{"id":44642,"date":"2026-08-21T14:57:27","date_gmt":"2026-08-21T13:57:27","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?p=44642"},"modified":"2026-08-21T15:27:34","modified_gmt":"2026-08-21T14:27:34","slug":"etholiad-y-senedd-election-3-mis-yn-ddiweddarach","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/etholiad-y-senedd-election-3-mis-yn-ddiweddarach\/","title":{"rendered":"Etholiad y Senedd \u2013 3 mis yn ddiweddarach"},"content":{"rendered":"<h4>Gyda llawer o wybodaeth ar gael, roeddem ni am rannu rhai pethau allweddol sydd wedi digwydd ers yr etholiad a&#8217;r hyn rydym ni am weld y llywodraeth yn ei wneud yn ystod y misoedd nesaf i wneud Cymru y wlad orau i bobl ag anabledd dysgu fyw, dysgu, caru a gweithio ynddi.<\/h4>\n<hr \/>\n<div>Fel llawer o bobl, efallai eich bod chi wedi mynd i&#8217;r orsaf bleidleisio a bwrw eich pleidlais yn etholiad y Senedd ar 7 Mai 2026. Efallai eich bod chi wedi gwylio&#8217;r canlyniadau&#8217;n cael eu cyhoeddi ar y teledu neu ar y cyfryngau cymdeithasol. Efallai bod y blaid y gwnaethoch chi ei dewis wedi mynd i mewn neu beidio.<\/div>\n<div><\/div>\n<div>Efallai eich bod chi\u2019n gofyn nawr <strong>&#8220;pa gynnydd sydd wedi&#8217;i wneud ers mis Mai?&#8221;<\/strong>.<\/div>\n<div><\/div>\n<div>Cwestiwn da! Gadewch i ni edrych.<\/div>\n<h3><\/h3>\n<h3>Mae gennym ni blaid wleidyddol newydd sy&#8217;n gyfrifol am Gymru<\/h3>\n<p>Daeth Plaid Cymru yn blaid fwyaf y Senedd am y tro cyntaf a ffurfiodd Lywodraeth newydd Cymru. Fe wnaethon nhw ennill y nifer fwyaf o seddi yn etholiad y Senedd; fodd bynnag, ni chawsant ddigon o seddi ar gyfer mwyafrif.<\/p>\n<p>Mae hyn yn golygu y gallai fod yn anodd iddyn nhw gael digon o bleidleisiau yn y Senedd i basio penderfyniadau a deddfau pwysig, oherwydd gallai&#8217;r pleidiau eraill bleidleisio yn eu herbyn. Fe <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/articles\/c74y4zpw8w1o\">wnaethom weld hyn<\/a> yn ddiweddar pan geisiodd Llywodraeth Plaid Cymru basio ei chyllideb a gwrthododd y Blaid Lafur ei chefnogi.<\/p>\n<p>Mae angen i blaid wleidyddol <strong>ennill 49 sedd neu fwy yn y Senedd<\/strong> am fwyafrif, ond mae Plaid Cymru wedi penderfynu <strong>ffurfio llywodraeth leiafrifol<\/strong>. Mae hyn yn golygu y bydd angen iddyn nhw gydweithio \u00e2 phleidiau eraill i sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o bleidleisiau i wneud penderfyniadau a phasio deddfau.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h3>Mae gennym ni Brif Weinidog a Chabinet Newydd<\/h3>\n<p>Yn dilyn yr etholiad, mae gennym ni Brif Weinidog a Chabinet newydd i arwain Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p><strong>Mae&#8217;r penodiadau allweddol yn cynnwys:<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li><strong>Rhun ap Iorwerth<\/strong> fel Prif Weinidog. Etholwyd Rhun ap Iorwerth yn Brif Weinidog Cymru ar 12 Mai 2026, gan gymryd yr awenau gan Eluned Morgan.<\/li>\n<li><strong>Sioned Williams<\/strong> fel Dirprwy Brif Weinidog a&#8217;r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb. Sioned oedd Cadeirydd y Gr\u0175p Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu a Hawliau Dynol yn ystod y Senedd ddiwethaf.<\/li>\n<li><strong>Mabon ap Gwynfor<\/strong> fel Gweinidog y Cabinet dros Iechyd a Gofal.<\/li>\n<li><strong>Delyth Jewell<\/strong> fel Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod (gan gynnwys cyfrifoldeb am anableddau dysgu).<\/li>\n<li><strong>Nerys Evans<\/strong> fel Dirprwy Weinidog Iechyd y Cyhoedd ac Ataliol.<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h2>Mae gennym ni Bwyllgorau Senedd newydd<\/h2>\n<p>Mae pwyllgorau yn grwpiau o Aelodau&#8217;r Senedd sy&#8217;n gwneud yn si\u0175r bod y llywodraeth yn gwneud yr hyn y dylent ei wneud i bobl Cymru. Maen nhw&#8217;n gwneud penderfyniadau, yn gofyn cwestiynau am arian sy&#8217;n cael ei wario gan y llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus, ac yn ymchwilio i unrhyw faterion.