{"id":44837,"date":"2026-09-14T09:31:17","date_gmt":"2026-09-14T08:31:17","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/national-inclusion-week-2026\/"},"modified":"2026-09-17T10:37:19","modified_gmt":"2026-09-17T09:37:19","slug":"cynhwysiant-cenedlaethol-2026","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cynhwysiant-cenedlaethol-2026\/","title":{"rendered":"Wythnos Cynhwysiant Cenedlaethol 2026: Beth mae cynhwysiant go iawn yn ei olygu i ni"},"content":{"rendered":"<h4>Heddiw (Dydd Llun 14 Medi) yw dechrau Wythnos Cynhwysiant Cenedlaethol 2026, ac roeddem yn awyddus i rannu beth mae cynhwysiant go iawn yn ei olygu i\u2019r t\u00eem yn Anabledd Dysgu Cymru.<\/h4>\n<hr \/>\n<p>Mae \u2018cynhwysiant\u2019 yn rhywbeth sy\u2019n cael ei drafod yn gyson. Er bod cymdeithas yn siarad am bwysigrwydd cynhwysiant, perthyn a \u2018bod yn chi eich hun\u2019 a mwy.<\/p>\n<p><strong>Faint ohonom sydd wir yn teimlo wedi\u2019n cynnwys, ac fel ein bod yn perthyn?<\/strong><\/p>\n<p>Mewn blynyddoedd diweddar, mae cynhwysiant wedi dod yn ffocws ar gyfer gweithleoedd gyda rhaglenni, rhwydweithiau a gweithdai\u2019n cael eu datblygu er mwyn adeiladu cymunedau gwell.<\/p>\n<p>Dyma ble mae <a href=\"https:\/\/www.inclusiveemployers.co.uk\/national-inclusion-week\/\">Wythnos Cynhwysiant Cenedlaethol<\/a> yn camu i\u2019r adwy.<\/p>\n<h4>Beth yw Wythnost Cynhwysiant Cenedlaethol?<\/h4>\n<p>Dechreuodd Cyflogwyr Cynhwysol Wythnos Cynhwysiant Cenedlaethol yn 2013, fel ymgyrch blynyddol gyda\u2019r nod o ddathlu cynhwysiant a chymryd camau positif tuag at greu gweithleoedd cynhwysol.<\/p>\n<p>Er ei fod yn wych gweld y newid hwn, gall cynhwysiant deimlo fel talcen caled i lawer o bobl gydag anabledd dysgu.<\/p>\n<p>I bobl ag anabledd dysgu, dydy cynhwysiant ddim jyst yn bwnc llosg, na\u2019n rhywbeth i godi ymwybyddiaeth amdano na\u2019i drafod. Mae\u2019n ymwneud \u00e2 chysylltu ag eraill, bod yn rhan o\u2019ch cymuned, cymdeithasu, dysgu a gallu gweithio os hoffech chi wneud hynny. Mae llawer iawn o bobl ag anabledd dysgu yn awyddus i weithio, ond nid ydynt yn cael y cyfle na\u2019r gefnogaeth i wneud hynny, ac i ni, dydy hynny ddim yn golygu cynhwysiant go iawn.<\/p>\n<p>Yn llawer rhy aml mae pobl ag anabledd dysgu yn wynebu rhwystrau mewn cymdeithas, sy\u2019n gallu eu gadael ar \u00f4l pan mae\u2019n dod i bethau fel systemau iechyd a gofal, addysg, cymunedau, trafnidiaeth a mannau cyhoeddus. Maen nhw\u2019n profi byd sydd weithiau yn gwneud iddynt deimlo\u2019n fwy ynysig ac yn fwy ar yr ymylon nag erioed.<\/p>\n<p>I ddyfynnu o thema Wythnos Cynhwysiant Cenedlaethol, mae angen i gymdeithas \u2018feithrin ymddiriedaeth\u2019 gyda phobl ag anabledd dysgu, a gwrando ar eu profiadau i \u2018lywio\u2019r newid\u2019 sydd wir ei angen i wneud iddyn nhw deimlo fel eu bod yn cael eu cynnwys go iawn.<\/p>\n<h4><strong>Beth mae cynhwysiant yn ei olygu i Anabledd Dysgu Cymru<\/strong><\/h4>\n<pre id=\"tw-target-text\" class=\"tw-data-text tw-text-large tw-ta\" dir=\"ltr\" tabindex=\"-1\" role=\"text\" data-placeholder=\"Translation\" data-ved=\"2ahUKEwj6nPOuq-6WAxVc9wIHHXy1KQcQ3ewLegQIDxAV\" aria-label=\"Translated text: Beth mae cynhwysiant yn ei olygu i Learning Disability Wales\"><\/pre>\n<p>I ni yn Anabledd Dysgu Cymru, nid gair y foment yw cynhwysiant. Mae\u2019n rhan hanfodol o\u2019r hyn rydym yn ei wneud, ac mae wedi\u2019i ymgorffori yng <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/about-us\/36090-2\/\">ngwerthoedd ein tim<\/a>.<\/p>\n<p>Rydym eisiau i bob aelod staff, ymddiriedolwr a gwirfoddolwr deimlo fel ei fod yn cael ei weld, ei glywed, ei werthfawrogi a\u2019i gynnwys. Mae gennym oll ran i\u2019w chwarae i wneud yn si\u0175r bod ein gweithle yn gynhwysol, ac rydyn ni\u2019n cydnabod hynny a\u2019r angen inni ddysgu gan ein gilydd i gyflawni hyn.<\/p>\n<p>Mae\u2019n golygu cymaint i lawer o bobl, a dyna pam y gofynnom ni i rai o\u2019n staff beth mae cynhwysiant go iawn yn ei olygu iddyn nhw:<\/p>\n<div style=\"overflow: auto; margin-bottom: 20px;\">\n<p><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" class=\"alignleft size-medium wp-image-44789\" src=\"http:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Zoe--200x300.jpg\" alt=\"A smiling person with blonde curly hair, wearing glasses, a pink shirt and blazer.