Elusen genedlaethol yw Anabledd Dysgu Cymru sydd yn cynrychioli’r sector anabledd dysgu yng Nghymru. Rydyn ni am i Gymru fod y wlad orau yn y byd i bobl ag anabledd dysgu fyw, dysgu, caru a gweithio.

Rydyn ni’n gwneud hyn drwy weithio gyda phobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cyrff pobl anabl a’r sector gwirfoddol er mwyn inni allu creu Cymru well i’r holl bobl gydag anabledd dysgu.