{"id":39634,"date":"2024-06-21T14:34:03","date_gmt":"2024-06-21T13:34:03","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?p=39634"},"modified":"2024-06-21T14:34:03","modified_gmt":"2024-06-21T13:34:03","slug":"cefnogi-oedolion-ag-anabledd-dysgu-i-gael-cyfeillgarwch-perthynas-rhamant-agosatrwydd-a-rhyw-iach","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cefnogi-oedolion-ag-anabledd-dysgu-i-gael-cyfeillgarwch-perthynas-rhamant-agosatrwydd-a-rhyw-iach\/","title":{"rendered":"Cefnogi oedolion ag anabledd dysgu i gael cyfeillgarwch, perthynas, rhamant, agosatrwydd a rhyw iach"},"content":{"rendered":"<p><strong>Fel rhan o&#8217;r Wythnos Anabledd Dysgu, rydym wedi gwahodd Corrina Williams, cyfarwyddwraig Cwmni Addysg Rhyw i siarad am y gwaith hanfodol y mae Cwmni Addysg Rhyw yn ei wneud i helpu oedolion ag anabledd dysgu i gael perthynas hapus ac iach.<\/strong><\/p>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Dyma&#8217;r cyntaf o gyfres barhaus sy&#8217;n tynnu sylw at aelodau Anabledd Dysgu Cymru a&#8217;r gwaith pwysig y maent yn ei wneud. Os hoffech ysgrifennu blog am waith eich sefydliad, e-bostiwch <\/span><a style=\"background-color: #f0f0f0; font-size: 2.1rem;\" href=\"mailto:kai.jones@ldw.org.uk\">kai.jones@ldw.org.uk<\/a><span style=\"font-size: 2.1rem;\">.<\/span><\/p>\n<hr \/>\n<div class=\"wp-block-image\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" class=\"wpa-warning wpa-suspicious-alt alignright wp-image-35080 size-medium\" src=\"http:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Untitled-design-1-300x199.png\" alt=\"A diverse image showing 3 couples hugging each other\" width=\"300\" height=\"199\" data-warning=\"Suspicious alt text\" srcset=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Untitled-design-1-300x199.png 300w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Untitled-design-1-768x508.png 768w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Untitled-design-1-600x397.png 600w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Untitled-design-1.png 940w\" sizes=\"(max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/div>\n<p>Corrina Williams yw fy enw i, ac rwy&#8217;n ddigon ffodus i fod yn gyfarwyddwraig <a href=\"https:\/\/www.sexeducationcompany.org\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cwmni Addysg Rhyw<\/a>. Mae Cwmni Addysg Rhyw yn gwmni cymdeithasol, nid er elw, sydd wedi&#8217;i leoli yng Ngwynedd. Rydym yn darparu prosiectau a ariennir yng Ngogledd Cymru, yn ogystal \u00e2 gweithdai, hyfforddiant ac ymgynghoriaeth ledled Cymru, y DU a thu hwnt (diolch i hwyslustod dysgu ar-lein ar \u00f4l y pandemig).<\/p>\n<p>Mae Cwmni Addysg Rhyw bellach wedi hen ennill ei blwyf fel asiantaeth ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb sy&#8217;n seiliedig ar hawliau (RSE) a chymorth meithrin sgiliau i&#8217;r rhai y gall eu hamgylchiadau bywyd gyflwyno rhwystrau i gyfeillgarwch teg, hapus ac iach, rhyw rhamant ac agosatrwydd. Mae ein sefydliad yn cynnwys fy hun, fy mhartner gyfarwyddwr, Mel Gadd, a&#8217;n t\u00eem cynyddol o staff medrus.<\/p>\n<h3><strong>Dim digon o wybodaeth hygyrch, gormod o bwyll<\/strong><\/h3>\n<p>Yn 2020, cysylltodd darpariaeth eiriolaeth leol \u00e2 ni i archwilio mynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r bwlch sylweddol mewn addysg a dealltwriaeth ynghylch hawliau oedolion ag anableddau dysgu i gael cyfleoedd cyfeillgarwch a pherthynas. Roedd yn teimlo&#8217;n glir bod (ac yn dal i fod!) diffyg gwybodaeth briodol a dealladwy ar gael i unigolion yn y gymuned anabledd dysgu. Roedd diwylliant o bryder uwch hefyd ynghylch diogelu ymhlith y rhai a oedd yn darparu cymorth a gofal, a oedd yn aml yn rhwystro hawliau pobl.