{"id":27562,"date":"2021-11-22T17:54:27","date_gmt":"2021-11-22T17:54:27","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?p=27562"},"modified":"2021-11-22T17:59:49","modified_gmt":"2021-11-22T17:59:49","slug":"blaenoriaethaur-6ed-senedd-yr-hyn-syn-bwysig-yn-ein-barn-ni","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/blaenoriaethaur-6ed-senedd-yr-hyn-syn-bwysig-yn-ein-barn-ni\/","title":{"rendered":"Blaenoriaethau&#8217;r 6ed Senedd \u2013 Yr hyn sy&#8217;n bwysig yn ein barn ni"},"content":{"rendered":"<p><strong>Yn dilyn etholiadau&#8217;r Senedd eleni mae sawl pwyllgor wedi gofyn i bobl Cymru beth ddylai eu blaenoriaethau dros y chwe blynedd nesaf fod. R\u00f4l un o bwyllgorau&#8217;r Senedd yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a sicrhau eu bod yn gwneud eu gwaith yn iawn.<\/strong><\/p>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Yn ein hymatebion, gofynnwyd i&#8217;r pwyllgorau sicrhau eu bod bob amser yn ystyried anghenion pobl ag anabledd dysgu ac yn rhoi sylw arbennig i&#8217;r pwyntiau hyn. Yn yr erthygl isod rydym wedi dwyn ynghyd ein hymatebion i&#8217;r ymgynghoriadau hyn.<\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h2>Iechyd a lles<\/h2>\n<h3>Lleihau Arferion Cyfyngol<\/h3>\n<p>Yn ddiweddar, <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/oes-winterbourne-yng-nghymru\/\">fe wnaethom ysgrifennu at Weinidogion<\/a> yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd 6 cham penodol i sicrhau nad yw pobl ag anabledd dysgu a\/neu awtistiaeth yng Nghymru (neu oddi wrth Gymru) yn cael eu cam-drin mewn lleoliadau gofal preswyl. Rydyn ni\u2019n credu na ddylai fod angen anfon pobl i leoliadau drud y tu allan i&#8217;r ardal, ymhell i ffwrdd o&#8217;u teuluoedd a&#8217;u cymunedau, dim ond am fod diffyg gwasanaethau arbenigol o ansawdd da yn eu hardal leol.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r honiadau diweddar <a href=\"https:\/\/www.challengingbehaviour.org.uk\/news\/allegations-of-abuse-and-mistreatment-at-ty-coryton-childrens-home-in-wales\/\">o gam-drin yn Nh\u0177 Coryton, yng Nghaerdydd<\/a>, yn tynnu sylw unwaith eto at y ffaith nad yw cam-drin bob amser yn cael ei nodi gan arolygiaethau, a chredwn y byddai cyflogi pobl ag anabledd dysgu a gofalwyr teuluol i gymryd rhan mewn adolygiadau arolygu yn rhoi gwell cyfle i nodi arwyddion rhybudd cynnar o arfer gwael. Hoffem awgrymu bod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnal ymchwiliad i sut y gall pobl ag anabledd dysgu a gofalwyr teuluol fod yn rhan o gynnal arolygiadau fel y gall eu profiadau byw lywio&#8217;r broses.<\/p>\n<p>Rydym yn croesawu cyhoeddi&#8217;r <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/fframwaith-ar-gyfer-lleihau-arferion-cyfyngol-2021?_ga=2.37353440.1931855765.1637602031-137632147.1620985946\">Fframwaith Lleihau Arferion Cyfyngol<\/a> ac rydym yn awyddus i hyrwyddo hyn mor eang \u00e2 phosibl er mwyn sicrhau bod staff gofal cymdeithasol yn deall pwysigrwydd defnyddio&#8217;r ffyrdd lleiaf cyfyngol o weithio gyda&#8217;r bobl y maent yn eu cefnogi. Credwn y gallai pwyllgorau&#8217;r Senedd chwarae rhan bwysig yn y gwaith o fonitro gweithrediad y fframwaith newydd drwy gynnal ymchwiliad i&#8217;r modd mae&#8217;n cael ei weithredu ledled Cymru a&#8217;r effaith mae&#8217;n ei chael ar fywydau pobl.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi codi sawl maes sy&#8217;n peri pryder ynghylch gwaharddiadau ysgolion a rheoli &#8216;ymddygiad heriol&#8217; yn ysgolion Cymru ac wedi beirniadu diffyg cynnydd Llywodraeth Cymru yn y meysydd hyn. Mae <a href=\"https:\/\/humanrightstracker.com\/en\/progress-assessment\/school-exclusions-and-managing-challenging-behaviour-welsh-government-assessment\/\">ffigurau<\/a> yn dangos bod gan ddisgyblion yng Nghymru sydd ag anghenion dysgu ychwanegol gyfraddau uwch o waharddiadau na&#8217;r rhai heb, a bod gan ysgolion arbennig y gyfradd uchaf o waharddiadau cyfnod penodol o bob math o ysgol. Mae angen ymchwilio i&#8217;r mater hwn a mynd i&#8217;r afael ag ef er mwyn lleihau anghydraddoldebau yn y system addysg. Felly, byddem yn argymell bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i&#8217;r gyfradd uchel o waharddiadau disgyblion ag anghenion ychwanegol ym mhob math o ysgol ledled Cymru ac yn rhoi argymhellion i Lywodraeth Cymru ar sut y gellir mynd i&#8217;r afael \u00e2 hyn.<\/p>\n<p>Er bod dyletswydd ar leoliadau gofal preswyl i oedolion roi gwybod am ddefnydd o ataliad, nid oes dyletswydd gyfreithiol ar ysgolion yng Nghymru i wneud hynny. O ganlyniad, nid oes bron unrhyw ddata swyddogol am sut a phryd mae ataliad yn cael ei ddefnyddio. Fodd bynnag, mae tystiolaeth anecdotaidd sylweddol bod plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol a\/neu ymddygiad heriol yn fwy tebygol o brofi ataliad yn y system addysg.<\/p>\n<p>Gall hyn fod yn frawychus ac yn niweidiol iawn i&#8217;r plant a&#8217;r bobl ifanc dan sylw. Ar hyn o bryd, nid oes gwaharddiad penodol ychwaith ar ddefnyddio ataliad am resymau disgyblu yn ysgolion Cymru. Yn \u00f4l y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ( EHRC), &#8220;efallai na fydd rhieni, gofalwyr ac athrawon yn deall sut na pham mae ysgolion yn defnyddio ataliad, ac efallai y bydd ysgolion yn llai abl i fonitro a lleihau ei ddefnydd.&#8221; Arweiniodd y pryderon hyn at y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cynnal <a href=\"https:\/\/www.equalityhumanrights.com\/en\/inquiries-and-investigations\/inquiry-how-schools-are-monitoring-use-restraint\">ymchwiliad i ddefnyddio, adrodd a monitro ataliad mewn ysgolion yng Nghymru a Lloegr.