{"id":8250,"date":"2019-06-13T10:38:44","date_gmt":"2019-06-13T09:38:44","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/stories-of-social-care\/"},"modified":"2019-07-08T15:43:49","modified_gmt":"2019-07-08T14:43:49","slug":"stories-of-social-care","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/stories-of-social-care\/","title":{"rendered":"Straeon am ofal cymdeithasol"},"content":{"rendered":"<p><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" class=\"alignnone size-medium wp-image-8011\" style=\"width: 105px;\" src=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/06\/measuring-the-mountain-300x143.bmp\" alt=\"Measuring the mountain logo\" width=\"300\" height=\"70\" \/><\/p>\n<p><strong>Y llynedd fe helpodd Katie Cooke gyda\u2019r <a href=\"http:\/\/www.mtm.wales\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">prosiect Mesur y Mynydd<\/a>, gan weithio gyda phobl a chyrff ar draws Cymru i gasglu 473 o straeon am brofiadau pobl o ofal cymdeithasol, a chynnal Rheithgor Dinasyddion i edrych ar y cwestiwn \u2018Beth sydd yn cyfrif mewn gwirionedd mewn gofal cymdeithasol i unigolion yng Nghymru?\u2019<\/strong><\/p>\n<p>Cafodd y prosiect ei gyllido gan Lywodraeth Cymru er mwyn deall rhagor am effaith cynnar y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a dysgu rhagor am brofiadau gofalwyr a phobl sydd yn derbyn gofal a chefnogaeth o ofal cymdeithasol.<\/p>\n<hr \/>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Treuliais cryn dipyn o 2018 yn sgwrsio gyda phobl am eu profiadau o ofal, yn dysgu am berthnasoedd pobl gyda darparwyr gwasanaethau, cymhlethdod anghenion rhai pobl, yr anawsterau y gall pobl eu wynebu wrth geisio cael gafael ar y gwasanaethau a\u2019r effaith y mae bod angen cefnogaeth yn gallu ei gael ar fywyd rhywun, ac ar fywydau\u2019r rhai o\u2019u cwmpas.<\/p>\n<p>Daeth y straeon y gwnaethom eu casglu o ganolfannau dydd, digwyddiadau cymdeithasol, cartrefi pobl, cynadleddau a gweithdai, eiriolaeth a sawl maes arall o ofal cymdeithasol. Roedd profiadau pobl yn amrywio o rai negyddol dros ben i rai cadarnhaol iawn a gyda\u2019i gilydd roedden nhw\u2019n amlygu them\u00e2u a ffactorau allweddol sydd yn gallu cyfrannu tuag at brofiadau person.<\/p>\n<p>Cafodd nifer o\u2019r them\u00e2u yma eu hailadrodd yn y Rheithgor Dinasyddion lle treuliodd 14 aelod o\u2019r cyhoedd dridiau yn gwrando ar wybodaeth gan raglen lawn o unigolion oedd yn ymwneud ag un ai darparu neu dderbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol. Gweithiodd y rheithgor gyda\u2019i gilydd i ofyn cwestiynau, archwilio\u2019r pynciau oedd yn cael eu rhannu ac yna cynhyrchu 15 o argymhellion ar draws pedwar maes y Ddeddf.<\/p>\n<p>Roedd eu hargymhellion yn cynnwys cynnig cefnogaeth i bobl gan weithwyr allweddol diduedd i\u2019w helpu i lywio gofal cymdeithasol, gwella\u2019r gefnogaeth a\u2019r gwerth a ddangosir tuag at ofalwyr, deall a sefydlu cydgynhyrchu mewn darpariaeth gofal cymdeithasol a sicrhau bod gwybodaeth yn glir ac wedi\u2019i gynhyrchu mewn fformatau hygyrch sydd yn diwallu anghenion pawb.<\/p>\n<p>Mae\u2019r argymhellion yma yn amlygu rhai o\u2019r meysydd holl bwysig a nodir yn y straeon:<\/p>\n<p>\u201cRoedd 75% o\u2019r profiadau a rannwyd gan ofalwyr yn negyddol, o\u2019i gymharu \u00e2 44% a rannwyd gan bobl oedd yn derbyn gofal a chefnogaeth\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd ychydig dros hanner y rhai a ymatebodd i gwestiynau am wybodaeth nad oedden nhw wedi derbyn unrhyw wybodaeth oedd yn ddefnyddiol iddyn nhw a phan ofynnwyd iddyn nhw pwy oedd wedi dylanwadu ar beth oedd wedi digwydd yn y stori roedden nhw wedi ei rhannu, dywedodd 51% o\u2019r bobl mai staff gofal cymdeithasol oedd y dylanwadwyr pennaf.<\/p>\n<p>Amlygodd y straeon feysydd o arfer gorau hefyd a rhai o\u2019r ffactorau sydd yn cyfrannu tuag at brofiadau cadarnhaol. Roedden nhw\u2019n dangos yn neilltuol pa mor bwysig ydy cysylltiadau pobl gyda chymuned, teulu, ffrindiau neu hyd yn oed gydag un person yn unig. Lle roedd pobl yn cael eu cefnogi i gynnal neu i ddatblygu eu cysylltiadau, boed drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau roedden nhw\u2019n eu mwynhau, gallu ymweld \u00e2 theulu a ffrindiau neu gallu byw gyda phobl roedden nhw\u2019n eu hoffi, roedd eu straeon yn gadarnhaol.<\/p>\n<p>Gyda\u2019i gilydd, cynhyrchodd Mesur y Mynydd 31 o argymhellion, a gellir distyllu nifer ohonyn nhw i\u2019r neges bod angen edrych ar bobl fel partneriaid yn y ddarpariaeth gofal cymdeithasol<\/p>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Mae rhagor eto i\u2019w ddysgu am brofiadau pobl o ofal cymdeithasol a\u2019r ffactorau sydd yn cyfrannu at wneud y profiadau hynny yn gadarnhaol neu yn negyddol, fel bod darpariaeth gofal cymdeithasol yn gallu cefnogi anghenion pobl yn well. O fis Awst 2019 fe fyddwn yn dechrau casglu straeon unwaith eto. Gallwch ddarllen rhagor am ein canfyddiadau, ein hargymhellion a digwyddiadau i ddod ar ein gwefan \u2013 <\/span><a style=\"background-color: #f0f0f0; font-size: 2.1rem;\" href=\"http:\/\/www.mtm.wales\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">www.mtm.wales.<\/a><\/p>\n<p><strong>Katie Cooke<br \/>\nMesur y Mynydd<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Y llynedd fe helpodd Katie Cooke gyda\u2019r prosiect Mesur y Mynydd, gan weithio gyda phobl a chyrff ar draws Cymru i gasglu 473 o straeon am brofiadau pobl o ofal cymdeithasol, a chynnal Rheithgor Dinasyddion i edrych ar y cwestiwn \u2018Beth sydd yn cyfrif mewn gwirionedd mewn gofal cymdeithasol i unigolion yng Nghymru?