{"id":40384,"date":"2024-09-13T11:35:35","date_gmt":"2024-09-13T10:35:35","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?p=40384"},"modified":"2024-09-13T11:35:35","modified_gmt":"2024-09-13T10:35:35","slug":"aelodaur-senedd-wedi-canfod-bod-system-addysg-cymru-yn-methu-llawer-o-blant-anabl","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/aelodaur-senedd-wedi-canfod-bod-system-addysg-cymru-yn-methu-llawer-o-blant-anabl\/","title":{"rendered":"Aelodau\u2019r Senedd wedi canfod bod system addysg Cymru yn methu llawer o blant anabl"},"content":{"rendered":"<p>Yn \u00f4l adroddiad diweddar gan <a href=\"https:\/\/senedd.cymru\/pwyllgorau\/y-pwyllgor-plant-pobl-ifanc-ac-addysg\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd<\/a>, mae llawer o blant a phobl ifanc anabl yng Nghymru yn cael eu &#8220;gadael i lawr yn sylfaenol&#8221; oherwydd nad ydyn nhw&#8217;n cael yr addysg mae ganddyn nhw hawl iddi.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r pwyllgor, sy&#8217;n cynnwys Aelodau o&#8217;r Senedd o sawl plaid wleidyddol, wedi bod yn ymchwilio i sut mae addysg yng Nghymru yn cael ei darparu i blant a phobl ifanc anabl. <a href=\"https:\/\/senedd.cymru\/media\/qrudvrjc\/cr-ld16592-w.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Gallwch ddarllen adroddiad llawn y pwyllgor yma<\/a>.<\/p>\n<p>Fe wnaeth y pwyllgor ganfod bod gwadu&#8217;r hawl sylfaenol hon i addysg y mae gan bob plentyn a pherson ifanc hawl i&#8217;w chael, yn effeithio ar eu lles emosiynol a meddyliol, eu cyfleoedd mewn bywyd a&#8217;u cyrhaeddiad addysgol.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l casglu tystiolaeth o bob cwr o Gymru, gwnaeth y pwyllgor gyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru eu rhoi ar waith hefyd fel bod cyfleoedd addysg yn decach, a bod gan blant a phobl ifanc anabl yr un mynediad i&#8217;r system addysg ag unrhyw un arall.<\/p>\n<h3><strong>Beth oedd yr adroddiad yn ei ddweud?<\/strong><\/h3>\n<p>Daeth y pwyllgor i 5 casgliad yn ei adroddiad:<\/p>\n<ol>\n<li>Mae nifer sylweddol o hawliau plant a phobl ifanc i addysg fel sydd wedi&#8217;i nodi yn Erthyglau 28 a 29 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau&#8217;r Plentyn yn cael eu torri yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae&#8217;r plant a&#8217;r bobl ifanc hyn yn cael eu gadael i lawr yn sylfaenol.<\/li>\n<li>Gall gwadu hawl plant a phobl ifanc i addysg gael effeithiau gydol oes a phellgyrhaeddol ar eu lles emosiynol a meddyliol, yn ogystal \u00e2&#8217;u hiechyd corfforol. Gall effeithio ar eu cyrhaeddiad a&#8217;u cyfleoedd addysgol, a thrwy hynny greu rhwystrau iddynt rhag gallu gwneud dewisiadau sy&#8217;n gweddu orau i&#8217;w huchelgeisiau wrth iddynt ddod yn oedolion.<\/li>\n<li>Gall effaith gwadu hawliau plant a phobl ifanc fod yn anfesuradwy ar eu teulu, yn enwedig ar rieni, gofalwyr a brodyr a chwiorydd. Yn aml mae&#8217;n rhaid i deuluoedd ymladd dros hawliau sylfaenol, y mae teuluoedd plant a phobl ifanc nad ydynt yn anabl a\/neu niwro-nodweddiadol yn eu cymryd yn ganiataol.<\/li>\n<li>Er bod rhywfaint o ddarpariaeth gynhwysol sy&#8217;n diwallu anghenion plant, pobl ifanc a&#8217;u teuluoedd, mae&#8217;r ddarpariaeth hon yn dameidiog ac anghyson ledled Cymru. Mae heriau ychwanegol yn wynebu&#8217;r rhai sy&#8217;n manteisio ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.<\/li>\n<li>Mae&#8217;r rhwystrau i ddarparu gofal plant ac addysg cynhwysol yn gymhleth ac yn rhyng-gysylltiedig. Mae rhai ohonynt yn eang iawn ac yn ymwneud \u00e2 dulliau cymdeithasol o ymdrin ag anabledd a gwahaniaeth tra bod eraill yn eithaf ymarferol.<\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae&#8217;r casgliadau hyn wedi\u2019u hategu gan restr o argymhellion i wneud addysg yn wirioneddol gynhwysol a hygyrch i blant a phobl ifanc anabl, gyda goblygiadau pwysig i Lywodraeth Cymru.<\/p>\n<h3><strong>Pa effaith allai&#8217;r adroddiad ei chael?