{"id":44861,"date":"2026-09-15T12:10:46","date_gmt":"2026-09-15T11:10:46","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?p=44861"},"modified":"2026-09-17T10:35:27","modified_gmt":"2026-09-17T09:35:27","slug":"creu-cysylltiadau-yng-ngogledd-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/creu-cysylltiadau-yng-ngogledd-cymru\/","title":{"rendered":"Diweddariad Victoria: Creu cysylltiadau yng ngogledd Cymru"},"content":{"rendered":"<p><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" class=\"alignright wp-image-44787 size-medium\" src=\"http:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Victoria-Waller-200x300.jpg\" alt=\"A person smiling at the camera. Hair pulled back, wearing a grey jacket\" width=\"200\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Victoria-Waller-200x300.jpg 200w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Victoria-Waller-683x1024.jpg 683w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Victoria-Waller-768x1151.jpg 768w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Victoria-Waller-1025x1536.jpg 1025w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Victoria-Waller-600x900.jpg 600w, https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Victoria-Waller.jpg 1366w\" sizes=\"(max-width: 200px) 100vw, 200px\" \/><\/p>\n<p><strong>Victoria Waller yw ein llysgennad Ffrindiau Gig yng ngogledd Cymru. O ystyried ei holl waith caled, gofynnom i Vic rannu rhai o\u2019r pethau mae wedi bod wrthi yn eu gwneud i hyrwyddo Ffrind Gigiau ers dechrau yn ei swydd. <\/strong><\/p>\n<p>Haia, Victoria Waller ydw i a dw i\u2019n falch o fod yn llysgennad Ffrindiau Gig yng ngogledd Cymru! Mae fy swydd yn cynnwys siarad \u00e2 phobl am sut mae Ffrindiau Gig yn helpu oedolion gydag anabledd dysgu ac oedolion awtistig i oresgyn unigrwydd trwy ddiwylliant, cyfeillgarwch a hwyl.<\/p>\n<p>Ers i mi gael fy mhenodi i\u2019r swydd ym mis Tachwedd 2025, rwyf wedi mwynhau mynd i ddigwyddiadau, rhedeg stondinau a rhwydweithio gyda sefydliadau eraill ledled gogledd Cymru. Rwy\u2019n hynod falch o gynrychioli <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/project\/ffrindiau-gigiau-gig-buddies\/\">Ffrindiau Gig Cymru<\/a> ac o fod yn rhan o D\u00eem Anabledd Dysgu Cymru.<\/p>\n<p>Dw i wedi bod ar stondinau Ffrindiau Gig mewn digwyddiadau, o ddiwrnodau recriwtio mewn canolfannau byd gwaith i\u2019r gynhadledd <a href=\"https:\/\/www.bild.org.uk\/news-item\/advancing-pbs-at-the-international-positive-behaviour-support-conference-2026-conference-report\/\">Cymorth Ymddygiadol Positif<\/a>, i <a href=\"https:\/\/www.angleseyshow.org.uk\/cy\">Sioe M\u00f4n<\/a> yn fwyaf diweddar. Dw i wedi mwynhau\u2019n fawr iawn y cyfle i siarad \u00e2 phobl am y prosiect, recriwtio gwirfoddolwyr, cofrestru cyfranogwyr a rhwydweithio gyda sefydliadau lleol.<\/p>\n<p>Fel rhywun sydd wedi bod yn ffrind gig ers 2020, dw i\u2019n gallu rhoi mewnwelediad go iawn i sut mae\u2019r prosiect yn gallu cael effaith bositif ar fywydau pobl.<\/p>\n<p>Rhan o\u2019r hwyl yw gallu rhoi rhoddion a nwyddau am ddim gyda\u2019r logo Ffrindiau Gig! Mae gennym feiros, cylchoedd allweddi, bathodynnau, sticeri a\u2019n taflenni newydd sbon danlli&#8230; Mae\u2019r byrddau\u2019n sefyll allan bob tro diolch i\u2019n bw\u00e2u plu, gorchuddion bwrdd disgo a\u2019r byntin sy\u2019n denu pobl yn eu cannoedd.