{"id":30815,"date":"2022-03-22T13:12:55","date_gmt":"2022-03-22T13:12:55","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?p=30815"},"modified":"2022-03-22T13:32:37","modified_gmt":"2022-03-22T13:32:37","slug":"astudiaeth-covid-cymru-yn-amlygu-effaith-pandemig-ar-bobl-ag-anabledd-dysgu-au-teuluoedd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/astudiaeth-covid-cymru-yn-amlygu-effaith-pandemig-ar-bobl-ag-anabledd-dysgu-au-teuluoedd\/","title":{"rendered":"Astudiaeth Covid Cymru yn amlygu effaith pandemig ar bobl ag anabledd dysgu a&#8217;u teuluoedd"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae astudiaeth flwyddyn o hyd wedi canfod bod pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru, a&#8217;u teuluoedd\/cefnogwyr, wedi profi llu o effeithiau negyddol yn ystod y pandemig.<\/strong><\/p>\n<p><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" id=\"longdesc-return-21825\" class=\"alignright wp-image-21825 size-medium\" tabindex=\"-1\" src=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/shutterstock_1733339294-300x200.jpg\" alt=\"Woman with a learning disability wearing a mask talking to a support worker\" width=\"300\" height=\"200\" longdesc=\"https:\/\/www.ldw.org.uk?longdesc=21825&amp;referrer=30811\" \/>Er bod y boblogaeth gyffredinol wedi profi cyfyngiadau symud ac arwahanrwydd, mae adroddiad terfynol astudiaeth Covid Cymru wedi canfod bod yr effeithiau ar bobl ag anabledd dysgu wedi bod yn llawer mwy dwys.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r effeithiau negyddol hyn wedi cynnwys llai o wasanaethau a chymorth, gan gynnwys llawer o bobl y gwrthodwyd gwiriad iechyd blynyddol i lawer ohonynt, sydd yn ei dro wedi rhoi mwy o bwysau ar ofalwyr teuluol; mwy o bryder ac unigrwydd; a gostyngiad difrifol mewn gweithgareddau cymdeithasol a pherthnasoedd.<\/p>\n<h2><strong>Tri phryder uniongyrchol<\/strong><\/h2>\n<p>Mae adroddiad terfynol yr astudiaeth yng Nghymru yn tynnu sylw at yr angen i fynd i&#8217;r afael \u00e2 thri phryder uniongyrchol:<\/p>\n<ol>\n<li>Ystyried yn y dyfodol sut y bydd unrhyw gyfyngiadau sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 phandemig yn effeithio ar bobl ag anableddau dysgu yn y dyfodol.<\/li>\n<li>Sut i wella&#8217;r diffyg cymorth mae pobl wedi&#8217;i brofi gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.<\/li>\n<li>Yr effaith bosibl yn y tymor hwy y gallai byw drwy gyfyngiadau fod wedi&#8217;i chael ar iechyd a lles pobl ag anableddau dysgu a&#8217;r rhai sy&#8217;n eu cefnogi.<\/li>\n<\/ol>\n<p><a href=\"https:\/\/warwick.ac.uk\/fac\/soc\/cedar\/covid19-learningdisability\/results\/policybriefing\/\">Mae&#8217;r adroddiad a fersiwn hawdd ei ddeall i&#8217;w gweld yma.<\/a><\/p>\n<h2>Cefndir<\/h2>\n<p>Wedi&#8217;i ariannu gan Ymchwil ac Arloesi&#8217;r DU, mae&#8217;r astudiaeth yng Nghymru yn rhan o <a href=\"https:\/\/warwick.ac.uk\/fac\/soc\/cedar\/covid19-learningdisability\/\">brosiect ehangach sy&#8217;n ymchwilio i effaith y pandemig ar bobl ag anabledd dysgu ledled y DU<\/a>. Yng Nghymru, mae timau ymchwil o Brifysgol De Cymru a Phrifysgol Caerdydd wedi cynnal yr astudiaeth, gyda chymorth Anabledd Dysgu Cymru, Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan, a Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan.