Rydym yn gyd-Ysgrifenyddion, gyda Sara Pickard o Mencap Cymru, y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu, ar ran y Consortiwm Anabledd Dysgu.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Mercher 26 Mehefin 2024 12.15-1.15pm ar Zoom. Archebwch eich lle am ddim nawr.

Mae’r Grŵp Trawsbleidiol yn cynnwys Aelodau’r Senedd o rai o’r prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru ac aelodau o Grŵp Cyfeirio Anabledd Cymru. Nod y Grŵp yw hyrwyddo’r materion sy’n effeithio ar fywydau pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru a’u teuluoedd/gofalwyr.

Mae Consortiwm Anabledd Dysgu yn cynnwys sefydliadau trydydd sector yng Nghymru sy’n cynrychioli buddiannau pobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd/gofalwyr: All Wales ForumPobl yn Gyntaf Cymru GyfanCymorth Cymru, Anabledd Dysgu Cymru, Down’s Syndrome Association (Cymru) a Mencap Cymru.

Sefydlwyd y grŵp yn dilyn trafodaethau o fewn y Consortiwm am yr angen i amlygu’r materion penodol mae pobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd/gofalwyr yn eu hwynebu yng Nghymru. Rydym ni wedi bod yn aelodau o’r Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd ers peth amser ac er bod llawer o’r materion a godwyd yn y grŵp hwn yr un mor berthnasol i fywydau pobl ag anableddau dysgu, mae llawer o faterion eraill sy’n effeithio’n benodol ar bobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd yr oeddem ni’n teimlo bod angen rhoi sylw iddynt. Dyna pam y penderfynodd y Consortiwm sefydlu Grŵp Trawsbleidiol newydd ar Anabledd Dysgu i edrych ar y materion hyn. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i weithio gyda’r Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd ar faterion sy’n effeithio ar bobl anabl ledled Cymru.

Bu i’r Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu newydd gyfarfod am y tro cyntaf ar 11 Mai 2022 i ethol Cadeirydd ac Ysgrifennydd. Fe wnaeth aelodau’r grŵp ethol Sioned Williams AS yn Gadeirydd, a Samantha Williams a Sara Pickard yn gyd-Ysgrifenyddion y grŵp ar ran Anabledd Dysgu Cymru. Rhoddodd Joe Powell, Cyfarwyddwr Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, gyflwyniad yn y cyfarfod ar pam ei fod yn meddwl ei bod yn bwysig sefydlu’r Grŵp Trawsbleidiol newydd a’i obeithion o ran yr hyn y gallai’r grŵp ei gyflawni. Bu’r aelodau hefyd yn trafod pynciau a siaradwyr gwadd posibl ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol a chytunwyd y dylai o leiaf hanner y siaradwyr ym mhob cyfarfod fod yn bobl â phrofiad byw.

Cynhaliwyd cyfarfod 2 ar-lein ar 21 Medi 2022 ar bwnc anghydraddoldebau iechyd.

Cynhaliwyd cyfarfod 3 ar-lein ar 7 Rhagfyr 2022 ar yr argyfwng costau byw.

Cynhaliwyd cyfarfod 4 ar-lein ar 30 Mawrth 2023. Roedd hyn yn cynnwys y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a chefnogi rhieni ag anabledd dysgu.

Cynhaliwyd cyfarfod 5 yn Nhŷ Hywel, Bae Caerdydd ac ar-lein ar 27 Mehefin 2023 ar broblemau ag adnewyddu tocynnau bws a’r canllawiau newydd ar gyfer cefnogi rhieni ag anabledd dysgu.

Cynhaliwyd cyfarfod 6 ar-lein ar 27 Medi 2023 ar wasanaethau dydd.

Cynhaliwyd cyfarfod 7 ar-lein ar 12 Rhagfyr 2023 ar addysg arbenigol ar ôl 16 mlwydd oed.

Gallwch ddarllen cofnodion hawdd eu deall o bob cyfarfod trwy glicio ar y dolenni o dan ‘Cyfarfodydd’ isod.

Bydd cyfarfodydd y dyfodol yn agored i unrhyw un sy’n dymuno mynychu. Bydd dyddiadau a gwybodaeth am sut i ymuno â’r cyfarfodydd ar gael yn fuan. Os hoffech chi dderbyn e-byst am gyfarfodydd y dyfodol a gwaith y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu, e-bostiwch samantha.williams@ldw.org.uk i ymuno â’r rhestr bostio.

Gallwch ddarllen rheolau’r Senedd ar gyfer pob Grŵp Trawsbleidiol ar eu gwefan yma.