Rydym eisiau i Gymru fod y wlad orau i bobl gydag anabledd dysgu i fyw, dysgu a gweithio ynddi.

Ym mis Tachwedd 2019 yn ein cynhadledd flynyddol yn ne Cymru a gogledd Cymru roeddem yn falch o lansio ein strategaeth 5 mlynedd o Ebrill 2019 i Mawrth 2024.

Mae ein strategaeth newydd yn ganlyniad i flwyddyn gyfan o ymgynghori gyda’r sector anabledd dysgu yng Nghymru, o bobl gydag anabledd dysgu a’u teuluoedd, i weithwyr proffesiynol a darparwyr gwasanaethau sydd yn gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu.

Mae’r strategaeth yn nodi ein cynlluniau am y pum mlynedd nesaf, yn cynnwys tri maes blaenoriaeth (a gaiff ei adolygu ar ôl dwy flynedd):

  • Iechyd a llesiant
  • Addysg a
  • Cyflogaeth

I gefnogi hyn fe fyddwn yn:

  • cyd-greu gyda’n rhanddeiliaid ar draws Cymru gyfan
  • cael mwy o bresenoldeb mewn rhagor o gymunedau yng Nghymru a
  • gweithio gyda’r gymdeithas ehangach i leihau’r stigma y mae pobl gydag anabledd dysgu yn parhau i’w wynebu.

Dywedodd Zoe Richards, Prif Swyddog Gweithredol:

“Gyda brwdfrydedd yr ydym yn lansio ein strategaeth 5 mlynedd ar gyfer Anabledd Dysgu Cymru. Mae wedi bod yn flwyddyn o fyfyrio a gwthio ffiniau fel ein bod yn deall yn well y byd ansicr newydd rydym yn byw ynddo a sut mae pobl ag anableddau dysgu yn gallu byw mewn Cymru sy’n newid wrth wneud cyfraniadau gwerthfawr i gymdeithas heddiw.”

Mae’r cynllun ar gael yma i’w lawrlwytho:

Cynllun Strategol 2019 to 2024 Cymraeg

Cynllun Strategol 2019 i 2024 Cymraeg Hawdd ei Ddeall

Strategic Plan 2019 to 2024 English

Strategic Plan 2019 to 2024 Easy Read English

Cysylltwch os gwelwch yn dda gyda enquiries@ldw.org.uk os hoffech dderbyn copi papur yn y post.