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r Pwyllgorau newydd ar gyfer y Seithfed Senedd yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>Iechyd a Gofal Cymdeithasol<\/li>\n<li>Cydraddoldeb, Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol<\/li>\n<li>Blynyddoedd Cynnar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg<\/li>\n<li>Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae&#8217;r pwyllgorau hyn yn bwysig oherwydd bydd llawer o&#8217;r penderfyniadau sy&#8217;n effeithio ar bobl anabl, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu hystyried a&#8217;u trafod dros y pedair blynedd nesaf.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h2>Mae hynny&#8217;n wych, ond beth am bolisi anabledd dysgu?<\/h2>\n<p>Ym mis Gorffennaf 2026, siaradodd Delyth Jewell AS am ymrwymiad y <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/datganiad-ysgrifenedig-gwasanaethau-anabledd-dysgu-gwella-canlyniadau-tryloywder-chymorth-cymunedol\">Llywodraeth newydd i wella gwasanaethau i bobl ag anabledd dysgu<\/a>.<\/p>\n<p>Nododd <strong>3 cham<\/strong> ar gyfer sut y bydd y llywodraeth yn gwneud hyn a&#8217;r rhain yw:<\/p>\n<ol>\n<li>Cyhoeddi gwybodaeth am drigolion Cymru sydd ag <a href=\"https:\/\/igdc.gig.cymru\/data\/cyhoeddiadau-ystadegol-cynhyrchion-data-a-data-agored\/\">anabledd dysgu ac sy&#8217;n cael gofal arbenigol fel cleifion mewnol<\/a> yng Nghymru ac yn Lloegr.<\/li>\n<li>Datblygu <strong>datganiad ansawdd<\/strong> i helpu i wella ansawdd, cysondeb a phrofiad gofal i bobl ag anabledd dysgu<\/li>\n<li>Cyflwyno <strong>rhaglen trawsnewid anabledd dysgu 3 blynedd<\/strong> i edrych ar sut y gall gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a thai weithio&#8217;n well gyda&#8217;i gilydd i gefnogi pobl ag anabledd dysgu.<\/li>\n<\/ol>\n<p>O fewn y camau hyn, maen nhw wedi ymrwymo i\u2019r canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Gwella gofal a chefnogaeth i bobl mewn cymunedau lleol.<\/li>\n<li>Helpu pobl i gadw&#8217;n iach ac osgoi ymweliadau diangen \u00e2&#8217;r ysbyty.<\/li>\n<li>Sicrhau bod gwasanaethau anabledd dysgu yn atebol am y cymorth maen nhw&#8217;n ei ddarparu.<\/li>\n<li>Gwirio bod gwasanaethau anabledd dysgu yn gweithio&#8217;n dda.<\/li>\n<li>Casglu gwell gwybodaeth i wella&#8217;r gwasanaethau hyn.<\/li>\n<li>Parhau i roi Cynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu ar waith.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Fe wnaeth llywodraeth newydd Plaid Cymru hefyd ymrwymiad yn ei <a href=\"https:\/\/www.plaid.cymru\/maniffesto\">maniffesto etholiadol<\/a> i gyflawni\u2019r argymhellion pwysig yn yr adroddiad \u2018<a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/o-ysbytai-i-gartrefi-gwasanaethau-cleifion-mewnol-anabledd-dysgu-html\">O Ysbytai i Gartrefi\u2019<\/a>. Cafodd yr adroddiad ei greu gan y <strong>Gr\u0175p Gorchwyl a Gorffen Stolen Lives Homes Not Hospitals<\/strong> a chododd bryderon am anfon pobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig i ysbyty meddwl a&#8217;u derbyn i&#8217;r ysbyty pan nad oedd hynny&#8217;n briodol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h2>Beth sy\u2019n digwydd nesaf?<\/h2>\n<div>Ar gyfer pobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a&#8217;u gofalwyr, sefydliadau cymorth a&#8217;r trydydd sector, bydd y misoedd nesaf yn rhoi darlun cliriach o sut mae Llywodraeth newydd Cymru yn bwriadu troi ei blaenoriaethau yn weithredu.<\/div>\n<div><\/div>\n<div>Yn Anabledd Dysgu Cymru, rydym ni wedi bod yn dod i adnabod aelodau newydd y Senedd, deall eu rolau a&#8217;u cyfrifoldebau, a pharhau i dynnu sylw at yr heriau sy&#8217;n wynebu pobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a&#8217;r sector anabledd dysgu.