{"id":30191,"date":"2022-03-10T10:24:37","date_gmt":"2022-03-10T10:24:37","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?p=30191"},"modified":"2022-03-16T16:06:14","modified_gmt":"2022-03-16T16:06:14","slug":"deddf-diwygio-hawliau-dynol-ydy-hawliau-pobl-gydag-anabledd-dysgu-mewn-perygl","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/deddf-diwygio-hawliau-dynol-ydy-hawliau-pobl-gydag-anabledd-dysgu-mewn-perygl\/","title":{"rendered":"Deddf Diwygio Hawliau Dynol: Ydy  hawliau pobl gydag anabledd dysgu mewn perygl?"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae gan Anabledd Dysgu Cymru bryderon dwys am \u00a0<a href=\"https:\/\/assets.publishing.service.gov.uk\/government\/uploads\/system\/uploads\/attachment_data\/file\/1051754\/hra-welsh.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">gynlluniau Llywodraeth y DU i ddiwygio\u2019r Ddeddf Hawliau Dynol<\/a>\u00a0(pdf). Rydym yn bryderus am y rhesymau mae\u2019r Llywodraeth yn eu rhoi dros ddiwygio\u2019r Ddeddf a hefyd am y newidiadau penodol sydd yn cael eu cynnig, a sut y gallant effeithio ar bobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru \u00a0<\/strong><\/p>\n<h2><strong>Hawliau dynol pobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru<\/strong><\/h2>\n<p>Dywed Llywodraeth y DU mai diben y diwygiad ydy \u201cadfer synnwyr cyffredin\u201d ac atal \u201ctwf \u2018diwylliant hawliau\u2019 sydd wedi disodli ffocws dyledus ar gyfrifoldeb personol a budd y cyhoedd\u201d. Dydyn ni ddim yn credu bod y rhain yn rhesymau da dros newid y gyfraith a gwanhau amddiffyniad ein hawliau dynol. Dydy hi ddim yn eglur beth mae\u2019r Llywodraeth yn ei olygu gyda\u2019r term \u2018synnwyr cyffredin\u2019, ond mae\u2019n ymddangos yn synnwyr cyffredin inni mai amddiffyn hawliau dynol ydy pwrpas deddfwriaeth hawliau dynol. Rydym hefyd yn anghytuno bod yna \u2018ddiwylliant hawliau\u2019 cynyddol na chwaith y byddai\u2019n beth drwg pe bai hynny\u2019n bodoli.<\/p>\n<p>Tra bod rhai datblygiadau rhyfeddol mewn hawliau dynol i bobl anabl yng Nghymru dros y degawdau diwethaf, gwelwyd hefyd ddirywiadau trychinebus a thorri ar hawliau dynol, yn enwedig mewn perthynas \u00e2\u2019r pandemig coronafeirws fel a ddangoswyd yn yr adroddiad <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/drws-ar-glo-datgloi-bywydau-hawliau-pobl-anabl-yng-nghymru-ar-ol-covid-19-html\">Cloi Allan<\/a> a hefyd yr astudiaeth.<\/p>\n<p>Byw drwy\u2019r pandemig: Effaith Covid 19 ar Bobl gydag Anabledd Dysgu yng Nghymru. \u00a0Mae\u2019r toriadau yma mewn hawliau dynol wedi digwydd ar ben sefyllfa oedd eisioes yn ddifrifol i nifer o bobl anabl ar draws y DU, fel ag yr amlygwyd mewn adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig yn disgrifio \u201ctoriadau systematig\u201d ar hawliau dynol pobl anabl oherwydd mesurau cyni yn 2016.<\/p>\n<h2><strong>Cynnwys lleisiau pobl anabl<\/strong><\/h2>\n<p>Mae darllen nawr bod Llywodraeth y DU yn credu y dylid gostwng amddiffyniad hawliau dynol ymhellach yn frad dinistriol o\u2019i rwymedigaeth tuag at bobl gydag anabledd dysgu. Mae\u2019r diffyg parch tuag at y gymuned anabledd dysgu hefyd yn amlwg yn y ffordd y mae\u2019r ymgynghoriad yn cael ei gynnal. Does dim fersiynau hawdd eu deall o\u2019r dogfennau. Rhyddhaodd Llywodraeth y DU ddogfen roedden nhw yn ei galw yn fersiwn hawdd ei ddeall ar 24 Chwefror, 12 diwrnod yn unig cyn y dyddiad cau. Nododd llythyr agored gan Grwpiau Pobl Anabl (DPOs) ar draws y DU at y Cyd-Bwyllgor ar Hawliau Dynol yn Senedd y DU nad oedd y fersiwn yma mewn gwirionedd yn hawdd ei ddeall ac mae wedi ei ddisgrifio fel \u00a0<a href=\"https:\/\/www.libertyhumanrights.