{"id":9389,"date":"2019-09-23T09:34:14","date_gmt":"2019-09-23T08:34:14","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?p=9389"},"modified":"2019-09-24T10:01:39","modified_gmt":"2019-09-24T09:01:39","slug":"helping-families-access-public-services-toolkit-and-workshops","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/helping-families-access-public-services-toolkit-and-workshops\/","title":{"rendered":"Helpu teuluoedd plant anabl i gael mynediad i wasanaethau cyhoeddus  pecyn cymorth a gweithdai"},"content":{"rendered":"<p><strong>Yn aml mae rhieni yn cael trafferth i dderbyn y gefnogaeth gywir i\u2019w plant anabl.\u00a0I helpu teuluoedd, mae Cerebra wedi datblygu <a href=\"https:\/\/www.cerebra.org.uk\/help-and-information\/guides-for-parents\/problem-solving-toolkit\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Pecyn Cymorth i Gael Mynediad i Wasanaethau Cyhoeddus<\/a> i gefnogi pobl anabl, teuluoedd a gofalwyr sydd yn cael trafferthion gydag asiantaethau statudol.<\/strong><\/p>\n<h3><strong>Brwydro i gael cefnogaeth<\/strong><\/h3>\n<p>Mae plant anabl a\u2019u teuluoedd angen cefnogaeth ychwanegol weithiau er mwyn cael bywyd normal beunyddiol. Er enghraifft, help gydag ymolchi neu fwyta, symud o gwmpas neu gyfathrebu. Mae\u2019n ddyletswydd cyfreithiol ar gyrff cyhoeddus i ateb yr anghenion yma drwy ddarparu cefnogaeth, fel darparu rhywun i helpu gyda gofal personol yn y cartref, offer arbenigol, addasiadau, egwyl byr neu wasanaethau therapi Ond rydym yn gwybod o\u2019n gwaith yn <a href=\"https:\/\/www.cerebra.org.uk\/help-and-information\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Cerebra<\/a> gyda theuluoedd, mae rhieni yn aml yn ymarferol yn cael trafferth i dderbyn y gefnogaeth gywir i\u2019w plant ac mae diffyg cefnogaeth yn gallu amharu ar iechyd a llesiant y teulu cyfan.<\/p>\n<h3><strong>Ymchwil<\/strong><\/h3>\n<p>Datgelodd ymchwil a gynhaliwyd gydag Ysgol y Gyfraith Caerdydd ym mis Hydref 2015 bod teuluoedd plant anabl yn profi oedi sylweddol wrth gael diagnosis GIG a phan maen nhw\u2019n derbyn eu diagnosis ychydig iawn\u00a0 o rieni sydd yn cael gwybodaeth ysgrifenedig am hynny. Dydy gwasanaethau cefnogi ddim yn cael eu cynnig bob amser a phan fydd hynny\u2019n digwydd, yn aml iawn dydyn nhw ddim yn ateb anghenion y teulu. Mae rhieni hefyd yn amharod i gwyno am hyn ac os ydyn nhw\u2019n cwyno, anaml iawn y bydd eu pryderon yn cael eu trafod.<\/p>\n<h3><strong>Pecyn cymorth i gael mynediad i wasanaethau cyhoeddus<\/strong><\/h3>\n<p>O ganlyniad i\u2019r ymchwil, yn 2016, a gyda chefnogaeth y Cyngor Economaidd a Gofal Cymdeithasol<strong>, <\/strong>cyhoeddodd Cerebra <a href=\"https:\/\/www.cerebra.org.uk\/help-and-information\/guides-for-parents\/problem-solving-toolkit\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">y Pecyn Cymorth i Gael Mynediad i Wasanaethau Cyhoeddus<\/a>\u00a0i gefnogi pobl anabl a gofalwyr sydd yn wynebu anawsterau gyda\u2019r asiantaethau statudol mewn perthynas \u00e2 darpariaeth \u00a0gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg.<\/p>\n<p>Mae\u2019n wir dweud bod cyfraith y DU yn darparu hawliau pwerus i wasanaethau cefnogi o\u2019r fath, ond gall hyn ynddoi\u2019i hun fod yn annigonol.<\/p>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\"><a href=\"http:\/\/www.lukeclements.co.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Luke Clements, cyfreithiwr ac Athro&#8217;r Gyfraith Cerebra ym Mhrifysgol Leeds<\/a>, a ddatblygodd y Pecyn Cymorth gyda chyfraniad rhieni-ofalwyr. Mae Luke yn esbonio: \u201c<em>Gall y gyfraith fod yn gymhleth ac yn anodd i\u2019w deall. Hyd yn oed pan fyddwch yn gwybod beth ydy eich hawliau, gall fod yn frawychus, yn flinedig ac ar adegau yn arswydus i herio swyddogion cyhoeddus. Mae yna anghydbwysedd grym ac mae cryn dipyn o ymchwil yn awgrymu (ac mewn gwirionedd mae\u2019r Llywodraeth yn derbyn hyn) bod nifer o deuluoedd yn poeni y gall cwyno waethygu pethau<\/em>\u201d.<\/span><\/p>\n<h3><strong>Canllaw ymarferol i ddatrys problemau<\/strong><\/h3>\n<p>Mae\u2019r pecyn cymorth yn ganllaw ymarferol, cynhwysfawr a hawdd ei ddefnyddio i helpu teuluoedd i ddatrys anawsterau gyda\u2019u gwasanaethau cefnogi statudol iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg. Ei nod ydy helpu i ddatrys problemau cyffredin a chynnig strategaethau effeithiol i\u2019w datrys. Mae\u2019n:<\/p>\n<ul>\n<li>ystyried naw categori cyffredin o anghydfod, o anghydfodau rhyng-asiantaeth ac achosion cymhleth i broblemau oedi ac adnoddau, ac mae\u2019n cynnig cyngor manwl ar gyfer eu datrys<\/li>\n<li>nodi ffactorau allweddol sydd yn gallu grymuso pobl i hawlio eu hawliau ac i herio methiannau pan fydd hynny\u2019n digwydd<\/li>\n<li>cynnig cyngor ar baratoi ar gyfer, mynychu a dilyn i fyny ar gyfarfodydd<\/li>\n<li>nodi cyfres o lythyrau enghreifftiol y gall teuluoedd eu defnyddio mewn amrywiol sefyllfaoedd.