{"id":26212,"date":"2021-07-30T10:50:46","date_gmt":"2021-07-30T09:50:46","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?p=26212"},"modified":"2021-07-30T10:50:46","modified_gmt":"2021-07-30T09:50:46","slug":"cefnogi-gofal-cymdeithasol-i-adfer-yn-dilyn-y-pandemig-fframwaith-newydd-gan-lywodraeth-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cefnogi-gofal-cymdeithasol-i-adfer-yn-dilyn-y-pandemig-fframwaith-newydd-gan-lywodraeth-cymru\/","title":{"rendered":"Cefnogi gofal cymdeithasol i adfer yn dilyn y pandemig \u2013 fframwaith newydd gan Lywodraeth Cymru"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fframwaith adfer i gefnogi&#8217;r sector gofal cymdeithasol wrth iddo adfer o effaith Covid-19.<\/strong><\/p>\n<p><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" id=\"longdesc-return-21826\" class=\"alignright wp-image-21826 size-medium\" tabindex=\"-1\" src=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/shutterstock_1733339294-300x200.jpg\" alt=\"Woman with a learning disability wearing a mask \" width=\"300\" height=\"200\" longdesc=\"https:\/\/www.ldw.org.uk?longdesc=21826&amp;referrer=26212\" \/>Yn ei chyflwyniad i&#8217;r fframwaith, mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn cydnabod y bydd &#8220;effaith hirdymor y pandemig hwn yn ddigyffelyb a bydd yn cymryd blynyddoedd y byd i adfer&#8221;. Bwriad y fframwaith yw canolbwyntio&#8217;n benodol ar y blaenoriaethau ar unwaith a blaenoriaethau tymor byr i ganolig a fydd yn sail i adferiad a datblygiad gofal cymdeithasol yng Nghymru yn y dyfodol. Mae&#8217;n rhan o ddull ehangach gan Lywodraeth Cymru sy&#8217;n cynnwys <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/gwella-iechyd-gofal-cymdeithasol-covid-19-edrych-tuar-dyfodol?_ga=2.47977508.2013703248.1627638055-137632147.1620985946\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">&#8216;Gwella Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Covid-19 Edrych Ymlaen)&#8217; (Mawrth 2021)<\/a> a <a href=\"https:\/\/gov.wales\/programme-government\">Rhaglen Lywodraethu<\/a> Llywodraeth Cymru&#8217; (2021).<\/p>\n<p>Dywed y Dirprwy Weinidog yng nghyflwyniad y fframwaith &#8220;na ddylid tanbrisio effaith bersonol y pandemig. Mae&#8217;r pandemig hwn wedi effeithio ar bob un ohonom, ond yn enwedig plant a phobl ifanc, pobl anabl, gofalwyr di-d\u00e2l a phobl h\u0177n, i enwi ond ychydig. O ganlyniad, mae&#8217;n hanfodol bwysig bod ffocws allweddol ein gwaith cynllunio adferiad ar lesiant a sicrhau bod pawb yng Nghymru, beth bynnag fo&#8217;u profiadau o Covid-19, yn cael eu cefnogi i ddechrau symud o sefyllfa o ymateb i adferiad.&#8221;<\/p>\n<p><strong>Canlyniadau arfaethedig<\/strong><\/p>\n<p>Nod <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/fframwaith-ar-gyfer-adferiad-gofal-cymdeithasol-covid-19?_ga=2.47977508.2013703248.1627638055-137632147.1620985946\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">fframwaith adfer gofal cymdeithasol<\/a> yw galluogi&#8217;r sector gofal cymdeithasol i gynllunio\u2019n effeithiol ar gyfer adferiad, yn seiliedig ar brofiadau Covid-19, a gweithio tuag at gyflawni&#8217;r canlyniadau canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Mae gan bobl sydd angen gofal a chymorth (gan gynnwys plant a phobl ifanc), eu teuluoedd, a gofalwyr sydd angen cymorth, sy&#8217;n gwella o effaith Covid-19, lais a rheolaeth o ran sut mae adferiad yn cael ei reoli, profiad bod eu hawliau&#8217;n cael eu cynnal, a&#8217;u bod yn gallu cyflawni&#8217;r canlyniadau llesiant sydd bwysicaf iddynt.