<\/a><\/p>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Credwn y dylai&#8217;r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg astudio canfyddiadau ymchwiliad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a chraffu ar ymateb a chynnydd Llywodraeth Cymru yn y meysydd hyn, gan gynnwys monitro gweithrediad y <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/fframwaith-ar-gyfer-lleihau-arferion-cyfyngol-2021?_ga=2.37353440.1931855765.1637602031-137632147.1620985946\">Fframwaith Lleihau Arferion Cyfyngol<\/a> a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Gofynnwyd i&#8217;r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a&#8217;r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc gynnal eu hymchwiliadau eu hunain i&#8217;r ffordd mae ysgolion yn gweithredu&#8217;r fframwaith newydd a&#8217;r effaith ar brofiadau plant a phobl ifanc.<\/span><\/p>\n<h3>Anghydraddoldebau iechyd<\/h3>\n<p>Mae anghydraddoldebau iechyd sylweddol yng Nghymru sy&#8217;n arbennig o amlwg i bobl ag anabledd dysgu. Mae <a href=\"https:\/\/www.mencap.org.uk\/learning-disability-explained\/research-and-statistics\/health\/health-inequalities\">data ledled y DU<\/a> yn dangos bod merched ag anabledd dysgu yn marw 18 mlynedd ar gyfartaledd yn gynharach a dynion ag anabledd dysgu 14 mlynedd yn gynharach na phobl heb anabledd dysgu. <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/angen-strategaeth-clir-i-ddod-ir-afael-a-anghydraddoldebau-iechyd\/\">Mae Covid-19 wedi gorbwysleisio anghydraddoldebau iechyd presennol<\/a> ac mae angen gweithredu ar frys er mwyn osgoi niwed pellach. Mae amrywiaeth o resymau pam mae disgwyliad oes gymaint yn fyrrach i bobl ag anabledd dysgu, ac rydym yn annog y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i&#8217;w hastudio&#8217;n agos.<\/p>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno&#8217;r <a href=\"https:\/\/icc.gig.cymru\/gwasanaethau-a-thimau\/gwelliant-cymru\/newyddion-a-chyhoeddiadau\/chyhoeddiadau\/fframwaith-addysgol-anabledd-dysgu\/\">Fframwaith Addysg Anabledd Dysgu newydd ar gyfer staff gofal iechyd yng Nghymru.<\/a> Credwn y gallai&#8217;r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol chwarae rhan bwysig yn y gwaith o fonitro gweithrediad ac effaith y fframwaith newydd ar leihau anghydraddoldebau iechyd.\u00a0 Hoffem hefyd dynnu sylw&#8217;r Pwyllgor at bapur Conffederasiwn GIG Cymru &#8216;Gwneud y gwahaniaeth: Mynd i&#8217;r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru\u2019 a&#8217;r argymhellion a nodir ynddo.<\/span><\/p>\n<h3>Gwiriadau Iechyd Blynyddol<\/h3>\n<p>Rydym yn annog y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i graffu ar y gwaith o gyflwyno gwiriadau iechyd blynyddol ar gyfer pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru. Mae sawl mater pwysig yma, gan gynnwys yr angen i sicrhau bod gwiriadau iechyd blynyddol ar gael i bob oedolyn ag anabledd dysgu, a r\u00f4l cysgodi diagnostig wrth ei gwneud yn anoddach i bobl ag anabledd dysgu gael mynediad at ofal iechyd.<\/p>\n<p>Dylai pob oedolyn ag anabledd dysgu allu cael archwiliad iechyd blynyddol gan eu meddyg teulu. Fodd bynnag, gwyddom, hyd yn oed cyn y pandemig, nad oedd pawb sy&#8217;n gymwys i gael yr archwiliad iechyd blynyddol yn ei dderbyn ac nad yw&#8217;r rhan fwyaf o bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru wedi gallu cael eu gwiriadau iechyd yn ystod pandemig Covid-19.<\/p>\n<p>Er mwyn atal problemau iechyd hirdymor i bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru, rydym yn argymell bod archwiliad iechyd blynyddol yn cael ei ailgyflwyno cyn gynted \u00e2 phosibl. Ochr yn ochr \u00e2 hyn, rydym yn argymell bod ymrwymiad hirdymor i sicrhau bod gwiriadau iechyd yn hygyrch i unrhyw un sydd eu hangen, yn enwedig pobl h\u0177n ag anabledd dysgu a allai fod ag anghenion iechyd mwy cymhleth.<\/p>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Buom yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2019 i ddatblygu pecyn adnoddau hawdd ei ddeall i feddygon teulu er mwyn gwella hygyrchedd a&#8217;r nifer sy&#8217;n manteisio ar wiriadau iechyd blynyddol. Hoffem i&#8217;r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gynnal ymchwiliad i&#8217;r defnydd o&#8217;r pecyn adnoddau hawdd ei ddeall a&#8217;r effaith ar y nifer sy&#8217;n manteisio ar wiriadau iechyd blynyddol ledled Cymru ac ansawdd y gwiriadau iechyd blynyddol.<\/span><\/p>\n<h3>Gwneud cymorth yn hygyrch<\/h3>\n<p>Mae pobl ag anabledd dysgu yn aml yn ei chael hi&#8217;n anodd nid yn unig cael gafael ar wasanaethau ond hefyd gyda chael y cymorth cywir pan fyddant yn cael mynediad at wasanaethau. Er mwyn cael y cymorth cywir, mae&#8217;n bwysig bod gwasanaethau&#8217;n cael eu darparu mewn ffordd sy&#8217;n canolbwyntio ar yr unigolyn, lle mae anghenion a dewisiadau cymorth y person yn penderfynu pa gymorth maen nhw\u2019n ei gael, yn hytrach na bod pobl yn cael cynnig y cymorth sy&#8217;n digwydd bod ar gael ac yn fforddiadwy.<\/p>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">I fynd i\u2019r afael \u00e2 thlodi ac anghydraddoldeb, rhaid sicrhau bod cefnogaeth ar gael i bawb sydd ei angen, nid dim ond y rhai sydd \u00e2\u2019r sgiliau i eiriol drostyn nhw eu hunain. Dylai teuluoedd \u00e2 phlant anabl, a phobl mae eu hanghenion cymorth yn eu hatal rhag cael cymorth, gael cynnig cymorth sy&#8217;n canolbwyntio ar yr unigolyn drwy gydlynwyr achosion a all eu helpu i lywio&#8217;r system a chael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt.