{"id":37980,"date":"2024-05-02T13:15:33","date_gmt":"2024-05-02T12:15:33","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?p=37980"},"modified":"2024-05-14T13:17:13","modified_gmt":"2024-05-14T12:17:13","slug":"deiseb-i-roi-diwedd-ar-gadw-pobl-ag-anabledd-dysgu-yn-yr-ysbyty","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/deiseb-i-roi-diwedd-ar-gadw-pobl-ag-anabledd-dysgu-yn-yr-ysbyty\/","title":{"rendered":"Deiseb i roi diwedd ar gadw pobl ag anabledd dysgu yn yr ysbyty"},"content":{"rendered":"<h4><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" class=\"alignright size-medium wp-image-37973\" src=\"http:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/20240417_134152-225x300.jpg\" alt=\"Group of people outside the Senedd all holding protest placards\" width=\"225\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/20240417_134152-225x300.jpg 225w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/20240417_134152-768x1024.jpg 768w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/20240417_134152-1152x1536.jpg 1152w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/20240417_134152-1536x2048.jpg 1536w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/20240417_134152-600x800.jpg 600w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/20240417_134152-scaled.jpg 1920w\" sizes=\"(max-width: 225px) 100vw, 225px\" \/>Mae Anabledd Dysgu Cymru yn gofyn i chi lofnodi a rhannu deiseb i atal pobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig rhag cael eu cadw yn yr ysbyty.<\/h4>\n<p>Daw hyn ar \u00f4l i brotest y tu allan i&#8217;r Senedd weld cannoedd yn ymgynnull i alw am ryddhau pobl ag anabledd dysgu a\/neu bobl awtistig o leoliadau ysbyty diogel yng Nghymru.<\/p>\n<h3><strong>Beth mae&#8217;r ddeiseb yn galw amdano<\/strong><\/h3>\n<p>Mae&#8217;r brotest <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/homes-not-hospital-protest-learning-disability-wales-backs-stolen-lives-campaign\/\">Cartrefi Nid Ysbytai<\/a> a&#8217;r ddeiseb wedi cael ei threfnu gan Stolen Lives, gr\u0175p ymgyrchu o deuluoedd a gofalwyr pobl ag anabledd dysgu a\/neu awtistiaeth o Gymru sydd wedi cael eu cadw mewn ysbytai.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r ddeiseb yn dweud: &#8220;Mae yna bobl gydag anableddau dysgu a\/neu awtistiaeth o Gymru sy&#8217;n byw mewn ysbytai. Mae hon yn sgandal hawliau dynol sydd wedi cael ei hanwybyddu am gyfnod rhy hir.<\/p>\n<p>&#8220;Mae llawer o bobl ag anableddau dysgu a\/neu awtistiaeth yn gaeth mewn ysbytai oherwydd diffyg tai a chefnogaeth briodol yn eu cymuned. Mae llawer ohonynt yn cael eu hanfon i ysbyty oherwydd problemau lleoliadau, ac maen nhw wedi&#8217;u gosod yn amhriodol.<\/p>\n<p>&#8220;Rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod nad rhannu pobl o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yw&#8217;r ateb.&#8221;<\/p>\n<p>Os yw&#8217;r ddeiseb yn cyflawni 10,000 o lofnodion, yna bydd yn cael ei hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd. Bydd hyn yn golygu bod y mater hwn yn cael yr amlygrwydd gwleidyddol y mae&#8217;n ei haeddu fel y gall newid ddigwydd.<\/p>\n<h3><strong>Beth mae ymgyrchwyr yn ei ddweud<\/strong><\/h3>\n<p>Siaradodd Dawn Cavanagh o&#8217;r gr\u0175p ymgyrchu Stolen Lives yn angerddol yn y brotest, gan ddweud: &#8220;Fyddwn ni byth yn blino ymladd dros ein plant, a fyddwn ni byth yn blino ymladd am yr hyn sy&#8217;n iawn a dyna pam rydyn ni yma heddiw.<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;r ffordd mae cymdeithas yn trin ei thrigolion mwyaf bregus bob amser yn fesur o&#8217;i dynoliaeth. Pan fyddwn ni\u2019n rhoi&#8217;r gorau i weld pobl fel bodau dynol, bydd hawliau dynol yn cael eu torri.<\/p>\n<p>&#8220;Bydd eich cefnogaeth yn rhoi cysur i&#8217;r teuluoedd sy&#8217;n ymladd dros eu hanwyliaid. Mae&#8217;n drawmatig iawn cael rhywun annwyl dan glo yn yr ysbyty.&#8221;<\/p>\n<p>Cafodd Sophie Hinksman, aelod o Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan a chyd-Gadeirydd gr\u0175p Cynghori Gweinidogol Anabledd Dysgu, ei rhoi mewn uned ddiogel mewn ysbyty ei hun ac mae&#8217;n credu bod angen gwell dealltwriaeth o anabledd dysgu.<\/p>\n<p>Rhannodd ei stori yn y brotest, gan egluro bod ei harhosiad yn yr ysbyty wedi effeithio&#8217;n ddifrifol ar ei hiechyd meddwl a&#8217;i lles. Dywedodd: &#8220;Rhaid i ni beidio \u00e2 drysu iechyd meddwl gydag anabledd dysgu. Maen nhw&#8217;n wahanol iawn.