<\/li>\n<li>Mae&#8217;r sector gofal cymdeithasol yn gwella o effaith Covid-19, mae ganddo ffocws o&#8217;r newydd ar gydraddoldeb a lles, mae&#8217;n fwy gwydn gyda phartneriaethau cryfach, ac mae&#8217;n barod ar gyfer achosion o glefydau heintus yn y dyfodol.<\/li>\n<li>Mae&#8217;r gweithlu gofal cymdeithasol, gan gynnwys partneriaid yn y trydydd sector, yn adfer yn dilyn effaith Covid-19, yn meddu ar broffil cynyddol, yn gynaliadwy, mae ganddo gapasiti, mae ganddo&#8217;r sgiliau a&#8217;r wobr briodol ac mae ganddo fynediad at gymorth datblygu a lles parhaus.<\/li>\n<li>Mae darparwyr gofal cymdeithasol a chyflogwyr yn adfer o effaith Covid-19 gyda gwydnwch o&#8217;r newydd, mwy o sefydlogrwydd a mwy o ddefnydd o arloesedd, ochr yn ochr \u00e2 ffocws cryfach ar hawliau a lles, gan gydnabod yr effaith mae pandemig Covid-19 wedi&#8217;i chael ar bobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth, a&#8217;r gofynion ychwanegol y bydd angen eu bodloni o ganlyniad uniongyrchol.<\/li>\n<\/ul>\n<h2><strong>Blaenoriaethau<\/strong><\/h2>\n<p>Mae&#8217;r fframwaith adfer yn nodi&#8217;r blaenoriaethau ar unwaith (hyd at fis Medi 2021) y mae angen eu cyflawni ar frys a&#8217;r blaenoriaethau tymor byr i ganolig (Medi 2021 \u2013 Mawrth 2022) sy&#8217;n llai brys ond y mae angen eu blaenoriaethu i&#8217;w cwblhau o fewn y 12 mis nesaf. Nodir y blaenoriaethau tymor hwy ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru yn &#8216;Rhaglen Lywodraethu&#8217; Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<h3>Mae blaenoriaethau ar unwaith (o hyn tan fis Medi 2021) yn cynnwys:<\/h3>\n<ul>\n<li>Sicrhau bod lles a &#8216;beth sy&#8217;n bwysig&#8217; i bobl sy&#8217;n derbyn gofal a chymorth, gofalwyr di-d\u00e2l sydd angen cymorth a&#8217;r gweithlu gofal cymdeithasol yn hanfodol i&#8217;r gwaith o gynllunio adferiad. Yn benodol, bydd cynllunio adferiad yn canolbwyntio ar leihau anghydraddoldebau ac osgoi effeithiau anghymesur, yn enwedig i bobl \u00e2 nodweddion gwarchodedig<\/li>\n<li>Bydd cynllunio adferiad yn cynnwys ystyriaethau atal ac ymyrryd yn gynnar, yn ysbryd y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Bydd ystyriaeth yn rhychwantu&#8217;r ystod o ofal a chymorth, neu dderbynwyr cymorth, gan gynnwys gofalwyr di-d\u00e2l a phobl ag anabledd dysgu, a bydd yn ystyried cysyniadau fel Rhagnodi Cymdeithasol.<\/li>\n<li>Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cyllid i sicrhau bod ystod eang o ddarpariaeth eiriolaeth arbenigol ar gael i oedolion, plant a gofalwyr di-d\u00e2l, yn enwedig mewn achosion lle mae angen eiriolaeth o ganlyniad uniongyrchol i effaith Covid-19. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad o dan Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i atal teuluoedd rhag chwalu drwy ariannu gwasanaethau eirioli i rieni y mae eu plant mewn perygl o ddod i ofal.<\/li>\n<li>Hyrwyddo ymweliadau diogel mewn cartrefi gofal, tra&#8217;n sicrhau bod hawliau pobl h\u0177n a phobl ag anableddau dysgu mewn cartrefi gofal a lleoliadau tai yn cael eu diogelu.<\/li>\n<li>Sicrhau bod y risg y bydd Covid-19 yn mynd i gartrefi gofal yng Nghymru yn cael ei leihau drwy atal a rheoli heintiau&#8217;n effeithiol wedi\u2019i gefnogi gan hyfforddiant ac arweiniad a PPE perthnasol, glynu wrth y canllawiau ar ryddhau cleifion o&#8217;r ysbyty, dulliau ymweld diogel, a defnyddio&#8217;r adnoddau profi sydd ar gael.