<\/p>\n<p>Cyfwelodd ymchwilwyr ledled y DU, gyda chefnogaeth sefydliadau anabledd dysgu ym mhob gwlad, dros 1,000 o bobl ag anabledd dysgu mewn dau gr\u0175p. Yng ngr\u0175p 1, cyfwelwyd cyfanswm o 685 o bobl ag anableddau dysgu ysgafn a chymedrol o bob rhan o&#8217;r DU dros y ff\u00f4n neu gyfweliadau Zoom. Yng ngr\u0175p 2, cwblhaodd cyfanswm o 448 o ofalwyr teuluol, neu staff cymorth cyflogedig, pobl ag anabledd dysgu mwy difrifol neu ddwys holiadur ar-lein. Cyfwelwyd y grwpiau 3 gwaith (Rhagfyr 2020-Ionawr 2021, Ebrill-Mai 2021 a Gorffennaf-Awst 2021) a gofynnwyd iddyn nhw beth oedd yn digwydd iddyn nhw bryd hynny. Yn ystod y cyfweliadau cyntaf, gofynnwyd i bobl hefyd sut oedd eu bywydau cyn y pandemig.<\/p>\n<p>Roedd gan Gymru gynrychiolaeth dda yn yr astudiaeth gyda 173 o bobl ag anableddau dysgu yn cymryd rhan yn y drydedd rownd o gyfweliadau a 56 o ofalwyr teuluol neu staff cymorth yn cwblhau&#8217;r arolwg ar-lein.<\/p>\n<p>Dyma ddemograffeg y bobl oedd yn rhan o&#8217;r astudiaeth yng Nghymru:<\/p>\n<ul>\n<li>Nododd 50% eu bod yn ddynion a nododd 48% eu bod yn ferched.<\/li>\n<li>Roedd 54% yn iau na 35 mlwydd oed; roedd 31% yn 35-55 mlwydd oed; ac roedd 14% yn h\u0177n na 55.<\/li>\n<li>Roedd 94% wedi&#8217;u nodi yn wyn.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Cafodd yr astudiaeth anhawster wrth recriwtio pobl ag anableddau dysgu o gymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Er mwyn datblygu adroddiad mwy cyflawn ar sut mae profiadau pawb ag anableddau dysgu yng Nghymru, mae&#8217;r adroddiad terfynol yn argymell bod yn rhaid i astudiaethau ac ymgynghoriadau yn y dyfodol ddod o hyd i ffyrdd arloesol o weithio gyda phobl ag anabledd dysgu o&#8217;r cymunedau hyn.<\/p>\n<h2>Canfyddiadau astudiaeth Cymru<\/h2>\n<p>Isod mae crynodeb o&#8217;r adroddiad terfynol a&#8217;i ganfyddiadau.<\/p>\n<h3>Heintiau Covid-19<\/h3>\n<p>Ym mis Ionawr 2021, dywedodd 68% o bobl ag anableddau dysgu yng ngr\u0175p 2 a 55% yng ngr\u0175p 1 fod ganddynt gyflyrau iechyd sylfaenol, megis asthma ac epilepsi, a oedd yn eu gwneud yn bryderus ynghylch dal Covid-19. Ar yr un pryd, dywedodd tua 30% o bobl yn y ddau gr\u0175p eu bod wedi cael prawf Covid-19 yn ddiweddar, gydag un o bob pump yn profi&#8217;n bositif. Roedd hyn yn uwch nag a adroddwyd ar gyfer y boblogaeth ehangach.<\/p>\n<h3>Cydymffurfio \u00e2 rheoliadau Covid<\/h3>\n<p>Ym mis Rhagfyr 2020, dywedodd 89% o gr\u0175p 1 a 73% o gr\u0175p 2 eu bod yn gwisgo mwgwd pan oedden nhw allan. Ym mis Awst 2021, dywedodd 72% o&#8217;r gr\u0175p astudio cyfan eu bod yn credu y dylid cadw gwisgo masgiau a chadw pellter cymdeithasol hyd yn oed pan fydd y cyfyngiadau\u2019n cael eu codi.<\/p>\n<p style=\"padding-left: 60px;\">Dywedodd un person: &#8220;Rwy&#8217;n hapus bod y cyfyngiadau&#8217;n dechrau llacio. Ond rwy&#8217;n teimlo&#8217;n bryderus iawn bod pobl yn dechrau peidio gwisgo masgiau a chadw pellter cymdeithasol.&#8221;<\/p>\n<p>Fe wnaeth yr astudiaeth ganfod y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Roedd pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru yn ymgysylltu \u00e2 chyngor iechyd y cyhoedd er eu diogelwch eu hunain ac er diogelwch pobl eraill.<\/li>\n<li>Roedd pobl ag anableddau dysgu o&#8217;r farn bod cadw pellter cymdeithasol a gwisgo masgiau yn bwysig. Roedden nhw\u2019n teimlo y dylid cynnal y mesurau hyn gan y byddent yn rhoi mwy o hyder iddynt ail-ymgysylltu \u00e2&#8217;u cymunedau lleol.