{"id":39983,"date":"2024-07-30T11:12:11","date_gmt":"2024-07-30T10:12:11","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/connections-cymru-event-provides-insight-into-day-services-in-wales\/"},"modified":"2024-07-30T11:29:55","modified_gmt":"2024-07-30T10:29:55","slug":"connections-cymru-event-provides-insight-into-day-services-in-wales","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/connections-cymru-event-provides-insight-into-day-services-in-wales\/","title":{"rendered":"Digwyddiad Cysylltiadau Cymru yn rhoi cipolwg ar wasanaethau dydd yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p><strong><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" class=\"wp-image-39979 size-medium alignright\" src=\"http:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Untitled-design-7-300x300.png\" alt=\"a woman and a man choosing activities from a visual communication board\" width=\"300\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Untitled-design-7-300x300.png 300w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Untitled-design-7-1024x1024.png 1024w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Untitled-design-7-150x150.png 150w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Untitled-design-7-768x768.png 768w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Untitled-design-7-600x600.png 600w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Untitled-design-7-100x100.png 100w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Untitled-design-7.png 1080w\" sizes=\"(max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/strong><\/p>\n<p><strong>Mae Anabledd Dysgu Cymru yn bryderus iawn am y gostyngiad mewn gwasanaethau dydd dros y blynyddoedd diwethaf. Yng nghyfarfod diweddar ein rhwydwaith Cysylltiadau Cymru daethom \u00e2 phobl ynghyd i archwilio sut mae&#8217;r ddarpariaeth wedi newid ers y pandemig a beth mae&#8217;r newidiadau hynny wedi ei olygu i&#8217;r bobl sy&#8217;n eu defnyddio.<\/strong><\/p>\n<p>Sefydlwyd <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/project\/cysylltiadau-cymru\/\">Cysylltiadau Cymru<\/a> i ddod \u00e2 phobl ynghyd i drafod sut y gallwn fynd i&#8217;r afael ag unigrwydd ac unigedd cymdeithasol, y problemau, rhannu arfer da a chreu newid.<\/p>\n<p>Ers Covid, ac oherwydd pwysau cynyddol ar gyllidebau awdurdodau lleol, mae llawer o wasanaethau dydd yng Nghymru wedi cael eu newid, eu lleihau neu eu dileu.<\/p>\n<h3><strong>Beth a drafodwyd yn y digwyddiad?<\/strong><\/h3>\n<p>Canfu&#8217;r digwyddiad Cysylltiadau Cymru lawer o bwyntiau ar gyfer gwella darpariaeth gwasanaethau dydd, ond hefyd datblygu syniadau ar gyfer optimistiaeth a chyfle i roi&#8217;r ddarpariaeth mae pobl ag anabledd dysgu \u00a0ei heisiau a&#8217;i hangen.<\/p>\n<p>Roedd y rhain yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>Symud y syniad am wasanaethau dydd i &#8216;wasanaethau bywyd&#8217; yn lle hynny.<\/li>\n<li>Defnyddio asedau cymunedol wrth sefydlu gwasanaethau.<\/li>\n<li>Gwneud cydgynhyrchu&#8217;n ganolog i ddylunio darpariaeth.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae&#8217;r heriau yn y ddarpariaeth gwasanaeth dydd yn adlewyrchu problemau systemig eraill sy&#8217;n atal pobl ag anabledd dysgu rhag byw bywydau boddhaus a hapus lle mae ganddynt ddewis, llais a rheolaeth. Ymhlith y rhwystrau hynny mae diffyg hygyrchedd i drafnidiaeth gyhoeddus, bylchau mewn profiad o gydgynhyrchu yn y sector cyhoeddus, ac ymagwedd un maint i bawb at atebion ar gyfer gwasanaethau i bobl ag anabledd dysgu.<\/p>\n<p>Er y gallai rhai gwasanaethau dydd traddodiadol fod yn gyfyngedig o ran caniat\u00e1u i bobl fynegi eu hunain, dysgu, datblygu sgiliau a darparu gweithgareddau ystyrlon, roedd llawer yn cynnig cyfleoedd i gysylltu a meithrin cyfeillgarwch. Mae colli gwasanaethau o&#8217;r fath ers Covid yn aml wedi cyflymu ymdeimlad o unigrwydd ac unigedd cymdeithasol i lawer o bobl ag anabledd dysgu.