Rhwydwaith i fynd i’r afael gydag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol i bobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru.

A large group of people

Bydd y cyfarfod nesa ar-lein. “Beth sy’n digwyd i’n gwasanaethau dydd?” Dydd Iau 21 Mawrth 2024.

Archebwch eich lle am ddim yma

Mae Anabledd Dysgu Cymru eisiau i bobl gydag anabledd dysgu gael y cyfleoedd gorau i gael eu cysylltu gyda phobl a’u cymunedau.

Rydym wedi sefydlu rhwydwaith newydd o’r enw Cysylltiadau Cymru. Rydym eisiau i bobl ar draws Cymru sydd â diddordeb mewn mynd i’r afael gyda’r problemau sydd yn achosi unigrwydd ac ynysigrwydd i ymuno gyda’r rhwydwaith.  Rydym yn credu ein bod yn gryfach os ydym yn gweithio gyda’n gilydd.

Fe fydd y rhwydwaith yn:

  • Chwilio a rhannu mwy o ddealltwriaeth o broblemau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.
  • Rhannu arfer da ar leihau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.
  • Creu cysylltiadau rhwng polisi ac ymarfer.

 

Cliciwch yma i ymuno â’r rhwydwaith

 

Beth yw presgripsiynu cymdeithasol a sut y gall helpu pobl ag anabledd dysgu? – Darllenwch yma am ein cyfarfod diweddaraf a gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2023.

Gallwch hefyd lawrlwytho’r cyflwyniadau a gwylio fideos o’r cyfarfod ar 29 Mawrth 2023 am bresgripsiynu cymdeithasol ar dudalen y digwyddiad yma.

Cyn COVID-19 fe wyddom nad oedd Cymru yn gwneud cystal ag y gallai o ran lleihau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol i bobl gydag anabledd dysgu. Mae’r pandemig wedi creu problemau mwy ond mae hefyd wedi cynnig atebion creadigol. Fe fydd angen inni fod yn arloesol ac yn eofn gyda dulliau gweithredu newydd.

Fe fydd y rhwydwaith yn dod â phobl angerddol a gwybodus sydd yn rhannu’r nod cyffredin o leihau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol i bobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru at ei gilydd.

Mae strategaeth 5-mlynedd Anabledd Dysgu Cymru yn amlinellu ‘Rydym eisiau i Gymru fod y wlad orau yn y byd i bobl gydag anabledd dysgu i fyw, dysgu a gweithio ynddi.’

Fe fydd y rhwydwaith yn cyfrannu at y blaenoriaethau yn ein strategaeth i fynd i’r afael gyda phroblemau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol i blant ac oedolion gydag anabledd dysgu.

  • Iechyd a llesiant – bod yn iach ac yn hapus
  • Cyflogaeth – gallu cyfrannu at fywyd yng Nghymru
  • Addysg – tyfu a dysgu mewn Cymru gynhwysol

 

Beth rydym yn ei wybod

Rydym yn gwybod bod pobl gydag anabledd dysgu yn aml yn profi unigrwydd ac ynysigrwydd. Yn Ionawr 2016 cyhoeddodd Mencap ymchwil ar y pwnc yma a’r prif ganfyddiadau ydy:

  • Os ydych chi’n gofyn i bobl gydag anabledd dysgu pwy ydy eu ffrindiau, maen nhw’n bennaf yn enwi staff cyflogedig.
  • Mae 47% o bobl gydag anabledd dysgu yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn eu cartrefi.
  • Dydy 64% ddim yn gweld eu ffrindiau.
  • Mae 1o bob 3 o bobl gydag anabledd dysgu yn treulio llai nag awr y tu allan i’w cartrefi ar ddydd Sadwrn.
  • Mae 1 o bob tri yn poeni am gael eu bwlio y tu allan i’w cartrefi.
  • Mae 39% o bobl gydag anabledd dysgu yn cymryd rhan mewn gweithgaredd cymdeithasol lai nag unwaith y mis.

Yn 2019 darganfu Mencap “Mewn arolwg diweddar o bobl gydag anabledd dysgu, dywedodd 24% eu bod yn teimlo’n unig ‘yn aml iawn’. Mae hyn yn cymharu gyda dim ond 3.4% o’r boblogaeth yn gyffredinol a ddywedodd ei bod yn teimlo’n unig ‘yn aml neu bob amser’ ”

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Cymunedau Cysylltiedig yn 2020 ac amlygu rôl y Trydydd Sector fel un i:

“helpu adeiladu gwytnwch a llesiant ar lefel unigol a chymunedol drwy godi ymwybyddiaeth, cyngor a chymorth a chyflwyniad gwasanaethau, yn enwedig i grwpiau ‘sydd prin yn cael eu clywed’ (h.y. y rhai nad ydynt yn teimlo’n gyfforddus i fynd at wasanaethau cyhoeddus).”

 

Ar gyfer pwy mae’r rhwydwaith

  • Unrhyw un gydag anabledd dysgu
  • Darparwyr cymorth/darparwyr gofal cymdeithasol
  • Darparwyr iechyd
  • Awdurdodau lleol
  • Cyrff tai
  • Gofalwyr teulu
  • Cyrff trydydd sector
  • Cyrff hunaneiriolaeth.

Fe fydd y rhwydwaith yn cyfarfod 2 waith y flwyddyn ac yn rhannu newyddion, gwybodaeth a diweddariadau i’w haelodau drwy gydol y flwyddyn .

 

Cliciwch yma i ymuno â’r rhwydwaith