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Yr effaith ar iechyd pobl<\/h3>\n<p>Dywedodd 74% o&#8217;r cyfranogwyr eu bod fel arfer yn cael archwiliad iechyd blynyddol. Ym mis Ionawr 2021, dim ond 36% o gr\u0175p 1 a 24% o gr\u0175p 2 oedd wedi derbyn eu gwiriadau iechyd blynyddol. Yn rhan 3 roedd hyn wedi cynyddu ychydig, gyda 38% o gr\u0175p 1 a 37% o gr\u0175p 2 yn dweud eu bod wedi derbyn eu gwiriad iechyd. Roedd llai na hanner y bobl oedd yn arfer cael archwiliad iechyd blynyddol wedi cael un erbyn mis Awst 2021.<\/p>\n<h3>Yr effaith ar les pobl ag anableddau dysgu<\/h3>\n<p>Ym mis Rhagfyr 2020, aeth Cymru i drydydd cyfnod clo. Dywedodd 84% o bobl yng ngr\u0175p 1 ym mis Ionawr 2021 eu bod yn teimlo&#8217;n unig, yn bryderus neu&#8217;n drist y rhan fwyaf neu&#8217;r cyfan o&#8217;r amser. Erbyn mis Awst 2021, roedd y cyfyngiadau wedi lleddfu rhywfaint, ac roedd pobl yn gallu cyfarfod yn amlach. Ar y pwynt hwn, dywedodd 46% o bobl yng ngr\u0175p 1 eu bod yn unig, yn bryderus, yn drist neu&#8217;n boenus.<\/p>\n<p style=\"padding-left: 60px;\">Dywedodd un person: &#8220;Hoffwn fynd allan eto heb boeni am farw a rhoi coronafeirws i bobl.&#8221;<\/p>\n<p>Fe wnaeth yr astudiaeth ganfod fod cyfyngiadau ar ymweliadau gan deulu neu ffrindiau yn cael eu gosod ar bobl sy&#8217;n byw mewn cartrefi byw \u00e2 chymorth neu gartrefi gofal. Mae\u2019n cael ei gydnabod bod gwasanaethau gofal a chymorth yn gweithio&#8217;n galed i gadw at y rheolau a chadw pobl yn ddiogel. Fodd bynnag, roedd penderfyniadau ynghylch mynd allan neu dderbyn ymwelwyr yn aml yn cael eu gwneud heb i&#8217;r person ei hun gymryd rhan. I rai, parhaodd y cyfyngiadau ychwanegol hyn ar \u00f4l i&#8217;r cyhoedd allu byw gyda llai o gyfyngiadau, oherwydd prinder staff cymorth neu reolau cyffredinol ac asesiadau risg o fewn gwasanaethau.<\/p>\n<p>Cafodd effaith cyfyngiadau ymwelwyr effaith andwyol ar les pawb, yn enwedig y rheini ag anabledd dysgu difrifol. Amlygodd hyn yr angen i fabwysiadu dull gwahanol pe bai cyfyngiadau tebyg yn cael eu gosod yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Fe wnaeth yr astudiaeth ganfod y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Fe wnaeth pobl ag anableddau dysgu brofi iechyd corfforol a lles emosiynol gwael yn ystod y cyfnod clo. Bu rhai gwelliannau mewn lles emosiynol, ond yn llai felly i bobl ag anableddau dysgu mwy difrifol a dwys.<\/li>\n<li>Roedd mynediad at wasanaethau iechyd meddwl wedi&#8217;i gyfyngu&#8217;n ddifrifol ar ddechrau\u2019r cyfnod clo ac mae&#8217;n parhau i fod yn gyfyngedig.<\/li>\n<li>Gallai rhai o&#8217;r anawsterau hyn a brofwyd gan bobl fod yn gysylltiedig \u00e2 ffactorau y tu hwnt i fyw drwy bandemig. Profodd llawer o bobl ag anableddau dysgu farwolaeth rhywun annwyl yn eu bywydau<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Defnyddio gwasanaethau<\/h3>\n<p>Canfu&#8217;r astudiaeth fod pobl ag anabledd dysgu yn cael llai o ofal a chymorth yn ystod y pandemig. Roedd gostyngiad mawr hefyd yn nifer y bobl a oedd yn gallu cael mynediad at wasanaethau dydd. Ym mis Awst 2021, dywedodd traean (32%) o bobl ag anabledd dysgu a gafodd gymorth gan wasanaethau eu bod yn cael llai o gymorth nag yr oedden nhw wedi&#8217;i gael cyn y pandemig. I bobl ag anableddau mwy difrifol a dwys, cynyddodd hyn i 48%.<\/p>\n<p>Dywedodd ychydig dros hanner gr\u0175p 2 eu bod yn defnyddio gwasanaeth dydd yn rheolaidd cyn y cyfnod clo. Erbyn mis Awst 2021, roedd hyn wedi gostwng i 30%. Dywedodd tua 33% o bobl yn y ddau gr\u0175p eu bod wedi defnyddio gwasanaeth seibiant yn rheolaidd cyn y cyfnod clo. Erbyn mis Awst 2021, dywedodd 25% o bobl yng ngr\u0175p 1 eu bod wedi gwneud hynny eto yn ystod y 4 wythnos flaenorol ac ar gyfer gr\u0175p 2 roedd tua 16%.