\" width=\"200\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Zoe--200x300.jpg 200w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Zoe--684x1024.jpg 684w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Zoe--768x1150.jpg 768w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Zoe--1026x1536.jpg 1026w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Zoe--1368x2048.jpg 1368w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Zoe--600x898.jpg 600w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Zoe--scaled.jpg 1710w\" sizes=\"(max-width: 200px) 100vw, 200px\" \/><\/p>\n<p><strong>Zoe,\u00a0<\/strong><strong>Prif Weithredwr<\/strong><\/p>\n<p>\u201cTeimlad yw cynhwysiant.<\/p>\n<p>Teimlo fel y gallwch arwain, cymryd rhan, troi i fyny neu eithrio allan o ba bynnag gr\u0175p neu fywyd rydych chi\u2019n rhan ohono fo.<\/p>\n<p>Mae gallu rheoli sut rydych chi\u2019n cymryd rhan mewn rhywbeth yn hanfodol.\u201d<\/p>\n<\/div>\n<hr \/>\n<p><strong>Rhian, Hawdd ei Ddeall Cymru<\/strong><\/p>\n<p>\u201cI mi, mae cynhwysiant go iawn yn golygu gwrando ar bobl, credu ynddyn nhw a gwerthfawrogi\u2019r hyn maen nhw\u2019n ei gyfrannu. Mae\u2019n ymwneud \u00e2 bod yn hyblyg am sut mae pobl yn cymryd rhan, fel bod gan bawb gyfle go iawn i gael gafael ar yr hyn sydd ei angen arnynt, i ymuno, ac i wneud yn si\u0175r bod eu lleisiau\u2019n cael eu clywed.\u201d<\/p>\n<hr \/>\n<p><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" class=\"alignleft wp-image-44787 size-medium\" src=\"http:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Victoria-Waller-200x300.jpg\" alt=\"A person smiling at the camera. Hair pulled back, wearing a grey jacket\" width=\"200\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Victoria-Waller-200x300.jpg 200w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Victoria-Waller-683x1024.jpg 683w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Victoria-Waller-768x1151.jpg 768w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Victoria-Waller-1025x1536.jpg 1025w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Victoria-Waller-600x900.jpg 600w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Victoria-Waller.jpg 1366w\" sizes=\"(max-width: 200px) 100vw, 200px\" \/><\/p>\n<p><strong>Victoria, Gig Buddies Cymru (Gogledd Cymru)<\/strong><\/p>\n<p>\u201cMae cynhwysiant wedi dod yn rhan bwysig o fy mywyd dros y blynyddoedd.<\/p>\n<p>Credaf yn gryf bod gan bawb \u2013 gan gynnwys y rhai ohonom sydd ag anableddau dysgu a\/neu awtistiaeth neu unrhyw anabledd arall \u2013 yr hawl i deimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi, ein parchu a\u2019n cefnogi, ac yn rhydd i chwalu\u2019r rhwystrau hynny sy\u2019n ein hatal rhag mwynhau mynediad cyfartal a chymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar gymdeithas, gan gynnwys ein cymunedau lleol neu ein gweithleoedd.\u201d<\/p>\n<hr \/>\n<p><strong>Simon, t\u00eem Digwyddiadau<\/strong><\/p>\n<p>&#8220;Wrth drafod cynhwysiant, mae angen mynd i\u2019r afael \u00e2 chynhwysiant digidol, oherwydd mae cymaint o\u2019n bywyd modern yn ymwneud \u00e2 thechnoleg ddigidol. Mae angen inni wneud yn si\u0175r bod gan bawb fynediad i dechnoleg ddigidol, yn ogystal \u00e2\u2019r sgiliau a\u2019r gefnogaeth i fod yn ddiogel a gwneud y mwyaf o\u2019r hyn mae\u2019n ei gynnig.\u201d<\/p>\n<hr \/>\n<p><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" class=\"alignleft wp-image-44785 size-medium\" src=\"http:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Emma-Scott-Davies-1-e1789052810830-199x300.jpg\" alt=\"A person smiling at the camera with shoulder length blonde hair, wearing glasses.\" width=\"199\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Emma-Scott-Davies-1-e1789052810830-199x300.jpg 199w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Emma-Scott-Davies-1-e1789052810830-678x1024.jpg 678w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Emma-Scott-Davies-1-e1789052810830-768x1160.jpg 768w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Emma-Scott-Davies-1-e1789052810830-1017x1536.jpg 1017w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Emma-Scott-Davies-1-e1789052810830-600x906.jpg 600w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Emma-Scott-Davies-1-e1789052810830.jpg 1059w\" sizes=\"(max-width: 199px) 100vw, 199px\" \/><\/p>\n<p><strong>Emma, Gig Buddies Cymru (De Cymru)<\/strong><\/p>\n<p>\u201cI mi, mae cynhwysiant yn golygu cyfranogiad ac ymgysylltiad ystyrlon, go iawn.