{"id":9954,"date":"2019-10-15T11:49:25","date_gmt":"2019-10-15T10:49:25","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/plaid-cymru-care-commission-releases-report-on-social-care-in-wales\/"},"modified":"2019-10-22T10:23:22","modified_gmt":"2019-10-22T09:23:22","slug":"plaid-cymru-care-commission-releases-report-on-social-care-in-wales","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/plaid-cymru-care-commission-releases-report-on-social-care-in-wales\/","title":{"rendered":"Comisiwn Gofal Plaid Cymru yn rhyddhau adroddiad ar ofal cymdeithasol yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae comisiwn gofal a sefydlwyd gan Plaid Cymru wedi argymell y dylai\u2019r holl ofal cymdeithasol yng Nghymru fod am ddim lle mae ei angen. Mae barn yn cael ei gasglu ar hyn o bryd ar y cynllun newydd mentrus yma, ac mae\u2019n debygol y bydd Plaid Cymru yn mabwysiadu\u2019r cynigion cyn etholiadau nesaf y Cynulliad yn 2021.<\/strong><\/p>\n<p><strong style=\"font-size: 2.1rem;\"><strong>Mae ein Swyddog Polisi, Grace Krause, yn edrych ar y cynigion a sut y maen nhw\u2019n debygol o fod o fudd i bobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru<\/strong>.<\/strong><\/p>\n<p>Argymhelliad canolog yr adroddiad, &#8216;<a href=\"http:\/\/ww.partyof.wales\/gofal_care\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Datblygu gweledigaeth ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru&#8217;<\/a>, ydy y dylai mynediad i ofal cymdeithasol yng Nghymru fod am ddim lle mae ei angen, fel ag y mae gyda gofal iechyd. Mae\u2019r Comisiwn Gofal yn datgan \u201cGan fod 80% o gost cyfredol gofal cymdeithasol yn dod o gyllid cyhoeddus, ein hargymhelliad cyntaf ydy y dylai gofal cymdeithasol fod am ddim lle mae ei angen fel ag y mae Iechyd.&#8221; Gan restru cost gofal cymdeithasol yn y cartref a phreswyl i oedolion yng Nghymru fel &#8220;tua \u00a3247m y flwyddyn,&#8221; mae\u2019r adroddiad yn datgan bod \u201ccost gofal cymdeithasol am ddim yn fforddiadwy ond mae angen ewyllys gwleidyddol i wneud iddo ddigwydd.\u201d<\/p>\n<p>Mae\u2019r adroddiad yn dilyn ymarferiad ymgynghori blwyddyn o hyd lle y derbyniodd Comisiwn Gofal Plaid Cymru dystiolaeth gan y sector statudol, y Trydydd Sector a chyrff yn cynrychioli cleifion a phobl sydd yn defnyddio gwasanaethau. Pwysleisiodd cyflwynwyr a chyflwyniadau yr anghydbwysedd rhwng staff Iechyd a Gofal Cymdeithasol o ran cyflogau ac o ran telerau ac amodau a hefyd o ran y parch tuag at y ddau wasanaeth.<\/p>\n<p>Yn y cyflwyniad i\u2019r adroddiad, mae Comisiwn Gofal Plaid Cymru yn datgan &#8220;o\u2019i gymharu \u00e2\u2019r parch y mae pobl yn ei deimlo tuag at y GIG, dydy nifer o bobl ddim yn deall nac yn gwerthfawrogi beth ydy gofal cymdeithasol a\u2019r cyfraniad holl bwysig y mae\u2019n ei wneud i gymdeithas. Mae gofal cymdeithasol yn gyfartal o ran gwerth i iechyd ac mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn haeddu\u2019r un parch a thriniaeth ag yr ydym yn eu rhoi i weithwyr iechyd. Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn wynebu\u2019r un risgiau o gam-drin geiriol a chorfforol \u00e2 staff GIG.&#8221;<\/p>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Mae\u2019r adroddiad yn pwysleisio &#8220;os ydy gofal cymdeithasol yn methu, fe fydd y GIG yn methu.&#8221;<\/span><\/p>\n<h3><strong>Crynodeb o argymhellion<\/strong><\/h3>\n<p>Mae\u2019r adroddiad yn nodi nifer o argymhellion:<\/p>\n<ol>\n<li><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Pob Gofal Cymdeithasol i\u2019w gyflwyno am ddim ar y pwynt lle mae ei angen.<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Ymrwymiad i ofal sy\u2019n canoli ar yr unigolyn wrth gynllunio a chyflwyno\u2019r gwasanaeth.<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Datblygu ymyriad cynnar a gwasanaethau ataliol.<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Cyfnod trosiannol wedi ei gynllunio, wedi ei gostio ac yn seiledig ar dystiolaeth, i gyllido gwasanaethau aciwt ac ataliol ar yr un pryd.<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Cydraddoldeb t\u00e2l a thelerau ac amodau rhwng staff gofal cymdeithasol a staff iechyd.<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Talu am ofal cymdeithasol drwy drethiant cyffredinol, gyda phwyslais ar fuddsoddi mewn ymyrraeth gynnar a gwasanaethau ataliol.<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Sefydlu\u2019r costau sydd eu hangen ac i fuddsoddi yn y dechnoleg angenrheidiol i weithredu agwedd gydlynus a chydweithredol dros Gymru gyfan.<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Dwyn i mewn y Trydydd Sector a darparwyr eraill fel partneriaid yng nghyfnod cynllunio a chomisiynu cyflwyno gwasanaethau a bod yn rhydd i arloesi ar yr un pryd.<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Datblygu gweithlu dwyieithog i ddarparu gwasanaeth gofal cymdeithasol cyfan gwbl ddwyieithog.