<\/p>\n<p>Cafodd y sefyllfa hon nid yn unig effaith sylweddol ar bobl ag anabledd dysgu, llawer ohonynt yn methu \u00e2 chwrdd \u00e2&#8217;u ffrindiau y tu allan i&#8217;r gwasanaethau dydd, ond hefyd i ofalwyr teuluol a oedd yn gorfod parhau i ddarparu gofal yn ystod y dydd pan fyddai eu hanwyliaid fel arfer yn mynychu gwasanaeth dydd.<\/p>\n<p>Fe wnaeth yr astudiaeth ganfod y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Diflannodd y cymorth gan wasanaethau statudol sydd ar gael i bobl ag anableddau dysgu neu fe&#8217;u gostyngwyd yn sylweddol yn ystod 2021. Er y bu rhywfaint o newid erbyn mis Awst 2021, nid oedd wedi cyrraedd lefelau cyn Covid. Roedd y newid yn is i bobl ag anableddau dysgu mwy difrifol.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Yr effaith ar berthnasoedd cymdeithasol<\/h3>\n<p>Cyn y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020, cymerodd 86% o&#8217;r ddau gr\u0175p ran mewn gweithgareddau cymunedol, er enghraifft, ymweld \u00e2 grwpiau cymunedol, caffis a siopa. Ar \u00f4l hyn, dywedodd 72% o bobl yng ngr\u0175p 1 ac 83% o gr\u0175p 2 nad oedd hyn yn wir mwyach. Erbyn mis Awst 2021, roedd 57% o gr\u0175p 1 a 48% o gr\u0175p 2 yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol. Mae&#8217;n amlwg nad oedd cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig. Fodd bynnag, dywedodd rhai pobl eu bod bellach yn cael mwy o gyswllt \u00e2 chymdogion lleol a phobl sy&#8217;n byw gerllaw nag erioed o&#8217;r blaen.<\/p>\n<p style=\"padding-left: 60px;\">Dywedodd un person: &#8220;Rwy&#8217;n sgwrsio mwy \u00e2&#8217;m cymdogion, ac rwy&#8217;n teimlo&#8217;n fwy hyderus wrth siarad \u00e2&#8217;r bobl sy&#8217;n byw yn agos i&#8217;r lle rwy&#8217;n byw. Rwy&#8217;n credu fy mod bellach wedi cwrdd \u00e2&#8217;m holl gymdogion ers i&#8217;r pandemig ddechrau. Mae fy nghymdogion hefyd wedi bod yn helpu ei gilydd pan fydd pobl ei angen.&#8221;<\/p>\n<p>Dim ond 33% o bobl yng ngr\u0175p 2 oedd yn defnyddio\u2019r rhyngrwyd o gymharu \u00e2 92% o gr\u0175p 1. Nid oedd pawb yn gallu defnyddio&#8217;r rhyngrwyd yn annibynnol na phryd bynnag yr oedden nhw am wneud hynny.<\/p>\n<p style=\"padding-left: 60px;\">Tynnodd un rhiant sylw at effaith methu \u00e2 gweld ei mab, sy&#8217;n byw mewn t\u0177 \u00e2 chymorth, arni hi a gweddill y teulu:\u00a0Mae angen sicrwydd cyson arno bod ei deulu&#8217;n ei garu, ei angen ac yn gallu ei weld. Mae&#8217;n ei chael hi&#8217;n anodd ymgysylltu&#8217;n llawn drwy Zoom. Arweiniodd peidio \u00e2 gallu gweld ei deulu&#8217;n bersonol at ei iechyd meddwl yn dioddef, fel y gwnaeth iechyd meddwl ei deulu.<\/p>\n<p>Fe wnaeth yr astudiaeth ganfod y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Roedd bywydau cymdeithasol pobl ag anableddau dysgu wedi&#8217;u cyfyngu&#8217;n ddifrifol yn ystod Covid ac nid ydynt wedi gwella&#8217;n llwyr eto.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Yr effaith ar ofalwyr<\/h3>\n<p>Mae&#8217;r pandemig wedi cael effaith fawr ar les gofalwyr teuluol a staff cymorth cyflogedig. Yn ogystal \u00e2 hyn, bu gostyngiad yn nifer y bobl ag anabledd dysgu a oedd yn gallu cael mynediad at wasanaethau dydd a seibiant. Roedd hyn yn golygu bod gofal eu hanwyliaid yn dibynnu&#8217;n llwyr ar ofalwyr teuluol.