<\/p>\n<p>Teimlo fel eich bod wir yn rhan o rywbeth, yn hytrach na gwylio o\u2019r ymylon.\u201d<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<div><\/div>\n<hr \/>\n<p><strong>Inacia, Hawdd ei Ddeall<\/strong><\/p>\n<p>&#8220;I mi, mae cynhwysiant yn golygu gwneud i bobl deimlo fel y gallent fod yn nhw eu hunain. Mewn geiriau eraill, gwneud lle i bawb heb farnu na chwestiynu. Hefyd, gallu cael cefnogaeth gan eraill fel bod modd i chi fod ar eich gorau.\u201d<\/p>\n<hr \/>\n<p><strong><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" class=\"alignleft size-medium wp-image-44798\" src=\"http:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Beth-Learning-Disability-Wales-Policy-and-Communications--198x300.png\" alt=\"A person with short blonde hair and glasses smiling at the camera. Wearing a patterned top.\" width=\"198\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Beth-Learning-Disability-Wales-Policy-and-Communications--198x300.png 198w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Beth-Learning-Disability-Wales-Policy-and-Communications--674x1024.png 674w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Beth-Learning-Disability-Wales-Policy-and-Communications--768x1166.png 768w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Beth-Learning-Disability-Wales-Policy-and-Communications--600x911.png 600w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Beth-Learning-Disability-Wales-Policy-and-Communications-.png 843w\" sizes=\"(max-width: 198px) 100vw, 198px\" \/>Beth, t\u00eem Polisi a Chyfathrebu<\/strong><\/p>\n<p>\u201cI mi, teimlo fel eich bod yn perthyn drwy fod yn chi eich hun yw cynhwysiant.<\/p>\n<p>Mae teimlo fel eich bod yn cael eich derbyn, eich gwerthfawrogi ac yn bwysig yn arwydd o gynhwysiant go iawn.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Heddiw (Dydd Llun 14 Medi) yw dechrau Wythnos Cynhwysiant Cenedlaethol 2026, ac roeddem yn awyddus i rannu beth mae cynhwysiant go iawn yn ei olygu i\u2019r t\u00eem yn Anabledd Dysgu Cymru. Mae \u2018cynhwysiant\u2019 yn rhywbeth sy\u2019n cael ei drafod yn gyson. Er bod cymdeithas yn siarad am bwysigrwydd cynhwysiant, perthyn a \u2018bod yn chi eich &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cynhwysiant-cenedlaethol-2026\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":67,"featured_media":44782,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"image","meta":[],"categories":[28],"tags":[111],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v20.11 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Wythnos Cynhwysiant Cenedlaethol 2026: Beth mae cynhwysiant go iawn yn ei olygu i ni - Anabledd Dysgu Cymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"This National Inclusion Week 2026, read about what real inclusion means to the staff at Learning Disability Wales.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cynhwysiant-cenedlaethol-2026\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"National Inclusion Week 2026: What inclusion means to us\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Here at Learning Disability Wales, inclusion isn\u2019t just a buzzword. It\u2019s a vital part of what we do. This National Inclusion Week 2026, read about what real inclusion means to the staff at Learning Disability Wales.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cynhwysiant-cenedlaethol-2026\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-09-14T08:31:17+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-09-17T09:37:19+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"http:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Learning-Disability-Wales-Team-.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1200\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1011\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Beth Rees\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Beth Rees\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cynhwysiant-cenedlaethol-2026\/\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cynhwysiant-cenedlaethol-2026\/\",\"name\":\"Wythnos Cynhwysiant Cenedlaethol 2026: Beth mae cynhwysiant go iawn yn ei olygu i ni - Anabledd Dysgu Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\"},\"datePublished\":\"2026-09-14T08:31:17+00:00\",\"dateModified\":\"2026-09-17T09:37:19+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/f144792fe6a2cd5ab6b53822ff712137\"},\"description\":\"This National Inclusion Week 2026, read about what real inclusion means to the staff at Learning Disability Wales.