<\/span><\/p>\n<h3>Gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol<\/h3>\n<p>Mae&#8217;r gweithlu, mewn perthynas \u00e2 recriwtio a chadw staff, yn cael ei ystyried yn eang fel yr her fwyaf arwyddocaol sy&#8217;n wynebu system iechyd a gofal Cymru yn awr, ac yn y dyfodol. Rydym yn annog y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ymchwilio ar frys i sut y gellir cefnogi staff yn y sector gofal cymdeithasol a&#8217;r sector gofal iechyd yn well. Mae angen canolbwyntio ar frys ar gydraddoldeb parch rhwng y gweithluoedd iechyd a gofal cymdeithasol mewn perthynas \u00e2 th\u00e2l, telerau ac amodau a dilyniant gyrfa yn ogystal \u00e2 gwella&#8217;r amodau gwaith hyn yn gyffredinol.\u00a0Rydyn ni angen buddsoddiad yn y gweithlu nawr i sicrhau y bydd pobl ag anabledd dysgu yn cael y gofal a&#8217;r cymorth sydd eu hangen arnynt.<\/p>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Dylai unrhyw ymchwiliad i&#8217;r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol hefyd ystyried yr effaith mae pandemig COVID-19 wedi&#8217;i chael ar les staff iechyd a gofal. Mae lles staff ar draws pob rhan o&#8217;r sector iechyd a gofal yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i sefydliadau&#8217;r GIG, gofal cymdeithasol a&#8217;r trydydd sector.<\/span><\/p>\n<h3>Integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol<\/h3>\n<p>Mae&#8217;r <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/rhaglen-lywodraethu?_ga=2.96493407.1931855765.1637602031-137632147.1620985946\">Rhaglen ar gyfer y Llywodraeth<\/a> newydd yn cynnwys cynlluniau i ddiwygio gofal sylfaenol a dod \u00e2 gwasanaethau cyhoeddus at ei gilydd yn ogystal \u00e2 buddsoddi mewn canolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig ledled Cymru. Rydyn ni\u2019n credu bod angen i iechyd a gofal cymdeithasol gydweithio i sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu yn cael y cymorth cywir ar yr adeg iawn. Hoffem yn arbennig weld gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol yn sicrhau bod gan y bobl maen nhw\u2019n gweithio gyda nhw fynediad da at ofal iechyd, a&#8217;u bod yn gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu a&#8217;u teuluoedd i gynyddu&#8217;r nifer sy&#8217;n manteisio ar wiriadau iechyd blynyddol.<\/p>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Rydym yn annog y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i roi sylw i&#8217;r ffordd mae gwasanaethau&#8217;n cael eu cysylltu a sut y gellir hwyluso pontio mwy di-dor rhwng gwasanaethau.<\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h2>Lles<\/h2>\n<h3>Adferiad Covid-19 cynhwysol<\/h3>\n<p>Bydd llawer o waith y Senedd yn ymwneud \u00e2 rheoli ac adfer o bandemig Covid-19. Gofynnwn i&#8217;r holl bwyllgorau ddefnyddio eu pwerau i sicrhau nad yw pobl anabl yn cael eu gadael ar \u00f4l ac nad yw polis\u00efau a fwriedir i wella bywydau dinasyddion Cymru yn cael effaith negyddol ar bobl anabl.<\/p>\n<p>Rydym yn annog y Pwyllgorau i astudio&#8217;n agos yr adroddiad &#8216;<a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/drws-ar-glo-datgloi-bywydau-hawliau-pobl-anabl-yng-nghymru-ar-ol-covid-19-ymateb-llywodraeth-cymru?_ga=2.37338976.1931855765.1637602031-137632147.1620985946\">Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar \u00f4l COVID-19<\/a>&#8216;, i ddeall mwy am yr hyn y byddai hynny&#8217;n ei olygu. Mae&#8217;r adroddiad yn nodi sut mae hawliau pobl anabl wedi dioddef yn ystod y pandemig a sut mae egwyddorion &#8220;Llais, Dewis a Rheolaeth&#8221; ar gyfer pobl anabl wedi&#8217;u herydu&#8217;n ddifrifol oherwydd y pandemig. Mae&#8217;r adroddiad &#8216;Drws ar Glo&#8217; yn dadlau bod hyn yn tynnu sylw at y ffaith nad oedd hawliau pobl anabl erioed wedi&#8217;u hymgorffori&#8217;n llawn mewn polisi yn y lle cyntaf.<\/p>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Wrth symud ymlaen, credwn ei bod yn bwysig sicrhau bod gwaith y Senedd yn cael ei lywio gan y model cymdeithasol o anabledd ac egwyddorion cynllunio sy&#8217;n canolbwyntio ar yr unigolyn, a bod y Pwyllgorau&#8217;n ymgysylltu \u00e2 phobl ag anabledd dysgu ac yn gwrando arnynt yn uniongyrchol i ofyn am eu barn. Mae <a href=\"https:\/\/allwalespeople1st.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/wManifesto-2021-website-1.pdf\">Maniffesto Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan 2021<\/a>, er enghraifft, yn nodi rhai o&#8217;r materion allweddol yr hoffai pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru eu gweld yn cael sylw. Mae gan bob pwyllgor r\u00f4l bwysig o ran craffu ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adfer Covid a sicrhau bod pobl anabl yn cael eu cynnwys ar bob lefel.<\/span><\/p>\n<h3>Astudiaeth ymchwil Covid<\/h3>\n<p>Rydym yn rhan o brosiect ymchwil sy&#8217;n edrych <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/project\/covid19-study\/\">ar effaith coronafeirws ar bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru<\/a> (fel rhan o <a href=\"https:\/\/warwick.ac.uk\/fac\/soc\/cedar\/covid19-learningdisability\">astudiaeth ehangach yn y DU<\/a>). Mae\u2019r astudiaeth yn nodi bod pobl ag anableddau dysgu eisoes angen gwell mynediad at ofal iechyd o safon a chymorth effeithiol cyn mis Mawrth 2020.<\/p>\n<p>Roedd cyfleoedd i gael mynediad at y ddau wedi lleihau yn ystod y pandemig a cafodd hyn effaith sylweddol ar fywydau pobl ag anabledd dysgu. Mae llawer wedi dod yn nes at coronafeirws na phobl eraill oherwydd natur y cymorth maen nhw&#8217;n ei dderbyn. Mae&#8217;r pryderon mae pobl ag anabledd dysgu wedi&#8217;u hwynebu yn sylweddol. Mae llai o fynediad at wasanaethau cymorth a lefelau uwch o unigrwydd ac arwahanrwydd wedi dwys\u00e1u hyn.<\/p>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Byddwn yn rhannu canfyddiadau&#8217;r ymchwil wrth iddo fynd yn ei flaen ac amlygu i lunwyr polisi a darparwyr gwasanaethau beth sydd angen ei wneud i sicrhau nad yw pobl ag anabledd dysgu yn cael eu gadael ar \u00f4l yn y broses adfer ar \u00f4l y pandemig. Byddem yn croesawu&#8217;r cyfle i rannu canfyddiadau&#8217;r astudiaeth gyda&#8217;r holl bwyllgorau pan fyddant ar gael.