<\/p>\n<p>Gofynnodd yr astudiaeth i ofalwyr teuluol a staff cymorth cyflogedig am yr effaith yr oedd y pandemig wedi&#8217;i chael arnyn nhw eu hunain. Ym mis Rhagfyr 2020, dywedodd 68% eu bod yn teimlo dan straen, ac ym mis Awst 2021 roedd yr un peth yn wir i raddau helaeth (71%). Ar ddechrau&#8217;r astudiaeth dywedodd 64% bod eu cwsg wedi cael ei amharu, gyda 60% yn dweud eu bod yn teimlo&#8217;n flinedig a 47% yn isel eu hysbryd. Erbyn mis Awst 2021 roedd y lefelau hyn yn debyg: Dywedodd 61% bod eu cwsg wedi cael ei darfu, dywedodd 78% eu bod nhw\u2019n teimlo&#8217;n flinedig a dywedodd 43% eu bod yn isel eu hysbryd. Dim ond 8% ym mis Rhagfyr 2020 a ddywedodd &#8220;nad oedd yr un o&#8217;r profiadau hyn&#8221; yn berthnasol iddyn nhw, gan ostwng i 7% ym mis Awst 2021.<\/p>\n<p style=\"padding-left: 60px;\">Dywedodd un gofalwr teuluol: \u201cNi allaf adael fy mab gartref yn ddiogel ar ei ben ei hun. Mae&#8217;r prif effaith wedi bod arnaf fi. Mae&#8217;r holl gyfrifoldebau arna i.&#8221;<\/p>\n<p style=\"padding-left: 60px;\">Dywedodd gweithiwr cymorth cyflogedig: &#8220;Roedd y person rwy&#8217;n ei gefnogi yn arfer cael pedwar diwrnod yr wythnos, nawr mae\u2019n 2 ddiwrnod bob pythefnos. Mae hyn yn golygu bod gan ei ofalwr lwyth gwaith hyd yn oed yn fwy.\u201d<\/p>\n<p>Fe wnaeth yr astudiaeth ganfod y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Bu&#8217;n rhaid i ofalwyr teulu ymgymryd \u00e2 mwy o rolau gofalu ar sail 24\/7 am ran helaeth o 2020 a pharhaodd hyn i 2021 wrth i&#8217;r gostyngiadau mewn gwasanaethau barhau.<\/li>\n<li>Dywedodd llawer o ofalwyr teuluol neu staff cymorth cyflogedig fod y rolau gofalu ychwanegol wedi cael effaith negyddol arnyn nhw a&#8217;u lles yn ystod 2020. Erbyn mis Awst 2021, roedd y niferoedd hyn wedi cynyddu.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Y dyfodol<\/h3>\n<p>Dywedodd un o bob tri o bobl yng ngr\u0175p 1 eu bod yn credu y gallai eu bywydau fynd yn \u00f4l i&#8217;r ffordd yr arferai fod mewn 12 mis neu fwy, ond dywedodd y rhan fwyaf o bobl (42%) nad oedden nhw\u2019n si\u0175r pryd y byddai hyn yn digwydd.<\/p>\n<p>Gofynnwyd i bobl beth fyddai&#8217;n bwysig iddynt pe bai cyfyngiadau symud yn y dyfodol. Roedd llawer o syniadau ond roedd y rhan fwyaf yn canolbwyntio ar y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>help gyda siopa<\/li>\n<li>cymorth i weld meddyg teulu<\/li>\n<li>cymorth i gael meddyginiaethau<\/li>\n<li>gwybodaeth fwy hygyrch am gyfnodau clo<\/li>\n<li>cymorth i ddefnyddio&#8217;r rhyngrwyd neu ff\u00f4n symudol.<\/li>\n<\/ul>\n<p style=\"padding-left: 60px;\">Dywedodd un unigolyn ei fod eisiau &#8220;pethau bach iawn. Mynd am goffi gyda ffrind. Rydw i eisiau mynd i wylio&#8217;r rygbi, ond dyw fy mam ddim yn barod i adael i mi. Rwyf am fynd yn \u00f4l i farchogaeth ceffylau hefyd.&#8221;<\/p>\n<p>Fe wnaeth Prif Swyddog Gweithredol Anabledd Dysgu Cymru, Zoe Richards, sylwadau ar ganfyddiadau&#8217;r astudiaeth a&#8217;i gobeithion ar gyfer y dyfodol:<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;n amlwg o nifer y bobl yng Nghymru a gyfrannodd at yr ymchwil fod awydd gan bobl i rannu eu profiad yn ystod y pandemig. I&#8217;r rhan fwyaf, roedd eu profiad yn negyddol, ac roedd pobl yn teimlo y gwahaniaethwyd yn eu herbyn ymhellach oherwydd eu hanabledd dysgu. Wrth i ni symud yn awr i greu byd gwell ar \u00f4l y pandemig, mae&#8217;n hanfodol ein bod yn cydnabod yr heriau a&#8217;r dioddefaint mae pobl wedi&#8217;u hwynebu a bod llais pobl ag anabledd dysgu ynghyd \u00e2 gofalwyr teuluol yn cynnig cyfeiriad wrth gynllunio&#8217;r hyn sydd nesaf&#8221;.