Bwrdd Iechyd Addysgu Powys – Ymgynghoriad iechyd Gwell Gyda’n Gilydd Hawdd ei Ddeall
Mehefin 2025 | Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys eisiau gwybod beth rydych chi’n ei feddwl.
Fe wnaethom weithio gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i greu fersiwn hawdd ei ddeall o’u hymgynghoriad, Gwell Gyda’n Gilydd. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar wasanaethau gofal iechyd ym Mhowys.
Mae’n esbonio pam mae angen newidiadau i wasanaethau iechyd, beth mae pobl eisoes wedi’i ddweud, a beth sydd eisoes wedi’i wneud i wella pethau, fel offer pelydr-X newydd a gwell mynediad at gymorth iechyd meddwl.
Mae’r ddogfen hefyd yn rhannu syniadau i wella gwasanaethau yn y dyfodol ac yn gofyn cwestiynau am yr hyn rydych chi’n ei feddwl o’r syniadau. Mae’n cwmpasu gofal ysbyty, gwasanaethau iechyd meddwl, gofal yn y gymuned, a gwasanaethau sy’n helpu pobl i gadw’n iach.
Os ydych chi’n byw ym Mhowys, bydd eich barn yn helpu i lunio gwasanaethau iechyd lleol ar gyfer y dyfodol. Anfonwch eich adborth atynt erbyn 27 Gorffennaf 2025.
Gwnaethom hefyd fersiwn Saesneg hawdd ei ddeall o’r ymgynghoriad. Mae’r ddau yn hygyrch yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a defnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i gael PDF hygyrch yr ymgynghoriad hawdd ei ddeall.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.
Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.