Rydyn ni eisiau i bawb allu defnyddio ein gwefan.

Mae Anabledd Dysgu Cymru wedi ceisio gwneud y wefan yma mor hygyrch a defnyddiadwy i bobl o bob gallu, yn cynnwys y rhai gyda namau golwg, clyw, gwybyddol neu ysgogol. Mae ein gwefan wedi cael ei dylunio i gefnogi technolegau gyda chymorth fel bod modd defnyddio Anabledd Dysgu Cymru fel testun siarad, neu i lywio o amgylch gan ddefnyddio’r bysellfwrdd yn unig.

Rydyn ni hefyd yn ystyried profiad y defnyddiwr – pa mor hawdd i’w ddarllen ydy’r testun? Pa mor hawdd ydy llywio o amgylch y safle a deall lle rydych chi?

Cydymffurfiaeth gyda safonau

Adeiladwyd y tudalennau ar y wefan yma i gydymffurfio gyda safonau isaf WCAG A, cydymffurfio gyda’r holl ganllawiau blaenoriaeth 1 a 2 o Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys We W3C. Mae’r holl dudalennau ar y safle yma yn dilysu fel XHTML 1.0 Transitional. Mae’r holl dudalennau ar y safle yma yn defnyddio arwyddnodi semantig strwythuredig. Defnyddir tagiau H1 ar gyfer y prif deitlau, tagiau H2, H3 a H4 ar gyfer is-deitlau. Gall defnyddwyr JAWS neidio i’r adran nesaf o fewn tudalennau ar y wefan yma drwy bwyso ALT+INSERT+3.

Cynorthwyon llywio

Mae dolen ym mhob tudalen i’r hafan, ac mae’r system dewislen wedi’i hadeiladu mewn dull cyson yn y wefan gyfan. Mae’r system lywio briwsion bara ychwanegol a’r blychau dolenni cyflym dethol wedi’u dylunio i atgyfnerthu ymwybyddiaeth o leoliad y dudalen sy’n cael ei hedrych arni o fewn y wefan, ac i gynyddu mynediad cyffredinol i’r holl wybodaeth sydd ar gael.

Mae’r holl dudalennau ar y wefan yn cynnwys blwch chwilio (allwedd cyrchiad 4) ac mae dewis chwilio uwch ar gael ar y dudalen chwilio uwch.

Dolenni

Mae gan nifer o ddolenni nodweddion teitl sydd yn disgrifio’r ddolen yn fanylach. Mae dolenni wedi cael eu hysgrifennu i wneud synnwyr allan o gyd-destun.

Delweddau

Mae’r holl ddelweddau cynnwys a ddefnyddir yn y safle yma yn cynnwys nodweddion disgrifiadol ALT. Mae graffeg addurniadol yn unig yn cynnwys nodweddion ALT null. Mae delweddau cymhleth yn cynnwys nodweddion LONGDESC neu ddisgrifiadau mewn-llinell i esbonio arwyddocad pob delwedd i ddarllenwyr heb olwg.

Ffontiau

Dim ond meintiau ffont perthynol y mae’r safle yma yn eu defnyddio, yn gydnaws gyda dewis ‘maint testun’ defnyddiwr-penodedig mewn porwyr gweledol. Mae Internet Explorer yn darparu ffordd syml o gynyddu maint ffont drwy ddalenni steil. I wneud hynny agorwch IE, dewiswch ‘Offer’ o’r bar dewislen ac yna dewiswch Dewisiadau Rhyngrwyd. Yna dewiswch ‘Hygyrchedd’ a gwiriwch meintiau ffont Anwybyddu a bennir ar dudalennau gwe. Ciciwch ‘OK’ ac yna cauwch y ffenestr Dewisiadau Rhyngrwyd. Dewiswch ‘Gweld’ o’r bar dewislen, dewiswch ‘Maint Ffont’ a dewiswch o’r ‘Lleiaf i’r Mwyaf’.