<\/p>\n<h2>Cynllun Gweithredu Anabledd Dysgu<\/h2>\n<p>Pan oedd yr adroddiad yn cael ei ysgrifennu, roedd Llywodraeth Cymru yn datblygu Cynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu, sy&#8217;n amlinellu sut y bydd cymorth a gwasanaethau i bobl ag anabledd dysgu yn cael eu darparu rhwng 2021 a 2026. Mae llawer o&#8217;r pethau y gofynnwyd amdanynt yn yr astudiaeth hefyd wedi&#8217;u cynnwys yn y cynllun gweithredu drafft. Cyfeiriodd Anabledd Dysgu Cymru at y canfyddiadau canlynol o astudiaeth Covid yn ein <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cyfle-i-ddweud-eich-barn-am-gynllun-gweithredu-anabledd-dysgu-drafft-llywodraeth-cymru\/\">hymateb diweddar i&#8217;r ymgynghoriad ar y cynllun<\/a> drafft:<\/p>\n<ul>\n<li>Rydyn ni angen ffyrdd newydd o ddod o hyd i bobl ag anableddau dysgu sy&#8217;n ddu, Asiaidd neu o gymuned lleiafrifoedd ethnig a siarad \u00e2 nhw. Bydd hyn yn sicrhau bod penderfyniadau&#8217;n cynnwys pawb.<\/li>\n<li>Mae angen i ni ddarganfod mwy am fywydau pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru. Bydd hyn yn helpu i gynllunio gwell gwasanaethau. Fe wnaeth cydweithio fel partneriaeth o ymchwilwyr a gwahanol sefydliadau helpu i wneud i&#8217;r astudiaeth hon ddigwydd. Gallai ymchwil yn y dyfodol ddysgu o hyn.<\/li>\n<li>Mae llawer o bobl ag anableddau dysgu yn teimlo&#8217;n unig ac wedi&#8217;u hynysu. Fe wnaeth y pandemig hyn yn waeth. Roedd defnyddio ffonau a&#8217;r rhyngrwyd i siarad \u00e2 phobl yn helpu. Ond mae&#8217;n well gan bobl gwrdd ag eraill yn bersonol. Dylai help i ddefnyddio ffonau a&#8217;r rhyngrwyd fod yn rhan o gymorth o ddydd i ddydd, nid yn rhywbeth ychwanegol.<\/li>\n<li>Mae angen cynnwys pobl ag anableddau dysgu wrth gynllunio cymorth ar gyfer pobl mae eu hanwyliaid wedi marw.<\/li>\n<li>Cymerodd llawer o bobl ran yn yr astudiaeth. Roedden nhw am ddweud eu dweud. Gwnaed llawer o benderfyniadau i bobl yn ystod y pandemig, hyd yn oed penderfyniadau y gall pobl eu gwneud drostyn nhw eu hunain. Mae&#8217;n bwysig bod pobl ag anableddau dysgu yn cael eu cynnwys wrth wneud penderfyniadau yn y dyfodol.<\/li>\n<li>Roedd pobl ag anableddau dysgu yn poeni am eu swyddi cyflogedig yn ystod y pandemig. Mae angen mwy o gymorth i helpu pobl i aros mewn swyddi ac i bobl gael y cyfle i weithio.<\/li>\n<li>Yn ystod coronafeirws, nid oedd pobl ag anableddau dysgu yn teimlo eu bod yn cael eu hystyried pan wnaed penderfyniadau a rheolau. Rhaid i hyn newid.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Cynigion<\/h2>\n<p>Daw&#8217;r cynigion canlynol o fersiwn hawdd ei ddeall o&#8217;r adroddiad terfynol.<\/p>\n<p><strong>Mewn argyfyngau iechyd yn y dyfodol, mae angen i benderfynwyr feddwl am:<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Sut i gefnogi pobl ag anableddau dysgu i barhau i weld anwyliaid.<\/li>\n<li>Sut i gefnogi iechyd meddwl a lles pobl ag anableddau dysgu.<\/li>\n<li>Sut i helpu pobl i gadw&#8217;r un ansawdd bywyd.<\/li>\n<li>Sut i sicrhau bod hawliau pobl ag anableddau dysgu yn cael eu parchu gymaint \u00e2 phobloedd eraill.<\/li>\n<li>Sut i gynnwys pobl ag anableddau dysgu, eu gofalwyr teuluol a staff cymorth cyflogedig wrth adolygu rheolau am coronafeirws.<\/li>\n<li>Dylai&#8217;r holl reolau a gwybodaeth newydd fod yn hawdd eu darllen.<\/li>\n<li>Dylid gwneud cynlluniau fel nad yw pobl ag anableddau dysgu yn colli cymorth.