Mae cadw mewn cysylltiad gyda chi yn bwysig inni oherwydd mae hynny yn ein galluogi i roi gwybod i chi am yr hyn rydyn ni’n ei wneud ac mae’n ein galluogi i weithio gyda’n gilydd er mwyn inni allu gwneud gwahaniaeth i fywydau plant, pobl ifanc ac oedolion gydag anabledd dysgu a’u teuluoedd a’u gofalwyr yng Nghymru.

Rydyn ni’n gwybod bod gwybodaeth bersonol yn bwysig i chi.

Rydyn ni’n gofalu am eich gwybodaeth fel y byddem eisiau i’n gwybodaeth bersonol ni gael ei gadw ac rydyn ni’n wneud hyn mewn ffordd sydd yn gyfreithlon.

  • Fe fyddwn yn cadw eich gwybodaeht dim ond os ydych chi’n gofyn inni wneud hynny neu os ydy’r gyfraith yn dweud bod rhaid inni wneud hynny.
  • Fe fyddwn yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel ac ni fyddwn yn ei werthu nac yn ei drosglwyddo i unrhyw un arall.
  • Ni fyddwn yn cadw eich gwybodaeth ddim hirach nag sydd angen inni wneud hynny.

Os ydych eisiau gwybod pa wybodaeth rydyn ni’n ei gadw amdanoch chi, holwch ni. Ffoniwch ni ar 029 20681160 neu e-bostiwch enquiries@ldw.org.uk

Dywedwch wrthyn ni os ydy’r wybodaeth rydyn nin ei gadw amdanoch chi yn anghywir ac fe fyddwn yn ei gywiro a gallwch hefyd roi gwybod inni sut yr hoffech  chi inni ei ddefnyddio. Fe fyddwn bob amser yn dileu gwybodaeth amdanoch chi os ydych chi’n gofyn inni wneud hynny.

Os ydych chi ar ein rhestrau dosbarthu gallwch ofyn inni beidio â chysylltu gyda chi ar unrhyw amser. Gofynnwch ac fe fyddwn ni’n stopio. Ffoniwch ni ar 029 20681160 neu e-bostiwch enquiries@ldw.org.uk