<\/strong><\/h3>\n<p>Fel sefydliad, mae Anabledd Dysgu Cymru eisiau gweld diwedd ar wahanu yn y system addysg. Mae ysgolion arbennig yn chwarae rhan hanfodol mewn dysgu i gynifer o blant a phobl ifanc anabl ac rydym yn deall nerfusrwydd llawer o rieni wrth anfon eu plant i ysgolion prif ffrwd fel y maen nhw\u2019n cael eu galw. Ar hyn o bryd, nid yw adnoddau mewn llawer o&#8217;r ysgolion hynny yn ddigonol.<\/p>\n<p>Ond os ydym ni\u2019n sefydlu system addysg wirioneddol gynhwysol sy&#8217;n cael ei hariannu&#8217;n iawn ac sydd \u00e2&#8217;r adnoddau cywir, yna gallwn adeiladu Cymru wirioneddol gynhwysol lle mae pawb yn cael cyfle i fyw bywyd da, annibynnol a hapus a lle mae rhwystrau i&#8217;r potensial hwnnw\u2019n cael eu dileu.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r adroddiad hwn yn cefnogi\u2019r farn hon ac yn nodi&#8217;n glir yr heriau sy&#8217;n bodoli i Lywodraeth Cymru, i ysgolion ac athrawon ac, yn bwysicaf oll, i ddysgwyr eu hunain wrth wneud i hynny ddigwydd. Mae angen newid radical, ond dim ond gyda newid o&#8217;r fath y gellir creu dyfodol cynhwysol.<\/p>\n<p>Yr her go iawn nawr yw i Lywodraeth Cymru, i Weinidogion a&#8217;u gweision sifil, gymryd sylw o&#8217;r argymhellion hyn, i wrando ac i wneud i&#8217;r newid hwnnw ddigwydd. Ni fydd yn ddigon da i&#8217;r adroddiad hwn gael ei roi ar silff i hel llwch, mae&#8217;n rhywbeth y dylai llunwyr polis\u00efau ei dderbyn, i herio eu syniadau gan arwain at system addysg newidiol a chynhwysol.<\/p>\n<h3><strong>Beth mae Anabledd Dysgu Cymru yn ei ddweud? <\/strong><\/h3>\n<p><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" class=\"alignright wp-image-40351\" src=\"http:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/2024-08-27-300x206.png\" alt=\"\" width=\"361\" height=\"248\" srcset=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/2024-08-27-300x206.png 300w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/2024-08-27-1024x705.png 1024w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/2024-08-27-768x529.png 768w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/2024-08-27-600x413.png 600w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/2024-08-27.png 1267w\" sizes=\"(max-width: 361px) 100vw, 361px\" \/>Mae ein Prif Weithredwr, Zoe Richards yn cefnogi&#8217;r adroddiad hwn a rhoddodd dystiolaeth i&#8217;r pwyllgor ochr yn ochr ag Aelod Senedd Ieuenctid Cymru, Georgia Miggins a&#8217;r rhiant Adele Rose-Morgan fel rhan o&#8217;r ymchwiliad i gyflwr addysg plant a phobl ifanc anabl. <a href=\"https:\/\/www.senedd.tv\/Meeting\/Clip\/3ecbf218-9135-4111-8a24-6b49b86ee421?inPoint=00%3A55%3A18&amp;outPoint=01%3A48%3A52&amp;fbclid=IwY2xjawFNU1FleHRuA2FlbQIxMQABHUv5taiiSZ7ZPfwUjfrJgjf-ZB6rGm7BbkXLr3dldYdcD4msj975Qh04TA_aem_xLsJscYcB0qVeowqg4Mg6g\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Gallwch wylio&#8217;r sesiwn dystiolaeth yma<\/a>.<\/p>\n<p>Mae Zoe yn galw ar Gymru i sefydlu system addysg wirioneddol gynhwysol, gan roi cymorth o safon i blant wrth iddyn nhw dyfu a symud drwy ysgolion.<\/p>\n<p>Dywedodd Zoe: &#8220;Mae gan yr adroddiad hwn y potensial i ddechrau&#8217;r newid yng Nghymru mae angen i ni ei weld, gydag effaith gadarnhaol ac effeithiol ar bolisi addysg yma.<\/p>\n<p>&#8220;Mae hynny&#8217;n golygu gwelliannau i blant a phobl ifanc anabl. Dylai ein system ddysgu weithio i bawb, ni waeth pwy ydyn nhw. Ar hyn o bryd nid yw&#8217;n gweithio i bawb. Mae wedi\u2019i wahanu, mae&#8217;n cael ei adnoddau mewn modd tameidiog gyda loteri cod post o \u00a0ran darpariaeth. Yn syml, nid yw hyn yn ddigon da.<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;n golygu nad oes gan rai rhieni plant anabl hyder yn aml y bydd y system yn gweithio i&#8217;w hanwyliaid, mae&#8217;n golygu nad yw plant yn cael tegwch y narpariaeth eu dysgu, ac yn fwy eang mae&#8217;n golygu nad ydym ni fel cymdeithas yn cyflawni ein dyletswyddau i greu cymunedau sy&#8217;n gydlynol ac yn feithringar, gan ddarparu cyfleoedd i ffynnu ni waeth pwy ydych chi, p&#8217;un a ydych chi\u2019n anabl ai peidio.