<\/p>\n<h3><strong>Beth am gomisiynu?<\/strong><\/h3>\n<p>Yn \u00f4l canllawiau, dylai comisiynu gwasanaethau dydd gynnwys y bobl sy&#8217;n eu defnyddio, a dylai cydgynhyrchu fod yn rhan o hynny.<\/p>\n<p>Canfu trafodaethau gr\u0175p nifer o heriau yn y maes hwn:<\/p>\n<ul>\n<li>Mae cyfyngiadau amser a chyllideb yn cyfyngu ar faint o gydgynhyrchu sy&#8217;n digwydd.<\/li>\n<li>Mae angen mwy o ddysgu i sicrhau dealltwriaeth briodol o&#8217;r hyn yw cydgynhyrchu mewn gwirionedd.<\/li>\n<li>Diffyg gwybodaeth i bobl ddarganfod beth sydd ar gael.<\/li>\n<li>Nid oes gan lawer o bobl weithiwr cymdeithasol i eirioli ar eu rhan.<\/li>\n<li>Mae&#8217;r gostyngiad mewn gwasanaethau dydd yn effeithio ar les teuluoedd.<\/li>\n<li>Mae llai o oriau mewn gwasanaethau dydd i bobl ag anabledd dysgu wedi golygu cynnydd yn nifer y bobl sy&#8217;n profi unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.<\/li>\n<li>Mae pobl yn adrodd am lai o gyfranogiad mewn cyfarfodydd. Mewn un achos mae hyn oherwydd diffyg mynediad i drafnidiaeth, heb unrhyw opsiwn ar gyfer cyfarfodydd ar-lein yn lle hynny.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae angen diwygio gwasanaethau yn seiliedig ar gomisiynu a gydgynhyrchwyd i roi&#8217;r adnoddau mae pobl ag anabledd dysgu eu hangen i fyw bywydau da.<\/p>\n<p>Mae darparu gwasanaethau dydd yng Nghymru yn glytwaith, gydag anghysondebau yn y ddarpariaeth ar draws awdurdodau lleol.\u00a0 Mae&#8217;r pandemig wedi gwneud y gwahaniaethau hyn yn fwy difrifol.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n golygu bod anghenion pobl ag anabledd dysgu yn aml yn mynd heb eu diwallu, gyda&#8217;r dyhead o gael gwasanaethau a gydgynhyrchir yn dioddef oherwydd bod adnoddau yn lleihau.<\/p>\n<p>I rai, nid yw gwasanaethau dydd yn briodol, i eraill maen nhw. Pan maen nhw\u2019n cael eu cau, neu pan fydd newidiadau&#8217;n digwydd, dywedodd pobl nad oedd neb yn aml yn ymgynghori gyda nhw. Felly, mae penderfyniadau&#8217;n cael eu gwneud heb siarad \u00e2&#8217;r bobl sy&#8217;n defnyddio&#8217;r gwasanaethau hyn.<\/p>\n<h3><strong>Pa bethau da sy&#8217;n digwydd nawr?<\/strong><\/h3>\n<p>Er gwaethaf y pwysau ar adnoddau a chyllid llywodraeth leol, mae digon o arfer da yn digwydd.<\/p>\n<p>Yn Sir y Fflint, er enghraifft, clywsom sut roedd gwasanaethau dydd wedi cael eu hallanoli 7 mlynedd yn \u00f4l. Cynlluniwyd y gwasanaethau newydd trwy ymgysylltu \u00e2 phob parti, gan adeiladu ar ddarpariaeth a gweithgareddau oedd yn bodoli yn ogystal ag ychwanegu opsiynau newydd fel trin gwallt a garddio. Mae&#8217;r newidiadau hyn wedi rhoi cyfleoedd i bobl ddysgu sgiliau newydd a mwynhau mwy o amrywiaeth yn y pethau maen nhw&#8217;n eu gwneud.<\/p>\n<p>Mae yna hefyd ymdeimlad bod y rhan fwyaf o wasanaethau dydd ond yn gweithredu rhwng 9-5 yn hytrach na chynnig hyblygrwydd yn eu horiau i gyd-fynd ag anghenion a dymuniadau pobl i gael cyfleoedd amrywiol, tra hefyd yn darparu&#8217;r pethau y mae pobl eu heisiau, yn hytrach na&#8217;r hyn y mae darparwyr yn credu sydd ei angen arnynt.<\/p>\n<p>Un o&#8217;r prif them\u00e2u a ddaeth i&#8217;r amlwg o&#8217;r drafodaeth oedd bod cydgynhyrchu o ansawdd da yn hanfodol wrth greu adnoddau a gwasanaethau a fydd yn diwallu anghenion y bobl sy&#8217;n eu defnyddio.<\/p>\n<h3><strong>Beth yw&#8217;r heriau?