<\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h3>Dychwelyd i gymorth wyneb yn wyneb<\/h3>\n<p>Rydym wedi clywed gan lawer o bobl ag anabledd dysgu a&#8217;u teuluoedd fod gwasanaethau dydd mewn rhai ardaloedd awdurdodau lleol naill ai&#8217;n araf iawn i ailgychwyn neu nad ydynt yn cael eu cynnig mwyach. Mae eraill yn bryderus iawn am wasanaethau wyneb yn wyneb yn ail-ddechrau ac mae angen sicrwydd arnynt fod mesurau ar waith i leihau&#8217;r risgiau o Covid-19.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n amlwg bod angen sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen i reoli risg a&#8217;r angen i wasanaethau ddychwelyd i&#8217;r arfer cyn gynted \u00e2 phosibl. Gyda chyfyngiadau&#8217;n parhau i lacio, dylai pobl ag anabledd dysgu ag anghenion gofal a chymorth allu cael mynediad at wasanaethau i ddiwallu&#8217;r anghenion hynny fel y gallant hwythau ddechrau dychwelyd i fywyd normal a pheidio \u00e2 chael eu gadael ar \u00f4l.<\/p>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Mae&#8217;r pandemig wedi dangos i ni fod ffyrdd newydd ac arloesol o wneud pethau ac mae llawer o bobl ag anabledd dysgu wedi ennill sgiliau newydd wrth ddefnyddio technoleg nad oeddent erioed wedi&#8217;u hystyried yn bosibl o&#8217;r blaen. Mae&#8217;n bwysig nad yw&#8217;r sgiliau a&#8217;r cyfleoedd hyn yn cael eu colli wrth i ni ddychwelyd i &#8216;normalrwydd&#8217; a dylai gwasanaethau ystyried dull cyfunol o weithredu lle bo hynny&#8217;n bosibl. Rydym yn awgrymu bod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnal ymchwiliad i ddychwelyd gwasanaethau wyneb yn wyneb ledled Cymru a p\u2019un a yw hyn yn cael ei wneud mewn ffordd gynhwysol a theg.<\/span><\/p>\n<h3>Cymorth i rieni ag anableddau dysgu<\/h3>\n<p>Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu darn pwysig o waith i ddatblygu canllawiau i weithwyr proffesiynol ar gefnogi rhieni ag anabledd dysgu gyda&#8217;r nod o leihau nifer y plant sy&#8217;n cael eu rhoi i ofal. Rydym yn argymell bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i weithrediad ac effaith y canllawiau pan gaiff ei gyhoeddi. Bydd hyn yn sicrhau bod gweithwyr cymdeithasol yn cynnig y cymorth cywir i rieni ag anabledd dysgu a bod rhieni&#8217;n cael eu trin yn deg ac yn gyfartal er mwyn cadw mwy o deuluoedd gyda&#8217;i gilydd.<\/p>\n<h3>Gwell cefnogaeth i deuluoedd plant anabl<\/h3>\n<p>Yn ein hymateb i&#8217;r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, pwysleisiwyd yr angen i fynd i&#8217;r afael \u00e2 thlodi plant yng Nghymru a gwneud hynny drwy edrych ar y cysylltiadau penodol rhwng anabledd a thlodi. <a href=\"https:\/\/contact.org.uk\/media\/1395947\/counting_the_costs_2018.pdf\">Fe wnaeth astudiaeth i gyllid teuluoedd plant anabl<\/a> a gynhaliwyd yn 2018 ganfod mai dim ond 18% o\u2019r ymatebwyr a ddywedodd y gallai eu budd-daliadau anabledd dalu am y costau ychwanegol sy\u2019n gysylltiedig ag anabledd neu gyflwr iechyd eu plentyn.<\/p>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Mae&#8217;r costau ychwanegol hyn yn sylweddol, gyda 33% yn talu dros \u00a3300 y mis a 10% yn talu rhwng \u00a3500 a \u00a31000 y mis mewn costau sy&#8217;n gysylltiedig ag anabledd.\u00a0 Dywedodd 36% fod newidiadau i&#8217;r system fudd-daliadau yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf wedi eu gadael yn waeth eu byd. Bydd yr anfanteision hyn wedi&#8217;u gwaethygu gan effeithiau&#8217;r pandemig a&#8217;r pwysau ychwanegol a brofwyd gan deuluoedd. Dylai&#8217;r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc roi sylw arbennig i sut y bydd penderfyniadau polisi yn effeithio ar deuluoedd sydd o dan anfantais economaidd gyda phlant a phobl ifanc anabl.<\/span><\/p>\n<h3>Unigrwydd ac unigedd cymdeithasol<\/h3>\n<p>Roedd llawer o bobl ag anabledd dysgu wedi&#8217;u hynysu&#8217;n gymdeithasol cyn y pandemig, ac er bod y cyfnod clo wedi rhoi cyfleoedd newydd i rai pobl gysylltu \u00e2 phobl ar-lein, i eraill mae&#8217;r pandemig wedi eu gadael hyd yn oed yn fwy ynysig nag erioed o&#8217;r blaen.<\/p>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Bu problemau gyda rhai lleoliadau byw a phreswyl \u00e2 chymorth nad oeddent yn caniat\u00e1u i bobl weld eu teuluoedd &#8211; er gwaethaf canllawiau Llywodraeth Cymru i&#8217;r gwrthwyneb &#8211; gan fod y dehongliad o&#8217;r canllawiau gan ddarparwyr unigol neu awdurdodau lleol fel pe bai&#8217;n amrywio&#8217;n fawr. Rydym wedi galw ar bob pwyllgor i fonitro&#8217;n fanwl sut y bydd pobl ag anabledd dysgu mewn lleoliadau byw a phreswyl \u00e2 chymorth yn cael eu trin yn ystod y misoedd nesaf, a sut y gellir cynnal eu hawliau.<\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h2>Addysg<\/h2>\n<h3>Cwricwlwm cynhwysol<\/h3>\n<p>Gwyddom fod bron i chwarter y plant a&#8217;r bobl ifanc yn ysgolion Cymru wedi cael diagnosis o angen dysgu ychwanegol. Mae&#8217;n bwysig nodi mai dim ond plant oedd ag anghenion dysgu ychwanegol hysbys oedd y rhain. Er na allwn wybod faint o bobl ag anawsterau niwrolegol, gwyddom fod nifer sylweddol o blant yn mynd drwy&#8217;r ysgol gydag anableddau dysgu heb ddiagnosis, anawsterau dysgu ac anawsterau niwrolegol. Oherwydd hyn, credwn y dylai ysgolion ganolbwyntio&#8217;n llawer cryfach ar sut mae dealltwriaeth o faterion anabledd yn llywio addysgu.<\/p>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/deddf-anghenion-dysgu-ychwanegol-ar-tribiwnlys-addysg-cymru?