<\/p>\n<p>&#8220;Nid yw addysg gynhwysol yn rhywbeth rydyn ni&#8217;n meddwl sy&#8217;n iawn i blant anabl, rydyn ni&#8217;n credu ei fod yn iawn i bawb. Mae gennym ni gyfle yng Nghymru i wneud i hynny ddigwydd, gallwn weithio gyda&#8217;n gilydd i wneud hynny. Ond yn gyntaf bydd angen llawer iawn o ewyllys gwleidyddol ac arweinyddiaeth i ddechrau&#8217;r newid hwnnw.&#8221;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn \u00f4l adroddiad diweddar gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, mae llawer o blant a phobl ifanc anabl yng Nghymru yn cael eu &#8220;gadael i lawr yn sylfaenol&#8221; oherwydd nad ydyn nhw&#8217;n cael yr addysg mae ganddyn nhw hawl iddi. Mae&#8217;r pwyllgor, sy&#8217;n cynnwys Aelodau o&#8217;r Senedd o sawl plaid wleidyddol, wedi &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/aelodaur-senedd-wedi-canfod-bod-system-addysg-cymru-yn-methu-llawer-o-blant-anabl\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":38,"featured_media":40353,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[29,28],"tags":[],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v20.11 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Aelodau\u2019r Senedd wedi canfod bod system addysg Cymru yn methu llawer o blant anabl - Anabledd Dysgu Cymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Yn \u00f4l adroddiad diweddar gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, mae llawer o blant a phobl ifanc anabl yng Nghymru yn cael eu &quot;gadael i lawr yn sylfaenol&quot; oherwydd nad ydyn nhw&#039;n cael yr addysg mae ganddyn nhw hawl iddi.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/aelodaur-senedd-wedi-canfod-bod-system-addysg-cymru-yn-methu-llawer-o-blant-anabl\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Aelodau\u2019r Senedd wedi canfod bod system addysg Cymru yn methu llawer o blant anabl - Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Yn \u00f4l adroddiad diweddar gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, mae llawer o blant a phobl ifanc anabl yng Nghymru yn cael eu &quot;gadael i lawr yn sylfaenol&quot; oherwydd nad ydyn nhw&#039;n cael yr addysg mae ganddyn nhw hawl iddi.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/aelodaur-senedd-wedi-canfod-bod-system-addysg-cymru-yn-methu-llawer-o-blant-anabl\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2024-09-13T10:35:35+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"http:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Lesson-Help-1-1.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"600\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"600\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Samantha Williams\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Samantha Williams\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/aelodaur-senedd-wedi-canfod-bod-system-addysg-cymru-yn-methu-llawer-o-blant-anabl\/\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/aelodaur-senedd-wedi-canfod-bod-system-addysg-cymru-yn-methu-llawer-o-blant-anabl\/\",\"name\":\"Aelodau\u2019r Senedd wedi canfod bod system addysg Cymru yn methu llawer o blant anabl - Anabledd Dysgu Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\"},\"datePublished\":\"2024-09-13T10:35:35+00:00\",\"dateModified\":\"2024-09-13T10:35:35+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/03faba94ff9aa13220a971b327bd01c2\"},\"description\":\"Yn \u00f4l adroddiad diweddar gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, mae llawer o blant a phobl ifanc anabl yng Nghymru yn cael eu \\\"gadael i lawr yn sylfaenol\\\" oherwydd nad ydyn nhw'n cael yr addysg mae ganddyn nhw hawl iddi.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/aelodaur-senedd-wedi-canfod-bod-system-addysg-cymru-yn-methu-llawer-o-blant-anabl\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/aelodaur-senedd-wedi-canfod-bod-system-addysg-cymru-yn-methu-llawer-o-blant-anabl\/\"]}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/\",\"name\":\"Anabledd Dysgu Cymru\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/03faba94ff9aa13220a971b327bd01c2\",\"name\":\"Samantha Williams\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1001f5dce5ea65b054d78d9d14a89a7c?