<\/div>\n<div><\/div>\n<div>Byddwn yn parhau i weithio gydag Aelodau newydd y Senedd dros y 4 blynedd nesaf i fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;n gofynion maniffesto, sef:<\/div>\n<div><\/div>\n<ul>\n<li>Hyrwyddo pwysigrwydd gwybodaeth hygyrch<\/li>\n<li>Cefnogi&#8217;r ymgyrch Stolen Lives<\/li>\n<li>Cau&#8217;r bwlch cyflogaeth ymhlith pobl anabledd<\/li>\n<li>Lleihau anghydraddoldebau iechyd<\/li>\n<li>Cefnogi rhieni ag anabledd dysgu<\/li>\n<li>Lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol<\/li>\n<li>Blaenoriaethu cyllid digonol ar gyfer y sector anabledd dysgu<\/li>\n<li>Cefnogi <a href=\"https:\/\/allwalespeople1st.co.uk\/resources\/manifesto-2026\/\">Maniffesto Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h2>Sut gallwch chi gymryd rhan<\/h2>\n<p>Ar hyn o bryd rydym ni\u2019n gweithio i ailsefydlu\u2019r Gr\u0175p Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu, sy&#8217;n cynnwys Aelodau o&#8217;r Senedd o 3 o\u2019r pleidiau gwleidyddol yn y Senedd o leiaf ynghyd ag aelodau o&#8217;r <strong>Consortiwm Anabledd Dysgu<\/strong>:<\/p>\n<ul>\n<li>Anabledd Dysgu Cymru<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/allwalespeople1st.co.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.allwalesforum.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/wales.mencap.org.uk\/\">Mencap Cymru<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.downs-syndrome.org.uk\/?_gl=1%2A16v758f%2A_up%2AMQ..%2A_ga%2ANDk4NzQ0NjE0LjE3ODczMjA0MTM.%2A_ga_GBWXYZMYBW%2AczE3ODczMjA0MTIkbzEkZzEkdDE3ODczMjA0MTIkajYwJGwwJGgw\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cymdeithas Syndrom Down<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/\">Chymorth Cymru. <\/a><\/li>\n<\/ul>\n<p>Nod y gr\u0175p yw trafod a hyrwyddo&#8217;r materion sy&#8217;n effeithio ar fywydau pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru a&#8217;u teuluoedd\/gofalwyr.<\/p>\n<p><strong>Mae croeso i bawb ddod draw i gyfarfodydd y Gr\u0175p Trawsbleidiol<\/strong>, felly os oes gennych chi ddiddordeb ymuno neu os ydych chi eisiau dysgu mwy, cadwch lygad ar ein tudalen we y <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/project\/grwp-trawsbleidiol-ar-anabledd-dsygu\/\">Gr\u0175p Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu<\/a> am ddiweddariadau<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gyda llawer o wybodaeth ar gael, roeddem ni am rannu rhai pethau allweddol sydd wedi digwydd ers yr etholiad a&#8217;r hyn rydym ni am weld y llywodraeth yn ei wneud yn ystod y misoedd nesaf i wneud Cymru y wlad orau i bobl ag anabledd dysgu fyw, dysgu, caru a gweithio ynddi. Fel llawer o &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/etholiad-y-senedd-election-3-mis-yn-ddiweddarach\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":67,"featured_media":44611,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[28],"tags":[51,102],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v20.11 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Etholiad y Senedd \u2013 3 mis yn ddiweddarach - Anabledd Dysgu Cymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Darllenwch ein herthygl am Etholiad y Senedd dri mis yn ddiweddarach, a beth mae&#039;n ei olygu i bobl ag anabledd dysgu ledled Cymru.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/etholiad-y-senedd-election-3-mis-yn-ddiweddarach\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Etholiad y Senedd \u2013 3 mis yn ddiweddarach - Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Darllenwch ein herthygl am Etholiad y Senedd dri mis yn ddiweddarach, a beth mae&#039;n ei olygu i bobl ag anabledd dysgu ledled Cymru.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/etholiad-y-senedd-election-3-mis-yn-ddiweddarach\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-08-21T13:57:27+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-08-21T14:27:34+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"http:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/pexels-beze-5743996-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1707\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Beth Rees\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Beth Rees\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/etholiad-y-senedd-election-3-mis-yn-ddiweddarach\/\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/etholiad-y-senedd-election-3-mis-yn-ddiweddarach\/\",\"name\":\"Etholiad y Senedd \u2013 3 mis yn ddiweddarach - Anabledd Dysgu Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\"},\"datePublished\":\"2026-08-21T13:57:27+00:00\",\"dateModified\":\"2026-08-21T14:27:34+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/f144792fe6a2cd5ab6b53822ff712137\"},\"description\":\"Darllenwch ein herthygl am Etholiad y Senedd dri mis yn ddiweddarach, a beth mae'n ei olygu i bobl ag anabledd dysgu ledled Cymru.