saesneg yn unig): www.covid19learningdisabilities.co.uk. Trefnwyd y digwyddiad gan y 5 corff oedd yn rhan &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/coronafeirws-a-phobl-gydag-anabledd-dysgu-rhannu-profiadau-ar-canfyddiadau-cyntaf-yng-nghymru\/","og_site_name":"Anabledd Dysgu Cymru","article_published_time":"2021-06-14T11:24:04+00:00","article_modified_time":"2021-06-16T14:31:06+00:00","og_image":[{"width":1139,"height":1508,"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/10\/Covid-19-and-learning-disabilities-Photosymbol.png","type":"image\/png"}],"author":"Samantha Williams","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Samantha Williams","Est. reading time":"8 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/coronafeirws-a-phobl-gydag-anabledd-dysgu-rhannu-profiadau-ar-canfyddiadau-cyntaf-yng-nghymru\/","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/coronafeirws-a-phobl-gydag-anabledd-dysgu-rhannu-profiadau-ar-canfyddiadau-cyntaf-yng-nghymru\/","name":"Coronafeirws a phobl gydag anabledd dysgu: Rhannu profiadau a\u2019r canfyddiadau cyntaf yng Nghymru - Anabledd Dysgu Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website"},"datePublished":"2021-06-14T11:24:04+00:00","dateModified":"2021-06-16T14:31:06+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/03faba94ff9aa13220a971b327bd01c2"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/coronafeirws-a-phobl-gydag-anabledd-dysgu-rhannu-profiadau-ar-canfyddiadau-cyntaf-yng-nghymru\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/coronafeirws-a-phobl-gydag-anabledd-dysgu-rhannu-profiadau-ar-canfyddiadau-cyntaf-yng-nghymru\/"]}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/","name":"Anabledd Dysgu Cymru","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/03faba94ff9aa13220a971b327bd01c2","name":"Samantha Williams","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1001f5dce5ea65b054d78d9d14a89a7c?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1001f5dce5ea65b054d78d9d14a89a7c?s=96&d=mm&r=g","caption":"Samantha Williams"},"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/samantha-williams\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/24940"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/38"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=24940"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/24940\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":25093,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/24940\/revisions\/25093"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/17374"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=24940"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=24940"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=24940"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}