<\/p>\n<p>Fis Mehefin, nes i redeg gr\u0175p cynllunio cymdeithasol i\u2019n ffrindiau gig ar Zoom gydag <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/cyflwyno-ellie-morgan-cydlynnydd-cymorth-prosiect-newydd-ffrindiau-gig-ngogledd-cymru\/\">Ellie, ein cydlynydd cymorth prosiect<\/a>. Gwnaethom feddwl am gwestiynau hwyliog a fyddai\u2019n ennyn chwilfrydedd, i ddysgu beth mae\u2019r ffrindiau wir eisiau ei wneud gyda\u2019u bywydau cymdeithasol. Ymysg pethau eraill, gwnaethom drafod ein hoff brydau bwyd, cerddorion a pha weithgareddau rydym eisiau rhoi cynnig arnynt.<\/p>\n<p>Roedd gan ein ffrindiau lawer o syniadau gr\u00eat, a byddwn yn eu cynnwys nhw yn y digwyddiadau cymdeithasol a drefnwn ledled Gogledd Cymru.<\/p>\n<h3>FOCUS Cymru<\/h3>\n<p>Uchafbwynt y flwyddyn i mi oedd ymweld \u00e2 G\u0175yl <a href=\"https:\/\/focuswales.com\/cy\/\">FOCUS Cymru<\/a> yn Wrecsam ym mis Mai. Am y tro cyntaf, bues i\u2019n aros mewn AirBnB a hynny gyda fy nghydweithwyr Ellie a Malan. S\u00f4n am chwerthin!<\/p>\n<p>Roedd gennym stondin Ffrindiau Gig drwy gydol yr \u0175yl gyda llawer o roddion am ddim i\u2019w rhannu \u00e2\u2019r cyhoedd. Bues i\u2019n rhwydweithio gyda phobl bwysig, gan gynnwys cyd-sylfaenydd yr \u0175yl, Andy Jones, cyfarwyddwr <a href=\"https:\/\/www.tycerdd.org\/\">T\u0177 Cerdd<\/a> a hyrwyddwr cerddoriaeth Cymreig.<\/p>\n<p>Fy hoff berfformiad oedd un Gwenno, ac ro\u2019n i\u2019n ddigon ffodus i gwrdd \u00e2 hi, cael sgwrs a thynnu lluniau gyda hi ar \u00f4l iddi orffen! I ffwrdd \u00e2 fi ar ddiwedd yr \u0175yl yn teimlo\u2019n lwcus iawn o fod wedi profi cymaint a chwrdd \u00e2 chymaint o bobl newydd mewn ychydig ddyddiau. Ro\u2019n i wedi blino\u2019n l\u00e2n, ond yn y ffordd orau posibl.<\/p>\n<h3>Sgyrsiau a Chyflwyniadau<\/h3>\n<p>Rhan o fy r\u00f4l fel llysgennad yw rhoi cyflwyniadau a sgyrsiau i sefydliadau ledled gogledd Cymru. Rydyn ni\u2019n bwriadu cael gymaint o bobl ag sy\u2019n bosibl yn rhan o\u2019n prosiect anhygoel, a byddaf yn falch o rannu ein stori gydag unrhyw un sy\u2019n fodlon gwrando!<\/p>\n<p>Nes i siarad am y tro cyntaf (nid y tro olaf gobeithio!) mewn cyfarfod <a href=\"https:\/\/www.anneddni.co.uk\/cy\">Anheddau Ni<\/a>, sefydliad anabledd dysgu sydd wedi\u2019i leoli ym Mangor, Gwynedd. Cynhaliwyd y sgwrs ar-lein dros Zoom gydag un o\u2019u grwpiau ar ddydd Mawrth. Roedd un o\u2019n cyfranogwyr, Paul &#8211; sy\u2019n Ddarlithydd Er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor &#8211; yn rhan o\u2019r gr\u0175p hwn. Ro\u2019n i o\u2019r farn fod y sesiwn yn hynod lwyddiannus. Nid yn unig oedden nhw\u2019n cael cyfle i ddysgu amdanom ni, ond hefyd sut y gallent elwa o\u2019r prosiect drwy ymuno \u00e2 ni fel cyfranogwr.<\/p>\n<p>Yn fwy diweddar, bues i\u2019n cyflwyno i <a href=\"https:\/\/bipbc.gig.cymru\/gwasanaethau\/gwasanaethau-ysbyty\/tim-gwella-iechyd\/\">D\u00eem Gwella Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr<\/a> yn Wrecsam. Ro\u2019n i\u2019n falch iawn o fod yng nghwmni John, fy nghydweithiwr, ar y diwrnod. Dangosodd y t\u00eem ddiddordeb go iawn mewn Gig Buddies, beth rydym yn ei wneud a\u2019m profiad go iawn o fod yn ffrind gig. Nes i hefyd roi ychydig o fewnwelediad i\u2019m bywyd go iawn personol fel rhywun sydd ag anabledd dysgu prin iawn &#8211; er yn aml iawn ac o\u2019m safbwynt i, mae\u2019n well gen i ei alw yn anaf i\u2019r ymennydd.<\/p>\n<p>Fis Medi, byddaf yn cyflwyno i <a href=\"https:\/\/avow.org\/\">Gyngor Gwirfoddol Wrecsam<\/a> yn eu rhwydwaith iechyd a gofal. Dw i\u2019n bwriadu mynd \u00e2 chardiau busnes hefo fi i\u2019w rhannu \u00e2 sefydliadau arall fydd yno. Dw i wrth fy modd yn rhwydweithio &#8211; un o\u2019r pethau gorau am fy swydd!