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Mae blaenoriaethau byr i ganolig (Medi 2021 i Fawrth 2022) yn cynnwys:<\/h3>\n<ul>\n<li>Nodi a mynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r ystod eang o &#8216;niwed cudd&#8217; i Covid-19, gan gynnwys goblygiadau tymor hwy y niwed hwn i bobl sydd angen gofal a chymorth, gofalwyr di-d\u00e2l sydd angen cymorth a&#8217;r gweithlu gofal cymdeithasol.<\/li>\n<li>Cefnogi pobl h\u0177n ac anabl i aros neu ddychwelyd i fod yn aelodau gweithgar o&#8217;u cymunedau lleol, a galluogi pobl i barhau i fod yn egn\u00efol ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.<\/li>\n<li>Gweithredu a monitro&#8217;r strategaeth ar fynd i&#8217;r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd, &#8216;Cymunedau Cysylltiedig&#8217;, a lansio Cronfa Unigrwydd ac Arwahanrwydd tair blynedd gwerth \u00a31.5m er mwyn helpu i feithrin perthnasoedd a chysylltiadau cryf o fewn cymunedau a rhannu arfer da.<\/li>\n<li>Bydd adolygiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru o&#8217;r galw, capasiti a dyluniad gwasanaethau niwroddatblygiadol (gan gynnwys awtistiaeth) i lywio gwelliannau i wasanaethau yn y dyfodol yn ystyried effaith Covid-19.<\/li>\n<li>Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i adolygu pa fynediad sydd gan bobl ag anableddau dysgu at wasanaethau eiriolaeth (gan gynnwys cymorth ar gyfer hunan-eiriolaeth) ac ymateb i fylchau.<\/li>\n<li>Blaenoriaethu wrth gynllunio adferiad yr ymateb i adolygiad cynhwysfawr &#8216;Gwella Gofal, Gwella Bywydau&#8217; o ddarpariaeth arbenigol i gleifion mewnol anabledd dysgu. Bydd hyn yn cynnwys gwella ansawdd gwasanaethau a gomisiynir a chynyddu&#8217;r ddarpariaeth o gymorth yn y gymuned, tai a llety priodol.<\/li>\n<li>Gan fyfyrio ar y ffordd mae&#8217;r pandemig wedi amlygu\u2019r anghydraddoldebau iechyd a wynebir gan bobl ag anabledd dysgu sydd wedi bod yn gysylltiedig \u00e2 risgiau iechyd cynyddol, bydd Llywodraeth Cymru yn archwilio opsiynau ar gyfer darparu Dull Lefel Clwstwr o Ddarparu Gwiriadau Iechyd Anabledd Dysgu.<\/li>\n<li>Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu ei hymrwymiadau cysylltiedig yn y &#8216;Rhaglen Lywodraethu&#8217; i ddarparu cymorth arbenigol ychwanegol i blant ag anghenion cymhleth a allai fod ar gyrion gofal.<\/li>\n<li>Bydd &#8220;diwygio sylfaenol&#8221; i wasanaethau cyfredol ar gyfer plant sy&#8217;n derbyn gofal a&#8217;r rhai sy&#8217;n gadael gofal yn cael ei archwilio. Bydd elw preifat o ofal plant sy&#8217;n derbyn gofal yn dod i ben yn ystod tymor nesaf y Senedd.<\/li>\n<li>Cyllid ar gyfer gwasanaethau preswyl rhanbarthol i blant ag anghenion cymhleth, gan sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu mor agos i&#8217;w cartrefi \u00e2 phosibl ac yng Nghymru lle bynnag y bo&#8217;n ymarferol.<\/li>\n<li>Gan gefnogi annibyniaeth pobl h\u0177n ac anabl gartref, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio gweithio gyda&#8217;r sector gofal cymdeithasol i gynyddu capasiti a chyrhaeddiad gofal cartref drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys cysylltu hyn ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i&#8217;r Economi Sylfaenol.<\/li>\n<li>Bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio hyrwyddo &#8220;parch cydradd&#8221; rhwng gweithwyr yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys gweithio tuag at welliannau o ran telerau ac amodau a gweithredu&#8217;r Cyflog Byw Go Iawn i weithwyr gofal cymdeithasol yn ystod tymor y Senedd hon.