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cynhwysiant-cenedlaethol-2026\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cynhwysiant-cenedlaethol-2026\/\"]}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/\",\"name\":\"Anabledd Dysgu Cymru\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/f144792fe6a2cd5ab6b53822ff712137\",\"name\":\"Beth Rees\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/3e3c90cabec0d8febde8c4da2d563c7b?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/3e3c90cabec0d8febde8c4da2d563c7b?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Beth Rees\"},\"sameAs\":[\"http:\/\/www.ldw.org.uk\"],\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/beth-rees\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Wythnos Cynhwysiant Cenedlaethol 2026: Beth mae cynhwysiant go iawn yn ei olygu i ni - Anabledd Dysgu Cymru","description":"This National Inclusion Week 2026, read about what real inclusion means to the staff at Learning Disability Wales.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cynhwysiant-cenedlaethol-2026\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"National Inclusion Week 2026: What inclusion means to us","og_description":"Here at Learning Disability Wales, inclusion isn\u2019t just a buzzword. It\u2019s a vital part of what we do. This National Inclusion Week 2026, read about what real inclusion means to the staff at Learning Disability Wales.","og_url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cynhwysiant-cenedlaethol-2026\/","og_site_name":"Anabledd Dysgu Cymru","article_published_time":"2026-09-14T08:31:17+00:00","article_modified_time":"2026-09-17T09:37:19+00:00","og_image":[{"width":1200,"height":1011,"url":"http:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Learning-Disability-Wales-Team-.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Beth Rees","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Beth Rees","Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cynhwysiant-cenedlaethol-2026\/","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cynhwysiant-cenedlaethol-2026\/","name":"Wythnos Cynhwysiant Cenedlaethol 2026: Beth mae cynhwysiant go iawn yn ei olygu i ni - Anabledd Dysgu Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website"},"datePublished":"2026-09-14T08:31:17+00:00","dateModified":"2026-09-17T09:37:19+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/f144792fe6a2cd5ab6b53822ff712137"},"description":"This National Inclusion Week 2026, read about what real inclusion means to the staff at Learning Disability Wales.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cynhwysiant-cenedlaethol-2026\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cynhwysiant-cenedlaethol-2026\/"]}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/","name":"Anabledd Dysgu Cymru","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/f144792fe6a2cd5ab6b53822ff712137","name":"Beth Rees","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/3e3c90cabec0d8febde8c4da2d563c7b?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/3e3c90cabec0d8febde8c4da2d563c7b?s=96&d=mm&r=g","caption":"Beth Rees"},"sameAs":["http:\/\/www.ldw.org.uk"],"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/beth-rees\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/44837"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/67"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=44837"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/44837\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":44878,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/44837\/revisions\/44878"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/44782"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=44837"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=44837"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=44837"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}