Young woman holding a camera smiling

Rydym yn cynnal cystadleuaeth tynnu llun gyda Radio Abl ar gyfer unrhyw un sy’n byw yng Nghymru ac sydd ag anabledd dysgu.

Nid ydych angen camera drud, gallwch ddefnyddio eich camera ffôn.

Tynnwch lun sy’n ymwneud â thema ein cynhadledd eleni sef Dyfodol pob un ohonom ni ac wedyn anfonwch y llun atom er mwyn cael cyfle i ennill gwobr.

Gall fod yn llun o unrhyw beth, ond rhaid iddo fe ddweud stori am sut hoffech chi weld eich dyfodol.

29 Hydref 2018 yw’r dyddiad cau.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi fy ffonio ar 0292068 1161 neu ebost Harriett.johnson@ldw.org.uk

Able Radio logo