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Bydd cynnydd o ran cynllunio adferiad yn cael ei adolygu a bydd adroddiad arno ddwywaith o fewn blwyddyn ariannol 2021-22. Bydd y pwynt adolygu cyntaf yn cael ei gynnal ym mis Medi 2021 ar \u00f4l gweithredu&#8217;r blaenoriaethau ar unwaith a bydd yr ail adolygiad yn cael ei gynnal ym mis Mawrth 2022 ar \u00f4l gweithredu&#8217;r blaenoriaethau tymor byr.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/fframwaith-ar-gyfer-adferiad-gofal-cymdeithasol-covid-19?_ga=2.47977508.2013703248.1627638055-137632147.1620985946\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Fframwaith ar gyfer adferiad gofal cymdeithasol: COVID-19<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fframwaith adfer i gefnogi&#8217;r sector gofal cymdeithasol wrth iddo adfer o effaith Covid-19. Yn ei chyflwyniad i&#8217;r fframwaith, mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn cydnabod y bydd &#8220;effaith hirdymor y pandemig hwn yn ddigyffelyb a bydd yn cymryd blynyddoedd y byd i adfer&#8221;. Bwriad y fframwaith yw &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cefnogi-gofal-cymdeithasol-i-adfer-yn-dilyn-y-pandemig-fframwaith-newydd-gan-lywodraeth-cymru\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":21826,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[28],"tags":[],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v20.11 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Cefnogi gofal cymdeithasol i adfer yn dilyn y pandemig \u2013 fframwaith newydd gan Lywodraeth Cymru - Anabledd Dysgu Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cefnogi-gofal-cymdeithasol-i-adfer-yn-dilyn-y-pandemig-fframwaith-newydd-gan-lywodraeth-cymru\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cefnogi gofal cymdeithasol i adfer yn dilyn y pandemig \u2013 fframwaith newydd gan Lywodraeth Cymru - Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fframwaith adfer i gefnogi&#8217;r sector gofal cymdeithasol wrth iddo adfer o effaith Covid-19. Yn ei chyflwyniad i&#8217;r fframwaith, mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn cydnabod y bydd &#8220;effaith hirdymor y pandemig hwn yn ddigyffelyb a bydd yn cymryd blynyddoedd y byd i adfer&#8221;. Bwriad y fframwaith yw &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cefnogi-gofal-cymdeithasol-i-adfer-yn-dilyn-y-pandemig-fframwaith-newydd-gan-lywodraeth-cymru\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-07-30T09:50:46+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/shutterstock_1733339294-e1617116055626.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1000\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"667\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Kai Jones\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Kai Jones\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cefnogi-gofal-cymdeithasol-i-adfer-yn-dilyn-y-pandemig-fframwaith-newydd-gan-lywodraeth-cymru\/\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cefnogi-gofal-cymdeithasol-i-adfer-yn-dilyn-y-pandemig-fframwaith-newydd-gan-lywodraeth-cymru\/\",\"name\":\"Cefnogi gofal cymdeithasol i adfer yn dilyn y pandemig \u2013 fframwaith newydd gan Lywodraeth Cymru - Anabledd Dysgu Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\"},\"datePublished\":\"2021-07-30T09:50:46+00:00\",\"dateModified\":\"2021-07-30T09:50:46+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cefnogi-gofal-cymdeithasol-i-adfer-yn-dilyn-y-pandemig-fframwaith-newydd-gan-lywodraeth-cymru\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cefnogi-gofal-cymdeithasol-i-adfer-yn-dilyn-y-pandemig-fframwaith-newydd-gan-lywodraeth-cymru\/\"]}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/\",\"name\":\"Anabledd