<\/strong><\/h3>\n<p>Roedd pobl yn cytuno bod angen meddwl mwy am anghenion pontio&#8217;r cenedlaethau oherwydd yn aml nid yw gwasanaethau wedi&#8217;u cynllunio ar gyfer gwahanol grwpiau oedran a phobl \u00e2 diddordebau gwahanol. Mae&#8217;r heriau hyn yn adlewyrchu barn gwasanaethau dydd trwy lens draddodiadol o ddealltwriaeth o&#8217;r hyn y dylai&#8217;r gwasanaethau hyn ei gynnwys, yn hytrach na siarad \u00e2 defnyddwyr a dysgu&#8217;r hyn y maent ei eisiau.<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2 chysylltu \u00e2 phobl eraill ag anabledd dysgu, dylai gwasanaethau dydd hefyd gysylltu \u00e2 chymunedau, gan integreiddio ac ymgorffori pobl i&#8217;r lleoedd y maent yn dod ohonynt fel y gallant gyfrannu at lesiant y cymunedau hynny, ac ehangu dealltwriaeth o anabledd dysgu.<\/p>\n<h3><strong>Beth ddywedodd awdurdodau lleol?<\/strong><\/h3>\n<p>Roedd cydnabyddiaeth bod llawer o wasanaethau dydd wedi newid, yn dechrau newid neu, mewn rhai achosion, angen newid. Mae clytwaith y ddarpariaeth yn golygu bod llawer o wasanaethau dydd sy&#8217;n werth chweil ac yn rhoi opsiynau da i bobl ar gyfer sut maen nhw&#8217;n treulio eu hamser.<\/p>\n<p>Weithiau gall hynny fod mewn canolfan ddydd, ar adegau eraill mae&#8217;n golygu rhoi ystod ehangach o opsiynau i bobl. Clywodd y rhwydwaith bod canolfannau dydd yn gallu bod yn rhy gaeth i amserlen ac yn gyfyngol yn hytrach na rhoi opsiynau hyblyg sy&#8217;n cyd-fynd \u00e2 bywydau ac hanghenion pobl. Dywedodd cynghorau eu bod yn ceisio newid pethau er gwell ond eu bod yn gorfod gweithredu mewn amgylchedd ariannol anodd.<\/p>\n<p>Mae Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru (ADSS Cymru)<a href=\"https:\/\/www.adss.cymru\/cy\/blog\/post\/review-of-day-opportunities-and-respite-short-break-services-report\"> wedi nodi rhai heriau allweddol wrth ddarparu gwasanaethau dydd<\/a> yn sgil y pandemig:<\/p>\n<ul>\n<li>Dylid adolygu gwasanaethau dydd, gofal seibiant a gwasanaethau seibiant byr.<\/li>\n<li>Mae angen gwerthuso heriau, pwysau ac adnoddau&#8217;r gweithlu i ddeall sut y gall staff medrus alluogi newid, ond hefyd i nodi&#8217;r rhwystrau sy&#8217;n eu hatal rhag gwneud hynny.<\/li>\n<li>Beth yw&#8217;r cyfleoedd i gydweithio \u00e2 chyflogwyr i ehangu&#8217;r ddarpariaeth gwasanaeth dydd?<\/li>\n<li>Sut gall technoleg a thrafnidiaeth gynorthwyo i ddarparu gwasanaethau dydd a pha adnoddau sydd ar gael?<\/li>\n<li>Dylai egwyddorion cydgynhyrchu gael eu hymgorffori ym mhob cam o&#8217;r ddarpariaeth, gan wneud gwasanaethau&#8217;n effeithiol a sicrhau eu bod yn defnyddio adnoddau&#8217;n effeithlon.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae Mencap, ynghyd \u00e2&#8217;r Consortiwm Anabledd Dysgu y mae Anabledd Dysgu Cymru yn aelod ohono,<a href=\"https:\/\/wales.mencap.org.uk\/sites\/default\/files\/2023-07\/Future%20of%20Day%20Services%20Mencap%20Cymru.pdf?fbclid=IwZXh0bgNhZW0CMTAAAR2f6GNrW8IjnxjsWjcvYMidRYH3H0rT6sxPIGa2b4lg6Y8uV1CfThD0OBg_aem_cDoI3FzmejpOVyEq46JCww\"> wedi nodi cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru eu mabwysiadu ar wasanaethau dydd<\/a>. Pwrpas yr argymhellion hyn yw adeiladu safon genedlaethol ar gyfer cydgynhyrchu er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu dylunio a&#8217;u darparu&#8217;n gyson. Trafodwyd hyn yn y digwyddiad.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r argymhellion yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>Safon ymgynghori genedlaethol.<\/li>\n<li>Diffiniadau a safonau cenedlaethol ar gyfer cydgynhyrchu.<\/li>\n<li>Dyletswydd ar awdurdodau lleol a darparwyr i esbonio sut mae newidiadau i wasanaethau dydd wedi cael eu cydgynhyrchu.<\/li>\n<li>Dylai effaith newidiadau i wasanaethau dydd ar bobl, eu teuluoedd a&#8217;u gofalwyr fod yn annatod pan wneir unrhyw newidiadau.<\/li>\n<\/ul>\n<h3><strong>Ein barn ar wasanaethau dydd<\/strong><\/h3>\n<p>Dywedodd Zoe Richards, Prif Weithredwr Anabledd Dysgu Cymru: &#8220;Roedd ein digwyddiad Cysylltiadau Cymru yn gyfle i ddysgu am y pethau da sy&#8217;n digwydd mewn gwasanaethau dydd yng Nghymru ar hyn o bryd, ond hefyd yr heriau.