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Y camau nesaf<\/h2>\n<p>Bwriedir cynnal digwyddiad yn ddiweddarach eleni i drafod canfyddiadau&#8217;r astudiaeth a gwaith yn y dyfodol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae astudiaeth flwyddyn o hyd wedi canfod bod pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru, a&#8217;u teuluoedd\/cefnogwyr, wedi profi llu o effeithiau negyddol yn ystod y pandemig. Er bod y boblogaeth gyffredinol wedi profi cyfyngiadau symud ac arwahanrwydd, mae adroddiad terfynol astudiaeth Covid Cymru wedi canfod bod yr effeithiau ar bobl ag anabledd dysgu wedi bod &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/astudiaeth-covid-cymru-yn-amlygu-effaith-pandemig-ar-bobl-ag-anabledd-dysgu-au-teuluoedd\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":21826,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[29,28],"tags":[],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v20.11 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Astudiaeth Covid Cymru yn amlygu effaith pandemig ar bobl ag anabledd dysgu a&#039;u teuluoedd - Anabledd Dysgu Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/astudiaeth-covid-cymru-yn-amlygu-effaith-pandemig-ar-bobl-ag-anabledd-dysgu-au-teuluoedd\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Astudiaeth Covid Cymru yn amlygu effaith pandemig ar bobl ag anabledd dysgu a&#039;u teuluoedd - Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae astudiaeth flwyddyn o hyd wedi canfod bod pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru, a&#8217;u teuluoedd\/cefnogwyr, wedi profi llu o effeithiau negyddol yn ystod y pandemig. Er bod y boblogaeth gyffredinol wedi profi cyfyngiadau symud ac arwahanrwydd, mae adroddiad terfynol astudiaeth Covid Cymru wedi canfod bod yr effeithiau ar bobl ag anabledd dysgu wedi bod &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/astudiaeth-covid-cymru-yn-amlygu-effaith-pandemig-ar-bobl-ag-anabledd-dysgu-au-teuluoedd\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-03-22T13:12:55+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2022-03-22T13:32:37+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/shutterstock_1733339294-e1617116055626.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1000\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"667\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Kai Jones\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Kai Jones\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"14 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/astudiaeth-covid-cymru-yn-amlygu-effaith-pandemig-ar-bobl-ag-anabledd-dysgu-au-teuluoedd\/\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/astudiaeth-covid-cymru-yn-amlygu-effaith-pandemig-ar-bobl-ag-anabledd-dysgu-au-teuluoedd\/\",\"name\":\"Astudiaeth Covid Cymru yn amlygu effaith pandemig ar bobl ag anabledd dysgu a'u teuluoedd - Anabledd Dysgu Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\"},\"datePublished\":\"2022-03-22T13:12:55+00:00\",\"dateModified\":\"2022-03-22T13:32:37+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/astudiaeth-covid-cymru-yn-amlygu-effaith-pandemig-ar-bobl-ag-anabledd-dysgu-au-teuluoedd\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/astudiaeth-covid-cymru-yn-amlygu-effaith-pandemig-ar-bobl-ag-anabledd-dysgu-au-teuluoedd\/\"]}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/\",\"name\":\"Anabledd