_ga=2.37976803.1931855765.1637602031-137632147.1620985946\">Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a&#8217;r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018<\/a> yn cael ei roi ar waith ar hyn o bryd ar gyfer plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, neu sydd newydd eu nodi (dechreuodd hyn ar 1 Medi 2020, gyda phlant ar &#8216;Gweithredu gan yr Ysgol&#8217; neu &#8216;Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy&#8217; yn dilyn o 1 Ionawr 2022).<\/p>\n<p>Mae&#8217;n hanfodol bod anghenion pob plentyn ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu diwallu, a&#8217;u bod yn cael eu cefnogi i gyrraedd eu potensial p&#8217;un a ydynt yn cael cymorth drwy&#8217;r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd neu&#8217;r hen system AAA.\u00a0 Felly, rydym yn gofyn i&#8217;r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg graffu a monitro sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymarferwyr, plant a phobl ifanc ag angen dysgu ychwanegol, a&#8217;u teuluoedd, wrth weithredu&#8217;r Ddeddf a rhedeg yr hen system ar yr un pryd. Rydym yn awgrymu bod y pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i weithredu&#8217;r Ddeddf a sut mae anghenion disgyblion ag anghenion ychwanegol yn cael eu diwallu.<\/p>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Rydym yn tynnu sylw&#8217;r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc at ein <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/school-should-work-for-every-learner\/\">gwaith ein hunain<\/a> ar ba newidiadau yr hoffem eu gweld i Gwricwlwm Newydd Cymru a sut y credwn y gellir rhoi materion anabledd wrth wraidd dysgu.<\/span><\/p>\n<h3>Cynhwysiant digidol<\/h3>\n<p>Mae blaenoriaethau&#8217;r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith yn nodi&#8217;r angen i sefydlu rhyngrwyd cyflym ledled Cymru i helpu pobl i gadw mewn cysylltiad a gwella seilwaith digidol. Hoffem i&#8217;r pwyllgor ystyried y bydd yn cymryd mwy na dim ond rhyngrwyd cyflym i gadw mewn cysylltiad i lawer o bobl ag anabledd dysgu.<\/p>\n<p>Er bod y pandemig wedi arwain at lawer o bobl ag anableddau dysgu yn ennill sgiliau digidol newydd pwysig, mae&#8217;r pandemig hefyd wedi tynnu sylw at realiti llym allg\u00e1u digidol. Nid oedd gan lawer o bobl ag anabledd dysgu y dechnoleg a\/neu&#8217;r sgiliau i ymgysylltu ag eraill ar-lein yn ystod y cyfnod clo ac felly fe&#8217;u gadawyd yn gwbl ynysig. Nid yn unig nad oeddent yn gallu cadw mewn cysylltiad \u00e2 ffrindiau a theulu ond gyda chymaint o wasanaethau&#8217;n newid i ar-lein, roeddent yn gweld byw bob dydd yn eithriadol o anodd. Er enghraifft, siopa ar-lein, apwyntiadau rhithwir gyda staff cymorth, archebu presgripsiynau, ac ati.<\/p>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Mae angen gwneud mwy o waith i sicrhau bod gan bobl ag anabledd dysgu y dechnoleg a&#8217;r sgiliau i lywio eu bywydau bob dydd ac aros mewn cysylltiad tra&#8217;n sicrhau ar yr un pryd y gall y rhai nad oes ganddynt sgiliau digidol gael mynediad at fywyd o hyd.<\/span><\/p>\n<h2>Pontio<\/h2>\n<p>Rydym yn annog y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i roi sylw arbennig i sut mae pobl ag anabledd dysgu yn pontio rhwng gwasanaethau ar gyfer gwahanol grwpiau oedran. Mae oedolion ifanc ag anableddau dysgu yn aml yn ei chael hi&#8217;n anodd iawn pan nad yw gwasanaethau&#8217;n cydgysylltu ac maen nhw\u2019n colli cymorth. Mae hyn yn arbennig o bwysig i bobl ifanc ag anabledd dysgu a allai gyflawni cerrig milltir datblygiadol yn arafach na&#8217;u cyfoedion, ac felly efallai y bydd angen cymorth parhaus y tu hwnt i derfynau oedran gwasanaethau plant a phobl ifanc.<\/p>\n<h3>Mynediad i gyfleoedd chwarae cynhwysol a gweithgareddau allgyrsiol<\/h3>\n<p>Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc, gan gynnwys plant anabl, fanteisio ar gyfleoedd chwarae i gefnogi eu dysgu a&#8217;u datblygiad. Hoffai Anabledd Dysgu Cymru dynnu sylw at daflen wybodaeth Chwarae Cymru &#8216;<a href=\"https:\/\/playwales.org.uk\/login\/uploaded\/documents\/INFORMATION%20SHEETS\/play%20inclusive%20provision.pdf\">Chwarae: darpariaeth gynhwysol&#8217;<em>.<\/em><\/a><\/p>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">I bobl ifanc ag anabledd dysgu, mae cael mynediad i leoedd i fynd a phethau i&#8217;w gwneud ochr yn ochr \u00e2&#8217;u cyfoedion hefyd yn bwysig. Felly, rydym yn annog y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i gynnal ymchwiliad i sut mae anghenion plant a phobl ifanc anabl ag anabledd dysgu i gael mynediad at weithgareddau chwarae a hamdden cynhwysol yn cael eu diwallu.<\/span><\/p>\n<h3><span lang=\"CY\">Integreiddio cyfleoedd cyflogaeth i addysg <\/span><\/h3>\n<p>Yn eu Maniffesto 2021, mae Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn ysgrifennu: &#8220;Mae&#8217;n bwysig bod cyflogwyr yng Nghymru yn creu cyfleoedd i bobl ag anableddau dysgu. Mae llawer o bobl ag anableddau dysgu wedi llwyddo yn y gweithlu pan fydd addasiadau rhesymol wedi&#8217;u gwneud, megis gwybodaeth hawdd ei deall mewn hysbysebion a chyfweliadau, cymorth i ddysgu swydd ac interniaethau \u00e2 th\u00e2l.&#8221;<\/p>\n<p>Rydym yn annog y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i ymchwilio&#8217;n benodol i gyflogaeth \u00e2 chymorth a sut y gellir ei hintegreiddio i&#8217;r cwricwlwm er mwyn sicrhau bod pobl ifanc ag anableddau dysgu yn cael ergyd deg. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod pobl ifanc yn ymwybodol o brofiad gwaith a bod ganddynt fynediad cyfartal i waith mewn busnesau lleol a mynediad cyfartal i ddysgu seiliedig ar waith, megis hyfforddeiaethau, interniaethau a phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n hanfodol bod y bobl ifanc hyn yn cael cymorth unigol i&#8217;w galluogi i wneud hynny. Mae angen i ysgolion, colegau a Gyrfa Cymru sicrhau bod y cyfleoedd hyn yn cael eu cynnig ac nad yw pobl ifanc ag anableddau dysgu yn cael eu harwain i gredu, dim ond am eu bod yn anabl, na fyddant byth yn cael disgwyl mwy o fywyd na mynd o wasanaeth i wasanaeth.