<\/li>\n<\/ul>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Mae hefyd yn darparu Chwalu Jargon, esboniad o\u2019r hyn mae\u2019n rhaid i awdurdodau cyhoeddus ei wneud ac mae\u2019n archwilio nifer o chwedlau cyffredin.<\/span><\/p>\n<h3><strong>Gweithdai i deuluoedd<\/strong><\/h3>\n<p>Er mwyn cyrraedd cymaint o deuluoedd \u00e2 phosibl, mae Cerebra wedi cyflwyno\u2019r pecyn cymorth am ddim i grwpiau rhieni-ofalwyr ar draws Cymru, Lloegr a\u2019r Alban. Hyd yn hyn rydym wedi cynnal 74 o weithdai ac rydym eisiau cynnal rhagor ledled y DU. Ac felly rydym wrthi ar hyn o bryd yn edrych ar y posibilrwydd o gydweithio gydag Anabledd Dysgu Cymru i gynyddu ein gwaith yng Nghymru a hefyd ymestyn darpariaeth i gyrff cefnogi i gynyddu eu galluoedd cyfreithiol er\u00a0 mwyn eu galluogi i roi gwell cymorth i rieni-ofalwyr a\u2019u teuluoedd. Edrychwn ymlaen at eich gweld mewn gweithdy yn y dyfodol agos!<\/p>\n<h3><strong>Cerebra \u2013 pwy ydyn ni<\/strong><\/h3>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cerebra.org.uk\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Mae Cerebra yn elusen cenedlaethol wedi\u2019i leoli yng Nghaerfyrddin<\/a> ac mae\u2019n cefnogi teuluoedd sydd \u00e2 phlant gydag anableddau yn deillio o gyflwr yr ymennydd. Elusen ymchwil ydyn ni yn ein hanfod sydd yn cyllido nifer o <a href=\"https:\/\/eur03.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fwww.cerebra.org.uk%2Fresearch%2F&amp;data=01%7C01%7CTilleyD1%40cardiff.ac.uk%7C06c0ef8c7925458ceae008d731f2cea2%7Cbdb74b3095684856bdbf06759778fcbc%7C1&amp;sdata=H6wA9CufSQv6mGkjbymSFRx00Tjw%2Fc4JqkxURjA6qtk%3D&amp;reserved=0\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">grwpiau ymchwil meddygol<\/a> a\u2019r Prosiect Hawliau Cyfreithiol a Datrys Problemau (LEaP) sydd yn ymchwilio i\u2019r problemau y mae teuluoedd yn eu wynebu wrth geisio cael mynediad i\u2019r gwasanaethau sydd yn ddyledus iddyn nhw gan gyrff cyhoeddus fel awdurdodau lleol a\u2019r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Arweinydd y Prosiect LEaP ydy Luke Clements, Athro Cyfiawnder Cymdeithasol ym Mhrifysgol Leeds. Nod y prosiect ydy arfogi teuluoedd yn well i ddatrys problemau a galluogi asiantaethau statudol i wella eu prosesau gwneud penderfyniadau ac felly lleihau\u2019r tebygolrwydd bod problemau o\u2019r fath yn codi eto yn y dyfodol.<\/p>\n<p><strong>Derek Tilley<br \/>\n<\/strong><strong>Cerebra<\/strong><\/p>\n<p>Rhif Uniongyrchol T\u00eem LEaP: 01267 242582<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn aml mae rhieni yn cael trafferth i dderbyn y gefnogaeth gywir i\u2019w plant anabl.\u00a0I helpu teuluoedd, mae Cerebra wedi datblygu Pecyn Cymorth i Gael Mynediad i Wasanaethau Cyhoeddus i gefnogi pobl anabl, teuluoedd a gofalwyr sydd yn cael trafferthion gydag asiantaethau statudol. Brwydro i gael cefnogaeth Mae plant anabl a\u2019u teuluoedd angen cefnogaeth ychwanegol &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/helping-families-access-public-services-toolkit-and-workshops\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":9371,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[30,28],"tags":[],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v20.11 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Helpu teuluoedd plant anabl i gael mynediad i wasanaethau cyhoeddus pecyn cymorth a gweithdai - Anabledd Dysgu Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/helping-families-access-public-services-toolkit-and-workshops\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Helpu teuluoedd plant anabl i gael mynediad i wasanaethau cyhoeddus pecyn cymorth a gweithdai - Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Yn aml mae rhieni yn cael trafferth i dderbyn y gefnogaeth gywir i\u2019w plant anabl.\u00a0I helpu teuluoedd, mae Cerebra wedi datblygu Pecyn Cymorth i Gael Mynediad i Wasanaethau Cyhoeddus i gefnogi pobl anabl, teuluoedd a gofalwyr sydd yn cael trafferthion gydag asiantaethau statudol. Brwydro i gael cefnogaeth Mae plant anabl a\u2019u teuluoedd angen cefnogaeth ychwanegol &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/helping-families-access-public-services-toolkit-and-workshops\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2019-09-23T08:34:14+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2019-09-24T09:01:39+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/access-to-services-toolkit.