Dysgu Cymru\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c\",\"name\":\"Kai Jones\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Kai Jones\"},\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/kai-jones\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Astudiaeth Covid Cymru yn amlygu effaith pandemig ar bobl ag anabledd dysgu a'u teuluoedd - Anabledd Dysgu Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/astudiaeth-covid-cymru-yn-amlygu-effaith-pandemig-ar-bobl-ag-anabledd-dysgu-au-teuluoedd\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Astudiaeth Covid Cymru yn amlygu effaith pandemig ar bobl ag anabledd dysgu a'u teuluoedd - Anabledd Dysgu Cymru","og_description":"Mae astudiaeth flwyddyn o hyd wedi canfod bod pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru, a&#8217;u teuluoedd\/cefnogwyr, wedi profi llu o effeithiau negyddol yn ystod y pandemig. Er bod y boblogaeth gyffredinol wedi profi cyfyngiadau symud ac arwahanrwydd, mae adroddiad terfynol astudiaeth Covid Cymru wedi canfod bod yr effeithiau ar bobl ag anabledd dysgu wedi bod &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/astudiaeth-covid-cymru-yn-amlygu-effaith-pandemig-ar-bobl-ag-anabledd-dysgu-au-teuluoedd\/","og_site_name":"Anabledd Dysgu Cymru","article_published_time":"2022-03-22T13:12:55+00:00","article_modified_time":"2022-03-22T13:32:37+00:00","og_image":[{"width":1000,"height":667,"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/shutterstock_1733339294-e1617116055626.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Kai Jones","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Kai Jones","Est. reading time":"14 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/astudiaeth-covid-cymru-yn-amlygu-effaith-pandemig-ar-bobl-ag-anabledd-dysgu-au-teuluoedd\/","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/astudiaeth-covid-cymru-yn-amlygu-effaith-pandemig-ar-bobl-ag-anabledd-dysgu-au-teuluoedd\/","name":"Astudiaeth Covid Cymru yn amlygu effaith pandemig ar bobl ag anabledd dysgu a'u teuluoedd - Anabledd Dysgu Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website"},"datePublished":"2022-03-22T13:12:55+00:00","dateModified":"2022-03-22T13:32:37+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/astudiaeth-covid-cymru-yn-amlygu-effaith-pandemig-ar-bobl-ag-anabledd-dysgu-au-teuluoedd\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/astudiaeth-covid-cymru-yn-amlygu-effaith-pandemig-ar-bobl-ag-anabledd-dysgu-au-teuluoedd\/"]}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/","name":"Anabledd Dysgu Cymru","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c","name":"Kai Jones","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g","caption":"Kai Jones"},"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/kai-jones\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30815"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=30815"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30815\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":30823,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30815\/revisions\/30823"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/21826"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=30815"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=30815"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=30815"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}