Mae gan bobl gydag anabledd dysgu yr hawl i gael gwybodaeth y maen nhw’n gallu ei deall er mwyn iddyn nhw wneud dewisiadau gwybodus, siarad i fyny a chymryd rhan yn eu cymunedau. Mae Hawdd ei Ddeall Cymru yn gwneud hyn yn bosibl drwy gynhyrchu gwybodaeth hygyrch o ansawdd uchel ar gyfer amrediad eang o gyrff.

Mae gennym amrediad o wahanol atebion i wneud eich gwybodaeth yn hygyrch – o gyfieithu a dylunio o safon uchel, i hyfforddiant ac ymgynghoriaeth. Cysylltwch i gael dyfynbris am ddim. Gallwch weld enghreifftiau o’n gwaith diweddar yma.

Ffoniwch ni ar 029 2068 1160 neu e-bostiwch easyread@ldw.org.uk.

Gallwch hefyd ddod o hyd i ni ar Twitter/X @EasyReadWales.