<\/p>\n<p>&#8220;Yr hyn rydyn ni wedi&#8217;i weld yw ei bod hi&#8217;n ymddangos bod gwahaniaethau yn y mathau o ddarpariaeth sydd ar gael, sut mae&#8217;r system wedi newid ers Covid a&#8217;r hyn sy&#8217;n cael ei weld fel arfer da mewn cydgynhyrchu.<\/p>\n<p>&#8220;Mae digon o waith i&#8217;w wneud wrth ddatblygu gwasanaethau i bobl ag anabledd dysgu sy&#8217;n gweithio i bawb ac sy&#8217;n darparu gweithgareddau a chysylltiadau ystyrlon nad ydynt yn gweithredu yn ystod oriau swyddfa yn unig.<\/p>\n<p>&#8220;Ein cynllun nawr yw adeiladu ar hyn a defnyddio&#8217;r egni o ddigwyddiad Cysylltiadau Cymru i roi llwyfan i ysbrydoliaeth a thrafodaeth bellach yng nghynhadledd flynyddol Anabledd Dysgu Cymru yn ddiweddarach eleni.<\/p>\n<p>&#8220;Rydym yn gwybod bod pwysau yn cael ei deimlo yn y sector cyhoeddus a&#8217;r trydydd sector yng Nghymru ar hyn o bryd, ond rydym hefyd yn credu yng ngrym ein hymdrech ar y cyd i greu lle gwell i fyw i bobl ag anabledd dysgu.&#8221;<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Anabledd Dysgu Cymru yn bryderus iawn am y gostyngiad mewn gwasanaethau dydd dros y blynyddoedd diwethaf. Yng nghyfarfod diweddar ein rhwydwaith Cysylltiadau Cymru daethom \u00e2 phobl ynghyd i archwilio sut mae&#8217;r ddarpariaeth wedi newid ers y pandemig a beth mae&#8217;r newidiadau hynny wedi ei olygu i&#8217;r bobl sy&#8217;n eu defnyddio. Sefydlwyd Cysylltiadau Cymru i &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/connections-cymru-event-provides-insight-into-day-services-in-wales\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":39980,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[29,28],"tags":[],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v20.11 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Digwyddiad Cysylltiadau Cymru yn rhoi cipolwg ar wasanaethau dydd yng Nghymru - Anabledd Dysgu Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/connections-cymru-event-provides-insight-into-day-services-in-wales\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Digwyddiad Cysylltiadau Cymru yn rhoi cipolwg ar wasanaethau dydd yng Nghymru - Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae Anabledd Dysgu Cymru yn bryderus iawn am y gostyngiad mewn gwasanaethau dydd dros y blynyddoedd diwethaf. Yng nghyfarfod diweddar ein rhwydwaith Cysylltiadau Cymru daethom \u00e2 phobl ynghyd i archwilio sut mae&#8217;r ddarpariaeth wedi newid ers y pandemig a beth mae&#8217;r newidiadau hynny wedi ei olygu i&#8217;r bobl sy&#8217;n eu defnyddio. Sefydlwyd Cysylltiadau Cymru i &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/connections-cymru-event-provides-insight-into-day-services-in-wales\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2024-07-30T10:12:11+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-07-30T10:29:55+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"http:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Untitled-design-7.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1080\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1080\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Kai Jones\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Kai Jones\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"7 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/connections-cymru-event-provides-insight-into-day-services-in-wales\/\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/connections-cymru-event-provides-insight-into-day-services-in-wales\/\",\"name\":\"Digwyddiad Cysylltiadau Cymru yn rhoi cipolwg ar wasanaethau