<\/p>\n<p>Rydym yn awyddus i adeiladu\u2019r gymuned Ffrindiau Gig ar draws Gogledd Cymru. Os ydych chi ynghlwm wrth sefydliad celfyddydol, gr\u0175p cymunedol, clwb chwaraeon neu leoliad cerddoriaeth, cysylltwch ar bob cyfrif a bydden i\u2019n falch iawn o ddod i siarad \u00e2\u2019ch aelodau.<\/p>\n<p>Mae angen mwy o wirfoddolwyr arnom i leihau lefelau ynysu cymdeithasol ymysg pobl ag anableddau dysgu a\/neu awtistiaeth yng ngogledd Cymru.<\/p>\n<p>Os ydych eisiau cael hwyl, gwneud ffrindiau newydd a chael effaith bositif ar eich cymuned, cysylltwch \u00e2 ni drwy e-bostio <a href=\"mailto:gigbuddies@ldw.org.uk\">gigbuddies@ldw.org.uk<\/a> neu ffonio 029 2068 1160.<\/p>\n<p>Fy nghyfeiriad e-bost yw <a href=\"mailto:victoria.waller@ldw.org.uk\">victoria.waller@ldw.org.uk<\/a>. Cysylltwch ar bob cyfrif os oes gennych unrhyw gwestiynau!<\/p>\n<p>Dw i wedi mwynhau fy hun yn fawr iawn yn bob yn llysgennad, a dw i\u2019n methu aros am y cyfleoedd sydd ar ddod!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Victoria Waller yw ein llysgennad Ffrindiau Gig yng ngogledd Cymru. O ystyried ei holl waith caled, gofynnom i Vic rannu rhai o\u2019r pethau mae wedi bod wrthi yn eu gwneud i hyrwyddo Ffrind Gigiau ers dechrau yn ei swydd. Haia, Victoria Waller ydw i a dw i\u2019n falch o fod yn llysgennad Ffrindiau Gig yng &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/creu-cysylltiadau-yng-ngogledd-cymru\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":44788,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[28],"tags":[110],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v20.11 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Diweddariad Victoria: Creu cysylltiadau yng ngogledd Cymru - Anabledd Dysgu Cymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Darllenwch flog Victoria o Ffrindiau Gig am ei gwaith fel llysgennad a creu cysylltiadau yng ngogledd Cymru.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/creu-cysylltiadau-yng-ngogledd-cymru\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Diweddariad Victoria: Creu cysylltiadau yng ngogledd Cymru - Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Darllenwch flog Victoria o Ffrindiau Gig am ei gwaith fel llysgennad a creu cysylltiadau yng ngogledd Cymru.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/creu-cysylltiadau-yng-ngogledd-cymru\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-09-15T11:10:46+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-09-17T09:35:27+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"http:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Victoria-Waller.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1366\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"2048\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Kai Jones\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Kai Jones\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/creu-cysylltiadau-yng-ngogledd-cymru\/\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/creu-cysylltiadau-yng-ngogledd-cymru\/\",\"name\":\"Diweddariad Victoria: Creu cysylltiadau yng ngogledd Cymru - Anabledd Dysgu Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\"},\"datePublished\":\"2026-09-15T11:10:46+00:00\",\"dateModified\":\"2026-09-17T09:35:27+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c\"},\"description\":\"Darllenwch flog Victoria o Ffrindiau Gig am ei gwaith fel llysgennad a creu cysylltiadau yng ngogledd Cymru.