<\/p>\n<p>Gwnaethom gais i&#8217;r gwasanaeth trawsnewid anabledd dysgu lleol am gyllid i ddechrau diwallu&#8217;r angen hwn. Buom yn llwyddiannus yn ein cais a\u00a0 ganwyd <a href=\"https:\/\/www.sexeducationcompany.org\/english-saesneg\/our-projects\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">prosiect Sparc<\/a>.<\/p>\n<p>Mae Sparc yn cynnig RSE pwrpasol, dan arweiniad anghenion a sesiynau sgiliau i oedolion ag anableddau dysgu. Mae ganddo&#8217;r nod cyffredinol o arfogi pobl \u00e2 sgiliau a gwybodaeth i helpu i chwalu rhai o&#8217;r rhwystrau y maent yn eu profi o ran cael perthnasoedd teg ac agosatrwydd.\u00a0 Rydym fel arfer yn gweithio un i un neu gyda chyplau, ond rydym hefyd yn cynnal gweithdai dysgu gr\u0175p yn ogystal \u00e2 chynnig diwrnodau hyfforddi rheolaidd yn y gweithle i gefnogi staff.<\/p>\n<p>Felly, beth ddysgon ni o redeg ein rhaglen Sparc? Yn anffodus, rydym yn canfod yn gyson bod ein rhesymau cychwynnol dros ddechrau&#8217;r gwaith yn dal i fodoli. Mae diffyg ymwybyddiaeth gyffredinol o hawliau a diffyg mewnwelediad i sut i gefnogi pobl i gael y cyfleoedd gorau a mwyaf i fynd allan i gymdeithasu, cwrdd \u00e2 phobl newydd a gwneud cysylltiadau cymdeithasol neu ramantus newydd.<\/p>\n<h3 style=\"padding-left: 40px;\"><strong>&#8220;Yn gyffredinol, mae byd rhamant a rhyw o fewn y gymuned anabledd dysgu yn parhau i fod yn rhywbeth y mae darparwyr gofal ac unigolion eu hunain yn or-ofalus ohono.&#8221;<\/strong><\/h3>\n<p>Rydym yn deall bod y pwyllo a ddaw o systemau a gwasanaethau cymorth yn dod o le sy&#8217;n dymuno cadw pobl yn ddiogel ac yn hapus. Fodd bynnag, mae byd rhamant a rhyw o fewn y gymuned anabledd dysgu yn parhau i fod yn rhywbeth y mae darparwyr gofal ac unigolion eu hunain yn or-ofalus ohono. Yn aml mae&#8217;n canolbwyntio ar fregusrwydd neu berygl posibl, yn hytrach na&#8217;r llawenydd a&#8217;r manteision y gellid eu hennill o&#8217;r perthnasoedd a&#8217;r profiadau hyn.<\/p>\n<p>Trwy greu lle diogel a gweithio gydag unigolion i ganolbwyntio ar eu meysydd angen neu bryder, ac archwilio beth yw eu nodau perthynas ac agosatrwydd, gallwn nodi rhwystrau a gweithio tuag at atebion realistig.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n ffaith drist na fydd y mwyafrif helaeth o oedolion ag anabledd dysgu mewn partneriaethau tymor hir na pherthnasoedd rhamantus, ac nad yw hynny i lawer yr ydym yn eu cefnogi yn rhywbeth y maent yn disgwyl ei brofi.<\/p>\n<h3><strong>Blaenoriaethu perthynas iach a hapus<\/strong><\/h3>\n<p>Nod Sparc yw magu hyder a lleihau ofn a stigma ynghylch mynd i berthnasoedd a helpu pobl i ddeall eu hawliau a&#8217;u cyfrifoldebau. Bydd y rhain yn cynnwys materion ymarferol, megis trefniadau cymorth i hwyluso cyfleoedd cymdeithasol neu fynd ar dd\u00eat, i gyfyng-gyngor perthynas fel trafod atal cenhedlu neu sicrhau cydsyniad llawn ar gyfer unrhyw weithgaredd rhywiol.<\/p>\n<p>Mae angen i asiantaethau a darparwyr cymorth wneud yn well a chydweithio i gefnogi a galluogi hawliau&#8217;r gymuned anabledd dysgu. Mae Cwmni Addysg Rhyw yn credu bod addysg yn fan cychwyn allweddol ar gyfer hyn. Gallwn gefnogi staff i gydbwyso hawliau person anabl \u00e2&#8217;u cyfrifoldebau diogelu neu ofalu a rhoi perthnasoedd iach ac agosatrwydd ar yr agenda.<\/p>\n<p>Dylid ystyried perthnasoedd iach a hapus i bawb fel y norm, yn hytrach nag fel rhai arbennig neu anarferol. Gallwn barhau i weithio gyda&#8217;n gilydd i gefnogi pobl i fod yn ddiogel. Yn fwy diogel mewn gwirionedd, wrth i bobl ennill eu cryfderau a&#8217;u gwytnwch eu hunain.