dydd yng Nghymru - Anabledd Dysgu Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\"},\"datePublished\":\"2024-07-30T10:12:11+00:00\",\"dateModified\":\"2024-07-30T10:29:55+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/connections-cymru-event-provides-insight-into-day-services-in-wales\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/connections-cymru-event-provides-insight-into-day-services-in-wales\/\"]}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/\",\"name\":\"Anabledd Dysgu Cymru\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c\",\"name\":\"Kai Jones\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Kai Jones\"},\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/kai-jones\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Digwyddiad Cysylltiadau Cymru yn rhoi cipolwg ar wasanaethau dydd yng Nghymru - Anabledd Dysgu Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/connections-cymru-event-provides-insight-into-day-services-in-wales\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Digwyddiad Cysylltiadau Cymru yn rhoi cipolwg ar wasanaethau dydd yng Nghymru - Anabledd Dysgu Cymru","og_description":"Mae Anabledd Dysgu Cymru yn bryderus iawn am y gostyngiad mewn gwasanaethau dydd dros y blynyddoedd diwethaf. Yng nghyfarfod diweddar ein rhwydwaith Cysylltiadau Cymru daethom \u00e2 phobl ynghyd i archwilio sut mae&#8217;r ddarpariaeth wedi newid ers y pandemig a beth mae&#8217;r newidiadau hynny wedi ei olygu i&#8217;r bobl sy&#8217;n eu defnyddio. Sefydlwyd Cysylltiadau Cymru i &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/connections-cymru-event-provides-insight-into-day-services-in-wales\/","og_site_name":"Anabledd Dysgu Cymru","article_published_time":"2024-07-30T10:12:11+00:00","article_modified_time":"2024-07-30T10:29:55+00:00","og_image":[{"width":1080,"height":1080,"url":"http:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Untitled-design-7.png","type":"image\/png"}],"author":"Kai Jones","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Kai Jones","Est. reading time":"7 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/connections-cymru-event-provides-insight-into-day-services-in-wales\/","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/connections-cymru-event-provides-insight-into-day-services-in-wales\/","name":"Digwyddiad Cysylltiadau Cymru yn rhoi cipolwg ar wasanaethau dydd yng Nghymru - Anabledd Dysgu Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website"},"datePublished":"2024-07-30T10:12:11+00:00","dateModified":"2024-07-30T10:29:55+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/connections-cymru-event-provides-insight-into-day-services-in-wales\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/connections-cymru-event-provides-insight-into-day-services-in-wales\/"]}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/","name":"Anabledd Dysgu Cymru","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c","name":"Kai Jones","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g","caption":"Kai Jones"},"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/kai-jones\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39983"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39983"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39983\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":39984,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39983\/revisions\/39984"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/39980"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39983"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39983"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39983"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}