Rydyn ni am i Gymru fod y wlad orau yn y byd i bobl ag anabledd dysgu fyw, dysgu, caru a gweithio.

Rydyn ni’n chwarae rôl unigryw mewn gwneud i hyn ddigwydd – drwy ein gwasanaethau ein hunain, gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff eraill a dylanwadu ar bolisi.