<\/p>\n<p>Mae meithrin diwylliant lle mae staff a gwasanaethau cymorth yn teimlo&#8217;n ddiogel, yn fedrus ac yn ddigon hyderus i gefnogi oedolion ag anableddau dysgu i gymryd rhan mewn cymryd risgiau cadarnhaol o ran eu perthnasoedd a&#8217;u rhyw, yn bwysig. Mae angen canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud, a lle mae cyfeillgarwch, rhamant ac agosatrwydd bob amser ar yr agenda. Gall hyn arwain, nid yn unig mewn mwy a gwell perthnasoedd a chyfleoedd i unigolion, ond mewn llesiant cynyddol a llai o anghenion cymorth yn gyffredinol.<\/p>\n<p>Ein nod yn y pen draw yma yng Nghwmni Addysg Rhyw yw parhau i fodloni&#8217;r angen hwn am addysg a chefnogi a datblygu hawliau pobl i gael y math o berthynas y maent am ei chael&#8230;&#8230; Mae&#8217;r un peth \u00e2 phawb arall!<\/p>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Am fwy o wybodaeth am Gwmni Addysg Rhyw, ewch i&#8217;w gwefan yn: <\/span><a style=\"background-color: #f0f0f0; font-size: 2.1rem;\" href=\"https:\/\/www.sexeducationcompany.org\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">https:\/\/www.sexeducationcompany.org<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Fel rhan o&#8217;r Wythnos Anabledd Dysgu, rydym wedi gwahodd Corrina Williams, cyfarwyddwraig Cwmni Addysg Rhyw i siarad am y gwaith hanfodol y mae Cwmni Addysg Rhyw yn ei wneud i helpu oedolion ag anabledd dysgu i gael perthynas hapus ac iach. Dyma&#8217;r cyntaf o gyfres barhaus sy&#8217;n tynnu sylw at aelodau Anabledd Dysgu Cymru a&#8217;r &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cefnogi-oedolion-ag-anabledd-dysgu-i-gael-cyfeillgarwch-perthynas-rhamant-agosatrwydd-a-rhyw-iach\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":39635,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[28],"tags":[],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v20.11 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Cefnogi oedolion ag anabledd dysgu i gael cyfeillgarwch, perthynas, rhamant, agosatrwydd a rhyw iach - Anabledd Dysgu Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cefnogi-oedolion-ag-anabledd-dysgu-i-gael-cyfeillgarwch-perthynas-rhamant-agosatrwydd-a-rhyw-iach\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cefnogi oedolion ag anabledd dysgu i gael cyfeillgarwch, perthynas, rhamant, agosatrwydd a rhyw iach - Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Fel rhan o&#8217;r Wythnos Anabledd Dysgu, rydym wedi gwahodd Corrina Williams, cyfarwyddwraig Cwmni Addysg Rhyw i siarad am y gwaith hanfodol y mae Cwmni Addysg Rhyw yn ei wneud i helpu oedolion ag anabledd dysgu i gael perthynas hapus ac iach. Dyma&#8217;r cyntaf o gyfres barhaus sy&#8217;n tynnu sylw at aelodau Anabledd Dysgu Cymru a&#8217;r &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cefnogi-oedolion-ag-anabledd-dysgu-i-gael-cyfeillgarwch-perthynas-rhamant-agosatrwydd-a-rhyw-iach\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2024-06-21T13:34:03+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"http:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Relationships-welsh.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"940\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"622\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Kai Jones\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Kai Jones\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cefnogi-oedolion-ag-anabledd-dysgu-i-gael-cyfeillgarwch-perthynas-rhamant-agosatrwydd-a-rhyw-iach\/\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cefnogi-oedolion-ag-anabledd-dysgu-i-gael-cyfeillgarwch-perthynas-rhamant-agosatrwydd-a-rhyw-iach\/\",\"name\":\"Cefnogi oedolion ag anabledd dysgu i gael cyfeillgarwch, perthynas, rhamant, agosatrwydd a rhyw iach - Anabledd