{"id":41175,"date":"2024-12-03T12:31:54","date_gmt":"2024-12-03T12:31:54","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/a-warm-welcome-to-learning-disability-wales-new-trustees\/"},"modified":"2024-12-09T11:43:31","modified_gmt":"2024-12-09T11:43:31","slug":"a-warm-welcome-to-learning-disability-wales-new-trustees","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/a-warm-welcome-to-learning-disability-wales-new-trustees\/","title":{"rendered":"Croeso cynnes i ymddiriedolwyr newydd Anabledd Dysgu Cymru"},"content":{"rendered":"<p><strong><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" class=\"alignright wp-image-41163 size-medium\" src=\"http:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/New-trustees-2024-1-300x300.png\" alt=\"Collage of 6 photoso of our new trustees, Adele has long blonde hair and a dark patterned shirt, Georgia is a young person with long brown hair, James is standing in a shop wearing a grey shirt and glasses, Jonathan has close cropped hair and a white shirt, Lynne is standing in front of an office wearing a long patterned dress, and Nadine has shoulder length blonde hair and is wearing glasses\" width=\"300\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/New-trustees-2024-1-300x300.png 300w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/New-trustees-2024-1-1024x1024.png 1024w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/New-trustees-2024-1-150x150.png 150w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/New-trustees-2024-1-768x768.png 768w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/New-trustees-2024-1-600x600.png 600w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/New-trustees-2024-1-100x100.png 100w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/New-trustees-2024-1.png 1080w\" sizes=\"(max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/strong><\/p>\n<p><strong>Rydym yn falch iawn o groesawu 6 ymddiriedolwr newydd i&#8217;n Bwrdd Ymddiriedolwyr: Adele Rose-Morgan, Georgia Miggins, James Tyler, Jonathan Griffiths, Lynne Whistance, a Nadine Honeybone.<\/strong><\/p>\n<p>Mae ein hymddiriedolwyr angerddol ac ymroddedig yn gyfrifol am reoli Anabledd Dysgu Cymru.\u00a0 Maen nhw yn ein helpu i osod ein cyfeiriad strategol i gyflawni ein cenhadaeth i wneud Cymru y wlad orau yn y byd i bobl ag anabledd dysgu fyw, dysgu, caru a gweithio ynddi.<\/p>\n<p>Rydym wedi ymdrechu&#8217;n barhaus i gyflawni bwrdd amrywiol o ymddiriedolwyr sy&#8217;n cynnwys ein haelodau, pobl ag anabledd dysgu a&#8217;r gymdeithas ehangach yn gyffredinol sydd \u00e2 diddordeb yn ein gwaith ac eleni wedi denu nifer fawr o geisiadau.\u00a0 Rydym yn falch iawn o gyflwyno ein hymddiriedolwyr newydd:<\/p>\n<h3><strong>Adele Rose-Morgan<\/strong><\/h3>\n<p>Mae Adele yn cynrychioli <a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/groups\/JTD.PC?locale=en_GB\">Joining the Dots<\/a>, gr\u0175p cymorth cymheiriaid ar-lein i rieni a gofalwyr, a sefydlodd Adele yn 2015. Gyda dros 35 mlynedd o brofiad yn y sector anabledd dysgu, mae Adele wedi neilltuo ei hamser i wirfoddoli a chydgynhyrchu gyda nifer o grwpiau a byrddau ledled de Cymru.<\/p>\n<p>Dywedodd Adele: &#8220;Rwy&#8217;n hynod gyffrous i gefnogi Anabledd Dysgu Cymru i sbarduno newid ar gyfer cenedlaethau&#8217;r dyfodol o blant a phobl ifanc ag anableddau dysgu. Rwy&#8217;n credu&#8217;n gryf mai addysg gynhwysol yw&#8217;r allwedd i wireddu&#8217;r weledigaeth hon.&#8221;<\/p>\n<h3><strong>Georgia Miggins<\/strong><\/h3>\n<p>Mae Georgia yn ymuno \u00e2&#8217;n bwrdd yn ffres o&#8217;i thymor 2 flynedd fel aelod o <a href=\"https:\/\/youthparliament.senedd.wales\/\">Senedd Ieuenctid Cymru<\/a>.<\/p>\n<p>Dywedodd Georgia: &#8220;Mae fy mhrofiad byw o gael anabledd dysgu a niwroamrywiaeth yn golygu fy mod yn gwybod o lygad y ffynnon y rhwystrau rwyf i ac unigolion eraill ag anabledd dysgu yn eu wynebu yn ein bywydau bob dydd. Rwy&#8217;n gwybod bod cael anabledd dysgu yn golygu ein bod yn cael ein gadael yn llawer rhy aml allan o drafodaethau a sgyrsiau pwysig a gwerthfawr sy&#8217;n ymwneud \u00e2\u2019n hanghenion, ac yn aml iawn ychydig o fewnbwn a llais a gawn mewn penderfyniadau sy&#8217;n cynnwys ac yn effeithio ar ein bywydau a&#8217;n dyfodol.<\/p>\n<p>&#8220;Fel ymddiriedolwr mae&#8217;n bwysig i mi fy mod yn rhoi llais i ystod amrywiol o bobl ag anabledd dysgu, a bydd hyn wrth wraidd yr hyn rwy&#8217;n ei wneud.&#8221;<\/p>\n<h3><strong>James Tyler<\/strong><\/h3>\n<p>Mae James yn cynrychioli <a href=\"https:\/\/allwalespeople1st.co.uk\/\">Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan<\/a>, lle mae ar eu bwrdd cyfarwyddwyr. Mae James hefyd yn aelod o Fwrdd Partneriaeth Gorllewin Cymru ar hyn o bryd ac mae wedi gwasanaethu ar lawer o fyrddau eraill yng Nghymru fel llais i bobl ag anabledd dysgu. Mae&#8217;n cael ei gyflogi fel Hyrwyddwr Archwiliadau Iechyd Hygyrch i Bobl yn Gyntaf Sir Benfro, gan weithio ochr yn ochr \u00e2 hyrwyddwyr yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.