Dysgu Cymru\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c\",\"name\":\"Kai Jones\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Kai Jones\"},\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/kai-jones\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cefnogi gofal cymdeithasol i adfer yn dilyn y pandemig \u2013 fframwaith newydd gan Lywodraeth Cymru - Anabledd Dysgu Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cefnogi-gofal-cymdeithasol-i-adfer-yn-dilyn-y-pandemig-fframwaith-newydd-gan-lywodraeth-cymru\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Cefnogi gofal cymdeithasol i adfer yn dilyn y pandemig \u2013 fframwaith newydd gan Lywodraeth Cymru - Anabledd Dysgu Cymru","og_description":"Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fframwaith adfer i gefnogi&#8217;r sector gofal cymdeithasol wrth iddo adfer o effaith Covid-19. Yn ei chyflwyniad i&#8217;r fframwaith, mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn cydnabod y bydd &#8220;effaith hirdymor y pandemig hwn yn ddigyffelyb a bydd yn cymryd blynyddoedd y byd i adfer&#8221;. Bwriad y fframwaith yw &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cefnogi-gofal-cymdeithasol-i-adfer-yn-dilyn-y-pandemig-fframwaith-newydd-gan-lywodraeth-cymru\/","og_site_name":"Anabledd Dysgu Cymru","article_published_time":"2021-07-30T09:50:46+00:00","og_image":[{"width":1000,"height":667,"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/shutterstock_1733339294-e1617116055626.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Kai Jones","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Kai Jones","Est. reading time":"6 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cefnogi-gofal-cymdeithasol-i-adfer-yn-dilyn-y-pandemig-fframwaith-newydd-gan-lywodraeth-cymru\/","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cefnogi-gofal-cymdeithasol-i-adfer-yn-dilyn-y-pandemig-fframwaith-newydd-gan-lywodraeth-cymru\/","name":"Cefnogi gofal cymdeithasol i adfer yn dilyn y pandemig \u2013 fframwaith newydd gan Lywodraeth Cymru - Anabledd Dysgu Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website"},"datePublished":"2021-07-30T09:50:46+00:00","dateModified":"2021-07-30T09:50:46+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cefnogi-gofal-cymdeithasol-i-adfer-yn-dilyn-y-pandemig-fframwaith-newydd-gan-lywodraeth-cymru\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cefnogi-gofal-cymdeithasol-i-adfer-yn-dilyn-y-pandemig-fframwaith-newydd-gan-lywodraeth-cymru\/"]}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/","name":"Anabledd Dysgu Cymru","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c","name":"Kai Jones","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g","caption":"Kai Jones"},"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/kai-jones\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/26212"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=26212"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/26212\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":26213,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/26212\/revisions\/26213"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/21826"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=26212"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=26212"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=26212"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}