\u2019 Cafodd y &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/stories-of-social-care\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":8014,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[30,28],"tags":[],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v20.11 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Straeon am ofal cymdeithasol - Anabledd Dysgu Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/stories-of-social-care\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Straeon am ofal cymdeithasol - Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Y llynedd fe helpodd Katie Cooke gyda\u2019r prosiect Mesur y Mynydd, gan weithio gyda phobl a chyrff ar draws Cymru i gasglu 473 o straeon am brofiadau pobl o ofal cymdeithasol, a chynnal Rheithgor Dinasyddion i edrych ar y cwestiwn \u2018Beth sydd yn cyfrif mewn gwirionedd mewn gofal cymdeithasol i unigolion yng Nghymru?\u2019 Cafodd y &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/stories-of-social-care\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2019-06-13T09:38:44+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2019-07-08T14:43:49+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/06\/parent-with-son-small-e1628255043105.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2396\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1729\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Karen Warner\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Karen Warner\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"3 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/stories-of-social-care\/\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/stories-of-social-care\/\",\"name\":\"Straeon am ofal cymdeithasol - Anabledd Dysgu Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\"},\"datePublished\":\"2019-06-13T09:38:44+00:00\",\"dateModified\":\"2019-07-08T14:43:49+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/6e76b0f46e8e6178a7ee3e59265428aa\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/stories-of-social-care\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/stories-of-social-care\/\"]}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/\",\"name\":\"Anabledd Dysgu Cymru\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/6e76b0f46e8e6178a7ee3e59265428aa\",\"name\":\"Karen Warner\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/2d10bdfa2bdaa0065f6e79a2ffe89f30?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/2d10bdfa2bdaa0065f6e79a2ffe89f30?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Karen Warner\"},\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/karen-warner\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Straeon am ofal cymdeithasol - Anabledd Dysgu Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/stories-of-social-care\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Straeon am ofal cymdeithasol - Anabledd Dysgu Cymru","og_description":"Y llynedd fe helpodd Katie Cooke gyda\u2019r prosiect Mesur y Mynydd, gan weithio gyda phobl a chyrff ar draws Cymru i gasglu 473 o straeon am brofiadau pobl o ofal cymdeithasol, a chynnal Rheithgor Dinasyddion i edrych ar y cwestiwn \u2018Beth sydd yn cyfrif mewn gwirionedd mewn gofal cymdeithasol i unigolion yng Nghymru?\u2019 Cafodd y &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/stories-of-social-care\/","og_site_name":"Anabledd Dysgu Cymru","article_published_time":"2019-06-13T09:38:44+00:00","article_modified_time":"2019-07-08T14:43:49+00:00","og_image":[{"width":2396,"height":1729,"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/06\/parent-with-son-small-e1628255043105.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Karen Warner","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Karen Warner","Est. reading time":"3 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/stories-of-social-care\/","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/stories-of-social-care\/","name":"Straeon am ofal cymdeithasol - Anabledd Dysgu Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website"},"datePublished":"2019-06-13T09:38:44+00:00","dateModified":"2019-07-08T14:43:49+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/6e76b0f46e8e6178a7ee3e59265428aa"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/stories-of-social-care\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/stories-of-social-care\/"]}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/","name":"Anabledd Dysgu Cymru","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/6e76b0f46e8e6178a7ee3e59265428aa","name":"Karen Warner","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/2d10bdfa2bdaa0065f6e79a2ffe89f30?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/2d10bdfa2bdaa0065f6e79a2ffe89f30?s=96&d=mm&r=g","caption":"Karen Warner"},"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/karen-warner\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8250"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8250"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8250\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8252,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8250\/revisions\/8252"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8014"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8250"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8250"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8250"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}