<\/p>\n<p>Dywedodd James: &#8220;I mi, mae bod yn ymddiriedolwr yn golygu y gallaf ddod i adnabod y staff a gwneud ffrindiau newydd, dysgu sut mae&#8217;r sefydliad yn gweithio a gwneud cysylltiadau newydd gydag aelodau eraill sy&#8217;n rhan o&#8217;r prosiectau, a hefyd bydd yr ochr ymgyrchu yn dangos i mi beth mae pobl eraill yng Nghymru am ei weld yn gwella yn y dyfodol.&#8221;<\/p>\n<h3><strong>Jonathan Griffiths<\/strong><\/h3>\n<p>Tan yn ddiweddar, Jonathan oedd Cyfarwyddwr Trawsnewid Gofal Cymdeithasol Plant ac Oedolion yn Llywodraeth Cymru. Cyn y swydd hon bu&#8217;n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Penfro ac yn gyn-Lywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru o fis Ebrill 2021.<\/p>\n<p>Dywedodd Jonathan: &#8220;Rwy&#8217;n falch iawn o fod yn ymuno fel Ymddiriedolwr yn Anabledd Dysgu Cymru ac rwy&#8217;n edrych ymlaen at weithio gyda&#8217;r sefydliad a phawb sy&#8217;n ymwneud \u00e2 gwneud Cymru&#8217;r &#8216;wlad orau yn y byd i bobl ag anabledd dysgu fyw, dysgu, caru a gweithio ynddi&#8217;.\u00a0 Rwy&#8217;n gobeithio y gallaf ddod \u00e2&#8217;m profiad i r\u00f4l yr ymddiriedolwr a sefyll gyda&#8217;n gilydd i gynnal a gwarchod yr hawliau i oedolion ag anabledd dysgu.&#8221;<\/p>\n<h3><strong>Lynne Whistance<\/strong><\/h3>\n<p>Mae Lynne yn cynrychioli <a href=\"https:\/\/www.poblgroup.co.uk\/\">Pobl<\/a>, lle mae hi wedi gweithio ers dros 20 mlynedd. Dywed Lynne mai ei llwyddiant mwyaf fu &#8220;galluogi person ifanc i fod yn ddigon medrus a hyderus i adael gofal 24\/7 \u00e2 chymorth i fyw&#8217;n annibynnol yn y dref yr oedden nhw wastad wedi bod eisiau byw ynddi heb unrhyw gymorth \u00e2 th\u00e2l mwyach.&#8221;<\/p>\n<p>Dywedodd Lynne: &#8220;Mae bod yn rhan o Anabledd Dysgu Cymru yn gyffrous. Mae&#8217;n rhoi cyfle i mi fod yn rhan o gefnogi eraill i gyflawni dyheadau a gwylio sut mae mentrau&#8217;n datblygu. O fod mewn gofal cymdeithasol mae wedi rhoi cipolwg gwych i mi ar heriau heddiw i bobl ag anabledd dysgu ac mae bod yn rhan o&#8217;r ymddiriedolwyr yn fy ngalluogi i eiriol a chlywed llais y rhai ag anabledd.&#8221;<\/p>\n<h3><strong>Nadine Honeybone<\/strong><\/h3>\n<p>Ysbrydoliaeth Nadine yw ei mab Tommy. Yn 2 oed cafodd ddiagnosis o Awtistiaeth ac yn ddiweddarach Anableddau Dysgu Lluosog Dwys. Yn 2010 sefydlodd Lynne yr elusen The Autism Directory, a elwir bellach yn <a href=\"https:\/\/autisticminds.org.uk\/\">Autistic Minds<\/a>, gyda&#8217;r nod o helpu unigolion awtistig a&#8217;u teuluoedd i gael yr help sydd ei angen arnynt.<\/p>\n<p>Dywedodd Lyne: &#8220;Mae bod yn Ymddiriedolwr ADC yn rhoi&#8217;r cyfle i mi rannu fy ngwybodaeth a&#8217;m profiad o fy mywyd yn magu fy mab, a llywio&#8217;r systemau a&#8217;r sefydliadau sydd eu hangen i sicrhau ei anghenion am weddill ei oes. \u00a0Hefyd i ddefnyddio fy mhrofiad busnes a&#8217;r trydydd sector er budd pawb y mae&#8217;r elusen yn eu cefnogi.&#8221;<\/p>\n<hr \/>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/about-us\/our-staff-trustees\/\">Gallwch ddarganfod mwy am ein holl ymddiriedolwyr ar ein tudalen staff ac ymddiriedolwyr<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rydym yn falch iawn o groesawu 6 ymddiriedolwr newydd i&#8217;n Bwrdd Ymddiriedolwyr: Adele Rose-Morgan, Georgia Miggins, James Tyler, Jonathan Griffiths, Lynne Whistance, a Nadine Honeybone. Mae ein hymddiriedolwyr angerddol ac ymroddedig yn gyfrifol am reoli Anabledd Dysgu Cymru.\u00a0 Maen nhw yn ein helpu i osod ein cyfeiriad strategol i gyflawni ein cenhadaeth i wneud Cymru &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/a-warm-welcome-to-learning-disability-wales-new-trustees\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":41164,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[28],"tags":[],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v20.11 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Croeso cynnes i ymddiriedolwyr newydd Anabledd Dysgu Cymru - Anabledd Dysgu Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/a-warm-welcome-to-learning-disability-wales-new-trustees\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Croeso cynnes i ymddiriedolwyr newydd Anabledd Dysgu Cymru - Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Rydym yn falch iawn o groesawu 6 ymddiriedolwr newydd i&#8217;n Bwrdd Ymddiriedolwyr: Adele Rose-Morgan, Georgia Miggins, James Tyler, Jonathan Griffiths, Lynne Whistance, a Nadine Honeybone. Mae ein hymddiriedolwyr angerddol ac ymroddedig yn gyfrifol am reoli Anabledd Dysgu Cymru.