Sioned Williams AS – Arolwg ar newidiadau i fudd-daliadau anabledd Hawdd ei Ddeall
Awst 2025 | Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, eisiau gwybod beth ydych chi’n ei feddwl.
Fe wnaethom weithio gyda Sioned Williams i wneud fersiwn hawdd ei ddeall o’i harolwg newydd. Mae’n ymwneud â chynlluniau Llywodraeth y DU i newid budd-daliadau anabledd, gan gynnwys Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) a Chredyd Cynhwysol (UC).
Mae’r arolwg yn esbonio beth mae’r Llywodraeth eisiau ei newid, pryd y gallai’r newidiadau ddechrau, a sut y gallent effeithio ar bobl anabl.
Mae’n gofyn cwestiynau am eich pryderon, eich sefyllfa ariannol, a sut y gallai’r newidiadau effeithio ar eich bywyd bob dydd. Mae hefyd yn gofyn a ydych chi’n meddwl bod y Llywodraeth yn gwrando ar broblemau lleol a beth allai eich helpu i deimlo’n fwy hyderus am waith neu hyfforddiant, os yw hyn yn rhywbeth rydych chi eisiau ac yn gallu ei wneud.
Os ydych chi’n byw yn ardal Gorllewin De Cymru, bydd eich barn yn helpu i ddangos sut y gall y cynlluniau hyn effeithio ar bobl anabl a chymunedau.
Gwnaethom hefyd fersiwn Saesneg o’r arolwg. Mae’r ddwy fersiwn yn hygyrch yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a defnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i gael PDF hygyrch yr arolwg Hawdd ei Ddeall.
Am ragor o wybodaeth am waith Sioned Williams ewch i www.sionedwilliams.cymru
Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.
Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.