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/etholiad-y-senedd-election-3-mis-yn-ddiweddarach\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/etholiad-y-senedd-election-3-mis-yn-ddiweddarach\/\"]}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/\",\"name\":\"Anabledd Dysgu Cymru\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/f144792fe6a2cd5ab6b53822ff712137\",\"name\":\"Beth Rees\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/3e3c90cabec0d8febde8c4da2d563c7b?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/3e3c90cabec0d8febde8c4da2d563c7b?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Beth Rees\"},\"sameAs\":[\"http:\/\/www.ldw.org.uk\"],\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/beth-rees\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Etholiad y Senedd \u2013 3 mis yn ddiweddarach - Anabledd Dysgu Cymru","description":"Darllenwch ein herthygl am Etholiad y Senedd dri mis yn ddiweddarach, a beth mae'n ei olygu i bobl ag anabledd dysgu ledled Cymru.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/etholiad-y-senedd-election-3-mis-yn-ddiweddarach\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Etholiad y Senedd \u2013 3 mis yn ddiweddarach - Anabledd Dysgu Cymru","og_description":"Darllenwch ein herthygl am Etholiad y Senedd dri mis yn ddiweddarach, a beth mae'n ei olygu i bobl ag anabledd dysgu ledled Cymru.","og_url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/etholiad-y-senedd-election-3-mis-yn-ddiweddarach\/","og_site_name":"Anabledd Dysgu Cymru","article_published_time":"2026-08-21T13:57:27+00:00","article_modified_time":"2026-08-21T14:27:34+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1707,"url":"http:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/pexels-beze-5743996-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Beth Rees","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Beth Rees","Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/etholiad-y-senedd-election-3-mis-yn-ddiweddarach\/","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/etholiad-y-senedd-election-3-mis-yn-ddiweddarach\/","name":"Etholiad y Senedd \u2013 3 mis yn ddiweddarach - Anabledd Dysgu Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website"},"datePublished":"2026-08-21T13:57:27+00:00","dateModified":"2026-08-21T14:27:34+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/f144792fe6a2cd5ab6b53822ff712137"},"description":"Darllenwch ein herthygl am Etholiad y Senedd dri mis yn ddiweddarach, a beth mae'n ei olygu i bobl ag anabledd dysgu ledled Cymru.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/etholiad-y-senedd-election-3-mis-yn-ddiweddarach\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/etholiad-y-senedd-election-3-mis-yn-ddiweddarach\/"]}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/","name":"Anabledd Dysgu Cymru","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/f144792fe6a2cd5ab6b53822ff712137","name":"Beth Rees","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/3e3c90cabec0d8febde8c4da2d563c7b?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/3e3c90cabec0d8febde8c4da2d563c7b?s=96&d=mm&r=g","caption":"Beth Rees"},"sameAs":["http:\/\/www.ldw.org.uk"],"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/beth-rees\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/44642"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/67"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=44642"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/44642\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":44651,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/44642\/revisions\/44651"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/44611"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=44642"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=44642"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=44642"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}