<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Creu Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol, wedi\u2019i reoli yn genedlaethol gan Fwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol.<\/span><\/li>\n<\/ol>\n<h3><strong>Beth sydd yn dda am y cynnig?<\/strong><\/h3>\n<p>Mae Anabledd Dysgu Cymru yn croesawu\u2019r cynnig polisi yma. Rydym yn gwybod oddi wrth ein haelodau bod pobl gydag anabledd dysgu yn aml yn cael trafferth i gael mynediad i ofal cymdeithasol a hyd yn oed gwybod pa gefnogaeth mae ganddyn nhw hawl i\u2019w dderbyn. Fe fyddai cael system gofal cymdeithasol sydd yn haws i\u2019w lywio ac un lle mae pobl gydag anabledd dysgu yn gallu derbyn gofal da lle a phan maen nhw ei angen yn welliant mawr. Rydym hefyd yn gwybod bod nifer o ddarparwyr gofal yn cael trafferth i gadw gweithwyr cefnogi a gofalwyr sydd yn cefnogi pobl gydag anabledd dysgu. Y prif reswm dros hynny ydy\u2019r amodau gwaith a chyflogau isel yn y meysydd yma.<\/p>\n<p><span style=\"font-size: 2.1rem;\">Mae\u2019r adroddiad yn cynnig y dylai fod gan bobl sydd yn gweithio yn y maes gofal cymdeithasol well amodau gwaith a chyflogau. Fe fyddai gwella amodau gwaith y rhai sydd yn cefnogi pobl gydag anabledd dysgu yn eu galluogi i ddarparu gwell gofal. Fe fyddai hefyd yn golygu bod gofalwyr a gweithwyr cefnogi yn fwy tebygol o aros yn hirach mewn un swydd gan olygu eu bod yn gallu adeiladu perthynas well gyda\u2019r bobl y maen nhw\u2019n gweithio gyda nhw.<\/span><\/p>\n<h3><strong>Beth allai fod yn well?<\/strong><\/h3>\n<p>Un peth sydd ar goll inni yn y cynnig polisi yma ydy ymrwymiad i roi mwy o reolaeth i bobl gydag anabledd dysgu a phobl eraill sydd yn derbyn gofal cymdeithasol. Mae\u2019r adroddiad yn gofyn am ofal wedi\u2019i ganoli ar y person, sydd yn gweld yr unigolyn yn eu cyd-destun cymdeithasol. Mae hyn yn gychwyn ardderchog, ond mae\u2019n bwysig bod gofal cymdeithasol yn galluogi pobl i gael cymaint o annibyniaeth ag y maen nhw eisiau. Yn yr un modd, mae\u2019r adroddiad yn cynnig y dylid cynnwys cyrff Trydydd Sector (fel Anabledd Dysgu Cymru) a darparwyr eraill wrth gynllunio a chomisiynu gwasanaethau. Dylid ymgynghori yn uniongyrchol hefyd gyda\u2019r bobl sydd yn defnyddio\u2019r gwasanaethau. Mae\u2019n eithriadol o bwysig y dylai fod gan bobl gydag anabledd dysgu eu hunain lais i\u00a0 ddweud sut y dylai system gofal cymdeithasol edrych .<\/p>\n<p>Gallwch weld rhagor am yr adroddiad yn <a href=\"https:\/\/www.partyof.wales\/social_care\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">\u00a0adran Comisiwn Gofal Cymdeithasol ar wefan Plaid Cymru.<\/a><\/p>\n<p><strong>Grace Krause<br \/>\n<\/strong>Swyddog Polisi, Anabledd Dysgu Cymru<\/p>\n<p>Dilynwch fi ar Twitter<span style=\"font-size: 2.1rem;\">\u00a0<\/span><a style=\"background-color: #f0f0f0; font-size: 2.1rem;\" href=\"https:\/\/twitter.com\/Grace_LDW\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">@Grace_LDW<\/a><span style=\"font-size: 2.1rem;\">.<\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae comisiwn gofal a sefydlwyd gan Plaid Cymru wedi argymell y dylai\u2019r holl ofal cymdeithasol yng Nghymru fod am ddim lle mae ei angen. Mae barn yn cael ei gasglu ar hyn o bryd ar y cynllun newydd mentrus yma, ac mae\u2019n debygol y bydd Plaid Cymru yn mabwysiadu\u2019r cynigion cyn etholiadau nesaf y Cynulliad &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/plaid-cymru-care-commission-releases-report-on-social-care-in-wales\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":38,"featured_media":9822,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[30,29,28],"tags":[],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v20.11 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Comisiwn Gofal Plaid Cymru yn rhyddhau adroddiad ar ofal cymdeithasol yng Nghymru - Anabledd Dysgu Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/plaid-cymru-care-commission-releases-report-on-social-care-in-wales\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Comisiwn Gofal Plaid Cymru yn rhyddhau adroddiad ar ofal cymdeithasol yng Nghymru - Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae comisiwn gofal a sefydlwyd gan Plaid Cymru wedi argymell y dylai\u2019r holl ofal cymdeithasol yng Nghymru fod am ddim lle mae ei angen. Mae barn yn cael ei gasglu ar hyn o bryd ar y cynllun newydd mentrus yma, ac mae\u2019n debygol y bydd Plaid Cymru yn mabwysiadu\u2019r cynigion cyn etholiadau nesaf y Cynulliad &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/plaid-cymru-care-commission-releases-report-on-social-care-in-wales\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Anabledd Dysgu Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2019-10-15T10:49:25+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2019-10-22T09:23:22+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/EFt0ewoXkAAz5PJ.