Os oes gennych chi nifer o bobl sydd angen yr un hyfforddiant, gallech arbed arian trwy drefnu hyfforddiant mewnol o Anabledd Dysgu Cymru.

Gallwn gynnig pob y cyrsiau yn isod neu ddatblygu cyrsiau hollol addas ar gyfer eich mudiad neu eich prosiect ledled Cymru.

  • Hyblyg a chost-effeithiol

Gallwn gyflwyno ein cyrsiau yn eich adeilad neu adeilad o’ch dewis chi, ar amser a dyddiad sydd orau gennych chi. Rydych chi’n talu am yr hyfforddiant yn hytrach nag am y person, sy’n rhoi elw llawer gwell i chi am eich buddsoddiad.

  • Hyfforddiant addas ar gyfer eich anghenion

Rydym ni’n addasu hyd a chynnwys y cwrs i gyd-fynd â’ch nodau a’ch anghenion. Gallwn ni hefyd ddarparu cymwysterau achrededig ar gyfer rhai o’n cyrsiau.

  • Hyfforddwyr profiadol

Bydd ein hyfforddwyr profiadol yn cyflwyno’r cwrs i’r safonau uchaf i sicrhau eich bod yn diwallu eich nodau dysgu. Er mwyn sicrhau ein bod yn cadw ein safonau a chwrdd â’ch disgwyliadau, fe fyddwn yn gofyn am adborth gan y dysgwyr ar ddiwedd bob cwrs ac yn ei basio ymlaen atoch chi.

  • Prisiau a chaffaeladwyedd

I drafod eich anghenion hyfforddi ac am fwy o wybodaeth am brisiau a chaffaeladwyedd, e-bostiwch enquiries@ldw.org.uk neu ffoniwch ni ar 029 2068 1160.