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Liberty-open-letter-to-the-Lord-Chancellor-Feb-22.pdf\">\u201cannigonol i\u2019r pwynt o fod yn sarhaus\u201d <\/a>(Saesneg) mewn llythyr agopred gan Liberty. Mae\u2019r iaith a ddefnyddir yn dal yn rhy gymhleth a does dim delweddau yn y ddogfen i gefnogi\u2019r testun. Yn bwysicach, dydy\u2019r cynnwys yn y fersiwn \u2018hawdd ei ddeall\u2019 ddim yn cynnwys yr holl wybodaeth bwysig o\u2019r ddogfen wreiddiol.\u00a0 Does dim disgrifiad o\u2019r newidiadau arfaethedig yn y Diwygiad. Mae Pobl yn Gyntaf Sir Benfro a grwpiau anabledd dysgu eraill wedi dadlau bod yr \u00a0<a href=\"https:\/\/www.bihr.org.uk\/News\/pembrokeshire-people-firsts-letter\">ymgynghoriad yn anghyfreithlon<\/a>\u00a0(Saesneg) oherwydd nad oes unrhyw addasiadau rhesymol wedi cael eu gwneud i gefnogi pobl anabl i gymryd rhan yn y broses. Rhwng y cyfnod eithriadol o fyr\u00a0 a roddwyd i ddarllen y fersiwn \u2018hawdd ei ddeall\u2019 ac ansawdd gwael y ddogfen ei hun, ymddengys nad oes gan Lywodraeth y DU unrhyw ddiddordeb mewn cynnwys barn pobl anabl yn yr ymgynghoriad yma.*<\/p>\n<h2><strong>Pwy sydd yn haeddu cael eu hawliau dynol wedi eu hamddiffyn?<\/strong><\/h2>\n<p>O ran cynnwys yr ymgynghoriad, mae nifer wedi nodi bod y newidiadau a gynigir yn rhai drwg iawn ac nad ydy\u2019r rhesymau a roddir gan y Llywodraeth dros fod eisiau newid y Ddeddf Hawliau Dynol gyda Mesur Hawliau yn adlewyrchu realiti. Gellir gweld trosolwg o\u2019r ymatebion <a href=\"https:\/\/www.bihr.org.uk\/human-rights-act-reform\">yma<\/a>\u00a0(Saesneg yn unig).\u00a0Rydym yn bryderus yn neilltuol am y syniad y gellid tynnu mynediad i hawliau dynol i ffwrdd oddi wrth rai pobl. Yn y ddogfen ymgynghori mae Llywodraeth y DU yn ysgrifennu bod \u201cy dibyniaeth cynyddol ar hawliadau hawliau dynol dros y blynyddoedd wedi arwain fodd bynnag at ddiwylliant hawliau wedi\u2019i ddatgyplu o\u2019n cyfrifoldebau fel dinasyddion, ac afleoliad ystyriaeth dyledus i fuddiant ehangach y cyhoedd.\u201d Mae\u2019r ymadrodd yma yn gamarweiniol. Mae yna gyfrifoldebau eisoes yn gysylltiedig \u00e2\u2019r hawliau a nodir yn y Ddeddf Hawliau Dynol. A\u2019r cyfrifoldebau hynny ydy cyfrifoldebau\u2019r wladwriaeth a sefydliadau\u2019r wladwriaeth i barchu hawliau dynol pobl. Nid r\u00f4l y ddeddfwriaeth yma ydy creu \u2018cyfrifoldebau\u2019 i\u2019r bobl y mae\u2019r deddfau yma wedi eu gwneud i\u2019w hamddiffyn. Mae\u2019r ffocws yma ar \u2018gyfrifoldeb\u2019 a lles y cyhoedd fel pe bai\u2019n awgrymu bod Llywodraeth y DU eisiau gwadu hawliau dynol i rai pobl. Ar hyn o bryd, mae\u2019r newid yma yn benodol yn targedu mewnfudwyr sydd yn cyflawni trosedd a phobl sy\u2019n ceisio cael iawndal am dorri hawliau dynol maen nhw wedi ei brofi. Rydym yn anghytuno y dylai rhywun golli ei hawliau dynol oherwydd rhywbeth maen nhw wedi ei wneud. Mae hawliau dynol yn gyffredinol a dydyn ni ddim yn gallu eu gwneud yn berthnasol yn unig i\u2019r bobl hynny rydym ni yn meddwl sydd yn eu haeddu. Mae deddfau a sefydliadau eisoes yn bodoli a fydd yn cosbi rhywun sydd wedi cyflawni trosedd Dydy hynny ddim yn golygu na ddylen nhw bellach gael eu hawliau dynol wedi eu hamddiffyn.