Rydym yn falch iawn o groesawu Ellie Morgan i dîm Anabledd Dysgu Cymru. Fe wnaethom ofyn i Ellie ddweud wrthym amdani ei hun, a’i rôl fel Cydlynydd Cymorth Prosiect ar gyfer Ffrindiau Gig Cymru yng ngogledd Cymru.


Ellie has long hair and is wearing a grey sweater and sitting in a bar somewhere sunny Mae gan Ellie wallt hir ac mae hi'n gwisgo siwmper lwyd ac yn eistedd mewn bar yn rhywle heulog. Ymunais â thîm Ffrindiau Gig Cymru ym mis Tachwedd fel Cydlynydd Cymorth Prosiect yng ngogledd Cymru. Rwy’n gweithio ochr yn ochr â’n cydlynwyr lleol Sian a John, y swyddog datblygu Kai, y rheolwraig prosiectau Karen, ac rwy’n mwynhau cefnogi Victoria yn ei rôl fel llysgennad. Rwy’n cefnogi’r tîm trwy brosesu ceisiadau cyfranogwyr a gwirfoddolwyr, cynnal gwiriadau DBS, hyrwyddo’r prosiect, helpu i drefnu digwyddiadau a chymdeithasau ac unrhyw beth arall sydd angen ei wneud. Diolch yn fawr iawn i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am ariannu fy rôl.

Dyma’r tro cyntaf i mi weithio yn y sector hwn, ac rwyf mor gyffrous i fod yn rhan o’r prosiect Ffrindiau Gig. Mae tyfu i fyny gyda brawd neu chwaer sydd ag anabledd dysgu wedi golygu fy mod bob amser wedi bod yn angerddol am greu cymdeithas fwy cynhwysol i ni i gyd ffynnu ynddi. Dylai pawb gael y cyfle i fyw bywyd llawn hwyl, cyfeillgarwch a chadw’n hwyr!

Yn fy amser hamdden rwy’n hoffi gwneud ioga, dringo ac unrhyw beth crefftus sy’n cymryd fy ffansi. Rwyf hefyd wrth fy modd yn teithio – rwyf wedi bod yn India yn ddiweddar ac wedi byw yn Awstralia am flwyddyn. Rwy’n caru cerddoriaeth a mynd i gigiau, ac mae fy chwaeth cerddoriaeth yn amrywiol i’r eithaf! Mae fy mhrif restr chwarae ar Spotify ychydig o dan 300 awr o hyd ac yn llawn o bob genre y gellir ei ddychmygu – mae’n mynd ar ‘shuffle’ ac rwy’n mwynhau’r syrpreis. Mae rhai (llawer) pobl yn anghytuno â fy dulliau, ond rwy’n hoffi cael fy nghadw ar flaen fy nhraed.

Er fy mod ar ben arall y wlad i lawer o fy nghydweithwyr, mae’r tîm yn Anabledd Dysgu Cymru wedi gwneud i mi deimlo mor groesawgar ac wedi bod mor hynod o groesawgarl. Mae ein cyfranogwyr a’n gwirfoddolwyr gig hefyd wedi gwneud gwaith ardderchog yn gwneud i mi deimlo fel rhan o’r tîm.

Rwy’n gyffrous i fynd i’r afael â’r her logistaidd o helpu i redeg gwasanaeth cyfeillio i bobl ag anableddau dysgu mewn ardal mor fawr a gwledig. Ni ddylai unrhyw un orfod profi unigrwydd dim ond oherwydd ble maen nhw’n byw… lle mae gwirfoddolwr, mae llwyddiant!

Rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr newydd ar draws gogledd Cymru. Cysylltwch â ni i ddarganfod mwy: gigbuddies@ldw.org.uk.