Bywydau Digidol

Dyddiad: 04.11.2026 - 11.11.2026
Lleoliad:

Cynhadledd Flynyddol Anabledd Dysgu Cymru 2026

Bywydau digidol

Mae technoleg ddigidol yn siapio sut rydym yn cysylltu, dysgu, gweithio a gwneud dewisiadau bob dydd. I bobl ag anabledd dysgu, gall agor drysau newydd i annibyniaeth a chyfathrebu, ond dim ond pan fydd dylunio, moeseg a hygyrchedd yn cael eu gwneud yn dda. 

Bydd Bywydau Digidol, Cynhadledd Flynyddol Anabledd Dysgu Cymru 2026, yn archwilio sut y gall offer digidol o apiau bob dydd i ddeallusrwydd artiffisial gryfhau dewis, llais a rheolaeth i bobl ag anabledd dysgu. 

Bydd y digwyddiad yn edrych yn onest ar heriau fel allgáu digidol, systemau anhygyrch, a phryderon moesegol, tra’n dathlu’r creadigrwydd a’r cyfleoedd y gall technoleg eu cynnig.

 

Cliciwch yma i weld gwybodaeth Hawdd ei Darllen am Fywydau Digidol – PDF

Ymunwch â ni ar y diwrnod

 Gallwch archebu eich tocynnau nawr ar gyfer Cyffordd Llandudno neu Abertawe, am ddiwrnod hygyrch a diddorol o:

  • Gweithdai
  • Ffilm
  • Drama
  • Cyflwyniadau
  • Arddangosfeydd
  • Rhwydweithio

Cyhoeddir manylion llawn a’r agenda ddiwedd yr haf.

Tocynnau a phrisiau

Tocynau safonol – £135 (Pris aelod £118)

Tocynnau ar y gyfradd safonol i unrhyw un nad yw’n gymwys i gael tocyn gostyngol; gweler isod.

Sefydliad bach – £92 (Pris aelod £81)

Tocynnau ar gyfer sefydliadau sydd ag incwm blynyddol o lai na £1 miliwn.

Person ag anabledd dysgu – £33 (Pris aelod £28.80)

Tocynnau i unrhyw un ag anabledd dysgu.

Rhiant neu ofalwr di-dâl arall – £33 (Pris aelod £28.80)

Tocynnau i unrhyw un sy’n ofalwr di-dâl i rywun sydd ag anabledd dysgu.

Myfyriwr – £33 (Pris aelod £28.80)

Tocynnau i unrhyw un sydd wedi cofrestru ar gwrs iechyd neu ofal cymdeithasol amser llawn.

Cymorth – £ AM DDIM

Tocynnau i unrhyw un sy’n darparu gofal neu gymorth i berson ag anabledd dysgu na allai fynychu heb ofal na chefnogaeth. Dim ond i’r rhai sy’n cyd-fynd â gwestai sy’n talu ac sydd â thocyn ar gyfer pobl ag anabledd dysgu y mae’r tocynnau hyn ar gael.

 

Cyffordd Llandudno, Dydd Mercher 4 Tachwedd 2026

 Archebwch eich tocynnau ar gyfer Cyffordd Llandudno yma

Abertawe, Dydd Mercher 11 Tachwedd 2026

Archebwch eich tocynnau ar gyfer Abertawe yma

 

Os yw’n well gennych, gallwch ffonio neu e-bostio i drafod eich syniadau gyda’r tîm digwyddiadau:

029 2068 1160

TheEventsTeam@ldw.org.uk  

 

Diolch i’n noddwyr

Drive, RNIB ac Achieve Together

Promote you organisation at Digital Lives

Llyfryn nawdd

Llyfryn hysbysebu

Gwybodaeth Hawdd ei Darllen

Lawrlwythwch ein taflen wybodaeth Hawdd ei Darllen am Fywydau Digidol. (PDF)

41 Cilgant Lamboure, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GG
Ffôn 029 2068 1160 Ffacs 029 2075 2149 e-bost enquiries@ldw.org.uk
Ein partneriaid a'n cyllidwy