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"900\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1200\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Samantha Williams\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Samantha Williams\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/plaid-cymru-care-commission-releases-report-on-social-care-in-wales\/\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/plaid-cymru-care-commission-releases-report-on-social-care-in-wales\/\",\"name\":\"Comisiwn Gofal Plaid Cymru yn rhyddhau adroddiad ar ofal cymdeithasol yng Nghymru - Anabledd Dysgu Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\"},\"datePublished\":\"2019-10-15T10:49:25+00:00\",\"dateModified\":\"2019-10-22T09:23:22+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/03faba94ff9aa13220a971b327bd01c2\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/plaid-cymru-care-commission-releases-report-on-social-care-in-wales\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/plaid-cymru-care-commission-releases-report-on-social-care-in-wales\/\"]}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/\",\"name\":\"Anabledd Dysgu Cymru\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/03faba94ff9aa13220a971b327bd01c2\",\"name\":\"Samantha Williams\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1001f5dce5ea65b054d78d9d14a89a7c?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1001f5dce5ea65b054d78d9d14a89a7c?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Samantha Williams\"},\"url\":\"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/samantha-williams\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Comisiwn Gofal Plaid Cymru yn rhyddhau adroddiad ar ofal cymdeithasol yng Nghymru - Anabledd Dysgu Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/plaid-cymru-care-commission-releases-report-on-social-care-in-wales\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Comisiwn Gofal Plaid Cymru yn rhyddhau adroddiad ar ofal cymdeithasol yng Nghymru - Anabledd Dysgu Cymru","og_description":"Mae comisiwn gofal a sefydlwyd gan Plaid Cymru wedi argymell y dylai\u2019r holl ofal cymdeithasol yng Nghymru fod am ddim lle mae ei angen. Mae barn yn cael ei gasglu ar hyn o bryd ar y cynllun newydd mentrus yma, ac mae\u2019n debygol y bydd Plaid Cymru yn mabwysiadu\u2019r cynigion cyn etholiadau nesaf y Cynulliad &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/plaid-cymru-care-commission-releases-report-on-social-care-in-wales\/","og_site_name":"Anabledd Dysgu Cymru","article_published_time":"2019-10-15T10:49:25+00:00","article_modified_time":"2019-10-22T09:23:22+00:00","og_image":[{"width":900,"height":1200,"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/EFt0ewoXkAAz5PJ.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Samantha Williams","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Samantha Williams","Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/plaid-cymru-care-commission-releases-report-on-social-care-in-wales\/","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/plaid-cymru-care-commission-releases-report-on-social-care-in-wales\/","name":"Comisiwn Gofal Plaid Cymru yn rhyddhau adroddiad ar ofal cymdeithasol yng Nghymru - Anabledd Dysgu Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website"},"datePublished":"2019-10-15T10:49:25+00:00","dateModified":"2019-10-22T09:23:22+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/03faba94ff9aa13220a971b327bd01c2"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/plaid-cymru-care-commission-releases-report-on-social-care-in-wales\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/plaid-cymru-care-commission-releases-report-on-social-care-in-wales\/"]}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#website","url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/","name":"Anabledd Dysgu Cymru","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/03faba94ff9aa13220a971b327bd01c2","name":"Samantha Williams","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1001f5dce5ea65b054d78d9d14a89a7c?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1001f5dce5ea65b054d78d9d14a89a7c?s=96&d=mm&r=g","caption":"Samantha Williams"},"url":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/author\/samantha-williams\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9954"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/38"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9954"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9954\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9956,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9954\/revisions\/9956"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9822"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9954"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9954"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ldw.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9954"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}