Group photo of the Learning Disability Wales team. Everyone is wearing red polo shirts, smiling and looking at the cameraMae Anabledd Dysgu Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu a chefnogi tîm staff amrywiol. Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn hynod bwysig i ni ac mae gwerthoedd ein tîm yn adlewyrchu hyn. Mae’r dudalen hon yn sôn am yr hyn y gall gweithwyr newydd ei ddisgwyl pan fyddant yn ymuno â’n tîm.

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn awyddus i glywed gennych os ydych wedi profi gwahaniaethu wrth ymgeisio am swyddi.

Swyddi gwag cyfredol

Dilynwch ni  ar LinkedIn, Facebook a Twitter neu edrychwch ar ein tudalennau newyddion i gael gwybod am gyfleoedd yn y dyfodol.

Sut brofiad yw gweithio i Anabledd Dysgu Cymru

Rydym yn gofyn i’n tîm yn rheolaidd  am eu barn ar weithio i Anabledd Dysgu Cymru.

“Rwy’n teimlo’n falch o fod yn gweithio i sefydliad sydd â gwerthoedd mor gryf sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl. Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda grŵp mor gefnogol, talentog ac angerddol o bobl.”

“Rwy’n hoffi gweithio i Anabledd Dysgu Cymru oherwydd mae gennym dîm yma sy’n trin ein gilydd gyda chefnogaeth a charedigrwydd. Rwyf hefyd wedi gweld bod Anabledd Dysgu Cymru yn gyflogwr gwych iawn o ran cefnogaeth bendant am bethau fel gofalu am fy iechyd meddwl, addasiadau rhesymol ac yn gyffredinol creu amgylchedd gwaith sy’n cyd-fynd ag anghenion gweithwyr unigol.”

“Mae Anabledd Dysgu Cymru yn gwerthfawrogi ei weithwyr, ac rwy’n falch o fod yn rhan annatod o sicrhau bod ein diwylliant, ein polisïau a’n harferion gwaith yn adlewyrchu ein bod yn parhau i weithio tuag at fod yn gyflogwr teg, cyfartal a chynhwysol.”

“Byddwn yn bendant yn dweud bod y tîm cefnogol ac angerddol yn dod drosodd yn gryf iawn. A’r ymdeimlad bod pawb wedi ymrwymo i wneud yr hyn maen nhw’n ei wneud ac yn wirioneddol weithio tuag at wneud gwahaniaeth.”

“Mae Anabledd Dysgu Cymru yn sefydliad sydd â diwylliant gwaith rhagorol a thîm croesawgar a chefnogol.”

Darganfyddwch fwy am ein tîm yma.

Ein diwylliant a’n llesiant

  • Mae ein tîm yn angerddol, ymroddedig, cynhwysol a chefnogol. Adlewyrchir hyn yng ngwerthoedd y tîm a’r ffordd rydym yn gweithio gyda’n gilydd a chydag eraill.
  • Mae gennym bolisïau cyfeillgar i deuluoedd ac arferion gweithio hyblyg gan gynnwys gweithio hybrid lle gallwch rannu eich amser rhwng gweithio yn ein swyddfa a’ch cartref.
  • Mae gennym amgylchedd gwaith croesawgar a chynhwysol, lle rydym yn sensitif i wahaniaethau diwylliannol, niwroamrywiaeth, anabledd, hunaniaeth rhywedd a nodweddion gwarchodedig eraill.
  • Rydym yn cynnig absenoldeb dibynyddion â thâl, amser i ffwrdd ar gyfer apwyntiadau meddygol ac archwiliad iechyd llygaid am ddim i ddefnyddwyr sgrin arddangos.
  • Rydym yn annog ac yn hyrwyddo iechyd a llesiant yn y gwaith.
  • Rydym yn darparu Rhaglen Cymorth i Weithwyr sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a chwnsela am ddim i chi a’ch teulu.

Ein swyddfa

Mae gennym swyddfa fodern, sydd â chyfarpar da ac eang yn agos at siopau ac amwynderau lleol eraill, gyda chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ardderchog.

Mae mynediad gyda ramp i’n swyddfa. Mae’r llawr gwaelod yn cynnwys ein derbynfa, ystafell gyfarfod, gofod gwaith, lluniaeth a thoiled. Efallai y bydd rhai pobl angen cymorth gyda drysau tân trwm.

Mae 18 o risiau i’r ail lawr lle mae mwy o le gwaith, cegin a thŷ bach wedi’i leoli.

Rydym yn cynnig parcio am ddim, raciau beic, cynhyrchion hylendid personol, te/coffi a chiniawau brys.

Cefnogaeth a datblygiad

Mae ein tîm yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi yn eu gwaith ac yn derbyn cefnogaeth a chyfeiriad rheolaidd fel y gallant wneud eu gwaith yn dda a datblygu eu sgiliau.

Rydym yn darparu rhaglen sefydlu gynhwysfawr i helpu gweithwyr newydd i ymgartrefu yn eu rolau newydd.

Rydym yn cynnal cyfarfodydd tîm rheolaidd ac yn cynnal diwrnodau tîm bob blwyddyn i bawb ddod at ei gilydd, rhannu gwybodaeth a chael hwyl.

Talu

Rydym yn cynnal adolygiad cyflog bob 3 blynedd i sicrhau bod ein cyflogau’n gystadleuol gyda sefydliadau trydydd sector tebyg yng Nghymru.

Mae gennym ein graddfa gyflog ein hunain, ac mae pob gradd yn derbyn 2 gynyddiad blynyddol.

Gwyliau blynyddol

Rydym yn cynnig hawl gwyliau blynyddol hael o 25 diwrnod gan godi 1 diwrnod ar gyfer pob blwyddyn a weithiwyd hyd at 28 diwrnod ynghyd â gwyliau banc statudol.  I gefnogi ein hymrwymiad i fod yn gyflogwr diwylliannol gynhwysol, gellir cyfnewid gwyliau banc crefyddol i ddathlu unrhyw wyliau diwylliannol/crefyddol eraill

Pensiwn

Byddwn yn cyfrannu 7.5% o’ch cyflog cyn belled â’ch bod yn cyfrannu o leiaf 0.5% (neu fwy os dymunwch).