
Gweithiodd y prosiect Engage to Change yng Nghymru o 2016 tan Mis Mai 2023. Gweithiodd i wella rhagolygon cyflogaeth pobl ifanc ag anabledd dysgu, ac awtistiaeth.
Dylanwadu a Hysbysu Engage to Change yw ei brosiect gwaddol ac mae’n cynnal digwyddiadau “Adnabod Fi, Adnabod Chi” i ddod â phobl ag anabledd dysgu ac neu awtistiaeth, teuluoedd, darparwyr cyflogaeth â chymorth, a chomisiynwyr at ei gilydd i siarad a rhannu syniadau.
Cliciwch yma am gwybodaeth hawdd ei deall
Pobl ag anabledd dysgu, a neu awtistiath
Os ydych ag anabledd dysgu, a/neu awtistiaeth
- Darganfyddwch pa gymorth cyflogaeth sydd ar gael.
 - Rhannwch eich profiadau o waith.
 - Dywedwch pa gymorth i mewn i waith sydd orau i chi.
 
Teulu
Os oes gennych berson ifanc ag anabledd dysgu, neu awtistiaeth yn eich teulu:
- Darganfyddwch pa gymorth cyflogaeth sydd ar gael.
 - Dywedwch pa gefnogaeth sydd ei hangen.
 - Gwrandewch ar yr hyn sydd gan bobl ifanc o’r prosiect i’w ddweud am gymryd rhan.
 
Darparwr
Os ydych chi’n ddarparwr cymorth:
- Dywedwch wrth bobl pa gefnogaeth rydych yn ei gynnig.
 - Darganfyddwch beth arall sydd ei angen ar bobl.
 
Comisiynydd
Os ydych chi’n comisiynu gwasanaethau:
- Darganfyddwch beth sydd ei angen ar bobl mewn gwirionedd.
 - Clywed barn pobl ifanc am gymorth cyflogaeth a’r hyn sy’n gweithio.
 
Mae croeso i bawb ymuno â ni yn y digwyddiadau rhad ac am ddim hyn.
Bydd lluniaeth ar gael.
Lleoliadau hygyrch.
Caerdydd, Future Inn: Dydd Mawrth 11 Mehefin 2024. 11:00 – 1:45
Caerfyrddin, Canolfan Halliwell: Dydd Mercher 12 Mehefin 2024. 11:00 – 1:45
Llandudno, Venue Cymru: Dydd Llun 17 Mehefin 2024. 11:00 – 1:45
Mae Dylanwadu a Hysbysu yn bartneriaeth rhwng Anabledd Dysgu Cymru ac NCMH ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.


        
        
>
                      
>