<\/p>\n<p>Credwn bod yr awgrym bod rhai pobl yn fwy neu yn llai haeddiannol o gael eu hawliau dynol wedi eu hamddiffyn\u00a0 yn un peryglus iawn. Ni ddylai neb fod yn penderfynu pwy ddylai neu na ddylai gael hawliau dynol \u2013 rhaid iddyn nhw fod yn gyffredinol yn \u00f4l diffiniad. Rydym yn bryderus os bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu tynnu\u00a0 amddiffyniad hawliau dynol i ffwrdd i rai pobl yna gallai hyn arwain at dynnu hawliau dynol i ffwrdd oddi ar grwpiau eraill yn y dyfodol. Os mai dim ond os ydym yn cyflawni cyfrifoldebau penodol yr ydym yn haeddu cael ein hawliau dynol wedi eu hamddiffyn, yna beth sydd yn digwydd i bobl nad ydyn nhw yn deall y cyfrifoldebau hynny yn llwyr? Pa resymau eraill allai fod i gyfiawnhau cyfyngu ar hawliau dynol pobl eraill yn y dyfodol? Mae gan bobl gydag anabledd dysgu hanes maith a thywyll o gael eu hawliau wedi eu torri oherwydd eu namau ac\/neu eu gwahaniaethau. Mae parodrwydd i beidio parchu hawliau rhai pobl oherwydd pwy ydyn nhw yn ein gwneud yn ofnus y bydd hyn yn digwydd eto yn y dyfodol.<\/p>\n<h2><strong>Ei gwneud yn fwy anodd i gael mynediad i lysoedd hawliau dynol<\/strong><\/h2>\n<p>Yn y diwygiadau yma mae Llywodraeth y DU hefyd eisiau gweithredu \u2018cam caniatad\u2019 i sicrhau mai dim ond pobl sydd yn \u2018wirioneddol wedi dioddef toriadau i\u2019w hawliau dynol\u2019 sydd yn cael mynd i\u2019r llys. Maen nhw\u2019n ysgrifennu bod achosion hawliau dynol yn costio gormod i\u2019r llysoedd oherwydd bod pobl yn cyflwyno achosion \u2018gwamal neu annilys\u2019. Yn y cam caniatad, fe fyddai\u2019n rhaid i berson ddangos eu bod wedi dioddef \u2018anfantais sylweddol\u2019 oherwydd bod eu hawliau wedi cael eu torri.<\/p>\n<p>Credwn bod pawb y mae eu hawliau dynol wedi cael eu torri yn haeddu cael cyflwyno eu hachos mewn llys a bod hawlio bod rhai toriadau i hawliau dynol yn \u2018ddinod\u2019 yn niweidiol ynddo\u2019i hun. Ni fydd y cam caniatad yma chwaith yn gwneud dim i atal achosion lle mae rhywun yn dweud celwydd neu \u00a0heb mewn gwirionedd ddioddef torri ar eu hawliau dynol. Yn hytrach nag atal achosion heb sylwedd i gyrraedd llys, fe fydd hyn yn ei gwneud yn fwy anodd i bobl\u00a0 o grwpiau a ymyleiddwyd, er enghraifft pobl gydag anabledd dygsu,\u00a0 i ymladd dros eu hawliau.<\/p>\n<h2><strong>Casgliad<\/strong><\/h2>\n<p>Bwriad y Ddeddf Diwygio Hawliau Dynol a gynnigir gan Lywodraeth y DU ydy ei gwneud yn fwy anodd i bobl frwydro i gael eu hawliau dynol wedi eu hamddiffyn. Mae\u2019r llywodraeth yn hawlio bod yna \u2018ddiwylliant hawliau\u2019 lle mae pobl yn cyflwyno gormnod o achosion yn erbyn Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol oherwydd toriadau i hawliau dynol. Credwn, yn hytrach na\u2019i gwneud yn fwy anodd i bobl yn y DU frwydro dros eu hawliau, y dylai Llywodraeth y DU ganolbwyntio ei ymdrechion\u00a0 yn hytrach ar geisio lleihau\u2019r nifer o doriadau hawliau dynol yn y DU drwy weithio\u2019n agosach gyda\u2019r trydydd sector a chyrff sydd yn gweithio i amddiffyn hawliau dynol pobl. Mae <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/datganiad-ysgrifenedig-ymateb-llywodraeth-cymru-i-ymgynghoriad-llywodraeth-y-du\">Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban <\/a>wedi rhyddhau datganiad ar y cyd yn galw\u2019r ddeddf Diwygio Hawliau Dynol yn \u2018ymosodiad wedi\u2019i chymell yn eidiolegol ar ryddid\u2019 ac maen nhw wedi galw ar Lywodraeth y DU i newid y cynnig. Rydym yn eilio\u2019r alwad yma\u00a0 ac yn annog Llywodraeth y DU i gael gwared yn llwyr ar y Ddeddf Diwygio Hawliau Dynol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<ul>\n<li>Ers ysgrifennu hwn mae\u2019r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cyhoeddi fersiwn hawdd ei ddeall (ar 8 Mawrth 2022) ac wedi caniatau rhai pobl i wneud cais am estyniad. Rydym yn parhau\u2019n bryderus nad ydy cynnwys y dogfennau hawdd eu deall yn cynnwys holl wybodaeth bwysig yr