Llwybrau byr bysellfwrdd

Mae’r llwybrau byr bysellfwrdd canlynol yn rheoli maint testun:

  • Pwyswch Ctrl & + (arwydd plws) i gynyddu maint testun.
  • Pwyswch Ctrl & – (arwydd meinws) i leihau maint testun.
  • Pwyswch Ctrl & 0 (sero) i ailosod maint testun i faint rhagosodiad y dudalen we.

Mae Mozilla Firefox yn eich galluogi i newid maint testun dros dro ar unrhyw dudalen we yn y ddewislen Gweld > Chwyddo, gan alluogi Testun Chwyddo yn Unig.

Mae’r llwybrau byr bysellfwrdd canlynol yn rheoli maint testun:

  • Pwyswch Ctrl & + (arwydd plws) i gynyddu maint testun.
  • Pwyswch Ctrl & – (arwydd meinws) i leihau maint testun.
  • Pwyswch Ctrl & 0 (sero) i ailosod maint testun i faint rhagosodiad y dudalen we.

I ddefnyddwyr Mac mae’r llwybrau byr bysellfwrdd canlynol yn rheoli maint testun:

  • Pwyswch Command & + (arwydd plws) i gynyddu maint testun.
  • Pwyswch Command & – (arwydd meinws) i leihau maint testun.
  • Pwyswch Command & 0 (sero) i ailosod maint testun i faint rhagosodiad y dudalen

Ym mhob achos fe fydd hyn yn creu sgrolio llorweddol ar y dudalen. Gellir llywio hyn gyda’r allweddi saeth chwith a de ar eich bysellfwrdd.

Allweddi cyrchiad

Mae Safon Allweddi Cyrchiad Llywodraeth y DU wedi cael eu defnyddio ar y safle yma Mae’r rhain yn darparu llwybr byr bysellfwrdd i ddefnyddwyr sydd yn dymuno mynd yn uniongyrchol i rannau penodol o’r safle a helpu’r rhai nad ydyn nhw’n defnyddio dyfais pwyntio, fel llygoden. Mae is-set o’r safonau wedi cael eu defnyddio ac mae’r allweddi cyrchiad wedi’u diffinio fel â ganlyn:

  • S – Osgoi gwe-lywio
  • 1 – Hafan
  • 3 – Map safle
  • 4 – Chwilior safle yma
  • 0 – Datganiad hygyrchedd

Sut i ddefnyddio allweddi cyrchiad

Mae allweddi cyrchiad yn gweithio ychydig yn wahanol yn dibynnu ar ba borwr a math o gyfrifiadur rydych chi’n eu defnyddio – dyma grynodeb o’r prif wahanol ffyrdd:

  • Os ydych yn defnyddio Microsoft Internet Explorer 4 ar PC, pwyswch ‘alt’ a‘r cymeriad allwedd cyrchiad ar yr un pryd
  • Os ydych yn denfyddio Microsoft Internet Explorer 5 ar PC, pwyswch ‘alt’ a’r cymeriad allwedd cyrchiad ar yr un pryd, yna pwyswch yr allwedd ‘enter’
  • Os ydych yn defnyddio Microsoft Internet Explorer 5 ar Apple Macintosh, pwyswch ‘control’ a’r cymeriad allwedd cyrchiad ar yr un pryd
  • Cefnogir y fenter hygyrchedd yma hefyd gan Netscape 6; defnyddiwch yr allwedd ‘alt’ ar PC, neu’r allwedd ‘ctrl’ ar Apple Macintosh

Ein haddewid

Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein gwefan yn hygyrch i bawb, waeth beth ydy eu gallu Fe fyddwn yn parhau i fonitro datblygiadau a newidiadau yng nghanllawiau WAI yn agos yn ogystal ag arfer gorau cyffredinol gwefannau
Os oes gennych unrhyw adborth neu awgrymiadau ar sut y gallwn wneud y wefan hon yn fwy hygyrch ar gyfer eich anghenion neu anghenion y gymuned, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’r tîm yn: enquiries@ldw.org.uk