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"968\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"926\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Karen Warner\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Karen Warner\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"4 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/helping-families-access-public-services-toolkit-and-workshops\/\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/helping-families-access-public-services-toolkit-and-workshops\/\",\"name\":\"Helpu teuluoedd plant anabl i gael mynediad i wasanaethau cyhoeddus pecyn cymorth a gweithdai - Anabledd Dysgu Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\"},\"datePublished\":\"2019-09-23T08:34:14+00:00\",\"dateModified\":\"2019-09-24T09:01:39+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/6e76b0f46e8e6178a7ee3e59265428aa\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/helping-families-access-public-services-toolkit-and-workshops\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/helping-families-access-public-services-toolkit-and-workshops\/\"]}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/\",\"name\":\"Anabledd Dysgu Cymru\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/6e76b0f46e8e6178a7ee3e59265428aa\",\"name\":\"Karen Warner\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/2d10bdfa2bdaa0065f6e79a2ffe89f30?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/2d10bdfa2bdaa0065f6e79a2ffe89f30?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Karen Warner\"},\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/karen-warner\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Helpu teuluoedd plant anabl i gael mynediad i wasanaethau cyhoeddus pecyn cymorth a gweithdai - Anabledd Dysgu Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/helping-families-access-public-services-toolkit-and-workshops\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Helpu teuluoedd plant anabl i gael mynediad i wasanaethau cyhoeddus pecyn cymorth a gweithdai - Anabledd Dysgu Cymru","og_description":"Yn aml mae rhieni yn cael trafferth i dderbyn y gefnogaeth gywir i\u2019w plant anabl.\u00a0I helpu teuluoedd, mae Cerebra wedi datblygu Pecyn Cymorth i Gael Mynediad i Wasanaethau Cyhoeddus i gefnogi pobl anabl, teuluoedd a gofalwyr sydd yn cael trafferthion gydag asiantaethau statudol. Brwydro i gael cefnogaeth Mae plant anabl a\u2019u teuluoedd angen cefnogaeth ychwanegol &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/helping-families-access-public-services-toolkit-and-workshops\/","og_site_name":"Anabledd Dysgu Cymru","article_published_time":"2019-09-23T08:34:14+00:00","article_modified_time":"2019-09-24T09:01:39+00:00","og_image":[{"width":968,"height":926,"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/access-to-services-toolkit.png","type":"image\/png"}],"author":"Karen Warner","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Karen Warner","Est. reading time":"4 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/helping-families-access-public-services-toolkit-and-workshops\/","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/helping-families-access-public-services-toolkit-and-workshops\/","name":"Helpu teuluoedd plant anabl i gael mynediad i wasanaethau cyhoeddus pecyn cymorth a gweithdai - Anabledd Dysgu Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website"},"datePublished":"2019-09-23T08:34:14+00:00","dateModified":"2019-09-24T09:01:39+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/6e76b0f46e8e6178a7ee3e59265428aa"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/helping-families-access-public-services-toolkit-and-workshops\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/helping-families-access-public-services-toolkit-and-workshops\/"]}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/","name":"Anabledd Dysgu Cymru","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/6e76b0f46e8e6178a7ee3e59265428aa","name":"Karen Warner","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/2d10bdfa2bdaa0065f6e79a2ffe89f30?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/2d10bdfa2bdaa0065f6e79a2ffe89f30?s=96&d=mm&r=g","caption":"Karen Warner"},"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/karen-warner\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9389"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9389"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9389\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9484,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9389\/revisions\/9484"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9371"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9389"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9389"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9389"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}