ymgynghoriad<\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae gan Anabledd Dysgu Cymru bryderon dwys am \u00a0gynlluniau Llywodraeth y DU i ddiwygio\u2019r Ddeddf Hawliau Dynol\u00a0(pdf). Rydym yn bryderus am y rhesymau mae\u2019r Llywodraeth yn eu rhoi dros ddiwygio\u2019r Ddeddf a hefyd am y newidiadau penodol sydd yn cael eu cynnig, a sut y gallant effeithio ar bobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru \u00a0 &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/deddf-diwygio-hawliau-dynol-ydy-hawliau-pobl-gydag-anabledd-dysgu-mewn-perygl\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":38,"featured_media":9489,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[30,29,2],"tags":[],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v20.11 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Deddf Diwygio Hawliau Dynol: Ydy hawliau pobl gydag anabledd dysgu mewn perygl? - Anabledd Dysgu Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/deddf-diwygio-hawliau-dynol-ydy-hawliau-pobl-gydag-anabledd-dysgu-mewn-perygl\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Deddf Diwygio Hawliau Dynol: Ydy hawliau pobl gydag anabledd dysgu mewn perygl? - Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae gan Anabledd Dysgu Cymru bryderon dwys am \u00a0gynlluniau Llywodraeth y DU i ddiwygio\u2019r Ddeddf Hawliau Dynol\u00a0(pdf). Rydym yn bryderus am y rhesymau mae\u2019r Llywodraeth yn eu rhoi dros ddiwygio\u2019r Ddeddf a hefyd am y newidiadau penodol sydd yn cael eu cynnig, a sut y gallant effeithio ar bobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru \u00a0 &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/deddf-diwygio-hawliau-dynol-ydy-hawliau-pobl-gydag-anabledd-dysgu-mewn-perygl\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-03-10T10:24:37+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2022-03-16T16:06:14+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/69559252_2544604055775401_3536033483736481792_o-e1664188503608.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1000\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"750\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Samantha Williams\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Samantha Williams\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"7 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/deddf-diwygio-hawliau-dynol-ydy-hawliau-pobl-gydag-anabledd-dysgu-mewn-perygl\/\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/deddf-diwygio-hawliau-dynol-ydy-hawliau-pobl-gydag-anabledd-dysgu-mewn-perygl\/\",\"name\":\"Deddf Diwygio Hawliau Dynol: Ydy hawliau pobl gydag anabledd dysgu mewn perygl? - Anabledd Dysgu Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\"},\"datePublished\":\"2022-03-10T10:24:37+00:00\",\"dateModified\":\"2022-03-16T16:06:14+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/03faba94ff9aa13220a971b327bd01c2\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/deddf-diwygio-hawliau-dynol-ydy-hawliau-pobl-gydag-anabledd-dysgu-mewn-perygl\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/deddf-diwygio-hawliau-dynol-ydy-hawliau-pobl-gydag-anabledd-dysgu-mewn-perygl\/\"]}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/\",\"name\":\"Anabledd Dysgu Cymru\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/03faba94ff9aa13220a971b327bd01c2\",\"name\":\"Samantha Williams\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1001f5dce5ea65b054d78d9d14a89a7c?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1001f5dce5ea65b054d78d9d14a89a7c?