Tudalennau hawdd

Pwy ydyn ni

Mae Anabledd Dysgu Cymru yn elusen genedlaethol. Rydyn ni yn gweithio gyda:

  • pobl ag anabledd dysgu
  • teuluoedd a gofalwyr, a
  • sefydliadau sy’n cefnogi pobl ag anabledd dysgu.

Rydyn ni eisiau i Gymru fod y wlad orau yn y byd i bobl ag anabledd dysgu i:

  • byw
  • dysgu
  • a gweithio.

Beth rydyn ni'n ei wneud

  1. Rydyn ni yn helpu pobl i ddeall materion sy’n effeithio arnyn nhw.

Rydyn ni yn sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu a’u cefnogwyr yn gwybod am faterion pwysig.

Rydyn ni yn gwneud hyn gan ddefnyddio ein gwefan, cyfryngau cymdeithasol, a gwasanaeth Hawdd ei Ddeall. A thrwy gynnal digwyddiadau am bynciau pwysig.

  1. Rydyn ni’n rhoi hyfforddiant i bobl fel bod ganddyn nhw well dealltwriaeth o anableddau dysgu.

Rydyn ni eisiau i bawb sy’n gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu feddu ar y sgiliau a’r gwerthoedd gorau. Felly, rydyn ni yn eu helpu i wella eu gwybodaeth a’u sgiliau.

  1. Rydyn ni yn helpu i wella’r gwasanaethau y mae pobl yn eu derbyn.

Dylai pobl ag anabledd dysgu gael gwasanaethau a chymorth sy’n eu helpu i fyw bywydau ystyrlon.

Rydyn ni yn helpu i wneud i hyn ddigwydd trwy gydgynhyrchu prosiectau newydd a chyffrous. Rydyn ni yn gwneud hyn gyda phobl ag anabledd dysgu a sefydliadau eraill.

Cydgynhyrchu neu gydgynhyrchu - mae hyn yn golygu bod pobl sy'n defnyddio gwasanaethau a gweithwyr proffesiynol yn gweithio gyda'i gilydd yn gyfartal. Mae pawb yn cael eu cynnwys pan fydd penderfyniadau'n cael eu gwneud.
  1. Rydyn ni’n siarad dros bobl ac yn herio pethau pan maen nhw’n mynd o chwith.

Rydyn ni yn sicrhau bod lleisiau pobl ag anabledd dysgu a’u cefnogwyr yn cael eu clywed ac yn ymateb iddynt.

Ein gwaith ni

Mae ein gwaith ar hyn o bryd yn cynnwys y prosiectau canlynol:

Pobl yr 21ain Ganrif – Dyma ein prif brosiect yn Anabledd Dysgu Cymru. Mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mewn Cymru fodern dylai pobl ag anabledd dysgu allu byw bywydau modern. Nod Pobl yr 21ain Ganrif yw gwneud hyn drwy weithio yn y meysydd hyn:

  • Teuluoedd yr 21ain Ganrif
  • Lleisiau’r 21ain Ganrif
  • Pobl Iach yr 21ain Ganrif
  • Byw yn yr 21ain Ganrif.

Dysgwch am Bobl yr 21ain Ganrif.

Polisi – Rydym yn helpu i wella cyfreithiau a pholisïau sy’n effeithio ar bobl ag anabledd dysgu.

Rydyn ni yn gwneud hyn drwy weithio gyda phobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd, Llywodraeth Cymru, cynghorau, a sefydliadau pobl anabl eraill.

Dysgwch fwy am ein gwaith polisi.

Polisi neu bolisïau - set o reolau sy'n dweud sut y dylid gwneud pethau.

Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu – Grŵp o Aelodau o’r Senedd a phobl eraill sydd am wella pethau i bobl ag anabledd dysgu.

Rydyn ni yn helpu i drefnu gwaith y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu. Rydyn ni yn gwneud hyn gyda Sara Pickard o Mencap Cymru.

Dysgwch am ein gwaith gyda’r Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu.

Aelodau o'r Senedd ydy'r bobl rydyn ni yn pleidleisio drostynt ac yn eu hethol i'n cynrychioli yn Senedd Cymru. Maen nhw'n gwneud y deddfau i Gymru. Ac maen nhw'n gwirio gwaith Llywodraeth Cymru.

Engage to Change – Mae’r prosiect hwn yn helpu pobl ifanc (16 i 25 oed) gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth i ddod o hyd i waith cyflogedig a’i gadw.

Rydyn ni yn gweithio gyda Elite Supported Employment, Agoriad Cyf, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan a DFN Project SEARCH ar y prosiect hwn.

Dysgwch fwy am Engage to Change.

Ffrindiau Gigiau Cymru – Mae’r prosiect hwn yn paru oedolion ag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth gyda chyfaill gwirfoddol fel y gallant fwynhau gigiau a digwyddiadau eraill gyda’i gilydd.

Dysgwch am Ffrindiau Gigiau.

Senedd Ieuenctid Cymru – Rydyn ni yn cefnogi 2 berson ifanc anabl sy’n Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru. Eu rôl yw codi llais ar ran pobl ifanc anabl yng Nghymru.

Dysgwch am ein gwaith gyda Senedd Ieuenctid Cymru.

Cysylltiadau Cymru – Dyma grŵp sy’n dod â phobl at ei gilydd i ddod o hyd i ffyrdd o frwydro yn erbyn unigrwydd ac unigedd cymdeithasol.

Dtsgwch fwy am Cysylltiadau Cymru.

Astudiaeth Covid-19 – Rydyn ni yn darganfod sut yr effeithiodd pandemig y Covid ar bobl ag anabledd dysgu.

Rydyn ni yn gwneud hyn drwy weithio gyda Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Caerdydd.

Dysgwch fwy am yr astudiaeth Covid.

Cysylltwch â ni

Rydyn ni yma i helpu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein gwaith, cysylltwch â ni.

Ffôn: 029 2068 1160

E-bost: enquiries@ldw.org.uk

Gallwch hefyd ddod o hyd i ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

Facebook: learningdisabilitywales

YouTube: LearnDisabilityWales

Twitter: LdWales

Cwynion a chanmoliaeth

Mae gennym ganllaw hawdd ei ddeall i wneud cwyn neu ganmoliaeth – gallwch ei ddarllen yma (PDF).

Gallwch hefyd ofyn i ni am gopi o’n canllaw i wneud cwyn neu ganmoliaeth. Ffoniwch ni ar 029 2068 1160 neu e-bostiwch enquiries@ldw.org.uk am gopi.

41 Cilgant Lamboure, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GG
Ffôn 029 2068 1160 Ffacs 029 2075 2149 e-bost enquiries@ldw.org.uk
Our Partners & Funders