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1001f5dce5ea65b054d78d9d14a89a7c?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Samantha Williams\"},\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/samantha-williams\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Aelodau\u2019r Senedd wedi canfod bod system addysg Cymru yn methu llawer o blant anabl - Anabledd Dysgu Cymru","description":"Yn \u00f4l adroddiad diweddar gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, mae llawer o blant a phobl ifanc anabl yng Nghymru yn cael eu \"gadael i lawr yn sylfaenol\" oherwydd nad ydyn nhw'n cael yr addysg mae ganddyn nhw hawl iddi.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/aelodaur-senedd-wedi-canfod-bod-system-addysg-cymru-yn-methu-llawer-o-blant-anabl\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Aelodau\u2019r Senedd wedi canfod bod system addysg Cymru yn methu llawer o blant anabl - Anabledd Dysgu Cymru","og_description":"Yn \u00f4l adroddiad diweddar gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, mae llawer o blant a phobl ifanc anabl yng Nghymru yn cael eu \"gadael i lawr yn sylfaenol\" oherwydd nad ydyn nhw'n cael yr addysg mae ganddyn nhw hawl iddi.","og_url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/aelodaur-senedd-wedi-canfod-bod-system-addysg-cymru-yn-methu-llawer-o-blant-anabl\/","og_site_name":"Anabledd Dysgu Cymru","article_published_time":"2024-09-13T10:35:35+00:00","og_image":[{"width":600,"height":600,"url":"http:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Lesson-Help-1-1.png","type":"image\/png"}],"author":"Samantha Williams","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Samantha Williams","Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/aelodaur-senedd-wedi-canfod-bod-system-addysg-cymru-yn-methu-llawer-o-blant-anabl\/","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/aelodaur-senedd-wedi-canfod-bod-system-addysg-cymru-yn-methu-llawer-o-blant-anabl\/","name":"Aelodau\u2019r Senedd wedi canfod bod system addysg Cymru yn methu llawer o blant anabl - Anabledd Dysgu Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website"},"datePublished":"2024-09-13T10:35:35+00:00","dateModified":"2024-09-13T10:35:35+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/03faba94ff9aa13220a971b327bd01c2"},"description":"Yn \u00f4l adroddiad diweddar gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, mae llawer o blant a phobl ifanc anabl yng Nghymru yn cael eu \"gadael i lawr yn sylfaenol\" oherwydd nad ydyn nhw'n cael yr addysg mae ganddyn nhw hawl iddi.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/aelodaur-senedd-wedi-canfod-bod-system-addysg-cymru-yn-methu-llawer-o-blant-anabl\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/aelodaur-senedd-wedi-canfod-bod-system-addysg-cymru-yn-methu-llawer-o-blant-anabl\/"]}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/","name":"Anabledd Dysgu Cymru","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/03faba94ff9aa13220a971b327bd01c2","name":"Samantha Williams","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1001f5dce5ea65b054d78d9d14a89a7c?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1001f5dce5ea65b054d78d9d14a89a7c?s=96&d=mm&r=g","caption":"Samantha Williams"},"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/samantha-williams\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/40384"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/38"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=40384"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/40384\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":40385,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/40384\/revisions\/40385"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/40353"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=40384"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=40384"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=40384"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}