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Samantha Williams\"},\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/samantha-williams\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Deddf Diwygio Hawliau Dynol: Ydy hawliau pobl gydag anabledd dysgu mewn perygl? - Anabledd Dysgu Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/deddf-diwygio-hawliau-dynol-ydy-hawliau-pobl-gydag-anabledd-dysgu-mewn-perygl\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Deddf Diwygio Hawliau Dynol: Ydy hawliau pobl gydag anabledd dysgu mewn perygl? - Anabledd Dysgu Cymru","og_description":"Mae gan Anabledd Dysgu Cymru bryderon dwys am \u00a0gynlluniau Llywodraeth y DU i ddiwygio\u2019r Ddeddf Hawliau Dynol\u00a0(pdf). Rydym yn bryderus am y rhesymau mae\u2019r Llywodraeth yn eu rhoi dros ddiwygio\u2019r Ddeddf a hefyd am y newidiadau penodol sydd yn cael eu cynnig, a sut y gallant effeithio ar bobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru \u00a0 &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/deddf-diwygio-hawliau-dynol-ydy-hawliau-pobl-gydag-anabledd-dysgu-mewn-perygl\/","og_site_name":"Anabledd Dysgu Cymru","article_published_time":"2022-03-10T10:24:37+00:00","article_modified_time":"2022-03-16T16:06:14+00:00","og_image":[{"width":1000,"height":750,"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/69559252_2544604055775401_3536033483736481792_o-e1664188503608.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Samantha Williams","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Samantha Williams","Est. reading time":"7 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/deddf-diwygio-hawliau-dynol-ydy-hawliau-pobl-gydag-anabledd-dysgu-mewn-perygl\/","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/deddf-diwygio-hawliau-dynol-ydy-hawliau-pobl-gydag-anabledd-dysgu-mewn-perygl\/","name":"Deddf Diwygio Hawliau Dynol: Ydy hawliau pobl gydag anabledd dysgu mewn perygl? - Anabledd Dysgu Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website"},"datePublished":"2022-03-10T10:24:37+00:00","dateModified":"2022-03-16T16:06:14+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/03faba94ff9aa13220a971b327bd01c2"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/deddf-diwygio-hawliau-dynol-ydy-hawliau-pobl-gydag-anabledd-dysgu-mewn-perygl\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/deddf-diwygio-hawliau-dynol-ydy-hawliau-pobl-gydag-anabledd-dysgu-mewn-perygl\/"]}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/","name":"Anabledd Dysgu Cymru","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/03faba94ff9aa13220a971b327bd01c2","name":"Samantha Williams","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1001f5dce5ea65b054d78d9d14a89a7c?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1001f5dce5ea65b054d78d9d14a89a7c?s=96&d=mm&r=g","caption":"Samantha Williams"},"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/samantha-williams\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30191"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/38"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=30191"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30191\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":30522,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30191\/revisions\/30522"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9489"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=30191"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=30191"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=30191"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}