Dysgu Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\"},\"datePublished\":\"2024-06-21T13:34:03+00:00\",\"dateModified\":\"2024-06-21T13:34:03+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cefnogi-oedolion-ag-anabledd-dysgu-i-gael-cyfeillgarwch-perthynas-rhamant-agosatrwydd-a-rhyw-iach\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cefnogi-oedolion-ag-anabledd-dysgu-i-gael-cyfeillgarwch-perthynas-rhamant-agosatrwydd-a-rhyw-iach\/\"]}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/\",\"name\":\"Anabledd Dysgu Cymru\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c\",\"name\":\"Kai Jones\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Kai Jones\"},\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/kai-jones\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cefnogi oedolion ag anabledd dysgu i gael cyfeillgarwch, perthynas, rhamant, agosatrwydd a rhyw iach - Anabledd Dysgu Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cefnogi-oedolion-ag-anabledd-dysgu-i-gael-cyfeillgarwch-perthynas-rhamant-agosatrwydd-a-rhyw-iach\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Cefnogi oedolion ag anabledd dysgu i gael cyfeillgarwch, perthynas, rhamant, agosatrwydd a rhyw iach - Anabledd Dysgu Cymru","og_description":"Fel rhan o&#8217;r Wythnos Anabledd Dysgu, rydym wedi gwahodd Corrina Williams, cyfarwyddwraig Cwmni Addysg Rhyw i siarad am y gwaith hanfodol y mae Cwmni Addysg Rhyw yn ei wneud i helpu oedolion ag anabledd dysgu i gael perthynas hapus ac iach. Dyma&#8217;r cyntaf o gyfres barhaus sy&#8217;n tynnu sylw at aelodau Anabledd Dysgu Cymru a&#8217;r &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cefnogi-oedolion-ag-anabledd-dysgu-i-gael-cyfeillgarwch-perthynas-rhamant-agosatrwydd-a-rhyw-iach\/","og_site_name":"Anabledd Dysgu Cymru","article_published_time":"2024-06-21T13:34:03+00:00","og_image":[{"width":940,"height":622,"url":"http:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Relationships-welsh.png","type":"image\/png"}],"author":"Kai Jones","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Kai Jones","Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cefnogi-oedolion-ag-anabledd-dysgu-i-gael-cyfeillgarwch-perthynas-rhamant-agosatrwydd-a-rhyw-iach\/","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cefnogi-oedolion-ag-anabledd-dysgu-i-gael-cyfeillgarwch-perthynas-rhamant-agosatrwydd-a-rhyw-iach\/","name":"Cefnogi oedolion ag anabledd dysgu i gael cyfeillgarwch, perthynas, rhamant, agosatrwydd a rhyw iach - Anabledd Dysgu Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website"},"datePublished":"2024-06-21T13:34:03+00:00","dateModified":"2024-06-21T13:34:03+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cefnogi-oedolion-ag-anabledd-dysgu-i-gael-cyfeillgarwch-perthynas-rhamant-agosatrwydd-a-rhyw-iach\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cefnogi-oedolion-ag-anabledd-dysgu-i-gael-cyfeillgarwch-perthynas-rhamant-agosatrwydd-a-rhyw-iach\/"]}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/","name":"Anabledd Dysgu Cymru","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c","name":"Kai Jones","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g","caption":"Kai Jones"},"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/kai-jones\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39634"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39634"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39634\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":39637,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39634\/revisions\/39637"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/39635"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39634"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39634"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39634"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}