&#8221;<\/p>\n<p>Mae Sioned Williams AS, Cadeirydd Gr\u0175p Trawsbleidiol y Senedd ar Anabledd Dysgu, yn cefnogi&#8217;r ymgyrch ac fe wnaeth annerch y rali. Dywedodd: &#8220;Mae gosod pobl mewn ysbytai ac unedau yn amhriodol yn fy meddwl yn torri hawliau dynol yn sylfaenol. Arweiniodd Cymru&#8217;r ffordd 40 mlynedd yn \u00f4l, ond mae arnaf ofn, bod angen i ni deimlo cywilydd fel cenedl bod yr anghyfiawnder hwn yn cael parhau.&#8221;<\/p>\n<h3><strong>Beth mae Anabledd Dysgu Cymru yn ei ddweud<\/strong><\/h3>\n<p>Mae mwy na 40 mlynedd ers cyhoeddi Strategaeth arloesol Cymru Gyfan gyntaf yn 1983, oedd \u00e2&#8217;r nod o gael pobl ag anabledd dysgu allan o ysbytai arhosiad hir a chael cymorth i fyw yn eu cymunedau lleol.<\/p>\n<p>Mae Zoe Richards, Prif Weithredwr Anabledd Dysgu Cymru, eisiau i bobl rannu&#8217;r ddeiseb mor eang \u00e2 phosib.<\/p>\n<p>Dywedodd: &#8220;Daeth y brotest yn y Senedd \u00e2 sylw&#8217;r cyhoedd at y realiti pryderus bod pobl ag anabledd dysgu yn cael eu cadw yn yr ysbyty yn hytrach na chael gofal a chefnogaeth yn eu cymunedau.<\/p>\n<p>&#8220;Ond mae&#8217;r ymgyrchu newydd ddechrau, ac rydym ni\u2019n parhau i gefnogi&#8217;r gr\u0175p Stolen Lives. Wrth i ni siarad \u00e2 chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru a chodi ymwybyddiaeth o hyn gyda gwleidyddion o bob plaid, byddem yn annog pawb i lofnodi a rhannu&#8217;r ddeiseb fel bod y mater hwn yn cael ei drafod yn y Senedd.<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;n hanfodol bod lleisiau teuluoedd y rhai sy&#8217;n cael eu heffeithio yn cael eu clywed a&#8217;u straeon yn cael eu clywed a&#8217;u deall &#8211; a bod camau yn cael eu cymryd i atal cadw pobl ag anabledd dysgu a\/neu awtistiaeth yn yr ysbyty.&#8221;<\/p>\n<h3><strong>Sut i gymryd rhan<\/strong><\/h3>\n<p>I lofnodi a rhannu&#8217;r ddeiseb ewch i: <a href=\"https:\/\/deisebau.senedd.cymru\/deisebau\/246179\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">https:\/\/deisebau.senedd.cymru\/deisebau\/246179<\/a><\/p>\n<p>Gallwch ddarllen maniffesto Stolen Lives, gan gynnwys fersiynau hawdd eu deall, yma: <a href=\"https:\/\/stolenlives.blog\/\">Blog Stolen Lives<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Anabledd Dysgu Cymru yn gofyn i chi lofnodi a rhannu deiseb i atal pobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig rhag cael eu cadw yn yr ysbyty. Daw hyn ar \u00f4l i brotest y tu allan i&#8217;r Senedd weld cannoedd yn ymgynnull i alw am ryddhau pobl ag anabledd dysgu a\/neu bobl awtistig o &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/deiseb-i-roi-diwedd-ar-gadw-pobl-ag-anabledd-dysgu-yn-yr-ysbyty\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":38,"featured_media":37976,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[29,28],"tags":[],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v20.11 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Deiseb i roi diwedd ar gadw pobl ag anabledd dysgu yn yr ysbyty - Anabledd Dysgu Cymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Mae Anabledd Dysgu Cymru yn gofyn i chi lofnodi a rhannu deiseb i atal pobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig rhag cael eu cadw yn yr ysbyty.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/deiseb-i-roi-diwedd-ar-gadw-pobl-ag-anabledd-dysgu-yn-yr-ysbyty\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Deiseb i roi diwedd ar gadw pobl ag anabledd dysgu yn yr ysbyty - Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae Anabledd Dysgu Cymru yn gofyn i chi lofnodi a rhannu deiseb i atal pobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig rhag cael eu cadw yn yr ysbyty.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/deiseb-i-roi-diwedd-ar-gadw-pobl-ag-anabledd-dysgu-yn-yr-ysbyty\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2024-05-02T12:15:33+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-05-14T12:17:13+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"http:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/20240417_122644-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1920\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Samantha Williams\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Samantha Williams\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"4 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/deiseb-i-roi-diwedd-ar-gadw-pobl-ag-anabledd-dysgu-yn-yr-ysbyty\/\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/deiseb-i-roi-diwedd-ar-gadw-pobl-ag-anabledd-dysgu-yn-yr-ysbyty\/\",\"name\":\"Deiseb i roi diwedd ar gadw pobl ag anabledd dysgu yn yr ysbyty - Anabledd Dysgu Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\"},\"datePublished\":\"2024-05-02T12:15:33+00:00\",\"dateModified\":\"2024-05-14T12:17:13+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/03faba94ff9aa13220a971b327bd01c2\"},\"description\":\"Mae Anabledd Dysgu Cymru yn gofyn i chi lofnodi a rhannu deiseb i atal pobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig rhag cael eu cadw yn yr ysbyty.