Malan has shoulder length brunette hair and is wearing a colourful and striper sweater vestRydym ni’n falch iawn o groesawu Malan Jones i dîm Anabledd Dysgu Cymru. Fe wnaethom ofyn i Malan ddweud ychydig wrthym amdani hi ei hun, a’i rôl fel Cydlynydd Prosiect Uwch ar gyfer Ffrindiau Gigiau Cymru yng Ngogledd Cymru.


Rwy’n wirioneddol gyffrous i ymuno â thîm Ffrindiau Gigiau Cymru fel y Cydlynydd Uwch ar gyfer Gogledd Cymru.

Mae Ffrindiau Gigia yn brosiect a wnaeth fy nghyffroi ar unwaith gan ei fod yn dod â chymaint o bethau sy’n bwysig i mi ynghyd – cerddoriaeth, cymuned, a sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i brofi digwyddiadau byw a bywyd cymdeithasol.

Mae cerddoriaeth wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd erioed. Rwy’n gerddor fy hun, yn ysgrifennu ac yn perfformio fy ngherddoriaeth fy hun, ac rwy’n treulio llawer o’m hamser rhydd yn mynd i gigiau a digwyddiadau byw – y rhan fwyaf o benwythnosau mae’n debyg y byddwch chi’n dod o hyd i mi’n teithio i fyny ac i lawr y wlad i chwilio am gerddoriaeth fyw!

Mae fy nhâst cerddorol yn eithaf amrywiol, o jazz meddal i bync trwm, felly gallaf fod yn eithaf hamddenol, ond weithiau gallwch hefyd fy ngweld mewn mosh pit! Mae diwylliant gigiau a cherddoriaeth fyw ymhlith y mannau lle rwy’n teimlo fwyaf cysylltiedig ac ysrbydoledig, felly mae bod yn rhan o brosiect sy’n helpu eraill i brofi’r un ymdeimlad o gysylltiad yn teimlo’n wirioneddol arbennig i mi. 😊

Drwy gydol fy ngyrfa, rwyf wedi gweithio ar brosiectau creadigol a chymunedol ledled Gogledd Cymru, gan ganolbwyntio ar greu mannau croesawgar a chynhwysol lle gall pobl feithrin hyder, cysylltu ag eraill a gwella eu lles. Mae llawer o’m gwaith wedi cynnwys datblygu a chydlynu prosiectau creadigol sy’n cefnogi pobl a all fod yn profi unigrwydd cymdeithasol, heriau iechyd meddwl neu rwystrau i gymryd rhan.

Yn fy rôl fel Cydlynydd Uwch, byddaf yn gweithio i ehangu prosiect Ffrindiau Gigiau ledled Gogledd Cymru, gan helpu i adeiladu cysylltiadau a chyfleoedd newydd i bobl gymryd rhan. Byddaf hefyd yn gweithio’n agos gyda thîm ehangach Ffrindiau Gigiau Cymru i gydlynu a datblygu’r prosiect yn y rhanbarth, gan gefnogi mwy o bobl ag anableddau dysgu i fwynhau cerddoriaeth fyw, diwylliant a gweithgareddau cymdeithasol eraill fel cyfranogwyr cyfartal yn eu cymunedau.

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â phobl ledled Gogledd Cymru, ehangu cymuned Ffrindiau Gigiau, a helpu mwy o bobl i brofi llawenydd cerddoriaeth fyw a phrofiadau cymdeithasol cyffredin.

Rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr newydd ar draws gogledd Cymru. Cysylltwch â ni i ddarganfod mwy: gigbuddies@ldw.org.uk.