Cyngor Caerdydd – Cynllun Caerdydd sy’n Deall Niwrowahaniaeth mewn Hawdd ei Ddeall

Gorffennaf 2025 | Mae Cyngor Caerdydd eisiau gwybod bethr ydych chi’n ei feddwl.

Fe wnaethon ni weithio gyda Chyngor Caerdydd i greu fersiwnHawdd ei Ddeall o’u strategaeth ddrafft, Caerdydd sy’n Deall Niwrowahaniaeth: 2025–2030. Mae’r strategaeth hon yn esbonio eu cynlluniau i wneud Caerdydd yn lle gwell, mwy cynhwysol i bobl niwrowahanol fyw, gweithio a ffynnu.

Mae’r ddogfen yn rhannu eu chwe nod allweddol, gan gynnwys helpu pobl i gymryd rhan yn eu cymuned, cefnogi dysgu a gwaith, gwella mynediad at wybodaeth ddefnyddiol, cefnogi iechyd a lles, dathlu gwahaniaeth, a gwneud mannau cyhoeddus yn fwy hygyrch.

Mae’n rhoi enghreifftiau o’r hyn y mae gwahanol sefydliadau eisoes yn ei wneud a’r hyn maen nhw’n bwriadu ei wneud nesaf. Mae’n esbonio sut y cafodd y cynllun ei lunio a sut y gwnaeth barn pobl helpu i’w siapio.

Gwnaethom hefyd fersiwn Gymraeg Hawdd ei Ddeall o’r strategaeth ddrafft. Mae’r ddau yn hygyrch yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i gael PDF hygyrch y strategaeth Hawdd ei Ddeall.

Mae Cyngor Caerdydd eisiau gwybod beth rydych chi’n ei feddwl am y cynllun, felly fe wnaethom hefyd fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u ffurflen ymateb.

I gael y ffurflen ymateb Hawdd ei Ddeall, ewch i wefan Caerdydd sy’n Deall Niwrowahaniaeth. Anfonwch eich atebion atynt erbyn 30 Medi 2025.

Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.

Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.

Gan Hawdd ei Ddeall Cymru | Easy Read Wales.