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/deiseb-i-roi-diwedd-ar-gadw-pobl-ag-anabledd-dysgu-yn-yr-ysbyty\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/deiseb-i-roi-diwedd-ar-gadw-pobl-ag-anabledd-dysgu-yn-yr-ysbyty\/\"]}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/\",\"name\":\"Anabledd Dysgu Cymru\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/03faba94ff9aa13220a971b327bd01c2\",\"name\":\"Samantha Williams\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1001f5dce5ea65b054d78d9d14a89a7c?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1001f5dce5ea65b054d78d9d14a89a7c?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Samantha Williams\"},\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/samantha-williams\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Deiseb i roi diwedd ar gadw pobl ag anabledd dysgu yn yr ysbyty - Anabledd Dysgu Cymru","description":"Mae Anabledd Dysgu Cymru yn gofyn i chi lofnodi a rhannu deiseb i atal pobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig rhag cael eu cadw yn yr ysbyty.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/deiseb-i-roi-diwedd-ar-gadw-pobl-ag-anabledd-dysgu-yn-yr-ysbyty\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Deiseb i roi diwedd ar gadw pobl ag anabledd dysgu yn yr ysbyty - Anabledd Dysgu Cymru","og_description":"Mae Anabledd Dysgu Cymru yn gofyn i chi lofnodi a rhannu deiseb i atal pobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig rhag cael eu cadw yn yr ysbyty.","og_url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/deiseb-i-roi-diwedd-ar-gadw-pobl-ag-anabledd-dysgu-yn-yr-ysbyty\/","og_site_name":"Anabledd Dysgu Cymru","article_published_time":"2024-05-02T12:15:33+00:00","article_modified_time":"2024-05-14T12:17:13+00:00","og_image":[{"width":1920,"height":2560,"url":"http:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/20240417_122644-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Samantha Williams","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Samantha Williams","Est. reading time":"4 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/deiseb-i-roi-diwedd-ar-gadw-pobl-ag-anabledd-dysgu-yn-yr-ysbyty\/","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/deiseb-i-roi-diwedd-ar-gadw-pobl-ag-anabledd-dysgu-yn-yr-ysbyty\/","name":"Deiseb i roi diwedd ar gadw pobl ag anabledd dysgu yn yr ysbyty - Anabledd Dysgu Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website"},"datePublished":"2024-05-02T12:15:33+00:00","dateModified":"2024-05-14T12:17:13+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/03faba94ff9aa13220a971b327bd01c2"},"description":"Mae Anabledd Dysgu Cymru yn gofyn i chi lofnodi a rhannu deiseb i atal pobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig rhag cael eu cadw yn yr ysbyty.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/deiseb-i-roi-diwedd-ar-gadw-pobl-ag-anabledd-dysgu-yn-yr-ysbyty\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/deiseb-i-roi-diwedd-ar-gadw-pobl-ag-anabledd-dysgu-yn-yr-ysbyty\/"]}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/","name":"Anabledd Dysgu Cymru","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/03faba94ff9aa13220a971b327bd01c2","name":"Samantha Williams","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1001f5dce5ea65b054d78d9d14a89a7c?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1001f5dce5ea65b054d78d9d14a89a7c?s=96&d=mm&r=g","caption":"Samantha Williams"},"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/samantha-williams\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/37980"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/38"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=37980"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/37980\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":38854,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/37980\/revisions\/38854"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/37976"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=37980"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=37980"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=37980"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}