\u00a0 Maen nhw yn ein helpu i osod ein cyfeiriad strategol i gyflawni ein cenhadaeth i wneud Cymru &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/a-warm-welcome-to-learning-disability-wales-new-trustees\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2024-12-03T12:31:54+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-12-09T11:43:31+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"http:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/New-trustees-2024-1.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1080\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1080\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Kai Jones\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Kai Jones\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"4 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/a-warm-welcome-to-learning-disability-wales-new-trustees\/\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/a-warm-welcome-to-learning-disability-wales-new-trustees\/\",\"name\":\"Croeso cynnes i ymddiriedolwyr newydd Anabledd Dysgu Cymru - Anabledd Dysgu Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\"},\"datePublished\":\"2024-12-03T12:31:54+00:00\",\"dateModified\":\"2024-12-09T11:43:31+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/a-warm-welcome-to-learning-disability-wales-new-trustees\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/a-warm-welcome-to-learning-disability-wales-new-trustees\/\"]}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/\",\"name\":\"Anabledd Dysgu Cymru\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c\",\"name\":\"Kai Jones\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Kai Jones\"},\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/kai-jones\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Croeso cynnes i ymddiriedolwyr newydd Anabledd Dysgu Cymru - Anabledd Dysgu Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/a-warm-welcome-to-learning-disability-wales-new-trustees\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Croeso cynnes i ymddiriedolwyr newydd Anabledd Dysgu Cymru - Anabledd Dysgu Cymru","og_description":"Rydym yn falch iawn o groesawu 6 ymddiriedolwr newydd i&#8217;n Bwrdd Ymddiriedolwyr: Adele Rose-Morgan, Georgia Miggins, James Tyler, Jonathan Griffiths, Lynne Whistance, a Nadine Honeybone. Mae ein hymddiriedolwyr angerddol ac ymroddedig yn gyfrifol am reoli Anabledd Dysgu Cymru.\u00a0 Maen nhw yn ein helpu i osod ein cyfeiriad strategol i gyflawni ein cenhadaeth i wneud Cymru &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/a-warm-welcome-to-learning-disability-wales-new-trustees\/","og_site_name":"Anabledd Dysgu Cymru","article_published_time":"2024-12-03T12:31:54+00:00","article_modified_time":"2024-12-09T11:43:31+00:00","og_image":[{"width":1080,"height":1080,"url":"http:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/New-trustees-2024-1.png","type":"image\/png"}],"author":"Kai Jones","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Kai Jones","Est. reading time":"4 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/a-warm-welcome-to-learning-disability-wales-new-trustees\/","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/a-warm-welcome-to-learning-disability-wales-new-trustees\/","name":"Croeso cynnes i ymddiriedolwyr newydd Anabledd Dysgu Cymru - Anabledd Dysgu Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website"},"datePublished":"2024-12-03T12:31:54+00:00","dateModified":"2024-12-09T11:43:31+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/a-warm-welcome-to-learning-disability-wales-new-trustees\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/a-warm-welcome-to-learning-disability-wales-new-trustees\/"]}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/","name":"Anabledd Dysgu Cymru","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c","name":"Kai Jones","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g","caption":"Kai Jones"},"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/kai-jones\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/41175"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=41175"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/41175\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":41177,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/41175\/revisions\/41177"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/41164"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=41175"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=41175"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=41175"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}