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/creu-cysylltiadau-yng-ngogledd-cymru\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/creu-cysylltiadau-yng-ngogledd-cymru\/\"]}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/\",\"name\":\"Anabledd Dysgu Cymru\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c\",\"name\":\"Kai Jones\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Kai Jones\"},\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/kai-jones\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Diweddariad Victoria: Creu cysylltiadau yng ngogledd Cymru - Anabledd Dysgu Cymru","description":"Darllenwch flog Victoria o Ffrindiau Gig am ei gwaith fel llysgennad a creu cysylltiadau yng ngogledd Cymru.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/creu-cysylltiadau-yng-ngogledd-cymru\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Diweddariad Victoria: Creu cysylltiadau yng ngogledd Cymru - Anabledd Dysgu Cymru","og_description":"Darllenwch flog Victoria o Ffrindiau Gig am ei gwaith fel llysgennad a creu cysylltiadau yng ngogledd Cymru.","og_url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/creu-cysylltiadau-yng-ngogledd-cymru\/","og_site_name":"Anabledd Dysgu Cymru","article_published_time":"2026-09-15T11:10:46+00:00","article_modified_time":"2026-09-17T09:35:27+00:00","og_image":[{"width":1366,"height":2048,"url":"http:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Victoria-Waller.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Kai Jones","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Kai Jones","Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/creu-cysylltiadau-yng-ngogledd-cymru\/","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/creu-cysylltiadau-yng-ngogledd-cymru\/","name":"Diweddariad Victoria: Creu cysylltiadau yng ngogledd Cymru - Anabledd Dysgu Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website"},"datePublished":"2026-09-15T11:10:46+00:00","dateModified":"2026-09-17T09:35:27+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c"},"description":"Darllenwch flog Victoria o Ffrindiau Gig am ei gwaith fel llysgennad a creu cysylltiadau yng ngogledd Cymru.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/creu-cysylltiadau-yng-ngogledd-cymru\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/creu-cysylltiadau-yng-ngogledd-cymru\/"]}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/","name":"Anabledd Dysgu Cymru","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/b0b7a1e5e98bc201391364a87c18e06c","name":"Kai Jones","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1cabb50f0ad5c373838a5fbccd5ea7f9?s=96&d=mm&r=g","caption":"Kai Jones"},"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/kai-jones\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/44861"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=44861"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/44861\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":44876,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/44861\/revisions\/44876"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/44788"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=44861"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=44861"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=44861"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}