Ymunwch â ni nawr
I wneud cais am aelodaeth Llawn neu aelodaeth Cyswllt, llanwch y ffurflen isod os gwelwch yn dda
Rydyn ni yn eich gwahodd i ymuno â ni er mwyn inni allu cydweithio i wella bywydau plant, pobl ifanc ac oedolion gydag anabledd dysgu.
Mae ein haelodaeth am ddim oherwydd dydyn ni ddim eisiau i dalu ffioedd fod yn rhwystr i weithio gydag unrhyw gorff neu unigolyn sydd yn rhannu ein gweledigaeth o ddyfodol gwell i bobl gydag anabledd dysgu.
Mae gennym 2 gategori o aelodaeth, llawn a chyswllt.
Aelodaeth llawn ar gyfer cyrff trydydd sector yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cyrff gwirfoddol, mentrau cymdeithasol, clybiau neu gymdeithasau.
Aelodaeth cyswllt ar gyfer unrhyw gorff, cwmni neu unigolyn arall. Gall hyn gynnwys pobl a chyrff y tu allan i Gymru.
Siarter Hawliau a Gwerthoedd Allweddol: Os gwelwch yn dda edrychwch ar ein Siarter cyn ymaelodi. Fe fydd bod yn aelod yn golygu eich bod yn addo cefnogi gweithgareddau Anabledd Dysgu Cymru a chynnal ein gwerthoedd a’n hegwyddorion.
I wneud cais am aelodaeth Llawn neu aelodaeth Cyswllt, llanwch y ffurflen isod os gwelwch yn dda