Mae Zoe Richards, Prif Swyddog Gweithredol Anabledd Dysgu Cymru, yn rhybuddio am argyfwng sy’n digwydd yn y trydydd sector yng Nghymru sy’n debygol o effeithio’n sylweddol ar fywydau pobl ag anabledd dysgu.
Ym mis Mai, ysgrifennais flog am y nifer cynyddol o sefydliadau sy’n cefnogi pobl ag anabledd dysgu sy’n cau yng Nghymru. Rydw i nawr yn ymwybodol bod yr achosion hyn o gau yn dod yn norm. Yn fuan wedi’r blog diwethaf, gwelsom gau Pobl Gyntaf Y Fro. Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd BCA Powys (sy’n rhedeg Pobl Gyntaf Powys) yn cau wedi 30 mlynedd, oherwydd diffyg cyllid.
Yn y cyfamser, mae Anheddau, y darparwr cymorth nid-er-elw mwyaf i bobl ag anabledd dysgu yng Ngogledd Cymru, wedi datgelu eu bod “yn wynebu brwydr enbyd i oroesi” yn dilyn codi’r Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn ddiweddar.
Mae elusennau cofrestredig yn cael eu gorfodi i ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn i gau tyllau a sybsideiddio contractau. Mae trafodaethau gydag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn mynd rhagddynt ond mae realiti’r cynnydd yn y Cyflog Byw Gwirioneddol a’r Yswiriant Gwladol yn gadael ychydig o opsiynau yn unig i sefydliadau.
Beth fydd yn digwydd os byddant yn mynd i’r wal? Mae perygl gwirioneddol y bydd pecynnau gofal a chymorth yn cael eu cymryd drosodd gan gwmnïau gyda llai o werthoedd, ac rydym ni’n ofni y bydd y rhain yn cynnig model cymorth salach yn seiliedig ar ddarparu’r mymryn lleiaf am y gost isaf. Bydd pobl yn mynd drwy newid diangen, bydd pryder i bobl a’u teuluoedd yn codi, gan gynyddu’r angen am wasanaethau cymorth eraill ac efallai y bydd rhai pobl yn mynd i leoliadau anaddas neu amhriodol. Ni ellir derbyn hyn fel rhan o fywyd i bobl – dim ond am fod ganddyn nhw anabledd dysgu.
O gyplysu hyn â heriau eraill a wynebir gan ddarparwyr cefnogaeth i fyw yng Nghymru, fel newidiadau i reoliadau tân ac anawsterau gyda recriwtio a chadw staff, rydym ni’n dechrau gweld darlun damniol. Crëwyd byw â chymorth yng Nghymru fel catalydd i gefnogi pobl i fyw yn eu cymunedau. Mae ein cefnogaeth yng Nghymru wedi ennyn cenfigen gwledydd eraill ers amser, ers ein Strategaeth Cymru Gyfan arloesol yn 1984. Fodd bynnag, rydym ni mewn perygl o leihau ein trydydd sector hyfryd a bywiog os na wnawn ni weithredu nawr.
Mae Anabledd Dysgu Cymru yn ysgrifennu i Weinidogion ac awdurdodau lleol ac yn eich annog i rannu’r erthyglau newyddion am yr achosion hyn o gau a chysylltu gyda’ch cynrychiolwyr lleol. Gallwch hefyd lofnodi a rhannu deiseb y Senedd yn gofyn am ariannu teg i ddarparwyr gofal elusennol yng Nghymru.