<\/p>\n<p>I&#8217;r pwyllgor, mae hyn hefyd yn golygu sicrhau bod mesurau a gymerir ar bob cam i gynyddu cyflogadwyedd, er enghraifft y <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/bydd-gwarant-i-bobl-ifanc-yn-helpu-i-sicrhau-nad-oes-cenhedlaeth-goll-yng-nghymru-vaughan-gething?_ga=2.71851091.1931855765.1637602031-137632147.1620985946\">Warant Pobl Ifanc<\/a>, hefyd yn gynhwysol i bobl ifanc ag anabledd dysgu.<\/p>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">O&#8217;r herwydd, rydym yn annog y pwyllgor i graffu ar gynnydd y cwricwlwm Sgiliau Byw&#8217;n Annibynnol Addysg Bellach newydd, yn enwedig y Llwybr i Interniaethau \u00e2 Chymorth, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer hyfforddeiaeth a chynlluniau peilot prentisiaethau cynhwysol, a Rhaglen Ieuenctid newydd Twf Swyddi Cymru+ 2022-2026.<\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h2>Cyflogaeth<\/h2>\n<h3>Gwneud cyflogaeth \u00e2 chymorth yn safonol<\/h3>\n<p>Gall asiantaethau cyflogaeth \u00e2 chymorth gynnig cymorth arbenigol i helpu pobl i ddod o hyd i swydd, ei chael a&#8217;i chadw drwy ddysgu yn y gweithle. Mae hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn cael profiad cyntaf cadarnhaol o fewn y byd gwaith a fydd yn eu sefydlu ar gyfer y dyfodol. Rydym hefyd yn awgrymu bod Gyrfa Cymru yn archwilio cydweithrediad agosach \u00e2 GIG Cymru i ddarparu lleoliadau profiad gwaith ystyrlon i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae rhagor o wybodaeth am sut y gallai partneriaethau o&#8217;r fath edrych ar gael yn ein papur sefyllfa <a href=\"http:\/\/www.engagetochange.org.uk\/article\/sut-y-gall-cyflogwyr-y-sector-cyhoeddus-fel-gig-helpu-pobl-ag-anabledd-dysgu-neu-awtistiaeth-i-gael-swyddi\/?lang=cy\">&#8220;Sut y gall cyflogwyr sector cyhoeddus fel y GIG helpu pobl ag anabledd dysgu neu awtistiaeth i gael swyddi?&#8221;<\/a><\/p>\n<h3>Gwaith teg a chau&#8217;r bwlch cyflogaeth anabledd dysgu<\/h3>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Rydym yn falch o fod wedi gweld Llywodraeth Cymru dro ar \u00f4l tro yn dangos ymrwymiad cryf i amodau gwaith teg ac yn arbennig i greu amgylchedd gwaith iach, diogel a chynhwysol. Hoffem danlinellu bod yn rhaid i gynwysoldeb mewn amgylcheddau gwaith gynnwys amgylchedd sy&#8217;n croesawu ac yn cefnogi pobl ag anabledd dysgu a\/neu awtistiaeth, yn ogystal ag ymdrechion traddodiadol i wneud amgylcheddau ffisegol yn fwy hygyrch.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Er mwyn sicrhau bod gweithluoedd a recriwtio yn dod yn fwy cynhwysol i bobl ag anabledd dysgu a\/neu awtistiaeth, rydym yn awgrymu integreiddio ystod o fesurau i gyflogaeth, sef lleoliadau gwaith \u00e2 chymorth, interniaethau \u00e2 chymorth a phrentisiaethau \u00e2 chymorth. Mae&#8217;n bwysig bod y mesurau hyn ar gael yn eang i bob gr\u0175p oedran, nid pobl ifanc 16-18 mlwydd oed yn unig. Mae llawer o bobl ifanc ag anabledd dysgu a\/neu awtistiaeth yn parhau mewn addysg yn llawer hirach na&#8217;r boblogaeth gyffredinol ac yn aml bydd angen rhyw fath o gymorth cyflogaeth arbenigol arnynt ar wahanol adegau o&#8217;u bywydau. Felly, nid yw&#8217;r cymorth &#8216;untro&#8217; nodweddiadol a gynigir i&#8217;r rhai sy&#8217;n gadael yr ysgol\/coleg neu&#8217;r di-waith yn ddigon iddynt.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">I&#8217;r diben hwn, hoffem weld Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn arwain y gwaith o bennu safonau a dangos y dylid hyrwyddo lles mewn contractau sector preifat. Rydym yn cefnogi&#8217;r gwaith o ddatblygu safonau cyson clir drwy ddangosyddion newydd a hoffem weld dangosyddion sy&#8217;n adrodd ar gyflogi pobl ag anabledd dysgu a\/neu awtistiaeth, gyda phwyslais arbennig ar y sector cyhoeddus yn adrodd am ymdrechion i arwain wrth gyflogi&#8217;r bobl hyn yn ystod y pum mlynedd nesaf<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">At hynny, rydyn ni\u2019n awgrymu datblygu targedau clir i fesur gwerth cymdeithasol o fewn caffael a ddylai fod yn gysylltiedig \u00e2 Deddf Llesiant Cenedlaethau&#8217;r Dyfodol o ran creu swyddi, gweithlu cynhwysol, datblygu&#8217;r gweithlu a safonau amgylcheddol.<\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h2>Cymru decach<\/h2>\n<h3>Ymladd newid yn yr hinsawdd gyda thegwch<\/h3>\n<p>Rydyn ni\u2019n cytuno bod diogelu&#8217;r amgylchedd ac ymladd newid yn yr hinsawdd yn hanfodol bwysig. Wedi&#8217;r cyfan, mae <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/why-climate-change-is-a-disability-issue\/\">newid yn yr hinsawdd yn effeithio&#8217;n anghyfartal ar bobl anabl. <\/a>Fodd bynnag, mae eco-allu yn digwydd pan fydd newidiadau i ddiogelu&#8217;r amgylchedd neu ymladd newid yn yr hinsawdd yn cael eu rhoi ar waith heb ystyried materion hygyrchedd ac felly mae pobl anabl o dan anfantais anghymesur.<\/p>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Er enghraifft, er ei bod yn dda annog cerdded a beicio, byddem wedi hoffi gweld cydnabyddiaeth na ddylai newidiadau a wneir i ddarparu ar gyfer y mathau mwy ecogyfeillgar o deithio fyth roi pobl anabl dan anfantais yn eu hanghenion trafnidiaeth. Mae osgoi eco-allu yn bwysig o ran peidio ag effeithio&#8217;n afresymol ar fywydau pobl anabl yn ymarferol (megis lleihau argaeledd parcio hygyrch a llwybrau ar gyfer creu llwybrau beiciau) yn ogystal ag osgoi cywilydd a stigma ar gyfer defnyddio mesurau trafnidiaeth llai ecogyfeillgar pan fo angen.<\/span><\/p>\n<h3>Buddsoddiadau strategol yng Nghymru<\/h3>\n<p>Mae rhai ardaloedd yng Nghymru yn cael trafferth gyda thlodi ac wedi gwneud ers amser maith. Rydym yn argymell bod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn craffu ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/cymru-fwy-cyfartal-y-ddyletswydd-economaidd-gymdeithasol?_ga=2.109797189.1931855765.1637602031-137632147.1620985946\">Ddyletswydd Economaidd Gymdeithasol Cymru<\/a> ac yn sicrhau bod yr holl benderfyniadau comisiynu a buddsoddi yn cael eu gwneud gyda&#8217;r Ddyletswydd mewn golwg. Rydym hefyd yn annog y pwyllgor i ddisgwyl i hygyrchedd gael ei gynnwys mewn prosiectau a ariennir gan Lywodraeth Cymru.<\/p>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Yn rhy aml, \u00f4l-ystyriaeth yw pryderon hygyrchedd sy&#8217;n golygu bod y cyfrifoldeb ar y person anabl i ofyn am addasiadau rhesymol. Yn hytrach, dylai Llywodraeth Cymru fod yn atebol i sicrhau bod addasiadau&#8217;n cael eu cynnwys mewn prosiectau sy&#8217;n dechrau. I bobl ag anabledd dysgu, mae hyn yn golygu bod gwybodaeth yn cael ei darparu mewn fformatau hygyrch fel hawdd ei deall ac i sicrhau bod cymorth ar gael yn hawdd.<\/span><\/p>\n<h3>Gwella trafnidiaeth gyhoeddus<\/h3>\n<p>Rydym yn annog Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i ymgysylltu \u00e2 strategaeth <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/llwybr-newydd-strategaeth-drafnidiaeth-cymru-2021?_ga=2.41983717.1931855765.1637602031-137632147.1620985946\">Trafnidiaeth Cymru<\/a> a chraffu ar ei ymrwymiad i wella mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig. Yn ein hymateb i&#8217;r ymgynghoriad i&#8217;r strategaeth, rydym wedi amlinellu rhai o&#8217;n pryderon a&#8217;n blaenoriaethau.<\/p>\n<p>Mae angen ystyried nid yn unig gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch yn gorfforol, ond hefyd i archebu a phrynu tocynnau fod yn hawdd eu deall a&#8217;u defnyddio gan bobl ag anabledd dysgu. Mae hefyd angen buddsoddiadau strategol a sylweddol mewn gwasanaethau ac adnoddau a fydd yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu yn benodol i deithio, er enghraifft drwy hyfforddiant teithio. Bydd y cynlluniau i ymestyn trafnidiaeth gyhoeddus a&#8217;i wneud yn fwy diogel, yn fwy dibynadwy a fforddiadwy o fudd mawr i bobl anabl yn gyffredinol a phobl ag anabledd dysgu yn benodol. Bydd pobl yng Ngogledd Cymru yn arbennig yn elwa&#8217;n fawr o drafnidiaeth gyhoeddus fwy dibynadwy a hygyrch.<\/p>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Mae gan strategaeth Trafnidiaeth Cymru ffocws cryf ar wella cyfleoedd ar gyfer dulliau teithio ecogyfeillgar fel beicio a cherdded. Rydym yn annog y pwyllgor i ystyried anghenion pobl anabl yn hyn a ddylai gael yr un mynediad i&#8217;r dulliau hyn o deithio \u00e2 phawb arall.<\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h2>Adnoddau pellach:<\/h2>\n<p><a href=\"https:\/\/allwalespeople1st.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Manifesto-2021-Website.pdf\"><em>Maniffesto Pobl yn Gyntaf Cymru<\/em> Gyfan 2021<\/a><\/p>\n<p>Steve Beyer, 2020: <a href=\"http:\/\/www.engagetochange.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/08\/National-Job-Coach-Briefing-6July20-V6_final.pdf\"><em>Papur briffio Engage to Change: Pa newidiadau polisi sydd eu hangen i roi mynediad cyfartal i bobl ag anabledd dysgu neu ASD i&#8217;r farchnad lafur yng Nghymru?<\/em><\/a><\/p>\n<p>Steve Beyer, 2021: <a href=\"http:\/\/www.engagetochange.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Engage-to-Change-The-role-of-the-NHS-Jan21_final_eng2.pdf\"><em>Papur briffio Engage to Change: Swyddi i bobl ag anabledd dysgu neu awtistiaeth &#8211; R\u00f4l y GIG.<\/em><\/a><\/p>\n<p>Fforwm Cydraddoldeb Anabledd, 2021: <a href=\"https:\/\/gov.wales\/locked-out-liberating-disabled-peoples-lives-and-rights-wales-beyond-covid-19-html\"><em>Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar \u00f4l COVID-19<\/em><\/a><\/p>\n<p>Anabledd Dysgu Cymru (2021): <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wales-needs-a-clear-strategy-for-tackling-wider-health-inequalities\/\">Mae angen strategaeth glir ar Gymru ar gyfer mynd i&#8217;r afael ag anghydraddoldebau iechyd ehangach<\/a><\/p>\n<p>Engage to Change, 2021: <a href=\"http:\/\/www.engagetochange.org.uk\/article\/consultation-response-llwybr-newydd-a-new-wales-transport-strategy\"><em>Ymateb i\u2019r Ymgynghoriad: Llwybr Newydd\u2013 strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru<\/em><\/a><\/p>\n<p>Anabledd Dysgu Cymru (2021): <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/is-there-a-winterbourne-in-wales\/\">A oes &#8216;Winterbourne yng Nghymru?<\/a><\/p>\n<p>Anabledd Dysgu Cymru, 2019: <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/why-climate-change-is-a-disability-issue\/\">Pam mae newid yn yr hinsawdd yn fater sy\u2019n berthnasol i anabledd<\/a><\/p>\n<p>Anabledd Dysgu Cymru (2021): <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/school-should-work-for-every-learner\/\">Dylai&#8217;r ysgol weithio i bob dysgwr.<\/a><\/p>\n<p>Mencap (2018): <a href=\"https:\/\/www.mencap.org.uk\/learning-disability-explained\/research-and-statistics\/health\/health-inequalities\">Gwybodaeth am Anghydraddoldebau Iechyd<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn dilyn etholiadau&#8217;r Senedd eleni mae sawl pwyllgor wedi gofyn i bobl Cymru beth ddylai eu blaenoriaethau dros y chwe blynedd nesaf fod. R\u00f4l un o bwyllgorau&#8217;r Senedd yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a sicrhau eu bod yn gwneud eu gwaith yn iawn. Yn ein hymatebion, gofynnwyd i&#8217;r pwyllgorau sicrhau eu bod bob amser &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/blaenoriaethaur-6ed-senedd-yr-hyn-syn-bwysig-yn-ein-barn-ni\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":11675,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[29,28],"tags":[],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v20.11 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Blaenoriaethau&#039;r 6ed Senedd \u2013 Yr hyn sy&#039;n bwysig yn ein barn ni - Anabledd Dysgu Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/blaenoriaethaur-6ed-senedd-yr-hyn-syn-bwysig-yn-ein-barn-ni\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Blaenoriaethau&#039;r 6ed Senedd \u2013 Yr hyn sy&#039;n bwysig yn ein barn ni - Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Yn dilyn etholiadau&#8217;r Senedd eleni mae sawl pwyllgor wedi gofyn i bobl Cymru beth ddylai eu blaenoriaethau dros y chwe blynedd nesaf fod. R\u00f4l un o bwyllgorau&#8217;r Senedd yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a sicrhau eu bod yn gwneud eu gwaith yn iawn. Yn ein hymatebion, gofynnwyd i&#8217;r pwyllgorau sicrhau eu bod bob amser &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/blaenoriaethaur-6ed-senedd-yr-hyn-syn-bwysig-yn-ein-barn-ni\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-11-22T17:54:27+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2021-11-22T17:59:49+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/shutterstock_1113194144-e1599230339686.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"5035\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"3357\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Kai Jones\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Kai Jones\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"24 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/blaenoriaethaur-6ed-senedd-yr-hyn-syn-bwysig-yn-ein-barn-ni\/\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/blaenoriaethaur-6ed-senedd-yr-hyn-syn-bwysig-yn-ein-barn-ni\/\",\"name\":\"Blaenoriaethau'r 6ed Senedd \u2013 Yr hyn sy'n bwysig yn ein barn ni - Anabledd Dysgu Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\"},\"datePublished\":\"2021-11-22T17:54:27+00:00\",\"dateModified\":\"2021-11-22T17:59:49+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/blaenoriaethaur-6ed-senedd-yr-hyn-syn-bwysig-yn-ein-barn-ni\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/blaenoriaethaur-6ed-senedd-yr-hyn-syn-bwysig-yn-ein-barn-ni\/\"]}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/\",\"name\":\"Anabledd Dysgu Cymru\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c\",\"name\":\"Kai Jones\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Kai Jones\"},\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/kai-jones\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Blaenoriaethau'r 6ed Senedd \u2013 Yr hyn sy'n bwysig yn ein barn ni - Anabledd Dysgu Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/blaenoriaethaur-6ed-senedd-yr-hyn-syn-bwysig-yn-ein-barn-ni\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Blaenoriaethau'r 6ed Senedd \u2013 Yr hyn sy'n bwysig yn ein barn ni - Anabledd Dysgu Cymru","og_description":"Yn dilyn etholiadau&#8217;r Senedd eleni mae sawl pwyllgor wedi gofyn i bobl Cymru beth ddylai eu blaenoriaethau dros y chwe blynedd nesaf fod. R\u00f4l un o bwyllgorau&#8217;r Senedd yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a sicrhau eu bod yn gwneud eu gwaith yn iawn. Yn ein hymatebion, gofynnwyd i&#8217;r pwyllgorau sicrhau eu bod bob amser &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/blaenoriaethaur-6ed-senedd-yr-hyn-syn-bwysig-yn-ein-barn-ni\/","og_site_name":"Anabledd Dysgu Cymru","article_published_time":"2021-11-22T17:54:27+00:00","article_modified_time":"2021-11-22T17:59:49+00:00","og_image":[{"width":5035,"height":3357,"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/shutterstock_1113194144-e1599230339686.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Kai Jones","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Kai Jones","Est. reading time":"24 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/blaenoriaethaur-6ed-senedd-yr-hyn-syn-bwysig-yn-ein-barn-ni\/","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/blaenoriaethaur-6ed-senedd-yr-hyn-syn-bwysig-yn-ein-barn-ni\/","name":"Blaenoriaethau'r 6ed Senedd \u2013 Yr hyn sy'n bwysig yn ein barn ni - Anabledd Dysgu Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website"},"datePublished":"2021-11-22T17:54:27+00:00","dateModified":"2021-11-22T17:59:49+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/blaenoriaethaur-6ed-senedd-yr-hyn-syn-bwysig-yn-ein-barn-ni\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/blaenoriaethaur-6ed-senedd-yr-hyn-syn-bwysig-yn-ein-barn-ni\/"]}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/","name":"Anabledd Dysgu Cymru","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c","name":"Kai Jones","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g","caption":"Kai Jones"},"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/kai-jones\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/27562"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=27562"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/27562\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":27898,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/27562\/revisions\/27898"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/11675"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=27562"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=27562"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=27562"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}